Jump to content

Cartrefi: Ar Gyfer Pob Dyfodol | Gwireddu potensial strategaeth sgiliau adeiladu genedlaethol ar gyfer tai

Mae cost ddynol yr argyfwng tai yn ddybryd, mae’n effeithio’n ddwfn ar iechyd, cyfoeth a chyfleoedd bywyd ar draws ein cenedl.

Mae pob bricsen a gaiff ei gosod a phob cartref a gaiff ei insiwleiddio yn cynrychioli buddsoddiad uniongyrchol yn economi Cymru.

Dylai cynllun cadarn ar gyfer tai weld buddsoddiad mewn tai fel cynhyrchydd cyfoeth lleol a phwerdy ar gyfer busnesau bach a chanolig.

Fel rhan o’n hymgyrch dros newid, Cartrefi: Ar Gyfer Pob Dyfodol, rydym yn galw ar y llywodraeth nesaf i gymryd camau gweithredu cadarn i wireddu’r potensial hwn drwy strategaeth sgiliau adeiladu cenedlaethol.