Jump to content

Cynorthwyydd Materion Allanol

Cartrefi Cymunedol Cymru yw llais cymdeithasau tai yng Nghymru.

Mae gennym dîm polisi deinamig sy’n cwmpasu ystod o feysydd, o ddatblygu cartrefi newydd i gymorth ar gyfer pobl agored i niwed.

Rydym yn gweithio ar y cyd ac yn hyblyg i ateb anghenion amrywiol ein haelodau. Byddwch yn adrodd i’r Pennaeth Polisi a Materion Allanol a gallech fod yn rheolwr llinell staff o fewn y tîm.

Rydym yn edrych am Cynorthwyydd Materion Allanol medrus ac ymroddedig i gefnogi timau sy’n gweithio gyda’n haelodau a’r cyhoedd. Mae’r swydd yn allweddol wrth gyflwyno prosiectau a gwasanaethau integredig drwy gyfathrebu effeithiol a digwyddiadau sy’n gwneud argraff.

Am y Rôl

Ydych chi yn wych am feithrin cysylltiadau, yn drefnus, creadigol ac â diddordeb mewn gyrfa mewn cyfathrebu, polisi ac ymgyrchu.

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn edrych am Gynorthwyydd Materion Allanol sy’n mwynhau amgylchedd deinamig sy’n symud yn gyflym ac sydd eisiau gwneud gwahaniaeth. Mae’r swydd yn berffaith ar gyfer rhywun sy’n mwynhau gweithio ar draws meysydd lluosog yn cynnwys monitro’r cyfryngau, ymchwil desg, creu cynnwys digidol a chydlynu digwyddiadau i gefnogi ein gwaith eiriolaeth. Os ydych yn drefnus, hyblyg a bod y cyfle i weithio gyda chymdeithasau tai ledled Cymru yn swnio’n gyffrous i chi, dyma’ch cyfle i ddatblygu sgiliau allweddol a chyfrannu at newid ystyrlon.

Rydym angen unigolyn rhagweithiol sydd â llygad am fanylion ac angerdd am feithrin cysylltiadau a chyfathrebu effeithlon. Byddwch yn helpu i gynnal ein llwyfannau digidol a’n gwefan a sicrhau fod ein negeseuon yn cyrraedd y cynulleidfaoedd cywir. Os ydych yn caru digidol ac â diddordeb mewn gwleidyddiaeth a pholisi yn ogystal â bod yn awyddus i ddysgu, mae’r swydd hon yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer gyrfa mewn materion allanol. Byddwch yn ymgysylltu gyda rhanddeiliaid, cefnogi ymgyrchoedd a helpu i lunio polisi tai Cymru fel rhan o dîm blaengar. Ymunwch â ni a bod yn rhan o genhadaeth sy’n cyfri.



I gael gwybod mwy, cymerwch olwg ar y pecyn swydd isod.

Sut i Wneud Cais

Mae’r manylion dilynol yn y pecyn swydd hwn: disgrifiad swydd, manyleb person a gwybodaeth am delerau ac amodau.

  • Disgrifiad swydd, manyleb person a gwybodaeth ar delerau ac amodau.
  • Ffurflen gais, y bydd angen i chi ei llenwi yn amlinellu mewn dim mwy na 800 gair sut ydych yn ateb y meini prawf profiad a nodir yn y rhan ‘yr hyn rydym yn edrych amdano’ o’r fanyleb swydd a pham eich bod eisiau’r swydd.
  • Mae’n RHAID i chi hefyd gyflwyno CV wedi ei deilwra yn ymwneud â’ch cais am y swydd hon (dim mwy na thair tudalen).
  • Ffurflen cyfle cyfartal. Ni chaiff y ffurflen hon ei defnyddio ar unrhyw gam o’r broses recriwtio a chaiff ei gwahanu oddi wrth eich ffurflen gais yn syth ar ôl ei derbyn. Bydd unrhyw wybodaeth a roddir ar y ffurflen yn parhau’n gyfrinachol a dim ond ar gyfer dibenion monitro i asesu effeithlonrwydd ein polisi cyfle cyfartal y caiff ei defnyddio.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch os gwelwch yn dda â, Elly Lock.

Dylid anfon y ffurflen wedi’i llenwi, CV a’r ffurflen cyfle cyfartal drwy e-bost wedi’i marcio yn Preifat a Chyfrinachol – Cynghorydd Materion Cyhoeddus a Pholisi to recruitment@chcymru.org.uk erbyn 5pm dydd Mawrth 17 Mehefin 2025.

Caiff pob ffurflen ei chadw am chwe mis yn unol ag arfer gorau i sicrhau y gallwn roi adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus ac i gefnogi’r sefydliad pe byddid yn dod â hawliad yn ei erbyn.

Caiff y rhestr fer ei llunio ar 18 Mehefin 2025

Cynhelir cyfweliadau ar 25 Mehefin 2025

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais wedi’i gwblhau.