Cubed Tax
Gwasanaethau
Mae hanfod ein gwasanaeth yn canolbwyntio ar arbenigedd technegol dwfn a hyblygrwydd gwirioneddol, gan deilwra cyngor manwl a thechnegol ar dreth i anghenion penodol y cleient. Caiff y dull hwn ei lunio i leihau costau gweithredol a’r amser a gaiff ei dreulio gan sicrhau’r safon uchaf o gydymffurfiaeth rheoleiddiol.
Mae cyfres gynhwysfawr a dewisol o wasanaethau yn ategu ein cyngor technegol gan alluogi cleientiaid i adeiladu pecyn cymorth a gaiff ei yrru gan werthoedd. Mae ein cynnig cyfredol yn cynnwys:
- Cyngor wedi ei Deilwra ar Dreth: Arweiniad pwrpasol ar gyfer amgylchiadau penodol
- Llinell Gyngor ar Bob Treth: Adnodd hygyrch ar gyfer ymholiadau ar unwaith.
- Cyfarfodydd Adolygu Rheolaidd: Rheoli sefyllfa treth mewn modd rhagweithiol.
- Adolygu Ffurflen TAW Blynyddol: Gwiriad manwl ar gydymffurfiaeth.
- Tax Cubed Deirgwaith y Flwyddyn: Diweddariadau arbenigol a manwl i’r sector.
- Hyfforddiant: Sesiynau aml-gleient, rhithiol a phwrpasol ar Dreth ar Werth, Treth Gorfforaeth, Treth Cyflogaeth a CIS.
- Cefnogaeth a Phresenoldeb mewn Ymweliadau HMRC: Cymorth arbenigol yn ystod ymholiadau swyddogol.
- Treth Gorfforaeth: Cefnogaeth lawn ac ymgynghori ar gydymffurfaieth.
- Cynghori ar Dreth Cyflogaeth: Arweiniad arbenigol ar faterion cyflogres a threthiant cysylltiedig â chyflogaeth.
Manteision
Mae Cubed Tax yn cefnogi cymdeithasau tai yng Nghymru drwy gyfuniad o gyngor pwrpasol, hyfforddiant arbenigol a chynrychiolaeth penodol i’r sector. Gan fod eisoes wedi cydweithio gyda wyth cymdeithas tai yng Nghymru, mae gennym ddealltwriaeth ddofn o’r tirlun treth lleol. Rydym yn cynnig pecynnau hyfforddiant cynhwysfawr, a gyflwynir yn rhithiol neu wyneb yn wyneb, yn rhoi sylw i Dreth ar Werth, Treth Gorfforaeth, Treth Cyflogaeth a CIS i uwchsgilio staff, gwella cydymffurfiaeth a lleihau risg a chost. Ymhellach, gyda phump cynghorydd TAW yn arbenigo yn y trydydd sector, rydym yn ymroddedig i ddarparu cyngor technegol pwrpasol. Mae Cubed Tax hefyd yn dymuno cynrychioli aelodau CHC yn y Grŵp Cydlynu Tir ac Eiddo, gan fwydo diweddariadau hanfodol a gwersi ar drethiant drwy ddigwyddiadau rheolaidd ar y cyd yn benodol ar gyfer LCC Cymru.
Arbenigwr Treth y Trydydd Sector
Siaradwch i: Dan Guy, Cyfarwyddwr
Dan.Guy@cubedtax.com
Other Commercial Members
Barcud Shared Services
Archwiliad mewnol, caffael, rheoli risg, adolygiadau llywodraethu ac ymgynghoriaeth mewn ystod eang o feysydd
Siaradwch i: Nigel Ireland, Prif Weithredwyr
Centrus
Cydnabyddir Centrus yn eang fel y prif ymgynghorydd trysori a chyllid corfforaethol i’r sector tai fforddiadwy yng Nghymru ac Lloegr. Maent yn darparu cyngor a buddsoddiadau ariannol i’r prosiectau, y cwmnïau a’r asedau sy’n bwysig i bobl, cymunedau a’r amgylchedd.
Siaradwch i: Paul Stevens, Rheolwr Gyfarwyddwr
CHIC
Mae Communities & Housing Investment Consortium (CHIC) yn gonsortiwm caffael a rheoli asedau sy’n eiddo i’w aelodau, sy’n sicrhau effeithlonrwydd a gwerth cymdeithasol i’w aelodau.
Siaradwch i: Jackie Leonard, Pennaeth Gwasanaethau Aelodau (Cymru)
Danske Bank
Bancio: Cyfleusterau credyd cylchol a dyled cyfnod
Siaradwch i: Terri McCullagh, Cyfarwyddwr Perthynas, Tai Cymdeithasol
E.ON Green Funding Solutions
Effeithiolrwydd ynni ac ôl-osod
Siaradwch i: Cerys Williams, Rheolwr Datblygu Busnes ar gyfer Cymru
Gallagher
Mae Gallagher yn gynghorydd arbenigol sy'n darparu gwasanaethau risg, yswiriant ac ymgynghori.
Siaradwch i: Jill Jones, Pennaeth Tai
Hugh James
Cwmni gwasanaeth llawn sy'n darparu gwasanaethau cyfreithiol arbenigol i ystod eang o gleientiaid, gan gynnwys cymdeithasau tai, sefydliadau sector cyhoeddus, cwmnïau eiddo, darparwyr cyfleustodau, banciau, busnesau, sefydliadau addysg ac unigolion.
Siaradwch i: Emma Poole, Pennaeth Perthynas â Chleientiaid
Insight HRC
Ymgynghoriaeth Adnoddau Dynol ac Arweinyddiaeth
Siaradwch i: Pip Gwynn, Rheolwr gyfarwyddwr
Lovell
Darparwr blaenllaw o dai partneriaeth a thai marchnad agored
Siaradwch i: Gemma Clisett, Cyfarwyddwr partneriaethau rhanbarthol
Openreach
Isadeiledd rhwydwaith digidol: Safleoedd newydd ac Unedau Aml-annedd (MDU)
Siaradwch i: Lewis Evans, Rheolwr Rhagolygon Safleoedd Newydd a Phartneriaeth Ranbarthol (Cymru a'r De-orllewin)
Plentific
Meddalwedd Cynnal a Chadw a Rheoli Eiddo
Siaradwch i: Julia Savas-Butz, Cyfarwyddwr Brand Byd-eang
PureCyber
Seiberddiogelwch
Siaradwch i: Ceri Maund, Prif Swyddog Marchnata
Quantum Advisory
Ymgynghoriaeth gwasanaethau ariannol annibynnol sy’n darparu gwasanaethau pensiwn a buddion gweithwyr i gyflogwyr a’u staff.
Siaradwch i: Stuart Price, Partner ac actiwari
Savills
Darparydd byd-eang eiddo tirog preswyl a masnachol yn cynnig gwasanaethau ymgynghori, rheoli a gweithrediadol.
Siaradwch i: James Tarrant, Cyfarwyddwr, Savills Financial Consultant
Utility Aid
Mae Utility Aid yn helpu’r sector elusennol a di-elw i gadw costau ynni i lawr, drwy adennill gordaliadau, rheoli gweinyddiaeth a chynghori ar bob mater sy’n gysylltiedig ag ynni.
Siaradwch i: Laura Peel, Swyddog Cyswllt Partneriaid