Jump to content

Uwchgynhadledd Arweinyddiaeth 2026: Tai / Tarfwyd

Tachwedd 24, 2026 @ 8:30yb
Cynadleddau Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd
Pris Aelod

£369

Pris heb fod yn Aelod

£487

Syniadau newydd. Symudiadau uchelgeisiol. Cyflawni i Gymru.

Mae Llywodraeth newydd yng Nghymru yn rhoi cyfle i ni ailysgrifennu’r cynllun ar gyfer tai. Tai / Tarfwyd yw eich gwahoddiad i oedi ac edrych ar yr hyn a ddaw nesaf. Dyma’r amser i wneud dewisiadau sy’n llunio dyfodol Cymru.

Mae gennym gyfle i symud o argyfwng tai i adferiad tai – adeiladu mwy o gartrefi, gwella’r cartrefi sydd gennym a chreu lleoedd mwy iach a theg ar gyfer pobl a chymunedau ledled y wlad.

Ymunwch â ni i drafod sut y gallwn dorri hen arferion, croesawu syniadau anarferol a meddwl eto am sut ydym yn adeiladu, buddsoddi a gwasanaethu ein cymunedau.

Grymuso’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr tai

Er mwyn grymuso’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr tai a chyflymu eu twf proffesiynol, rydym wedi creu tocyn Arweinwyr y Dyfodol.

Bydd y tocyn hwn, sydd ar gael am gyfradd sydd wedi'i chymorthdal o £295, yn rhoi mynediad i un unigolyn o bob cymdeithas dai yng Nghymru i sesiynau cynhadledd wedi'u teilwrio, cyfleoedd rhwydweithio arbennig, a mannau penodedig i gysylltu ac i ddysgu oddi wrth gyd-arweinwyr.

Gallwch gyflwyno eich enwebiad yma.

Rhaglen Drafft

8.30am Cofrestru, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa

10.00am Croeso gan y Cadeirydd

10.10am Gosod y llwyfan | Croeso i’r ffin newydd

Mae’r tirlun gwleidyddol newydd yn ailddiffinio rheolau ymgysylltu. Bydd yr anerchiad agoriadol hwn yn datod y ddeinameg gyfredol yng ngwleidyddiaeth Cymru a gosod y llwyfan ar gyfer y symudiadau uchelgeisiol sydd eu hangen i adeiladu, buddsoddi a gwasanaethu cymunedau ledled Cymru.


10.30am Prif araith (I'w gadarnhau)

10.50am Prif araith | Sut mae gwerthoedd cryf yn helpu’r economi

Nid eich sgwrs fusnes draddodiadol mo hyn. Yn ogystal â dadansoddi tueddiadau byd-eang, y Deyrnas Unedig a Chymru, byddwn hefyd yn ymchwilio sut y gall strategaethau economaidd fel buddsoddi gyda diben a hyrwyddo adeiladu cyfoeth cymunedol droi anwadalrwydd yn gyfle. Cewch ddarganfod sut y gall cymdeithasau tai safleoli eu hunain nid dim ond fel rhwydi diogelwch ond fel prif ysgogwyr twf economaidd cynaliadwy.

 

11.20am Panel | Meithrin ymddiriedaeth a sicrhau effaith

Mae disgwyliadau’r cyhoedd yn newid, mae’r cyfryngau yn fwyfwy darniog a thrafodaeth wleidyddol yn gynyddol gymhleth. Sut mae sefydliadau diben cymdeithasol yn cynnal ymddiriedaeth y cyhoedd ac yn aros yn ffyddlon i’w gwerthoedd craidd tra’n dylanwadu’n effeithlon ar wneuthurwyr penderfyniad.


Bydd y sesiwn yma yn eich helpu i ddeall sut i ‘ddarllen yr ystafell’, meithrin ymddiriedaeth a chreu effaith barhaus.


11.50am Egwyl Coffi, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa

12.30pm Gweithdai

1) Yr Ystafell Gynnig: Cael arweinwyr i wrando

Mae adferiad tai yn mynnu syniadau blaengar gwahanol, ond sut mae mynd ati mewn gwirionedd i dorri drwy haenau llywodraethiant weithredol a llywio arweinwyr ymaith o’r parth ‘meddwl diogel’? Dewch â’ch cysyniadau mwyaf beiddgar i’r sesiwn hwyliog yma – gorau po fwyaf y byddant yn tarfu! – a dysgu sut i sicrhau y caiff strategaethau arloesol eu clywed, eu cefnogi a’u cyflawni.

 

2) Arwain drwy werthoedd

Dylai gwir ddiben cymdeithasol fod yn llawer mwy na pholisi ar silff. Bydd y gweithdy ymarferol hwn yn rhoi cynghorion ymarferol i ymwreiddio gwerthoedd craidd eich sefydliad mewn gwaith bob dydd a helpu staff i gyflenwi gwasanaethau mewn ffordd sy’n teimlo’n ddilys ac sy’n aros yn driw i’ch cenhadaeth.

 

3) Ymagwedd fodern at gynnal tenantiaethau


Fel arfer mae sgyrsiau uwch weithredwyr a’r bwrdd ar fuddsoddiad mewn eiddo a heriau gweithlu, ond mae gwytnwch hirdymor cymdeithasau tai yn dibynnu ar ba mor dda yr ydym yn trin anghenion ein preswylwyr, sydd yn dod yn fwyfwy cymhleth, a sut y cefnogwn nhw i ffynnu.

Wrth i’r ddeddfwriaeth newydd ar ddigartrefedd ail-lunio’r sector, mae’r sesiwn yma yn cynnig golwg ymarferol ar sut y gall arweinwyr tai drawsnewid y ffordd mae staff rheng flaen yn trin cynhaliaeth tenantiaethau. Cewch glywed sut mae canolbwyntio ar beth sy’n gryf a beth sydd ddim yn meithrin galluedd preswylwyr, gostwng ôl-ddyledion a nifer y tenantiaethau sy’n methu, ac yn datgloi partneriaethau gwerthfawr gydag iechyd a gofal cymdeithasol.

 

4) Arloesi yn Ewrop: Gwersi ar gyfer tai yng Nghymru


Ar draws Ewrop, mae modelau tai cymdeithasol arloesol yn cynnig ysbrydoliaeth o’r newydd ar gyfer trechu cyfyngiadau cyllid, prinder tai a thagfeydd mewn cyflenwad. Mae’r gweithdy hwn yn edrych ar strategaethau uchelgeisiol o seilwaith tai cymdeithasol Vienna i ddatblygiadau eco gwledydd Llychlyn, ac yn trafod beth all cymdeithasau tai Cymru ei wneud i adeiladu’n well, cyflymach ac yn fwy deallus.

 

13.15pm Cinio, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa

14.00pm Dadl | A allwn wneud y cyfan?

Mae Llywodraeth newydd Cymru wedi gosod nodau uchelgeisiol, sy’n golygu fod cymdeithasau tai yn gorfod gwneud dewisiadau anodd. I ddatrys hyn, mae angen i ni newid ein dull gweithredu yn llwyr. Yn y ddadl egnïol yma bydd tri arweinydd sector yn cynnig strategaethau ar gydweithio mewn ffyrdd newydd, defnyddio syniadau ffres a chynnig gwahanol fathau o wasanaethau. Cewch wedyn gyfle i ofyn cwestiynau ac ymuno â’r ddadl.

 

14.55pm Egwyl Coffi, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa

15.40pm  Gweithdai


1) Egluro’r Ystafell Fwrdd: Sut y caiff penderfyniadau mawr eu gwneud

Ar gyfer arweinwyr y dyfodol, mae deall sut mae byrddau yn gweithio yn hanfodol i symud ymlaen yn eu gyrfa. Ond gall yr hyn sy’n digwydd go iawn mewn ystafelloedd bwrdd yn aml deimlo fel dirgelwch. Yn  sesiwn yma, byddwch yn dysgu sut mae aelodau bwrdd a thimau uwch weithredwyr yn cydweithio i wneud penderfyniadau strategol mawr, hirdymor. Cewch glywed o lygad y ffynnon gan gadeiryddion profiadol y sector a graddedigion diweddar Llwybr i’r Bwrdd am yr hyn y mae’n wir yn ei gymryd i gyfrannu at lywodraethiant, dylanwadu ar strategaeth a chamu’n hyderus i swyddi ar y bwrdd.


2) Timau dan bwysau: Cefnogi eich pobl mewn cyfnod o newid


Mae timau tai rheng flaen yn teimlo effaith newid cyson mewn llywodraeth a realaeth gwaith bob dydd, gan wneud gwytnwch gweithlu yn brif flaenoriaeth. Wedi’i seilio ar seicoleg alwedigaethol ymarferol, mae’r gweithdy hwn yn rhoi dulliau y gall gweithredwyr weithredu arnynt i liniaru lludded, gwarchod llesiant staff a chadw ymdeimlad glir o bwrpas drwy newid anodd.

 

3) Dilema trawsnewid: Adnewyddu neu ail-adeiladu?

Gyda threigl amser, mae gofynion sero net yn dod yn fwy llym a chostau cynnal a chadw yn cynyddu, ac mae cyfarwyddwyr tai yn ystyried dyfodol hirdymor anheddau hŷn. Sut mae cydbwyso’r angen i fuddsoddi mewn adnewyddu stadau sy’n heneiddio gyda’r angen i adeiladu cartrefi modern ac effeithiol o ran ynni sydd wirioneddol yn gwasanaethu cenedlaethau’r dyfodol? Yn y sesiwn yma, bydd arweinwyr yn rhannu’r fframweithiau byd go iawn, metrigau ariannol a sgyrsiau bwrdd tu ôl i’w strategaethau trawsnewid stadau – gan ymchwilio sut y gallwn sicrhau fod pob cartref yng Nghymru yn parhau’n ddiogel, cynaliadwy ac addas i’r diben.

 

4) Diogelu sgiliau tenantiaid at y dyfodol mewn oes wedi ei awtomeiddio


I adeiladu dyfodol gwell i Gymru, mae angen i ni wneud yn siŵr na chaiff tenantiaid eu gadael ar ôl wrth i dechnoleg ac awtomeiddio newid y ffordd y gweithiwn. Mae’n fwy na dim ond swyddi yn diflannu – mae am wneud yn siŵr fod preswylwyr yn barod ar gyfer cyfleoedd newydd ar draws yr economi. Wedi’i gynllunio ar gyfer arweinwyr tai sydd eisiau canfod ffyrdd newydd i sicrhau effaith gymdeithasol, mae’r sesiwn yn edrych ar ystyr parodrwydd am swydd mewn byd a gaiff ei yrru gan ddeallusrwydd artiffisial. Byddwn yn ymchwilio sut y gall cymdeithasau tai gamu mewn i helpu – cefnogi tenantiaid i ddysgu sgiliau sylfaenol deallusrwydd artiffisial, meithrin cryfderau dynol pwysig a chael sicrwydd swydd hirdymor.

 

16.30pm Sgwrs cil pentan – Arwain dan bwysau: Diben, grym a gwneud penderfyniadau


Sut mae arweinwyr eithriadol yn delio gydag hebul eithafol, cadw’n gadarn at eu diben craidd a gwneud penderfyniadau clir dan bwysau dwys? Yn y sgwrs cil pentan yma, bydd Clarissa Corbisiero, Dirprwy Brif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru, yn eistedd i lawr gydag arweinydd blaenllaw i siarad am brofiadau go iawn fel arweinydd. O oresgyn brwydrau personol anodd i newid systemau cyfan ac arwain timau drwy sefyllfaoedd caled, bydd y sgwrs hon yn cynnig gwersi real fydd yn ysbrydoli ar arwain gydag onestrwydd, cryfder a diben pan mae bwysicaf.

 

17.00pm Sylwadau’r Cadeirydd

17.00pm Cloi’r Gynhadledd