Am y Rôl
Ydych chi yn meddwl yn strategol ac yn angerddol am hybu newid drwy dystiolaeth? Rydym yn edrych am Gynghorydd Ymchwil a Pholisi i arwain ein rhaglen ymchwil a helpu i lunio dyfodol tai cymdeithasol yng Nghymru. Byddwch yn troi data yn ddirnadaeth, gan weithio ar draws timau i ddatblygu tystiolaeth gadarn sy’n cefnogi ein safbwyntiau polisi a’n gwaith eiriolaeth. O gydlynu ymchwil i gynghori ar brosiectau a gomisynir, bydd gennych ran allweddol wrth sicrhau fod ein hymgyrchoedd wedi seilio ar hygrededd ac effaith.
Yn y swydd ddeinamig a chydweithiol hon, byddwch hefyd yn arwain ar bortffolio o brosiectau polisi, gan adeiladu perthynas o ymddiriedaeth gydag aelodau, partneriaid a gwneuthurwyr penderfyniadau. Byddwch yn ein helpu i gyflwyno’r achos dros fuddsoddiad parhaus mewn tai cymdeithasol ac yn cefnogi ein cyfathrebu allanol. Os oes gennych feddwl strategol a sgiliau dadansoddi cryf ac angerdd am y sector tai cymdeithasol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Sut i wneud cais
Mae’r manylion dilynol yn y pecyn swydd hwn: disgrifiad swydd, manyleb person a gwybodaeth am delerau ac amodau.
- Disgrifiad swydd, manyleb person a gwybodaeth ar delerau ac amodau.
- Ffurflen gais, y bydd angen i chi ei llenwi yn amlinellu mewn dim mwy na 800 gair sut ydych yn ateb y meini prawf profiad a nodir yn y rhan ‘yr hyn rydym yn edrych amdano’ o’r fanyleb swydd a pham eich bod eisiau’r swydd.
- Mae’n RHAID i chi hefyd gyflwyno CV wedi ei deilwra yn ymwneud â’ch cais am y swydd hon (dim mwy na thair tudalen).
- Ffurflen cyfle cyfartal. Ni chaiff y ffurflen hon ei defnyddio ar unrhyw gam o’r broses recriwtio a chaiff ei gwahanu oddi wrth eich ffurflen gais yn syth ar ôl ei derbyn. Bydd unrhyw wybodaeth a roddir ar y ffurflen yn parhau’n gyfrinachol a dim ond ar gyfer dibenion monitro i asesu effeithlonrwydd ein polisi cyfle cyfartal y caiff ei defnyddio.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch os gwelwch yn dda â, Elly Lock
Dylid anfon y ffurflen wedi’i llenwi, CV a’r ffurflen cyfle cyfartal drwy e-bost wedi’i marcio yn Preifat a Chyfrinachol – Cynghorydd Ymchwil a Pholisi to recruitment@chcymru.org.uk erbyn 5pm dydd Llun, 29ain Medi 2025
Caiff pob ffurflen ei chadw am chwe mis yn unol ag arfer gorau i sicrhau y gallwn roi adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus ac i gefnogi’r sefydliad pe byddid yn dod â hawliad yn ei erbyn.
Llunio Rhestr Fer: 1af Hydref 2025
Cynhelir cyfweliadau ar: 9fed Hydref 2025
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais wedi’i gwblhau.