Jump to content

Cynhadledd Cyllid 2025: Datgloi dyfodol tai Cymru gyda’n gilydd

Hydref 7, 2025 @ 9:00yb
Cynadleddau 2 days Metropole Hotel, Llandrindod Wells
Pris Aelod
From

£355

Pris heb fod yn Aelod
From

£465

Dod ag arweinwyr ai Cymru ynghyd am ddau ddiwrnod o wybodaeth a gweithredu i rannu datrysiadau, datgloi buddsoddiad a sicrhau’r adnoddau angenrheidiol i gyflenwi tai fforddiadwy o ansawdd da a grymuso cymunedau llewyrchus.

RHAGLEN DRAFFT (yn amodol ar newid)

Dydd Mawrth 7 Hydref

8.30am Cofrestru a brecwast rhwydweithio

9.30am Croeso a sylwadau agoriadol
Sian Lloyd

9.45am Tir yn Symud: Sut mae Newid Byd-eang yn Taro Gartref

Mae’r tir o dan ein traed yn symud. O bwysau chwyddiant byd-eang a chadwyni cyflenwi anwadal i realaeth gyllidol cyflawni Sero Net, mae grymoedd rhyngwladol mawr yn ail-lunio ein byd. Ond nid penawdau o bell yw’r rhain; maent yn creu llanw lleol grymus sy’n cael effaith uniongyrchol ar gostau adeiladu, modelau buddsoddi a chymunedau ar draws Cymru.

Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn sy’n darparu cyd-destun economaidd hanfodol ar gyfer y gynhadledd hon, yn ymchwilio sut y gall sector tai Cymru lywio eu llwybr ar y tir newidiol hwn ond adeiladu arno i arwain y ffordd ymlaen.

10.30am Panel – Cyllid Strategol ar Waith: Beth sy’n gweithio yng Nghymru a thu hwnt

Caiff y ddamcaniaeth economaidd ei gosod. Mae’n amser gweithredu. Mae’r panel deinamig hwn yn edrych ar y strategaethau ariannol ymarferol sy’n troi uchelgeisiau tai Cymru yn realaeth.

Yn cynnwys cynghorydd i’r Trysorlys, cyllidwr sefydliadol allweddol a Chyfarwyddwr Cyllid sy’n arwain y sector, bydd y sesiwn yn rhannu astudiaethau achos llwyddiannus ac yn ateb eich cwestiynau hollbwysig ar:

  • Cyllid arloesol: Dadbacio’r modelau cyllid cyfunol sy’n llwyddo.
  • Partneriaethau effeithiol: Llunio cynlluniau cydweithio cyhoeddus-preifat sy’n sicrhau gwerth i bawb.
  • Mesur effaith: Sut i brofi dychweliad cymdeithasol ac amgylcheddol ar fuddsoddiad i ddenu buddsoddiad newydd.

Byddwch yn gadael y sesiwn yma wedi’ch ysbrydoli a gyda gwybodaeth y gellir ei rhoi ar waith a modelau ariannol llwyddiannus i’w gweithredu o fewn eich sefydliad eich hun.


Mewn sgwrs gyda:

  • Richard Conway, Centrus
  • Terry McCullagh, Danske Bank
  • Rhys Parry, Adra
  • Howard Toplis, Tai Calon

11.15am Lluniaeth a rhwydweithio

11.55am Panel – Diogelu cyllid ar gyfer y dyfodol: Risg, cydnerthedd a rheoleiddio

Mae uchelgais yn hanfodol wrth geisio cynnydd. Mae’r sesiwn yma yn neilltuol ar gyfer meithrin yr hyder hwnnw drwy fynd i’r afael ar eu hunion â phynciau anodd risg a rheoleiddio.

Byddwn yn trawsnewid y materion hyn o ffynonellau pryder i feysydd o reolaeth strategol.

Bydd ein panel yn rhoi cyngor y gellir ei roi ar waith ar:

  • Cynllunio Sefyllfa: Symud o ‘beth petai?’ ymatebol i ‘beth sydd nesaf?’ rhagweithiol
  • Profi Straen: Adeiladu cynlluniau ariannol sy’n plygu heb dorri
  • Hinsawdd a Rheoleiddio: Troi’r ansicrwydd mwyaf yn ffynonellau mantais gystadleuol

Byddwch yn gadael gyda ffordd o feddwl ‘gallu gwneud’ a’r dulliau ymarferol i arwain eich sefydliad drwy ansicrwydd gyda nerth, craffter ac eglurdeb.

12.40pm Cinio a rhwydweithio

1.50pm Gweithdai

1) Leithder a Llwydni i Fygythiadau Digidol: Mesur yr Anfesuradwy

Archwiliad dwfn i’r tirlun risg modern. Nid yw hyn yn ymwneud â ffeirio cyfraddau llog: mae am y gost ariannol a’r gost i enw da o fethu mynd i’r afael â diogelwch adeiladau, lleithder a llwydni, toriadau data a digwyddiadau hinsawdd fel llifogydd. Sut mae modelu’r risgiau hyn? Sut ydych chi’n yswirio yn eu herbyn? Sut ydych yn eu cyfathrebu i’r bwrdd?

2) Ariannu arloesi a chyflenwi prosiect

Gwneud achos busnes ar gyfer arloesi – mynediad i grantiau, cynlluniau peilot a phartneriaethau

3) Diweddariad gan Lywodraeth Cymru ar fodel cyllid newydd
gyda Sarah Cole

4) Archwiliad mewnol
gyda BDO

3.00pm Lluniaeth a rhwydweithio

3.40pm Panel – Llywio’r Storm: Ansicrwydd Economaidd a Gwleidyddol


Mae cyfuniad o bwysau economaidd a gwleidyddol yn creu tirlun ariannol heriol ar gyfer cymdeithasau tai ledled Cymru. Mae’r Deyrnas Unedig yn parhau i ymaflyd gyda blaenwyntoedd economaidd, yn cynnwys pwysau chwyddiant ar gostau adeiladu a chynnal a chadw, cost barhaus yr argyfwng costau byw ar gyfer cymunedau a chyfraddau llog amrywiol yn effeithio ar fenthyca ar gyfer datblygiadau newydd.

Yn ychwanegu at hyn mae amgylchedd gwleidyddol deinamig, yn San Steffan a hefyd Senedd Cymru, a all arwain at newid mewn blaenoriaethau tai, dyraniadau cyllid a gofynion rheoleiddio.

Ar gyfer cymdeithasau tai Cymru, caiff yr heriau eang hyn eu llunio ymhellach gan gyfeiriad polisi penodol Llywodraeth Cymru, yn cynnwys ei thargedau uchelgeisiol ar gyfer datgarboneiddio a datblygu tai cymdeithasol newydd.

Bydd y panel hwn yn ymchwilio goblygiadau ariannol allweddol yr ansicrwydd hwn ar gyfer cymdeithasau tai Cymru ac yn rhoi sylw i’r cwestiynau allweddol y mae angen i gymdeithasau tai eu hystyried i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor a pharhau i gyflenwi cartrefi fforddiadwy o safon.

4.10pm Prif Araith – Mae’r Dyfodol wedi Cyrraedd: Mega-dueddiadau sy’n ail-lunio tai a chymunedau yng Nghymru hyd 2035.
gyda Kitty Horlick

Beth yw’r mega-dueddiadau byd-eang a lleol a fydd yn ail-lunio sut mae cymdeithasau tai yn gweithredu, ariannu, adeiladu a gwasanaethu cymunedau yng Nghymru dros y degawd nesaf?

5.00pm – Rhwydweithio, derbyniad diodydd a chinio

Dydd Mercher 8 Hydref

8.45am Cofrestru a rhwydweithio

9.30am – Coffi a chrynhoi

10.00am – Prif Araith: Deallusrwydd artiffisial a’r dyfodol ar gyfer cyllid tai
gyda Guy Marshall

Ymchwiliwch sut mae deallusrwydd artiffisial yn trawsnewid cyllid tai drwy yrru gwneud penderfyniadau mwy craff, gwella rheoli risg a datgloi cyfleoedd newydd ar gyfer fforddiadwyedd ac effeithiolrwydd.

Bydd y sesiwn yn ymchwilio’r datblygiadau diweddaraf mewn deallusrwydd artiffisial sy’n trawsnewid benthyca, buddsoddi a chynllunio ariannol yn y sector tai. Byddwch yn darganfod cymwysiadau ymarferol, tueddiadau newydd a’r heriau y maen rhaid i weithwyr proffesiynol cyllid tai eu llywio i ddefnyddio ddeallusrwydd artiffisial yn gyfrifol ac effeithlon wrth greu cymunedau cynaliadwy a chynhwysol.

10.30am - Panel – Gwerth cymdeithasol a buddsoddiad effaith: Yr hyn mae buddsoddwyr ei angen

  • Mathew Grenier, HACT
  • Sophie Wint, Hedyn
  • Sharon Woodward, The Housing Finance Corporation

11.15am – Lluniaeth a rhwydweithio

11.55am - Gweithdai

1) Pam Lai Rhannu Gwasanaeth? – Ailfeddwl am Gydweithio yn y Sector Tai yng Nghymru (gyda Barcud Shared Services)

Mae’r sesiwn yma’n ymchwilio potensial trawsnewidiol rhannu gwasanaethau o fewn y sector tai yng Nghymru. Yn hytrach na gofyn “Pam ddylen ni rannu gwasanaethau?”, mae’r sgwrs yn symud i “Pam na ddylen ni?” – herio tybiaethau traddodiadol ac annog ffordd o feddwl o gydweithio, effeithiolrwydd, arloesedd a chydnerthedd.

2) Diweddariad ar bensiynau gyda Quantum Advisory

3) Diweddariad yswiriant gyda Gallagher

4) Diweddariad ar drethiant gyda Cubed Tax

1.05pm Sgwrs ger y tân: “Yr Arweinydd Cyllid fel Actifydd, Arloesedd ac Adeiladwr Cymuned”.

1.35pm – Bwrw golwg yn ôl a chau

1.50pm – Cinio a choffi i fynd gyda chi

Accommodation

Gofynnir i chi nodi na fydd CHC yn trefnu archebion ar gyfer ystafelloedd gwesty.

Cawsom ein hysbysu fod Gwesty’r Metropole bellach yn llawn ar gyfer nos Fawrth 7 Hydref.

Isod mae rhai o’r opsiynau llety cyfagos. Gofynnir i chi nodi nad yw hyn yn golygu eu bod yn cael eu hargymell gan CHC.

Os ydych yn aros ymhellach allan, dyma ddau o’r cwmnïau tacsi sydd ar gael:

George’s Taxi – 07498729724

Adeys Taxi – 01597822188