Mae arnom angen cynllun dewr y gellir ei gyflawni i ddod ag argyfwng tai Cymru i ben
Yng Nghymru, mae gormod ohonom yn byw mewn cartrefi sy'n anfforddiadwy, anaddas neu anniogel.
Ac mae gormod ohonom yn dal i ob heb le i'w alw'n gartref.
Mae'r gost ddynol yn ddwys, gan effeithio yn ddybryd ar iechyd, cyfoeth a chyfleoedd bywyd ar draws y genedl.
Nid oes raid i bethau fod fel hyn.
Credwn fod tymor nesaf y Senedd yn cynnig trobwynt ar gyfer newid Bydd y dewisiadau a wneir yn y blynyddoedd nesaf yn penderfynu ein dyfodol i gyd: yn unigol, fel teuloedd, fel cymunedau ac fel cenedl.
Galwad i weithedru yw hon: mae arnom angen cynllun deng mlynedd dewr y gellir ei gyflawni i ddod ag argyfwng tai Cymru i ben.
Trwy adelaidu mwy o gartrefi ffordiadwy gallwn newid bywydau. Trwy fuddsoddi yn ein tai presennol, rydym yn cadw tenantiad yn gynnes a diogel. Trwy roi blaenoriaeth i gymorth, rydym yn cadw pobl yn eu cartrefi ac yn helpu i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru.
Ein maniffesto: Yn gyrno
Mae’r ddogfen isod yn grynodeb lefel uchel o’n maniffesto. Mae’n cynnwys ein galwadau a’r ffigurau allweddol sydd y tu ôl iddynt.
Lawrlwytho
Penawdau a ffigurau allweddol
Cynlluniau Gweithredu
Yn dilyn sgyrsiau bord gron gyda’n haelodau, ein partneriaid a’n rhanddeiliaid allweddol, rydym wedi llunio tri chynllun gweithredu sy’n nodi’r camau ymarferol y gall Llywodraeth nesaf Cymru eu cymryd i droi uchelgeisiau yn realiti.
Mae’r cynlluniau’n canolbwyntio ar y tri maes allweddol hyn:
- Potensial Corfforaeth Datblygu Genedlaethol
- Gwireddu potensial strategaeth sgiliau adeiladu Genedlaethol ar gyfer tai
- Cenhadaeth ‘Ysbyty i’r Cartref’ i ddod â’r gosb dai i ben i gleifion yng Nghymru (I’w ryddhau wythnos yn dechrau 27 Ebrill)