Jump to content

Insight HRC

Gwasanaethau

Rydym yn darparu datrysiadau pwrpasol a seiliedig ar dystiolaeth yn cynnwys datblygu arweinyddiaeth a rheoli, asesiad, hyfforddi cyfarwyddwyr, diagnosteg a newid diwylliant a datblygu tîm. Caiff y rhain eu cyflwyno drwy ddulliau dysgu newydd a rhyngweithiol ac ymagwedd ddynol.

Mae ein gwasanaethau yn cynnwys darparu asesiad seicometrig ar gyfer datblygu ac asesu arweinwyr a datblygu Map Diwylliant am ddim i helpu byrddau ac uwch dimau i ddadansoddi eu diwylliant a blaenoriaethau newid. Rydym yn cyflwyno hyfforddiant ad hoc a hefyd raglenni datblygu hirach.

Rydym wedi datblygu ein dull hyfforddi NeuroTeams ar gyfer timau uwch drwy ein gwaith yn y sector tai. Mae’n golygu gweithio gyda thimau uwch i adeiladu perthnasoedd eithriadol o gryf a dibynadwy sy’n galluogi gwneud penderfyniadau anodd ond angenrheidiol a chyflwyno newid, tra’n cynnal egni a llesiant.

Rydym yn lansio dwy raglen datblygu arweinyddiaeth newydd eleni: un ar gyfer arweinwyr strategol ac un ar gyfer arweinwyr canol. Mae ein dull ar gyfer arweinwyr strategol yn canolbwyntio ar y sgiliau, ffyrdd o feddwl a dulliau gweithredu mae uwch arweinwyr eu hangen i hybu newid sefydliadol a mynd i’r afael â heriau ein hoes. Rydym yn ail-lunio arweinwyr canol fel “arweinwyr cysylltu”, peiriant sefydliadau sy’n rhoi strategaeth ar waith, ymgysylltu a galluogi timau, chwalu seilos a darparu gwasanaethau rhagorol ar gyfer tenantiaid a phreswylwyr.

Manteision

Rydym yn anelu i gryfhau ein perthnasoedd presennol a llunio cysylltiadau newydd o fewn y sector tai. Gallwn wella ein gwasanaethau drwy ehangu ein dealltwriaeth o heriau a chyfleoedd y sector. Rydym yn gweithio gyda CHC i gyd-greu a chyflenwi rhaglen datblygu arweinyddiaeth ar gyfer uwch arweinwyr a darpar weithredwyr a fyddai’n cefnogi cynllunio olyniaeth ar draws y sector. Rydym hefyd eisiau cefnogi arweinwyr adnoddau dynol wrth fynd i’r afael â heriau tebyg i newid diwylliant ac ymgysylltu. Bydd y cydweithio hwn yn cynnig cyfleoedd newydd i ni gyflenwi ein gwasanaethau a hybu gwaith cleientiaid presennol drwy gronni adnoddau a hwyluso dysgu ymhlith cymheiriaid.

Insight HRC

Ymgynghoriaeth Adnoddau Dynol ac Arweinyddiaeth

Siaradwch i: Pip Gwynn, Rheolwr gyfarwyddwr

07885 282705
pip@insight-hrc.co.uk

Other Commercial Members

Barcud Shared Services

Barcud Shared Services

Archwiliad mewnol, caffael, rheoli risg, adolygiadau llywodraethu ac ymgynghoriaeth mewn ystod eang o feysydd

Siaradwch i: Nigel Ireland, Prif Weithredwyr

Centrus

Centrus

Cydnabyddir Centrus yn eang fel y prif ymgynghorydd trysori a chyllid corfforaethol i’r sector tai fforddiadwy yng Nghymru ac Lloegr. Maent yn darparu cyngor a buddsoddiadau ariannol i’r prosiectau, y cwmnïau a’r asedau sy’n bwysig i bobl, cymunedau a’r amgylchedd.

Siaradwch i: 
Paul Stevens, Rheolwr Gyfarwyddwr

CHIC

CHIC

Mae Communities & Housing Investment Consortium (CHIC) yn gonsortiwm caffael a rheoli asedau sy’n eiddo i’w aelodau, sy’n sicrhau effeithlonrwydd a gwerth cymdeithasol i’w aelodau.

Siaradwch i: Jackie Leonard, Pennaeth Gwasanaethau Aelodau (Cymru) 

Cubed Tax

Cubed Tax

Arbenigwr Treth y Trydydd Sector

Siaradwch i:
Dan Guy, Cyfarwyddwr

Danske Bank

Danske Bank

Bancio: Cyfleusterau credyd cylchol a dyled cyfnod

Siaradwch i: 
Terri McCullagh, Cyfarwyddwr Perthynas, Tai Cymdeithasol

E.ON Green Funding Solutions

E.ON Green Funding Solutions

Effeithiolrwydd ynni ac ôl-osod

Siaradwch i:
Cerys Williams, Rheolwr Datblygu Busnes ar gyfer Cymru

Gallagher

Gallagher

Mae Gallagher yn gynghorydd arbenigol sy'n darparu gwasanaethau risg, yswiriant ac ymgynghori.

Siaradwch i:
Jill Jones, Pennaeth Tai

Hugh James

Hugh James

Cwmni gwasanaeth llawn sy'n darparu gwasanaethau cyfreithiol arbenigol i ystod eang o gleientiaid, gan gynnwys cymdeithasau tai, sefydliadau sector cyhoeddus, cwmnïau eiddo, darparwyr cyfleustodau, banciau, busnesau, sefydliadau addysg ac unigolion.

Siaradwch i: 
Emma Poole, Pennaeth Perthynas â Chleientiaid

Lovell

Lovell

Darparwr blaenllaw o dai partneriaeth a thai marchnad agored

Siaradwch i: Gemma Clisett, Cyfarwyddwr partneriaethau rhanbarthol

Openreach

Openreach

Isadeiledd rhwydwaith digidol: Safleoedd newydd ac Unedau Aml-annedd (MDU)

Siaradwch i:
Lewis Evans, Rheolwr Rhagolygon Safleoedd Newydd a Phartneriaeth Ranbarthol (Cymru a'r De-orllewin)

Plentific

Plentific

Meddalwedd Cynnal a Chadw a Rheoli Eiddo

Siaradwch i: Julia Savas-Butz, Cyfarwyddwr Brand Byd-eang

PureCyber

PureCyber

Seiberddiogelwch

Siaradwch i: 
Ceri Maund, Prif Swyddog Marchnata

Quantum Advisory

Quantum Advisory

Ymgynghoriaeth gwasanaethau ariannol annibynnol sy’n darparu gwasanaethau pensiwn a buddion gweithwyr i gyflogwyr a’u staff.

Siaradwch i: Stuart Price, Partner ac actiwari

Savills

Savills

Darparydd byd-eang eiddo tirog preswyl a masnachol yn cynnig gwasanaethau ymgynghori, rheoli a gweithrediadol.

Siaradwch i:
James Tarrant, Cyfarwyddwr, Savills Financial Consultant

Utility Aid

Utility Aid

Mae Utility Aid yn helpu’r sector elusennol a di-elw i gadw costau ynni i lawr, drwy adennill gordaliadau, rheoli gweinyddiaeth a chynghori ar bob mater sy’n gysylltiedig ag ynni.

Siaradwch i:
Laura Peel, Swyddog Cyswllt Partneriaid