Cynhadledd Llywodraethiant 2026 CCC - Manteisio ar y Foment: Arweinyddiaeth addas ar gyfer Cymru mewn cyfnod o newid
Rydym yn byw drwy gyfnod o drawsnewid dybryd. Mae disgwyliadau cymdeithasol yn troi, mae pwysau economaidd yn dwysau a’r amgylchedd gwleidyddol yn parhau i esblygu. I gymdeithasau tai, mae’r grymoedd hyn yn uno mewn amser real – gan ail-lunio’r ffordd yr ydym yn cyflenwi cartrefi, yn cysylltu gyda thenantiaid a’u cefnogi, ac yn cynllunio ar gyfer sefydliadau cydnerth sydd â ffocws ar y dyfodol.
Yn y foment hon o newid, ni fu rôl byrddau erioed yn bwysicach.
Mae’r gynhadledd llywodraethiant hon yn gwahodd aelodau bwrdd, swyddogion llywodraethiant ac uwch arweinwyr i ddod ynghyd ac ystyried beth fydd ei angen i fanteisio ar y foment: i ddeall maint y newidiadau sy’n wynebu ein sector, ymchwilio yr hyn maent yn ei olygu ar gyfer arweinyddiaeth strategol, a sicrhau fod ein fframweithiau llywodraethiant yn addas ar gyfer Cymru yfory.
Wedi’i seilio ar ddiwylliant rhagoriaeth y sector a’n hymrwymiad i gymunedau, cynlluniwyd y digwyddiad hwn i helpu byrddau i ymateb i newid a hefyd arwain drwyddo – drwy roi eglurdeb, sefydlogrwydd ac uchelgais mewn cyfnod pan mae fwyaf o angen y nodweddion hynny.
Ymunwch â ni wrth i ni baratoi sector Cymru i addasu a rhagori yn hyderus a gyda diben a gweledigaeth.
Rhaglen Drafft
8.30yb Cofrestru a brecwast rhwydweithio
10yb Cyflwyniad a chroeso gan y cadeirydd
10.10yb Anerchiad agoriadol a gosod y llwyfan | Ateb y foment: Cartrefi ar gyfer pob dyfodol
Alison Thorne
Mae’r etholiad sydd i ddod yn dod â mwy na dim ond ASau newydd a ffiniau wedi’u hailddyrannu—mae’n dod â newid dyngedfennol mewn dynameg wleidyddol. Er bod y dirwedd yn newid, mae un peth yn aros yn gyson: grym a dylanwad perthnasoedd lleol cadarn sydd â’u gwraidd mewn pobl a lle.
Eich gwaith mewn cymunedau yw’r arf mwyaf pwerus sydd gennym i ddangos effaith buddsoddiad a dadlau dros newid dewr. Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn ryngweithiol hon i fapio beth mae’r map etholiadol newydd yn ei olygu i’ch cymuned chi, ac i fyfyrio ar sut i ddefnyddio’ch arbenigedd lleol i lywio’r agenda genedlaethol. Peidiwch â bodloni ar wylio’r newid yn digwydd—byddwch yn rhan o’i yrru.
10.20yb Prif Araith | Pobl, Grym a Chynnydd: Sut i Adeiladu’r Gweithlu – Gofynion y Dyfodol
Maddie Skennerton ac Alexa Highfield, PwC UK
Mae’n rhwydd dynodi’r her gweithle; ymateb iddo yw lle mae’r gwaith go iawn yn dechrau. Yn y sesiwn yma, byddwn yn cael gwared â’r jargon corfforaethol i fynd i’r afael â “sut” trawsnewid gweithlu. Byddwn yn edrych ar y tueddiadau cyfredol sy’n gwasgu marchnad tai Cymru ac yn gofyn: beth sy’n rhaid i uwch arweinwyr ei wneud yn awr i wneud eu sefydliadau yn fagnet ar gyfer talent? O newidiadau diwylliannol i ailddylunio strwythurol, byddwn yn ymchwilio’r rhestr wirio hanfodol ar gyfer timau arwain sy’n edrych ar adeiladu gweithluoedd perfformiad uchel parod ar gyfer y dyfodol a all gyflawni ar gyfer ein cymunedau.
10.50yb Panel | Y Glasbrint Diwylliannol: Alinio Arweinyddiaeth, Amrywiaeth a Diogelwch Seicolegol
Stuart Ropke (CHC), Maddie Skennerton (PwC UK), Pip Gwynne (Insight HRC) and Beacon Cymru
Caiff gwasanaethau ansawdd uchel eu hadeiladu ar ymddiriedaeth, parch ac ymroddiad i wneud y peth iawn. Mae’r sesiwn yma’n ymchwilio sut mae diwylliant gweithle mewnol yn effeithio’n uniongyrchol ar y tegwch a’r urddas mae preswylwyr yn eu profi yn eu cartrefi. Edrychwn sut mae arweinyddiaeth gynhwysol a thrylwyredd ar lefel Bwrdd yn creu’r amgylchedd sydd ei angen i staff ragori. Byddwn yn dysgu sut i feithrin gweithle sy’n gwneud mwy na chyrraedd safonau, ond yn rhagori arnynt – gan adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethwn drwy ddiwylliant o ddewrder, amrywiaeth a rhagoriaeth.
11.30yb Egwyl coffi, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa
12.00yp Prif Araith | Cartrefi: ar gyfer pob dyfodol
Lord Victor Adebowale
12.40yp Cinio, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa
1.45yp Gweithdai
1) O Dealltwriaeth i weithredu
Jo Valentine, Llywodraeth Cymru a Nigel Ireland, Barcud Shared Services
Mae deall risgiau ar draws y sector a sut maent yn berthnasol i’ch sefydliad yn rhan allweddol o bos y risg. Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno dadansoddiad ar draws y sector i helpu i feithrin dealltwriaeth o beth i gadw llygad amdano a sut i baratoi. Yr her fawr yw sut mae timau arwain yn dehongli’r bygythiadau hynny ac yn gweithredu arnynt.
Bydd y gweithdy hwn yn archwilio’r berthynas hanfodol rhwng y Bwrdd a’r tîm Gweithredol. Byddwn yn archwilio sut y gall dealltwriaeth gyffredin o risg symud sefydliad o gydymffurfio goddefol i wneud penderfyniadau rhagweithiol sy’n ymwybodol o risg, gan ystyried y technegau a’r cwestiynau y gallai aelodau’r Bwrdd eu gofyn er mwyn sicrhau bod y fframwaith sicrwydd risg yn llywio camau gweithredu ac ymddygiad ar draws y busnes.
2) Adeiladu cysylltiadau effeithlon ar gyfer y seithfed Senedd
Clarissa Corbisiero, CHC
Mae’r etholiad ym mis Mai eleni yn dod â mwy na dim ond Aelodau o’r Senedd a ffiniau newydd – mae’n dod â newid pwysig mewn deinameg gwleidyddol. Er fod y tirlun yn newid, mae un peth yn aros yn gyson: grym a dylanwad cysylltiadau lleol cryf sydd â’u gwreiddiau mewn pobl a lle.
Eich gwaith mewn cymunedau yw’r offeryn mwyaf grymus sydd gennym i ddangos tystiolaeth effaith buddsoddiad a gwneud yr achos dros newid beiddgar. Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn ryngweithiol yma i fapio yr hyn mae’r map etholiadol newydd yn ei olygu i’ch cymuned ac ystyried sut i ysgogi eich arbenigedd lleol i lunio’r agenda cenedlaethol. Gwnewch fwy na dim ond edrych ar y newid yn dechrau – gyrrwch ef.
3) Parth briffio: Newidiadau deddfwriaethol – yr hyn sydd angen i chi wybod
Elly Lock, CHC, ac Gemma Bell, Devonshires
Gyda’r tirlun deddfwriaethol yng Nghymru yn symud yn gyflym, mae angen mwy nag edrych yn frysiog ar y newyddion i barhau i gydymffurfio. Mae’r briffiad hanfodol hwn yn rhoi map trywydd diffiniol o’r newidiadau fydd yn effeithio ar dai cymdeithasol yn 2026.
4) O Werthoedd i Ymarfer: Adeiladu Diwylliant Bwrdd sy’n Sicrhau Newid
Afshan Iqbal, CCHA
Bydd y gweithdy rhyngweithiol yma yn ymchwilio sut y gall byrddau ac uwch arweinwyr roi gwerthoedd ar waith a chreu diwylliant sefydliadol lle mae amrywiaeth, tegwch a phrofiadau bywyd yn wirioneddol yn llywio gwneud penderfyniadau.
Gan ddysgu o wersi o brosiectau amrywiaeth GIH a Llwybr i’r Bwrdd a chanlyniadau diweddar HACT, bydd y sesiwn yn edrych ar arwyddion newid, yn cynnwys diwylliant gweithlu, creu gofodau diogel ar gyfer her a sut mae gwerthoedd yn ymdreiddio drwy sefydliadau o’r bwrdd i’r rheng flaen.
Wedi’i chynllunio ar gyfer uwch arweinwyr ac aelodau bwrdd, bydd y sesiwn yn rhoi golwg ymarferol ar yr hyn sy’n gweithio, beth sy’n digwydd nesaf a sut i gynnal cynnydd, gyda negeseuon clir i’w rhoi ar waith ar gyfer ymarfer bwrdd.
2.30yp Egwyl coffi, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa
2.55yp Prif araith | Symud grym, llais cryfach: Arwain drwy drosiant 2026
Will Hayward
Gydag Etholiadau 2026 i Senedd Cymru i’w cynnal ar 7 Mai, mae’n rhaid i sector tai Cymru ganfod ei lais ar y cyd i sicrhau fod ‘Cartrefi ar gyfer pob dyfodol’ yn fwy na slogan, ond yn realaeth.
Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn hanfodol hon i drafod y newid mwyaf sylweddol yng ngwleidyddiaeth Cymru am 25 mlynedd. Gyda’r Senedd yn ehangu i 96 Aelod, ffiniau newydd a system bleidleisio newydd, mae’r rheolau ymgysylltu wedi newid. Bydd y sesiwn yma’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y symudiadau, maniffesto a mandadau fydd yn diffinio degawd nesaf tai yng Nghymru.
3.25yp O faniffesto i genhadaeth
Mewn sgwrs gyda Will Hayward a Fiona Meldrum
3.55pm Anerchiad cloi
Gerraint Oakley, Cadeirydd, CHC
4.10yp Gweithdai
1) Yr esblygiad rheoleiddiol
Sandy Murray, Cris McGuiness (ClwydAlyn)
Yr hyn y gallwn ei ddysgu o’r dulliau gweithredu rheoleiddiol newydd. Ymunwch â’r sesiwn yma i glywed o ddau fodel sy’n esblygu yn cynnwys adborth o’r cynlluniau peilot rheoleiddio yng Nghymru a barn o Loegr.
2) Deallusrwydd artiffisial a chodi disgwyliadau – Moeseg a llywodraethiant
Guy Marshall
Nid yw moeseg mewn deallusrwydd artiffisial yn ymwneud â stopio arloesedd; mae’n ymwneud ag adeiladu sylfaen o ymddiriedaeth sy’n galluogi arloesedd i gynyddu’n ddiogel. Ond rydym yn wynebu cwestiwn hollbwysig: sut mae arloesi heb erydu ymddiriedaeth? Mae’r sesiwn yn symud tu hwnt i’r “heip” i roi fframwaith ymarferol ar gyfer mabwysiadu deallusrwydd artiffisial moesegol sy’n gwarchod tenantiaid agored i niwed ac sy’n gydnaws gyda gwerthoedd cymdeithasol Cymru.
3) Datgarboneiddio ein cartrefi
Iwan Trefor Jones (Adra) ac Owain Israel (Codi)
Gwyddom beth sydd angen i ni wneud i gyrraedd Sero Net, ond sut mae talu amdano heb adael ein tenantiaid ar ôl? Mae’r sesiwn yma yn symud tu hwnt i’r glasbrintiau technegol i fynd i’r afael â chwestiynau anodd tegwch a chost. Yn y sesiwn yma byddwn yn trafod y tensiwn rhwng lefelau rhent, buddsoddiad mewn stoc a thlodi tanwydd. Gan roi sylw i wybodaeth unigryw ar sefydlu llais y tenant o’r diwrnod cyntaf un, gofynnwn: a yw “trosiant cyfiawn” yn wirioneddol bosibl pan fo cyllidebau dan bwysau? Ymunwch â ni ar gyfer trafodaeth ddiflewyn ar dafod ar sut i gael mantolen gytbwys gan sicrhau fod gan bob tenant lais yn y chwyldro gwyrdd.
4) Llywio Safonau'r Gymraeg Newydd: Llywodraethu, Risg a Chyfleoedd
Rhys Evans, Ateb Cymru
4.55yp Cloi Cynhadledd