Cynhadledd Deallusrwydd Artiffisial (AI)
£295
£487
Cynhadledd Deallusrwydd Artiffisial a Data 2026: Llywio cyfleoedd, risg a diben ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru
Nid dod i dai cymdeithasol mae deallusrwydd artiffisial (AI) – mae yma eisoes, yn ail-lunio sut ydym yn gweithio, gwneud penderfyniadau a chefnogi cymunedau ledled Cymru.
Wedi ei pharatoi mewn ymateb uniongyrchol i adborth gan aelodau, mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn eich gwahodd i gynhadledd sy’n diffinio’r sector. Dyma’ch lle chi i alinio arweinyddiaeth, ymchwilio’r hyn sy’n bosibl a mynd i’r afael heb ofn â’r cwestiynau caled am risg, llywodraethiant, moeseg a chynaliadwyedd.
Dod ag argyfwng tai Cymru i ben yw ein blaenoriaeth. Dim ond pan y’i cefnogir gan ddata dibynadwy, trosolwg cryf ac empathi dynol go iawn y mae technoleg yn gwasanaethu’r genhadaeth honno.
Camwch i mewn i’r ystafell, arwain gyda hyder ac ymuno â ni wrth lunio dyfodol deallus, diogel a seiliedig ar ddiben ar gyfer tai Cymru.
Ar gyfer pwy mae hyn?
Rydym yn dod ag aelodau bwrdd, gweithredwyr ac arweinwyr digidol ynghyd dan un to. Y nod? Alinio eich tîm arweinyddiaeth fel y gallwch weithredu yn hyderus.
- Byrddau, Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
Miniogi eich llywodraethiant yn oes AI. Dysgu sut i werthuso strategaethau AI, rheoli risgiau corfforaethol sy’n dod i’r amlwg ac adeiladu fframweithiau trosolwg sy’n gwarchod eich sefydliad heb lesteirio arloesi. - Prif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr Gweithredol
Arweinyddiaeth strategol ar gyfer tai cymdeithasol modern. Mynd i’r afael â’r cydbwysedd caled rhwng hybu newid digidol a rheoli cyllidebau tyn, newid mewn rheoliadau ac ymrwymiadau sero net.
- Rheolwyr trawsnewid a newid gweithredol
Troi haciau AI yn werth gwirioneddol ar draws y sefydliad. Cerdded i ffwrdd gyda fframweithiau ymarferol i gynyddu sgiliau staff rheng flaen, cefnogi eich pobl drwy newid ac annog arbrofi diogel. - Gweithwyr proffesiynol Technoleg Gwybodaeth, Digidol a Data
Mae technoleg wych yn dechrau gyda data glân, dibynadwy. Ymchwilio agweddau ymarferol pensaernïaeth data modern, gwytnwch seiber 247, systemau AI asiantaethol a dewis gwerthwyr moesegol.
Uchafbwyntiau allweddol
- Prif areithiau a thrafodaethau panel i ysbrydoli: Trafodaeth o ddifri ar lusgo polisi, tueddiadau algorithmau a chost sero net
- Gweithdai ymarferol: Sesiynau ymarferol yn trafod risg bwrdd, sicrwydd seiber, llythrennedd digidol a phrototeipio cyflym
- Yr Hacathon: Datrys problemau cyflym ar y cyd gyda ffocws ar ddata glân a buddion diriaethol i’r sector.
- Cadw’r ‘cymdeithasol’ mewn tai cymdeithasol: Dulliau ymarferol i sicrhau fod technoleg yn hyrwyddo – yn hytrach na disodli – gofal dynol trugarog.
Agenda
8:30 am Cofrestru a brecwast rhwydweithio
Hacathon yn dechrau am y dydd
10:00 am Cyflwyniad i’r Diwrnod – Anerchiad y Cadeirydd
10:10 am Prif Araith: Llunio Dyfodol Tai yng Nghymru drwy Ddata a Deallusrwydd Artiffisial
Mae cymdeithasau tai Cymru yn wynebu her sy’n diffinio: darparu cartrefi diogel, cynnes a chysurus mewn tirlun cynyddol anodd. Nid rhywbeth fydd yn digwydd yn y dyfodol pell yw deallusrwydd artiffisial (AI) mwyach – mae yma i aros, ac mae’n rhaid i ni ei groesawu. Fodd bynnag, i wirioneddol wasanaethu ein cymunedau, mae’n rhaid i ni yn gyntaf adeiladu ar sylfaen o ddata glân a dibynadwy. Yn y brif araith agoriadol hon bydd Guy Marshall, ein cadeirydd am y dydd, yn gosod y llwyfan. Bydd yn ymchwilio’r heriau ymarferol sy’n wynebu cymdeithasau tai, yr hyn rydym eisiau ei gyflawni a sut y gallwn ddefnyddio technoleg ddeallus i weithio’n fwy effeithiol. Byddwn hefyd yn cyflwyno Hacathon HALLIE. Byddwch yn clywed sut y bydd yr her ar y cyd yma yn gweithio a pham mai data glân yw’r allwedd i ddatgloi datrysiadau blaengar a byd go iawn i’n sector.
10:40 am Panel – Pos AI: Cydbwyso gweledigaeth, realaeth gyllidebol a llusgo polisi
Gan adeiladu ar ein prif araith agoriadol, bydd y sesiwn yma yn symud o osod y llwyfan i wynebu ein realaeth ymarferol. Er fod AI yn agor posibiliadau hynod ar gyfer gwella profiadau tenantiaid, ni allwn anwybyddu’r risgiau uniongyrchol. Mae’n rhaid i gymdeithasau tai lywio cyllidebau tyn, newid mewn rheoliadau a pholisïau sy’n ei chael yn anodd cadw’n gydwastad gyda thechnoleg sy’n symud yn gyflym. Sut mae cydbwyso gweledigaeth ddewr ar gyfer y dyfodol gyda ffeithiau caled ein mantolenni? Ni all cynnydd go iawn ddigwydd ar ei ben ei hun. Mae gwir arloesedd yn dibynnu ar gydweithio onest ar draws ffiniau a sectorau. Ymunwch â’n panel arbenigol wrth iddynt rannu profiadau byd go iawn, datgymalu’r risgiau ac ymchwilio sut y gall cymdeithasau tai Cymru gydweithio gyda’r llywodraeth ac arloeswyr technoleg i adeiladu dyfodol diogel, deallus a gwirioneddol gefnogol ar gyfer ein cymunedau.
11:20 am Egwyl Coffi / Gweld yr Arddangosfa / Rhwydweithio
12:00 pm Gweithdai
1.) Grym chwarae – Cymhwyso dull Pixar i AI.
Y camgymeriad mwyaf y gall sefydliad ei wneud gyda Deallusrwydd Artiffisial yw aros am gynllun perffaith di-fai cyn dechrau arni. Mae gwir arloesedd yn ffynnu ar “ddull Pixar” – meddwl yn araf, prototeipio yn gyflym a dysgu drwy arbrofi bwriadus. Mae’r gweithdy ymarferol hwn yn chwalu’r dec sleidiau cyflwyniad traddodiadol i ymchwilio dyfodol technoleg tai drwy rym chwarae pwrpasol. Wedi’n llywio gan hwylusydd gydag ardystiad Lego Serious Play, byddwch yn defnyddio blociau adeiladu llythrennol i adeiladu datrysiadau metamorffig i heriau AI mwyaf eich sefydliad. Byddwch yn darganfod sut y gall diwylliant o arbrofi diogel ddatgloi creadigrwydd cudd yn eich timau, goresgyn pryder technoleg a helpu eich cymdeithas i adeiladu prototeipiau AI cost isel, effaith uchel cyn ymrwymo i fuddsoddiadau mawr mewn meddalwedd.
2.) Ar y Bwrdd
Ar gyfer byrddau cymdeithasau tai, gall cyflymder datblygu Deallusrwydd Artiffisial deimlo’n anhygoel o anodd. Gyda Rheoleiddiwr Tai Cymdeithasol yn mynnu trosolwg cadarn ar risg, sut all aelodau bwrdd gymeradwyo strategaethau AI yn hyderus heb agor eu sefydliadau i risg rheoleiddiol, ariannol neu foesegol? Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn cael gwared â’r jargon technegol i ganolbwyntio ar rôl strategol y bwrdd wrth fabwysiadu AI. Byddwn yn edrych sut i adeiladu AI yn uniongyrchol yn eich strategaethau hirdymor, datblygu polisïau hyblyg a diweddaru fframweithiau rheoli mewnol i reoli risg. Byddwch yn dysgu sut i ofyn y cwestiynau cywir am sicrwydd, diogelu data tenantiaid a sefydlu ffiniau clir fel y gallwch hyrwyddo arloesedd diogel ac ymatebol heb fygu creadigrwydd mewn tâp coch.
3.) Gwytnwch Seiber mewn Cyllid Tai, Cydymffurfiaeth, Sicrwydd a Gwarchodaeth 24/7
Mae seiber-ddiogelwch erbyn hyn yn fwy na blwch i’r adran TG ei dicio – mae’n haen hollbwysig o reoli risg corfforaethol a chydymffurfiaeth rheoleiddiol. Gall un toriad data rewi gweithrediadau, effeithio ar ddadansoddeg casglu rhenti a thorri ymddiriedaeth tenantiaid. Yn y gweithdy gyda ffocws yma, bydd tîm arbenigol PureCyber yn amlinellu sut i adeiladu fframwaith cadarn ar lefel bwrdd ar gyfer sicrwydd seiber. Byddwn yn ymchwilio’r ffin hollbwysig rhwng cynnal a chadw TG safonol a seiber-amddiffyn rhagweithiol, gan edrych sut y gall cynllunio ymateb i ddigwyddiadau, canfod bygythiadau parhaus a llywodraethiant cadarn ddad-risgio eich trawsnewid digidol. Byddwch yn dysgu sut i fodlon disgwyliadau rheoleiddiol tra’n sicrhau parhad llwyr i’ch gwasanaethau rheng flaen.
12:45 pm Cinio / Gweld yr Arddangosfa / Rhwydweithio
1:50 pm Diweddariad / adroddiad cynnydd / crynhoi’r sesiynau hacathon a gweithdy gan y Cadeirydd
1:55 pm Prif araith – Chwalu Myth AI: Y Da, y Drwg a’r Hyll
Mae naratifau eithafol o amgylch Deallusrwydd Artiffisial – caiff naill ai ei ganmol fel ffordd weithredol berffaith i unioni pethau neu ei ofni fel risg na fedrir ei reoli. Bydd y brif araith yma’n cael gwared â’r heip marchnata i roi gwiriad realaeth onest a seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer cymdeithasau tai. Byddwn yn chwalu’r mythau mwyaf cyffredin o amgylch galluedd AI, gan ddangos “y da” (datblygiadau sy’n wir yn torri tir newydd mewn rhagweld cynnal a chadw), “y drwg” (tueddiad algorithmig anfwriadol mewn dadansoddeg rhent) a’r “hyll” (ôl-troed carbon enfawr, na chaiff yn aml ei fesur, mewn canolfannau data AI cynhyrchiol). Yn hanfodol, bydd ein ffocws ar fesurau lliniaru ymarferol, penodol i’r sector. Byddwch yn darganfod sut y gall darparwyr tai gydbwyso arloesi technolegol gyda llywodraethiant moesegol – gan ymchwilio popeth o asesiadau effaith diogelu data i gynlluniau noddi gwyrdd a gwrthbwyso carbon lleol i niwtraleiddio cost amgylcheddol AI.
2:25 pm Sesiwn panel – Y Paradocs Cyfrifiaduro vs. Carbon: Cydbwyso Arloesedd AI gyda Thargedau Sero Net
Mae AI yn cynnig cyfleoedd digynsail i symleiddio gweithrediadau a gwella gwasanaethau tenantiaid – ond daw gyda chost gudd i’r hinsawdd. Mae rhedeg modelau data enfawr yn defnyddio llawer iawn o ynni a dŵr, gan greu pwynt gwrthdaro uniongyrchol ar gyfer cymdeithasau tai Cymru a gaiff eu rhwymo gan safonau amgylcheddol cadarn.
Sut mae cysoni cynnydd digidol gyda datgarboneiddio ffisegol? Bydd y sesiwn yma’n mynd i’r afael yn uniongyrchol ag ôl-troed carbon digidol. Byddwn yn ymchwilio realaeth amgylcheddol cynyddu AI, gofyn y cwestiynau anodd am ein allyriadau anuniongyrchol a thrafod strategaethau ymarferol i sicrhau nad yw ein trawsnewid technolegol yn llesteirio ein nodau cynaliadwyedd.
3:00 pm Egwyl Coffi / Gweld yr Arddangosfa / Rhwydweithio
3:40 pm Gweithdai
1.) Llywio Tir Peryglus Caffael AI: Cydymffurfiaeth, moeseg a gwerth
Mae cymdeithasau tai yn gweithredu dan graffu rheoleiddiol tyn, gan gwneud caffael technolegau newydd nas profwyd yn fater sensitif iawn. Pan mae cyflenwr meddalwedd yn addo “effeithiolrwydd a yrrir gan AI”, sut mae torri drwy’r sŵn marchnata i wirio ei union werth, diogelwch a chydymffurfiaeth gyda chyfreithiau diogelu data?
Mae’r gweithdy rhyngweithiol hwn yn mynd i’r afael â llywodraethiant caffael AI. Byddwn yn trafod sut i ysgrifennu tendrau cadarn ar gyfer datrysiadau TG, rheoli risgiau eiddo deallusol a sicrhau nad yw algorithmau trydydd parti yn ddiarwybod yn cyflwyno tueddiad mewn gwasanaethau sy’n wynebu tenantiaid. Ymunwch â ni i ddysgu sut i brynu AI yn hyderus, gan sicrhau fod eich sefydliad yn cydymffurfio ac yn gwarchod eich tenantiaid.
2.) Tarfu gan AI: Paratoi ein cymunedau ar gyfer marchnad swyddi awtomatig
Pan mae’r sector masnachol ehangach yn optimeiddio ac yn mynd yn awtomatig, mae’n newid y farchnad swyddi yn sylfaenol. Swyddi gweinyddol a gweithredol incwm isel i ganolig – yr union swyddi sy’n cynnal llawer o denantiaid tai cymdeithasol – yw’r rhai mwyaf agored i gael eu tarfu gan AI.
Fel darparwyr tai, ni allwn ond edrych ar i mewn ar ein trawsnewid digidol ein hunain. Nid dim ond teclyn mewnol yw AI; mae’n rym economaidd allanol fydd yn cael effaith uniongyrchol ar sefydlogrwydd ariannol tenantiaid, cyfleoedd cyflogaeth ac allgau digidol. Mae’r gweithdy strategol hwn yn herio timau arweinyddiaeth i edrych tu hwnt i’w mantolenni eu hunain. Byddwn yn ymchwilio’r patrymau newydd o fregusrwydd a gaiff eu creu gan y newid hwn a thrafod sut y gall cymdeithasau tai fod yn rhagweithiol wrth baratoi eu cymunedau i oroesi a ffynnu mewn economi a gaiff ei gyrru gan AI.
3.) Ffin Ymddiriedaeth: Cadw’r “cymdeithasol” mewn AI tai cymdeithasol
Mae AI rhagfynegol yn cynnig cyfleoedd anhygoel i sylwi ar leithder a llwydni cyn iddynt ymddangos neu dynnu sylw at denantiaethau sydd mewn risg o fynd i ôl-ddyled. Ond os yw ein modelau yn edrych ar ddata hanesyddol tenantiaid, a ydynt yn achosi risg o awtomeiddio tuedd? Mae’r gweithdy yn defnyddio astudiaeth achos ecsliwsif gan SFHA i ddatgymalu’r tensiwn rhwng proffilio algorithmaidd a gofal didwyll dan arweiniad dynol. Byddwn yn edrych ar strategaethau ymarferol ar gyfer sefydlu “ffiniau ymddiriedaeth” o fewn systemau data eich sefydliad. Bydd y sawl sy’n mynychu yn dysgu sut i ddylunio mesurau diogelu sy’n atal gwahaniaethu wedi ei awtomeiddio ac yn lle hynny yn defnyddio dirnadaeth ragfynegol i lywio ymyriadau dynol cyflymach a mwy trugarog.
4.) Cost Gofal: A yw rhyngweithio dynol yn mynd i gostio premiwm?
Wrth i ddeallusrwydd artiffisial ddod y dull diofyn ar gyfer gwasanaeth bob dydd i gwsmeriaid, daw cwestiwn hanfodol i’r amlwg ar gyfer landlordiaid cymdeithasol: a yw rhyngweithio dynol ar fin dod yn wasanaeth premiwm? Pan fydd cyfathrebu gyda tenantiaid yn dod yn awtomatig, rydym mewn perygl o roi’r union bobl sydd ein hangen fwyaf ar y cyrion.
Mae’r gweithdy strategol hwn yn trafod y dilema buddsoddiad eithaf ar gyfer timau arweinyddiaeth tai. A ddylem fod yn buddsoddi mewn AI sy’n wynebu’r tenant neu a fyddai’n well gwario ein cyfalaf ar yr “ystafell beiriant” – defnyddio AI ar gyfer strategaeth, dadansoddi data a fframweithiau ochr gefn? Ymunwch â ni i drafod lle mae gwir werth AI, sut i ddiogelu’r cyffyrddiad dynol ar gyfer anghenion cymhleth tenantiaid, a lle i fuddsoddi i sicrhau’r effaith fwyaf heb golli ein diben cymdeithasol.
4:30 pm Prif Araith/Sesiwn Panel: Rhith Effeithiolrwydd: Trosi ‘haciau’ AI unigol yn werth sefydliadol
Mae’n rhwydd dathlu pan mae swyddog tai yn arbed hanner awr yn llunio llythyr i denant neu syrfëwr yn defnyddio AI i grynhoi adroddiad cymhleth ar asedau. Ond a yw’r micro-enillion hyn mewn effeithiolrwydd yn wir yn symud y nodwydd ar gyfer y gymdeithas tai yn ehangach? Neu ai’r cyfan a wnawn yw cyflymu tasgau ynysig heb wella canlyniadau busnes yn gyffredinol.
Mae’r sesiwn yn ymchwilio’r bwlch hollbwysig rhwng cynhyrchiant o’r bôn-i-fyny ac effaith strategol o’r brig-i-lawr. Byddwn yn trafod sut i symud tu hwnt i “fabwysiadu AI yn ddamweiniol” – lle mae staff yn dawel yn defnyddio offer ad hoc – tuag at strategaeth wedi ei strwythuro ar draws y sefydliad. Ymunwch â ni i ddysgu sut i fesur gwir werth AI, gan sicrhau fod yr amser a arbedir gan unigolion yn cael ei ailfuddsoddi yn bwrpasol mewn gwasanaethau rheng-flaen i denantiaid yn hytrach na’i golli mewn llithriad gweinyddol.
5:00 pm Cau’r gynhadledd – Adolygiad y Cadeirydd o’r gynhadledd
5:10 pm Diwedd y gynhadledd