Jump to content

23 Ebrill 2026

Partneriaid masnachol newydd CCC: E.ON Green Funding Solutions

Partneriaid masnachol newydd CCC: E.ON Green Funding Solutions

Fel rhan o gyfres o blogiau ar partneriaid masnachol newydd Cartrefi Cymunedol Cymru ar gyfer 26/27, mae Cerys Williams, Rheolwr Datblygu Busnes i Gymru, yn esbonio pam y dewisodd E.ON Green Funding Solutions ffurfio partneriaeth newydd gyda’n sector.

Pam wnaethoch chi ddewis dod yn bartner masnachol i CHC?

Bydd cydweithio gyda CHC fel noddwr corfforaethol yn ein galluogi i gysylltu gydag ystod ehangach o sefydliadau nag o’r blaen. Bydd y cydweithio hwn yn cynyddu ymwybyddiaeth o E.ON Green Funding Solutions, gan ei wahaniaethu o’r canfyddiad cyffredinol o E.ON.

Ein nod yw meithrin perthynas gadarn newydd gydag aelodau, gan ddeall eu gofynion penodol fel y gallwn gyflenwi ein datrysiadau a chynorthwyo darparwyr tai yn eu gwaith datgarboneiddio.

Gyda sgiliau’r dyfodol yn flaenllaw ar lawer o agendâu, mae gan E.ON y sgiliau a’r adnoddau i ddarparu hyfforddiant ac uwchsgilio ar gyfer unigolion o fewn y sector tai yn ogystal â’u preswylwyr i sicrhau pontio teg a chyfartal i sero net ar gyfer pawb.
Cerys Williams, Rheolwr Datblygu Busnes i Gymru, E.ON Green Funding Solutions

Pa wasanaethau ydych chi’n eu cynnig?

Yn E.ON, rydym yn arloesi ym marchnad ôl-osod effeithiolrwydd ynni y Deyrnas Unedig, gan gynnig rhaglenni domestig graddfa fawr a gynlluniwyd i greu cartrefi cynhesach, mwy cysurus a mwy effeithiol o ran ynni.

Mae ein gwasanaeth craidd yn cynnwys arwain a rheoli’r rhaglenni ôl-osod domestig sylweddol hyn, gan weithio’n agos gydag awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a chyrff y llywodraeth i hybu newid cadarnhaol ar gyfer cartrefi, preswylwyr cynlluniau tai a’r amgylchedd.

Pa gyswllt fu gennych chi gyda’r sector tai cymdeithasol hyd yma?

Mae E.ON Green Funding Solutions yn cydweithio gyda chymdeithasau tai ac awdurdodau lleol ar brosiectau ôl-osod cymunedol graddfa fawr. Rydym yn cydweithio gyda chadwyni cyflenwi lleol i osod gwelliannau effeithiolrwydd ynni, gan arwain at gartrefi cynhesach a rhatach i’w rhedeg ar gyfer preswylwyr.

Yn y 5 mlynedd diwethaf rydym wedi cyflenwi dros 28,800 mesur ar gyfer 19,400 o aelwydydd bregus.

Mae gwerth cymdeithasol yn ganolog i’n prosiectau ôl-osod. Anelwn gefnogi preswylwyr a meithrin newid unigol, gyda ffocws ar gyflogaeth a sgiliau.

Rydym yn grymuso unigolion i ennill “sgiliau gwyrdd” mewn effeithiolrwydd ynni, ynni adnewyddadwy a thechnolegau cynaliadwy, gan gefnogi’r economi gwyrdd drwy greu’r swyddi sy’n hanfodol ar gyfer pontio i ynni cynaliadwy, fforddiadwy.

Sut y gall E.ON gefnogi cymdeithasau tai yng Nghymru?

Mae Cymru yn llawn cyfleoedd i gydweithio a chynyddu cyflenwi ardaloedd lleol drwy gyfuno adnoddau. Mae E.ON yn bartner cyflenwi profiadol ar gyfer consortia mawr ac mae’n rheoli cadwyn gyflenwi genedlaethol a fedrai ysgogi arbedion maint i sicrhau llwyddiant ar draws Cymru.

Gyda sgiliau’r dyfodol yn flaenllaw ar lawer o agendâu, mae gan E.ON y sgiliau a’r adnoddau i ddarparu hyfforddiant ac uwchsgilio ar gyfer unigolion o fewn y sector tai yn ogystal â’u preswylwyr i sicrhau pontio teg a chyfartal i sero net ar gyfer pawb.

Canfod mwy gan E.ON Green Funding solutions

Mynd i wefan E.ON

Dilyn Cerys Williams ar LinkedIn