Jump to content

Plentific

Gwasanaethau

Mae ffocws Plentific ar:

1. Trawsnewid gwaith atgyweirio, cynnal a chadw a phrofiad preswylwyr

Mae Plentific yn cysylltu preswylwyr, timau gweithredol a chontractwyr o fewn un platfform gan alluogi gwneud adroddiadau cyflymach am broblemau, diagnosteg deallus a rheoli llif gwaith pen-i-ben. Mae hyn yn gostwng oedi, cynyddu cyfraddau trwsio tro cyntaf a sicrhau profiad gwasanaeth mwy tryloyw ac ymatebol ar gyfer preswylwyr.

2. Galluogi cydymffurfiaeth, diogelwch ac archwilio

Mae Plentific yn rhoi amlygrwydd llawn i ddata eiddo gan gefnogi darparwyr tai i ddiwallu gofynion rheoleiddiol a chynnal llwybr archwilio clir. Mae hyn yn helpu i ostwng risg, gwella atebolrwydd a sicrhau cydymffurfiaeth gyson ar draws y portffolio.

3. Optimeiddio perfformiad cadwyni cyflenwi a chontractwyr

Drwy farchnad contractwyr cysylltiedig a dulliau rheoli perfformiad, mae Plentific yn galluogi darparwyr tai i gaffael, rheoli a monitro eu cadwyn gyflenwi yn well. Mae hyn yn hybu gwell atebolrwydd, rheoli costau ac ansawdd gwasanaeth a chefnogi ecosystemau contractwyr lleol.

4. Gyrru gwneud penderfyniadau dan arweiniad data

Mae Plentific yn rhoi dirnadaeth weithredol amser real ar draws gwaith atgyweirio, asedau a pherfformiad contractwyr gan alluogi darparwyr tai i symud o lif gwaith ymatebol i gynllunio a buddsoddiad rhagweithiol a seiliedig ar dystiolaeth.

5. Cefnogi newid wedi’i strwythuro a mabwysiadu digidol

Mae Plentific yn cefnogi sefydliadau drwy weithredu a thu hwnt gan gyfuno technoleg gyda sefydlu arfer gorau, hyfforddiant ac optimeiddio parhaus i sicrhau mabwysiadu llwyddiannus ar draws timau.

6. Galluogi systemau cysylltiedig a’r gallu i ryngweithredu

Yn gydnaws â symudiad y sector tuag at ecosystemau technoleg integredig, mae Plentific yn cysylltu’n llyfn gyda systemau creiddiol rheolaeth tai gan sicrhau llif data ar draws platfformau a dileu seilos.

7. Cryfhau ymddiriedaeth drwy wasanaeth tryloyw a dibynadwy

Drwy wella gwelededd cyfathrebu a chysondeb gweithredu, mae Plentific yn helpu darparwyr tai i gyflenwi gwasanethau mwy dibynadwy a meithrin ymddiriedaeth gyda phreswylwyr a chryfhau canlyniadau cymunedol.

Manteision

Mae Plentific yn darparu platfform gweithredu cysylltiedig sy’n dod ag atgyweiriadau, cydymffurfiaeth, rheoli cadwyn gyflenwi ac ymgysylltu preswylwyr ynghyd mewn un ecosystem integredig.

Drwy gyfnewid systemau darniog am lif gwaith unedig a data amser real, rydym yn galluogi darparwyr tai i symud o weithredu yn ymatebol i wneud penderfyniadau yn fwy rhagweithiol a seiliedig ar ddirnadaeth.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Symleiddio gwaith atgyweirio a chynnal a chadw drwy reoli llif gwaith a diagnosteg pen-i-ben
  • Cryfhau cydymffurfiaeth drwy wella gwelededd, y gallu i archwilio ac integriti data
  • Optimeiddio perfformiad contractwyr drwy gadwyn cyflenwi cysylltiedig ac atebol
  • Cyfoethogi profiad preswylwyr drwy ryngweithio hygyrch, trylow a hunan-wasanaeth

Tu hwnt i dechnoleg, sylweddolwn y caiff trawsnewid llwyddiannus ei yrru gan bobl. Dyna pam ein bod yn cefnogi sefydliadau gyda gweithredu a hefyd sefydlu strwythuredig, rheoli newid ac optimeiddio parhaus.

Gan ddefnyddio profiad o raglenni trawsnewid cymhleth ar draws y Deyrnas Unedig, rydym yn cynnig gwybodaeth ymarferol, dulliau gweithredu a brofwyd yn llwyddiannus a ffocws cryf ar fabwysiadu – gan helpu cymdeithasau tai yng Nghymru i gyflenwi newid cynaliadwy a gwytnwch gweithredol hirdymor.

Plentific

Meddalwedd Cynnal a Chadw a Rheoli Eiddo

Siaradwch i: Julia Savas-Butz, Cyfarwyddwr Brand Byd-eang

+49 174 4995208
julia.savas-butz@plentific.com

Other Commercial Members

Barcud Shared Services

Barcud Shared Services

Archwiliad mewnol, caffael, rheoli risg, adolygiadau llywodraethu ac ymgynghoriaeth mewn ystod eang o feysydd

Siaradwch i: Nigel Ireland, Prif Weithredwyr

Centrus

Centrus

Cydnabyddir Centrus yn eang fel y prif ymgynghorydd trysori a chyllid corfforaethol i’r sector tai fforddiadwy yng Nghymru ac Lloegr. Maent yn darparu cyngor a buddsoddiadau ariannol i’r prosiectau, y cwmnïau a’r asedau sy’n bwysig i bobl, cymunedau a’r amgylchedd.

Siaradwch i: 
Paul Stevens, Rheolwr Gyfarwyddwr

CHIC

CHIC

Mae Communities & Housing Investment Consortium (CHIC) yn gonsortiwm caffael a rheoli asedau sy’n eiddo i’w aelodau, sy’n sicrhau effeithlonrwydd a gwerth cymdeithasol i’w aelodau.

Siaradwch i: Jackie Leonard, Pennaeth Gwasanaethau Aelodau (Cymru) 

Cubed Tax

Cubed Tax

Arbenigwr Treth y Trydydd Sector

Siaradwch i:
Dan Guy, Cyfarwyddwr

Danske Bank

Danske Bank

Bancio: Cyfleusterau credyd cylchol a dyled cyfnod

Siaradwch i: 
Terri McCullagh, Cyfarwyddwr Perthynas, Tai Cymdeithasol

E.ON Green Funding Solutions

E.ON Green Funding Solutions

Effeithiolrwydd ynni ac ôl-osod

Siaradwch i:
Cerys Williams, Rheolwr Datblygu Busnes ar gyfer Cymru

Gallagher

Gallagher

Mae Gallagher yn gynghorydd arbenigol sy'n darparu gwasanaethau risg, yswiriant ac ymgynghori.

Siaradwch i:
Jill Jones, Pennaeth Tai

Hugh James

Hugh James

Cwmni gwasanaeth llawn sy'n darparu gwasanaethau cyfreithiol arbenigol i ystod eang o gleientiaid, gan gynnwys cymdeithasau tai, sefydliadau sector cyhoeddus, cwmnïau eiddo, darparwyr cyfleustodau, banciau, busnesau, sefydliadau addysg ac unigolion.

Siaradwch i: 
Emma Poole, Pennaeth Perthynas â Chleientiaid

Insight HRC

Insight HRC

Ymgynghoriaeth Adnoddau Dynol ac Arweinyddiaeth

Siaradwch i: Pip Gwynn, Rheolwr gyfarwyddwr

Lovell

Lovell

Darparwr blaenllaw o dai partneriaeth a thai marchnad agored

Siaradwch i: Gemma Clisett, Cyfarwyddwr partneriaethau rhanbarthol

Openreach

Openreach

Isadeiledd rhwydwaith digidol: Safleoedd newydd ac Unedau Aml-annedd (MDU)

Siaradwch i:
Lewis Evans, Rheolwr Rhagolygon Safleoedd Newydd a Phartneriaeth Ranbarthol (Cymru a'r De-orllewin)

PureCyber

PureCyber

Seiberddiogelwch

Siaradwch i: 
Ceri Maund, Prif Swyddog Marchnata

Quantum Advisory

Quantum Advisory

Ymgynghoriaeth gwasanaethau ariannol annibynnol sy’n darparu gwasanaethau pensiwn a buddion gweithwyr i gyflogwyr a’u staff.

Siaradwch i: Stuart Price, Partner ac actiwari

Savills

Savills

Darparydd byd-eang eiddo tirog preswyl a masnachol yn cynnig gwasanaethau ymgynghori, rheoli a gweithrediadol.

Siaradwch i:
James Tarrant, Cyfarwyddwr, Savills Financial Consultant

Utility Aid

Utility Aid

Mae Utility Aid yn helpu’r sector elusennol a di-elw i gadw costau ynni i lawr, drwy adennill gordaliadau, rheoli gweinyddiaeth a chynghori ar bob mater sy’n gysylltiedig ag ynni.

Siaradwch i:
Laura Peel, Swyddog Cyswllt Partneriaid