Jump to content

Y newidiadau ym myd gwaith | 19 Mai 2021

Roedd y sesiwn yma yn rhan o’r Gyfres Cyfraith Cyflogaeth a gaiff ei rhedeg gan CHC mewn partneriaeth gyda Hugh James i helpu timau Adnoddau Dynol a rheolwyr llinell i baratoi’n dda i fynd i’r afael ag elfennau pobl rheoli pobl sy’n debygol o ddod i’r amlwg yn y blynyddoedd nesaf.

Yn y sesiwn yma, bu Rhiannon Dale a Sali Owens o Hugh James Solicitors yn trafod yr heriau’n gysylltiedig gyda gweithio gartref a/neu ddychwelyd i’r swyddfa. Rhoddwyd sylw i’r ystyriaethau cyfreithiol ac ymarferol a’r camau sydd angen i gymdeithasau tai eu cymryd er mwyn eu diogelu eu hunain fel cyflogwyr yn ogystal â’r sawl a gyflogir ganddynt.