Am y swydd
Arweinydd Llywodraethu a Gweithrediadau yw un o’r rolau allweddol yn ein tîm. Gan adrodd i’r Prif Weithredwr, bydd deiliad y swydd yn gweithredu fel Ysgrifennydd ein Cwmni. Mae’r rôl hon yn gyfrifol am sicrhau ein bod yn cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, ac yn sicrhau bod ein llywodraethu corfforaethol yn effeithiol ac yn cadw at safonau uchel.
Bydd y rôl hon hefyd yn arwain y gwaith o gyflawni prosiectau corfforaethol allweddol ac yn goruchwylio’r swyddogaeth cymorth busnes i sicrhau cymorth gweinyddol a PA o ansawdd uchel i’r Prif Weithredwr a byrddau a phwyllgorau CHC.
I’r unigolyn cywir, mae’r rôl hon yn cynnig cwmpas enfawr i ddatblygu sgiliau allweddol ymhellach ac i ddylanwadu ar rediad a datblygiad sefydliad sydd ar flaen y gad yn yr ymgyrch dros sicrhau bod tai da yn hawl i bawb sy’n byw yng Nghymru.
Amcanion
Gweithredu fel Ysgrifennydd y Cwmni, gan sicrhau bod Cartrefi Cymunedol Cymru (CCC) yn cydymffurfio’n llawn â’r Comisiwn Elusennau, Tŷ’r Cwmnïau, a’r holl ofynion cyfreithiol/rheoliadol.
Darparu cymorth llywodraethu lefel uchel i’r Bwrdd (Byrddau) a’i Bwyllgorau, gan sicrhau bod y sefydliad yn cael ei redeg yn effeithiol, yn dryloyw ac yn unol â rheoliadau.
Arwain y gwaith o gyflawni prosiectau corfforaethol perthnasol a nodwyd, gan sicrhau eu bod yn cael eu rheoli’n effeithiol ac yn cyd-fynd ag amcanion strategol CCC.
Gweithredu fel y Swyddog Diogelu Data (SDD), gan ddarparu arbenigedd a goruchwyliaeth mewn perthynas â phreifatrwydd a diogelwch data.
Goruchwylio’r swyddogaeth "Cymorth Busnes", gan sicrhau cymorth gweinyddol a PA o ansawdd uchel i’r Prif Weithredwr a’r Bwrdd trwy reoli’r Cydlynydd Cymorth Busnes a Gweithredol (CCBG).
Sut i wneud cais
Mae’r manylion dilynol yn y pecyn swydd hwn: disgrifiad swydd, manyleb person a gwybodaeth am delerau ac amodau.
Ffurflen gais, y bydd angen i chi ei llenwi yn amlinellu mewn dim mwy na 800 gair sut ydych yn ateb y meini prawf profiad a nodir yn y rhan ‘yr hyn rydym yn edrych amdano’ o’r fanyleb swydd a pham eich bod eisiau’r swydd.
Mae’n RHAID i chi hefyd gyflwyno CV wedi ei deilwra yn ymwneud â’ch cais am y swydd hon (dim mwy na thair tudalen).
Ffurflen cyfle cyfartal. Ni chaiff y ffurflen hon ei defnyddio ar unrhyw gam o’r broses recriwtio a chaiff ei gwahanu oddi wrth eich ffurflen gais yn syth ar ôl ei derbyn. Bydd unrhyw wybodaeth a roddir ar y ffurflen yn parhau’n gyfrinachol a dim ond ar gyfer dibenion monitro i asesu effeithlonrwydd ein polisi cyfle cyfartal y caiff ei defnyddio.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd wag, cysylltwch â Stuart Ropke, Chief Executive
Dylid anfon y ffurflen wedi’i llenwi, CV a’r ffurflen cyfle cyfartal drwy e-bost wedi’i marcio yn Preifat a Chyfrinachol – Arweinydd Llywodraethu a Gweithrediadau to recruitment@chcymru.org.uk by 9am, 11 Mai 2026.
Caiff pob ffurflen ei chadw am chwe mis yn unol ag arfer gorau i sicrhau y gallwn roi adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus ac i gefnogi’r sefydliad pe byddid yn dod â hawliad yn ei erbyn.
Caiff y rhestr fer ei llunio ar 11 Mai 2026.
Cynhelir cyfweliadau ar 18 a 20 Mai 2026. Bydd opsiynau cyfweld wyneb yn wyneb a chyfweliadau rhithiol.
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais wedi’i gwblhau.