Jump to content

Cynhadledd Cyllid 2026 | O risg i wydnwch: Cynnal ein cynnydd

Hydref 1, 2026 @ 8:45yb
Cynadleddau 2 Days The Metropole Hotel and Spa, Temple Street, Llandrindod Wells, Powys, LD1 5DY.

Mae cost ddynol argyfwng tai Cymru yn ddybryd, gan gael effaith ddofn ar iechyd, cyfoeth a chyfleoedd bywyd ar draws y genedl.

Mewn cyfnod sy’n ymddangos yn un o newid gwleidyddol diddiwedd, rhagolygon economaidd anwadal, galwadau cynyddol ym mhob maes a tharfu technolegol cyflym, mae’r angen am weithredu cyson yn ddi-ildio. Ar gyfer cyfarwyddwyr cyllid a’u timau, mae’r her yn fwy na dim ond sicrhau mantolen gytbwys – mae’n ymwneud â chynnal uchelgais a diben creiddiol sector tai cymdeithasol Cymru dan bwysau enfawr.

Mae’r gynhadledd yn symud heibio’r pynciau siarad cyfarwydd o ‘gyfnod digynsail’ i wynebu realaeth galed tirlun ariannol heddiw. Mae’n ofod ar gyfer ystyriaeth a strategaeth onest a thryloyw. Gyda’n gilydd, byddwn yn dadansoddi’r rhagolygon economaidd, yr amgylchedd gwleidyddol, archwilio modelau cyllid newydd ac ymchwilio sut i ddefnyddio technoleg newydd i ddiogelu ein gwydnwch ariannol.

Mae pob pwynt degol a reolwn yn cynrychioli cartref, teulu a chymuned. Ymunwch â ni wrth i ni edrych tu hwnt i’r cyfriflyfr i sicrhau, hyd yn y cyfnod mwyaf heriol, ein bod yn aros yn driw i’r diben a rannwn i newid bywydau a chymunedau ar draws Cymru.

Rhaglen Drafft

Diwrnod 1 - Dydd Iau 1 Hydref

8.30yb Cofrestru, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa

9.30yb Cyflwyniad i’r Diwrnod Cyntaf – Croeso gan y Cadeirydd

9.50yb Prif Araith | Darllen y Ystafell: Sut mae’r Hinsawdd Gwleidyddol Cyfredol yn Llunio Cyllid Tai | Ed Jones, Prifysgol Bangor

Mewn tai cymdeithasol, mae gwleidyddiaeth a’r economi yn ddwy ochr yr un geiniog. I adeiladu cynllun busnes gwydn, mae’n rhaid i arweinwyr cyllid ddeall data economaidd a hefyd yr hinsawdd gwleidyddol sy’n ei gynhyrchu. Mae’r sesiwn yma’n edrych ar ein realaeth economaidd bresennol drwy lens hollol wleidyddol, gan ddadansoddi sut mae agenda presennol y llywodraeth yn dylanwadu ar sefydlogrwydd y farchnad, pwysau rheoleiddio a chyllid y sector. Ymunwch â ni am ddadansoddiad miniog ac amserol o’r grymoedd gwleidyddol sy’n teyrnasu ar dirlun economaidd heddiw, a gadael gyda’r ddealltwriaeth sydd ei hangen i bwyso straen eich cyllid o gymharu â risgiau gwleidyddol uniongyrchol.

10.20yb Panel | Beth mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd i dai cymdeithasol?

  • Rhea Stevens, Cartrefi Cymunedol Cymru
  • John Tattersall, Centrus
  • Ed Jones, Prifysgol Bangor

11yb Egwyl Coffi/Gweld yr Arddangosfa/Rhwydweithio

12yp Gweithdai


1) Celfyddyd cyfathrebu niferoedd
Huw Cook a Richard Lloyd, Trivallis

3) Datgloi safleoedd cymhleth: Y fframwaith Home-Creators
Austin-Smith:Lord / Grŵp Ymgynghori Arbenigol Cynllunio a Thai RIBA

Sut y gall cymdeithasau tai ddatgloi safleoedd cymhleth heb glymu cyfalaf rhag blaen mewn tagfeydd cynllunio gwrthwynebus? Bydd y sesiwn 45-munud yma yn amlinellu fframwaith Home-Creators: llinell gyflawni ystwyth, stiwardiaeth yn gyntaf sy’n tynnu baich oddi ar fantolenni LCC.

Gan ymchwilio dulliau ymarferol ar draws dad-risgio technegol cyn iddynt ddigwydd, Caniatâd mewn Egwyddor (PiP) safleoedd canolig a chronfeydd cylchol cyllidol niwtral (mewn partneriaeth gyda Unnos ac awdurdodau lleol), bydd y gweithdy hwn yn rhoi glasbrint i gyfarwyddwyr cyllid, arweinwyr tir ac asiantau datblygu i droi tir lle bu oedi yn gynlluniau tai parod i fynd.

4) Gwiriad Iechyd Treth Tai: Yr Wybodaeth Ddiweddaraf Hanfodol a Chydymffurfiaeth
Dan Guy, Cubed Tax

Ym myd cyllid tai cymdeithasol, mae cydymffurfiaeth treth yn darged symudol. Gall methu cadw’n gydwastad gyda newid mewn deddfwriaeth arwain at rwymedigaethau annisgwyl, cosbau costus a cholli arbedion. 

Mae’r gweithdy ymarferol hwn yn rhoi diweddariad hanfodol ar y tirlun tai ar gyfer cymdeithasau tai. Dan arweiniad arbenigwyr y sector, byddwn yn dadansoddi newidiadau diweddar ac arfaethedig mewn TAW, treth gorfforaeth, treth gyflogaeth a CIS. Wedi’i chynllunio ar gyfer timau cyllid sydd angen cadw eu sefydliadau yn cydymffurfio ac effeithiol o ran treth, bydd y sesiwn yma yn trosi’r wybodaeth reoleiddiol gymhleth ddiweddaraf yn gamau gweithredu a gwiriadau clir y gellir mynd â nhw yn ôl yn syth i’r swyddfa.

12.45yp Cinio/Rhwydweithio/Gweld yr Arddangosfa

13.55yp  Rheoleiddio yng Nghymru: Blwyddyn yn Ddiweddarach  | Jo Valentine a Daniel Guest, Llywodraeth Cymru

Flwyddyn ar ôl cyhoeddi y Fframwaith Rheoleiddio ar gyfer Cymru 2025, mae sector tai Cymru yn parhau’n wydn ond yn parhau i weithredu mewn amgylchedd ariannol heriol. Mae landlordiaid tai cymdeithasol Cymru yn cydbwyso gofynion sylweddol sy’n cystadlu – buddsoddi mewn cartrefi presennol, ateb ymrwymiadau datgarboneiddio, darparu gwasanaethau ansawdd uchel i denantiaid a chynnal uchelgeisiau datblygu – tra’n llywio pwysau cost, cyfyngiadau cyllid a disgwyliadau rheoleiddiol cynyddol.

Yn y sesiwn yma byddwn yn clywed gan Jo Valentine, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai a Rheoleiddio a Daniel Guest, Uwch Ddadansoddydd Ariannol yn y Tîm Rheoleiddio. Gyda’i gilydd, byddant yn bwrw golwg ar yr hyn a welsant dros y flwyddyn ddiwethaf a’r pwysau ariannol a rheoleiddiol sy’n wynebu’r sector.

Byddant yn ymchwilio’r hyn mae esblygiad y tirlun rheoleiddiol yn ei olygu i LCC Cymru ac yn ystyried profiad y flwyddyn ddiwethaf.
 

14.15yp Panel | Ail-lunio’r Map Trywydd; Cynllunio Busnes mewn Cyfnod Anwadal

Mae cynlluniau busnes traddodiadol 30-mlynedd yn teimlo’n gynyddol fregus mewn byd lle mae blaenoriaethau gwleidyddol yn newid dros nos a dangosyddion economaidd yn parhau’n ystyfnig. I oroesi a ffynnu, mae’n rhaid i gymdeithasau tai esblygu o ragolygon disymud i gynllunio deinamig, ystwyth. Mae’r panel hwn yn dod ynghyd â chadeiryddion, prif weithredwyr a chyfarwyddwyr cyllid i drafod sut maent yn ymwreiddio anwadalrwydd gwleidyddol ac economaidd yn uniongyrchol yn eu modelau busnes. Byddwn yn ymchwilio sut i osod paramedrau realistig ar gyfer rhent, chwyddiant a benthyca, tra’n meithrin yr hyblygrwydd gweithredol sydd ei angen i droi pan fo’r tirlun ehangach yn newid. Ymunwch â ni i ddysgu sut i symud tu hwnt i ddelio yn ymatebol â phroblemau wrth iddynt godi a dylunio cynllun busnes sy’n croesawu ansicrwydd.

  • Matthew Wilde, SWIG Finance & Cadeirydd FCHA 
  • Terri McCullagh, Danske Bank
  • Michaela Booth, Altair


14.55yp  Gweithdai

1) Diweddariad Hanfodol ar Bensiynau ar gyfer Cymdeithasau Tai
Quantum Advisory

Cadwch eich sefydliad ar y blaen i newid mewn deinameg pensiynau. Bydd y gweithdy hwn yn symud yn gyflym ac yn rhoi diweddariad cynhwysfawr ar y newidiadau rheoleiddiol diweddaraf, symudiadau yn y farchnad ac effeithiau prisiant sy’n effeithio ar ddarparwyr tai cymdeithasol. P’un ai ydych yn reoli risgiau gwaddol budd diffiniedig neu’n dymuno optimeiddio eich cynigion cyfraniad diffiniedig, mae’r sesiwn yma’n cynnig canllawiau ymarferol a’r ddealltwriaeth arbenigol rydych eu hangen i ddiogelu eich llinell waelod a chefnogi eich gweithlu.

2) Diweddariad Hanfodol ar Yswiriant ar gyfer Cymdeithasau Tai
Gallagher

Er fod marchnadoedd yswiriant traddodiadol yn parhau’n gystadleuol, mae cymdeithasau tai yn gynyddol yn ymchwilio dulliau newydd o reoli risg a costau. Bydd y sesiwn ryngweithiol yma’n rhoi diweddariad ar gyflwr cyfredol y farchnad yswiriant, yn cynnwys tueddiadau tanysgrifennu, cyfyngiadau galluedd, meysydd risg sy’n dod i’r amlwg a disgwyliadau yswirwyr. Bydd hefyd yn edrych ar ystod o opsiynau amgen ar gyfer trosglwyddo risg, o hunan-yswiriant strwythuredig a threfniadau caeth i ddatrysiadau parametrig a dulliau arloesol o gyllido risg. Bydd y sawl sy’n mynychu  yn cael gwybodaeth ymarferol ar sut y gall sefydliadau tai gryfhau gwydnwch, gwella canlyniadau cyllido risg a datblygu strategaeth yswiriant hirdymor gynaliadwy mewn marchnad sy’n esblygu’n gyflym.

3) Llyfr Cynllunio Cyfarwyddwyr Cyllid: Gwersi o’r Brig ar gyfer Arweinwyr y Dyfodol

Mae gan bob Cyfarwyddwr Cyllid profiadol gasgliad meddyliol o wersi a ddysgwyd o drin capiau rhent, siociau economaidd a newidiadau corfforaethol sylweddol. Mae’r gweithdy hwn yn cynnig cyfle prin i arweinwyr y dyfodol i ddysgu’n uniongyrchol o’r profiad hwnnw. Mae ein sesiwn ”Mewn Sgwrs” yn cael gwared â’r cyflwyniadau ffurfiol ar gyfer trafodaeth real a diflewyn ar dafod gyda chynghorwyr cyllid profiadol o’r sector. Cewch ddarganfod yr hyn y dymunent y byddent wedi ei wybod cyn cymryd y swydd, sut maent yn cydbwyso stiwardiaeth ariannol gyda’r genhadaeth gymdeithasol a sut i adeiladu perthynas gref gyda phrif swyddogion gweithredol a byrddau. Dyma’ch cyfle i gael dealltwriaeth fentoriaeth werthfawr tu hwnt i hybu eich taith fel arweinydd.

  • Brian Pickett, CCHA (Cadeirydd)
  • Naveeda Morgan, CCHA
  • Lorraine Oates, Merthyr Valleys Homes
  • Rhys Parry, Adra
     

4) Y Cyfriflyfr Dynol: Trin Effaith Seicolegol Newid Economaidd | Pip Gwynn, Insight HRC

Mae gan ansicrwydd ariannol ôl-troed seicolegol dybryd. Pan mae tirlun cyllid yn newid a phwysau rheoleiddiol yn cynyddu, mae’n ymdreiddio i ddeinameg tîm, effeithio ar wneud penderfyniadau, cynhyrchiant a llesiant. Mae’r gweithdy hwn yn cymryd cipolwg ar seicoleg ansicrwydd. Byddwn yn archwilio sut mae’r ymennydd dynol yn crefu am sicrwydd, sut mae straen economaidd yn amlygu ei hun yn y gweithle a sut y gall arweinwyr ddadgodio ymddygiad tîm amddiffynnol neu bryderus. Mae’r sesiwn yn cynnig strategaethau y gellir eu rhoi ar waith i helpu eich tîm i wynebu amwysedd, cadw ffocws a meithrin gwydnwch mewn cyfnodau lle mae llawer yn y fantol.

15.40yp Egwyl Coffi/Gweld yr Arddangosfa/Rhwydweithio

16.15yp Panel | Chwysu’r Asedau: Datgloi Ffrydiau Cyllid a Danddefnyddir

  • Claire Snook, SamKat
  • Cerys Williams, EON
  • Samantha Daniel, United Welsh

16.45yp Diwedd Diwrnod 1 – Sylwadau’r Cadeirydd

17.30yp Derbyniad diodydd

19.00yp Cinio

20.30yp Adloniant min-nos: Sesiwn Fawr Adeiladu Lego Tai Cymdeithasol
 

Diwrnod 2 - Dydd Gwener 2 Hydref

8.45yb Cofrestru, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa

9.50yb  Cyflwyniad i’r Ail Ddiwrnod – Croeso gan y Cadeirydd

10.10yb Panel | Y Matrics: Cydbwyso Gofynion Graddiad Credyd gyda Realaeth Rheoleiddiol

  • Sandy Murray, ClwydAlyn
  • Gemma Bell, Devonshires
  • James Tarrant, Savills

10.55yb Egwyl coffi, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa

11.45yb Gweithdai

1) Diweddariad Hanfodol ar Yswiriant ar gyfer Cymdeithasau Tai
Gallagher

Er fod marchnadoedd yswiriant traddodiadol yn parhau’n gystadleuol, mae cymdeithasau tai yn gynyddol yn ymchwilio dulliau newydd o reoli risg a costau. Bydd y sesiwn ryngweithiol yma’n rhoi diweddariad ar gyflwr cyfredol y farchnad yswiriant, yn cynnwys tueddiadau tanysgrifennu, cyfyngiadau galluedd, meysydd risg sy’n dod i’r amlwg a disgwyliadau yswirwyr. Bydd hefyd yn edrych ar ystod o opsiynau amgen ar gyfer trosglwyddo risg, o hunan-yswiriant strwythuredig a threfniadau caeth i ddatrysiadau parametrig a dulliau arloesol o gyllido risg. Bydd y sawl sy’n mynychu  yn cael gwybodaeth ymarferol ar sut y gall sefydliadau tai gryfhau gwydnwch, gwella canlyniadau cyllido risg a datblygu strategaeth yswiriant hirdymor gynaliadwy mewn marchnad sy’n esblygu’n gyflym.

2) Diweddariad Hanfodol ar Bensiynau ar gyfer Cymdeithasau Tai
Quantum Advisory

Cadwch eich sefydliad ar y blaen i newid mewn deinameg pensiynau. Bydd y gweithdy hwn yn symud yn gyflym ac yn rhoi diweddariad cynhwysfawr ar y newidiadau rheoleiddiol diweddaraf, symudiadau yn y farchnad ac effeithiau prisiant sy’n effeithio ar ddarparwyr tai cymdeithasol. P’un ai ydych yn reoli risgiau gwaddol budd diffiniedig neu’n dymuno optimeiddio eich cynigion cyfraniad diffiniedig, mae’r sesiwn yma’n cynnig canllawiau ymarferol a’r ddealltwriaeth arbenigol rydych eu hangen i ddiogelu eich llinell waelod a chefnogi eich gweithlu.

4) Gwiriad Iechyd Treth Tai: Diweddariad Hanfodol a Chydymffurfiaeth
Dan Guy, Cubed Tax

Ym myd cyllid tai cymdeithasol, mae cydymffurfiaeth treth yn darged symudol. Gall methu cadw’n gydwastad gyda newid mewn deddfwriaeth arwain at rwymedigaethau annisgwyl, cosbau costus a cholli arbedion. 

Mae’r gweithdy ymarferol hwn yn rhoi diweddariad hanfodol ar y tirlun tai ar gyfer cymdeithasau tai. Dan arweiniad arbenigwyr y sector, byddwn yn dadansoddi newidiadau diweddar ac arfaethedig mewn TAW, treth gorfforaeth, treth gyflogaeth a CIS. Wedi’i chynllunio ar gyfer timau cyllid sydd angen cadw eu sefydliadau yn cydymffurfio ac effeithiol o ran treth, bydd y sesiwn yma yn trosi’r wybodaeth reoleiddiol gymhleth ddiweddaraf yn gamau gweithredu a gwiriadau clir y gellir mynd â nhw yn ôl yn syth i’r swyddfa.

12.40yp Deallusrwydd Artiffisial yn y Swyddogaeth Cyllid – Heip neu Realaeth

1.10yp Ymestyn Deallusrwydd Artiffisial: Y Camau Nesaf Ymarferol ar gyfer Arweinwyr Cyllid

1.40yp  Sylwadau cloi y Cadeirydd

2.00yp Diwedd y Gynhadledd a chinio-i-fynd

Llety

Rydym wedi cadw ystafelloedd yn y Metropole ar gyfer cynrychiolwyr y gynhadledd. I archebu ystafell, ffoniwch y Metropole yn uniongyrchol ar 01597 823700 a gadael iddynt wybod eich bod yn archebu ar gyfer yr Un Gynhadledd Fawr.

Byddwch yn talu drwy’r Metropole a nhw fydd yn trin eich archeb.

Os nad oes lle yn y Metropole neu yr hoffech aros mewn man arall, mae’r opsiynau canlynol ar gael

Cwmnïau tacsi lleol os ydych yn aros ymhellach allan:

George’s Taxi – 07498729724
Adeys Taxi – 01597822188

Mae’r ddau uchod yn argymhellion lleol.