Llywodraeth Cymru i ddarparu £10 miliwn ar gyfer cymorth argyfwng

20/03/2020

Rydym yn falch i weld fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu £10 miliwn ar gyfer cymorth argyfwng i bobl sy’n cysgu ar y stryd yn ystod yr achosion o Coronafeirws (COVID-19).

Gweler ein datganiad llawn islaw.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Ni ddylai neb fod heb loches cynnes a diogel. Mae cymdeithasau tai yn gweithio’n ddiflino bob dydd i sicrhau fod gan bobl fynediad i’r gwasanaethau a’r gefnogaeth maent eu hangen ac mewn argyfwng, mae’n hanfodol y caiff hyn ei wneud mor gyflym a syml ag sydd modd.

“Croesawn gynlluniau Llywodraeth Cymru i sicrhau fod gan gynghorau y cyllid a’r grym i gefnogi pobl, beth bynnag eu hamgylchiadau yn ystod y cyfnod ansicr ac anodd iawn yma.”

Cymorth i tenantiaid yn ystod Coronafeirws (COVID-19)

18/03/2020

Meddai Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Y flaenoriaeth gyntaf i gymdeithasau tai yng Nghymru yw sicrhau y gall eu tenantiaid fyw’n ddiogel yn eu cartrefi. Rydym yn hyderus na chaiff tenantiaid eu troi allan o gartref cymdeithas tai oherwydd caledi ariannol oherwydd Coronafeirws (COVID-19). Mae’r rhain yn gyfnodau na welodd neb ohonom eu tebyg, fodd bynnag, un peth sy’n parhau’n gyson yw ymrwymiad cymdeithasau tai Cymru i gefnogi eu tenantiaid drwy galedi.

“Mae gan gymdeithasau tai ran hollbwysig i’w chwarae wrth atal a lliniaru digartrefedd pryd bynnag y mae’n digwydd, a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i sicrhau nad oes neb heb gartref. Gwyddom fod hwn yn amser anodd iawn i lawer o bobl. Mae cymdeithasau tai yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod gwasanaethau cymorth yn eu lle ac yn cyrraedd y bobl sydd eu hangen, yn cynnwys cefnogi gyda trefnu arian a hawlio budd-daliadau. Rydym yn annog unrhyw un sy’n bryderus ac sy’n byw mewn cartref cymdeithas tai i gysylltu â’u landlord.

“Gwyddom fod llawer o drafodaeth ar sut y gall y wladwriaeth gefnogi’r sector tai cymdeithasol drwy’r cyfnod hwn. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau fod mesurau yn eu lle i gefnogi tenantiaid drwy’r argyfwng hwn. Rydym hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i gryfhau rhwydwaith ddiogelwch y system llesiant i ostwng yr effaith ar swyddi ac incwm a achosir gan y feirws ofnadwy yma.”

Cefnogaeth CHC i gymdeithasau tai yn ystod yr achosion Coronafeirws (Covid—19)

17/03/2020

Yn dilyn datganiadau gan Brif Weinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Phrif Weinidog Cymru ddoe (16/03/2020), fel sefydliad rydym yn rhoi trefniadau ar waith i ymateb i’r achosion Coronafeirws (Covid-19).

Rydym wedi gweithredu fel gweithlu ystwyth ers rhai blynyddoedd ac mae gan ein staff adnoddau llawn i weithio o bell. Yng ngoleuni cyngor ddoe y dylai staff weithio o’u cartrefi lle bynnag sy’n bosibl, byddwn yn cau swyddfeydd CHC o 5pm yfory (18 Mawrth 2020) ymlaen ac yn darparu gwasanaethau o bell, yn cynnwys cael ffonau wedi eu hailgyfeirio i staff perthnasol a rhoi darpariaeth yn ei le ar gyfer cyfarfodydd ar-lein.

Sicrhau lles ein staff a’n haelodau yw ein blaenoriaeth bennaf oll, ac yn y cyd-destun hwn byddwn yn gohirio ein digwyddiadau a’n cyrsiau hyfforddiant ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, mae gennym gynllun 12-mis hirdymor i ddarparu gwasanaethau, dylanwadu ar yr agenda gwleidyddol a dweud stori’r sector ar faterion o bwys i gymdeithasau tai Cymru. Bydd ein tîm yn parhau i weithio ar draws nifer o wahanol feysydd, yn neilltuol y rhai y gellir eu cyflawni o bell, ar faterion o flaenoriaeth neu lle mae pwysau amser. Rydym eisiau sicrhau fod gennym adnoddau digonol i gefnogi meysydd blaenoriaethau newydd yng nghyswllt y sefyllfa sy’n esblygu gyda Coronafeirws (Covid-19).

Gallwch weld rhestr o’r holl wahanol feysydd y gweithiwn ynddynt, ac mae manylion cyswllt staff perthnasol ar gael yma.

Rydym wedi creu tudalen arbennig ar y Coronafeirws a gaiff ei diweddaru’n rheolaidd, a gobeithiwn y bydd hyn yn ddefnyddiol i chi.

Gwyddom fod hwn yn gyfnod anodd iawn ac mae’n un na welwyd ei debyg o’r blaen, a gobeithiwn eich bod yn cadw’n iach. Mae croeso i chi gysylltu â’r person perthnasol o’r rhestr staff uchod os oes gennych unrhyw bryderon, materion o gonsyrn neu ymholiadau.

Adroddiad newydd gan y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd yn gwneud argymhellion i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru

17/03/2020

Mae’r Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi ei ail adroddiad ar ddigartrefedd heddiw.

Mae 13 o arbenigwyr yn aelodau o’r Grŵp Gweithredu, yn cynnwys Clarissa Corbisiero ein Cyfarwyddydd Polisi a Dirprwy Brif Weithredydd, ac fe’i sefydlwyd i gynghori Llywodraeth Cymru ar y camau sydd eu hangen i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn mewn egwyddor yr argymhellion a nodir yn adroddiad heddiw, sef:

  • cymryd dull rhagweithiol a seiliedig ar hawliau at ddigartrefedd
  • mynd i’r afael â’r amgylchiadau a all arwain at ddigartrefedd, megis tlodi plant a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod
  • sicrhau fod digon o gartrefi fforddiadwy ar gael fel y daw cartref digonol yn rhywbeth y dylai pawb ei ddisgwyl
  • atal achosion o droi allan rhag datblygu’n ddigartrefedd o dai y mae’r wladwriaeth yn talu amdanynt neu’n eu cefnogi
  • ataliaeth wedi’i dargedu, sy’n golygu cymryd camau penodol i atal digartrefedd ymysg y grwpiau o bobl sydd fwyaf mewn risg
  • dulliau cydlynus ar draws gwasanaethau cyhoeddus i weithredu ‘llwybrau’ sy’n cefnogi pobl i osgoi digartrefedd
  • ymestyn dyletswyddau atal i bob corff cyhoeddus yn gweithio mewn partneriaeth i ailgartrefu pobl yn gyflym sydd mewn risg o, neu sy’n profi digartrefedd, fel mai dim ond rhywbeth prin, byr ac na chaiff ei ailadrodd fydd digartrefedd.

Mae rhestr lawn o argymhellion ar gael yma.

Yng Nghymru, caiff tua dau draean yr achosion o ddigartrefedd a gofnodwyd ei atal gan waith caled timau tai awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol a phreifat.

Mae’r Grŵp Gweithredu yn awr yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun gweithredu i fynd â’r argymhellion hyn rhagddynt, gan osod uchelgais i ddod â digartrefedd i ben ynghyd â chytundebau ymarferol ar gyllid a sut y cyflwynir newidiadau dros gyfnod.

Dywedodd Clarissa Corbisiero:

“Ni ddylai unrhyw un fod heb gartref diogel, fforddiadwy ac addas. Os caiff yr argymhellion yn yr adroddiad hwn eu gweithredu’n llawn, byddant yn ein helpu i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru am byth.

Mae digartrefedd yn broblem gwasanaeth cyhoeddus. Mae cymdeithasau tai eisiau parhau i chwarae eu rhan, gan weithio gyda phartneriaid i atal a lliniaru digartrefedd lle bynnag mae’n codi.

Y cam nesaf yw cynyddu cyllid ar gyfer y Grant Cymorth Tai, sy’n cefnogi’r gwasanaethau hollbwysig sy’n hanfodol i atal digartrefedd”.

CHC yn galw am bartneriaeth buddsoddi unwaith mewn cenhedlaeth gyda Llywodraeth Cymru

04/03/2020

Dengys ymchwil newydd a gyhoeddir heddiw (4 Mawrth) y gallai cymdeithasau tai Cymru chwistrellu biliynau i’r economi dros y 16 mlynedd nesaf, gyda Llywodraeth Cymru’n cael ei hannog i roi blaenoriaeth i dai a gweithio gyda chymdeithasau tai i fuddsoddi £11.7 biliwn ar y cyd erbyn 2036.

Rydym wedi comisiynu ymchwil sydd yn dangos o gael buddsoddiad o dros £11 biliwn y gellid adeiladu 75,000 o gartrefi di-garbon erbyn 2036, gan gael effaith enfawr ar yr argyfwng tai a chreu 50,000 o swyddi a chynhyrchu mwy na £23.2 biliwn i economi Cymru dros 16 mlynedd.

Dangoswyd dro ar ôl tro bod cymdeithasau tai yn barod i adeiladu’r cartrefi fforddiadwy, ansawdd da y mae gan Gymru angen mor enbyd amdanynt, ac rydym wedi ymrwymo i ddyblu effaith unrhyw fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol i sicrhau am bob £1 a fuddsoddir y bydd cymdeithasau tai yn cyfateb hynny.

I ateb yr angen am dai yng Nghymru a mynd i’r afael â’r argyfwng tai, gwyddom ein bod angen dros 4,000 o gartrefi newydd bob blwyddyn. Ers 2010 mae cymdeithasau tai Cymru wedi darparu 21,000 o  gartrefi newydd ac maent yn awr yn galw am fwy o uchelgais i barhau i adeiladu tai fforddiadwy ansawdd da i bawb.

Yn ychwanegol, erbyn 2036, gellid creu 19,500 o gyfleoedd hyfforddiant a llu o swyddi llawn-amser a rhan-amser newydd mewn adeiladu, cynnal a chadw a rheolaeth, gyda’r sector yn cyflogi bron 16,000 o staff yn uniongyrchol ac â rôl allweddol wrth gefnogi 50,000 o swyddi ar draws gweddill Cymru.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Gwyddom fod cymdeithasau tai yng Nghymru eisoes yn gwneud cyfraniad hanfodol i’r economi, ac rydym ymhell ar y trywydd i gyflawni targed Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi erbyn 2021. Mae’r cartrefi ansawdd uchel hyn eisoes wedi creu miliynau o swyddi, gwella llesiant pobl a gostwng biliau tanwydd ar gyfer tenantiaid.

Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn cydnabod mai dyma’r amser am fwy o uchelgais gan lywodraethau dilynol yng Nghymru yn y dyfodol. Gall tai cymdeithasol fod yn allwedd i ddatgloi mwy o ffyniant ar gyfer cymunedau ar draws Cymru, a rydym yn barod i gynyddu ein partneriaeth yn enfawr gyda’r llywodraeth hon a llywodraethau’r dyfodol yng Nghymru i ddatrys yr argyfwng tai a rhoi hwb sylweddol i economi Cymru.”

Cyhoeddi cyllid ar gyfer dulliau adeiladu modern

25/02/2020

Mae Julie James, Gweinidog Tai Cymru, heddiw wedi cyhoeddi strategaeth ar gyfer gweithredu dulliau adeiladu modern, ynghyd â budsoddiad o £45m.

Rydym yn wirioneddol falch i weld fod y strategaeth hon hefyd yn canolbwyntio ar gynnal yr economi sylfaenol yng Nghymru drwy greu swyddi lleol a defnyddio deunyddiau lleol. Mae gan gymdeithasau tai eisoes rôl allweddol wrth ddatblygu cymunedau cynaliadwy. Drwy ddefnyddio dulliau adeiladu modern yn ehangach, gallwn gyflymu ein gweledigaeth Gorwelion Tai i wneud Cymru yn fwy iach a llewyrchus a gyda chysylltiadau gwell.

Dywedodd Bethan Proctor, Rheolwr Polisi a Materion Allanol Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Rydym yn croesawu ymrwymiad heddiw gan Weinidog Tai Cymru i fuddsoddi £45m yn y diwydiant tai modiwlar, mewn ymateb i’r adolygiad o dai fforddiadwy y gwnaethom alw amdano yn 2017. Mae dulliau adeiladu modern yn hyrwyddo codi tai ansawdd da, carbon isel a fforddiadwy yn gyflym ac ar raddfa eang a gyda chymdeithasau tai yn ymroddedig i godi 75,000 o gartrefi newydd erbyn 2036, bydd cyhoeddiad heddiw yn helpu i wireddu hyn.

Rydym yn falch iawn i weld fod y strategaeth hon hefyd yn canolbwyntio ar gynnal yr economi sylfaenol yng Nghymru drwy greu swyddi lleol a defnyddio deunyddiau lleol. Mae eisoes ddymuniad yn y sector tai cymdeithasol i ddefnyddio dulliau adeiladu modern a bydd strategaeth a buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn agor y drysau ar gyfer llawer mwy i ddatblygu dulliau gweithgynhyrchu oddi ar y safle, gan eu helpu i adeiladu cartref iachach a digarbon, gan fynd i’r afael â’r argyfwng mewn tai a newid hinsawdd.”

Lansio Dyfodol Tai

15/01/2020

Heddiw (15 Ionawr) rydym wedi lansio Dyfodol Tai, rhaglen arloesi gyffrous mewn partneriaeth gyda'r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol (NHF) a Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban (SFHA).

Sefydlwyd Dyfodol Tai, rhan o'n rhaglen Alcemi, i baratoi cymdeithasau tai ar gyfer y dyfodol. Bydd yn rhoi cyfle i gymdeithasau tai yng Nghymru gronni eu talentau ac adnoddau, arbenigedd ac angerdd i ddod â phobl ynghyd i ddatrys rhai o heriau mwyaf y sector.

Pam nawr?

Sicrhau fod gan bawb gartref gweddus a fforddiadwy i fyw ynddo yw her ddomestig mwyaf ein gwlad. Mae miloedd o bobl yn profi digartrefedd, cafodd cenhedlaeth ei phrisio allan o'r farchnad tai ac mae gan llawer bryderon am ansawdd a diogelwch.

Mae'r byd yn newid, mae'r heriau a wynebwn yn ddigynsail - o newid technolegol cyflym, globaleiddio i boblogaeth sy'n heneiddio. Mae'r gallu i greu a bod yn berchen ein dyfodol yn awr hyd yn oed yn bwysicach ac mae angen syniadau newydd a chydweithredu ystyrlon.

Bydd cydweithio yn hollbwysig os byddwn yn cyflawni ein uchelgais o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb.

Sut y gallwch gymryd rhan?

Unrhyw gwestiynau? Edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin neu gysylltu â'n tîm yma.

Tai cymdeithasol yn flaenoriaeth yn nrafft Gyllideb Llywodraeth Cymru

17/12/2019

Rydym yn falch fod y cyhoeddiad heddiw am ddrafft Gyllideb 2020/21 wedi gweld ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i dai cymdeithasol.

Mae manylion allweddol y Gyllideb yn cynnwys:

  • £223 miliwn wedi'i ddyrannu yn y flwyddyn ariannol nesaf i gyrraedd y targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy, sy'n cynnwys cynnydd o £133 miliwn ar gyfer Grant Tai Cymdeithasol.
  • Cadarnhad y caiff y Grant Cymorth Tai ei warchod ar lefelau 2019/20, yn dilyn ein gwaith gyda Cymorth Cymru a Cymorth i Ferched Cymru i ymgyrchu am fwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau hanfodol. Gallwch ddarllen amdano yma.
  • Bydd y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer 2020/21 yn £42m, cynnydd o £7m ar gyllideb y llynedd. Mae hyn yn darparu cyllid hanfodol ar gyfer prosiectau tai, iechyd a gofal cymdeithasol.
  • £51.8m o gyllid cyfalaf wedi'i ddyrannu ar gyfer prosiectau adfywio yn y portffolio Tai a Llywodraeth Leol. Mae hyn yn gynnydd o £23.2m ar gyllideb y llynedd.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Mae Llywodraeth Cymru yn gywir i roi blaenoriaeth i ddatrys yr argyfwng tai yng Nghymru ac mae cyhoeddiad heddiw o £133m ychwanegol ar gyfer tai cymdeithasol yn hwb enfawr i’n gwaith i adeiladu’r cartrefi gwirioneddol fforddiadwy y mae gan Gymru gymaint o’u hangen.”

Adroddiad newydd yn dangos effaith toriadau cyllid ar wasanaethau cymorth yng Nghymru

09/12/2019

Rydym wedi cydweithio gyda Cymorth Cymru a Cymorth i Ferched Cymru i lansio adroddiad 'Materion Tai' heddiw.

Dywed yr adroddiad y bu gostyngiad o £37 miliwn* mewn gwasanaethau cymorth tai rhwng 2012 a 2018 ac mae'n dangos yr effaith a gafodd hyn ar awdurdodau lleol, y trydydd sector a landlordiaid cymdeithasol.

Mae'r gostyngiad sylweddol mewn cyllid yn golygu fod gwasanaethau hanfodol i atal digartrefedd a gwasanaethau tai wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol.

Gyda wythnos i fynd cyn bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei drafft gyllideb ar gyfer 2020/21 ar ddydd Llun 16 Rhagfyr, rydym yn galw am gynyddu cyllid ar gyfer y Grant Cymorth tai sy'n darparu gwasanaethau atal digartrefedd a gwasanaethau cymorth cysylltiedig â thai yng Nghymru.Mae'r Grant Cymorth Tai yn dyrannu cyllid Llywodraeth Cymru yn benodol ar gyfer atal digartrefedd a chefnogi pobl i fyw'n annibynnol. Bob blwyddyn mae'n ariannu gwasanaethau sy'n helpu mwy na 60,000 o bobl i osgoi digartrefedd, cael dihangfa rhag cam-driniaeth, byw yn eu cartrefi eu hunain a ffynnu yn eu cymunedau.

Gydag addewidion gwariant pleidiau gwleidyddol y Deyrnas Unedig yn yr etholiad cyffredinol yn debygol o arwain at gynyddu'r pot cyllid ar gyfer Cymru, mae nawr alwadau cryf i beth o hyn gael ei gyfeirio at wasanaethau sy'n rhaff fywyd i filoedd o bobl Cymru.

Dywedodd Katie Dalton, Cyfarwyddydd Cymorth Cymru:

"Bu ein haelodau yn gweithio'n galed tu hwnt dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i wneud arbedion a pharhau i ddarparu gwasanaethau cymorth ansawdd uchel ar draws Cymru. Fodd bynnag, ofnwn ein bod wedi cyrraedd y pwynt tyngedfennol ac mae buddsoddiad ychwanegol yn hanfodol i sicrhau fod pobl sy'n ddigartref neu mewn risg o ddod yn ddigartref yn cael y cymorth maent ei angen. Mae hefyd angen ehangu'r model 'Tai yn Gyntaf' a gaiff ei ganmol yn rhyngwladol, ond mae angen buddsoddiad ychwanegol i wneud hyn yn realaeth."

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn darparu dros hanner y llety â chymorth sydd ei angen i helpu pobl allan o ddigartrefedd. Y llynedd, fe wnaeth y Grant Cymorth Tai ein galluogi i gyflwyno gwasanaethau hanfodol ar draws Cymru i gefnogi pobl i reoli eu tenantiaethau ac atal digartrefedd. Yn ogystal â'r gwasanaethau hyn, rydym yn gweithio i sicrhau nad oes neb yn ddod yn ddigartref fel canlyniad i adael tai cymdeithasol.

"I gefnogi ein gwaith, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi yn  Grant Cymorth Tai, fel y gallwn barhau i gyflwyno'r gwasanaethau o'r main a'r ansawdd sydd eu hangen i ddod â digartrefedd i ben."

Dywedodd Eleri Butler, Prif Weithredydd Cymorth i Ferched Cymru:

"Mae'r grant hwn yn rhoi cyllid hanfodol i'n haelodau i ddarparu cymorth a all achub bywyd a newid bywyd y rhai sy'n goroesi cam-drin domestig a rhywiol. Ond rydym yn awr yn gweld cynnydd sylweddol yn y nifer a gaiff eu hatgyfeirio at gymorth arbenigol mewn llawer o ardaloedd, heb gynnydd cyfatebol mewn cyllid. Felly nid yw'n ddim syndod fod ein data cenedlaethol yn dangos y caiff goroeswyr cam-driniaeth eu cadw ar restri aros neu bod nifer cynyddol yn cael eu troi ymaith o lochesi pan maent angen help, oherwydd diffyg adnoddau a chapasiti.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu sicrwydd cyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau cenedlaethol yn ei Strategaeth Genedlaethol 2016, nid ydym eto wedi gweld gwireddu hyn. Mae cam-drin domestig ar ben ei hun yn costio £66 biliwn y flwyddyn i wasanaethau cyhoeddus a chymunedau yn Lloegr a Chymru, felly nid yw'n afresymol i ni fuddsoddi cyfran ddigonol o hyn i achub bywydau, i feithrin capasiti gwasanaethau arbenigol a sicrhau ymrwymiad cenedlaethol na chaiff neb ei wrthod rhag cymorth arbenigol yng Nghymru pan maent fwyaf ei angen."

30 mlynedd CHC

21/11/2019

Mae 2019 yn nodi 30ain pen-blwydd Cartrefi Cymunedol Cymru. Yn ein Cynhadledd Flynyddol heddiw, amlinellodd Stuart Ropke flaenoriaethau ein sector am y 30 mlynedd nesaf. Darllenwch ei araith yma.

Ffurfiwyd CHC yn wreiddiol fel Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Cymru 1989, yn sgil Deddf Tai 1988, pan ddewisodd cymdeithasau tai Cymru lunio ffederasiwn ar wahân i'n cydweithwyr ar draws y ffin yn Lloegr.

Mae llawer o'r materion oedd yn wynebu cymdeithasau tai yng Nghymru yn 1989 yn parhau'n flaenoriaeth heddiw, yr angen am gartrefi newydd, rhenti fforddiadwy a chyllid grant.

Gyda hynny dan sylw, ac etholiad cyffredinol ar ein gwarthaf, rydym yn galw ar bob plaid wleidyddol i roi blaenoriaeth i'r sector tai, ac i'n llywodraeth ein hunain yng Nghymru gydnabod rôl hanfodol tai cymdeithasol yn ein heconomi, drwy ddyrannu buddsoddiad pellach yn ei chyllideb nesaf.

Bydd hyn i gyd yn ein cefnogi i gyflawni ein gweledigaeth i wneud cartref da yn hawl sylfaenol i bawb yng Nghymru.

Rydym wedi creu amserlen yn amlygu'r ymgyrchoedd allweddol, newidiadau polisi a digwyddiadau dros y 30 mlynedd diwethaf. Edrychwch arni yma.

Adroddiad newydd yn dangos effaith ddifrifol barhaus Credyd Cynhwysol ar hawlwyr

11/11/2019

Heddiw cyhoeddwn ymchwil yn dangos effaith ddifrifol Credyd Cynhwysol ar denantiaid cymdeithasau tai.

Dengys ein data fod gan 84% o’r tenantiaid cymdeithasau tai sy’n hawlio Credyd Cynhwysol ddyled rhent o £556 ar gyfartaledd. Mae’r lefel yma o ddyled wedi cynyddu dros y 12 mis diwethaf er gwaethaf gwelliannau i’r system Credyd Cynhwysol.

Mae’r ffigur fwy na dwbl yr hyn oedd yn ddyledus gan denantiaid yn derbyn Budd-dal Tai drwy’r hen system.

Prif achos dyled yw’r cyfnod presennol o bum wythnos o aros am daliadau Credyd Cynhwysol. Gyda thymor yr ŵyl ar ein gwarthaf, mae hyn yn golygu na fydd pobl sy’n hawlio ar ôl yr wythnos hon yn derbyn eu taliad tan ar ôl 25 Rhagfyr.

Gyda phwysau ychwanegol y Nadolig, rydym yn bryderus y bydd hyn yn achosi caledi sylweddol i lawer o bobl sy’n wynebu diffyg incwm y mis hwn.

Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn dweud y bu cynnydd yn y defnydd o fanciau bwyd yn y chwe mis diwethaf ymysg pobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol. Mae hyn yn golygu y gallai miloedd o deuluoedd fod yn wynebu Nadolig heb y pethau mae llawer o bobl yn eu cymryd yn ganiataol – twrci, mins peis ac anrhegion.

I lenwi’r bwlch incwm mae llawer o hawlwyr yn dewis gwneud cais am flaendaliad Credyd Cynhwysol, sy’n gweithredu fel benthyciad a gaiff wedyn ei dynnu o daliadau yn y dyfodol. I lawer o bobl, fodd bynnag, gall hyn olygu colli hyd at 30% o’u taliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol.

Galwn ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ostwng yn sylweddol y cyfnod aros o bum wythnos i nifer o ddyddiau er mwyn osgoi lefelau dyledion y gellid eu hosgoi.

Dywedodd Will Atkinson, Rheolwr Polisi a Materion Allanol CHC:

“Er rhai gwelliannau i’r system Credyd Cynhwysol, mae’r cynnydd yn y defnydd o fanciau bwyd a’r cynnydd mewn ôl-ddyledion rhent yn dangos ei fod yn dal i achosi caledi diangen ar gyfer pobl.

“Mae’r polisi hefyd yn cael effaith ar adnoddau a gwasanaethau yn y sector tai cymdeithasol. Mae staff sy’n gweithio i gymdeithasau tai Cymru yn treulio dwy i chwech awr y dydd yn cefnogi tenantiaid gyda materion yn gysylltiedig â Chredyd Cynhwysol, yn dangos nad yw’r polisi yn addas i’r diben hyd yma.

“Gyda phleidiau gwleidyddol nawr yn ymgyrchu ar gyfer Etholiad Cyffredinol y mis nesaf,  dylai llesiant fod yn flaenoriaeth ar gyfer maniffestos.

“Rydym yn awr yn galw ar Lywodraeth nesaf y Deyrnas Unedig i gydnabod yr effaith a gafodd Credyd Cynhwysol drwy ddod â’r cyfnod aros o bump wythnos i ben a sicrhau taliad cyntaf o fewn dyddiau yn hytrach na misoedd.”

Darllenwch yr adroddiad yma.

Mae Dyma'r Sector Tai yn fyw!

26/09/2019

Rydym ni, gan weithio gyda phob cymdeithas tai yng Nghymru, heddiw wedi lansio ymgyrch Dyma'r Sector Tai (26 Medi). Mae'r ymgyrch yn dathlu'r bobl wych sy'n gweithio i gymdeithasau tai yng Nghymru ac yn dangos yr ystod eang o swyddi sydd yn y sector.

Mae'n uchelgais gan gymdeithasau tai yng Nghymru i wneud cartref da yn hawl sylfaenol i bawb, a bwriadant adeiladu 75,000 o gartrefi newydd a chreu 150,000 o swyddi newydd erbyn 2036.

Nod Dyma'r Sector Tai yw denu sgiliau newydd i'r sector fel y gallant adeiladu'r cartrefi a'r cymunedau mae Cymru eu hangen.

Caiff bron 11,000 o bobl eu cyflogi mewn 200 o wahanol swyddi mewn cymdeithasau tai sy'n adeiladu ac yn rheoli cartrefi fforddiadwy ar gyfer 10% o boblogaeth Cymru.

Maent hefyd yn cynnig cymorth i bobl mewn amrywiaeth o amgylchiadau, yn cynnwys teuluoedd ar incwm isel, yr henoed, y rhai sy'n ffoi rhag cam-drin domestig a phobl ddigartref.

Yn 2018 gwariodd cymdeithasau tai yng Nghymru dros £445 miliwn yn gweithio gyda darparwyr iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a sefydliadau eraill ar brosiectau cymunedol.

Dywedodd Phillipa Knowles, Cyfarwyddydd Adnoddau a Datblygu Sefydliadol Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Mae gan y sector tai cymdeithasol rôl allweddol wrth lunio dyfodol Cymru; mae'r sector yn darparu cartrefi fforddiadwy ansawdd da a chymorth i gymunedau. Mae gan gymdeithasau tai yng Nghymru weledigaeth i wneud cartref da yn hawl sylfaenol i bawb a rydym yn anelu i adeiladu 75,000 o gartrefi erbyn 2036 i sicrhau fod gan bobl gartrefi ansawdd da, diogel a chynnes i fyw ynddynt. I wneud hyn, rydym angen y sgiliau cywir yn eu lle a gobeithiwn, erbyn 2036, i fod wedi creu 150,000 o swyddi newydd fel y gallwn adeiladu'r cartrefi o safon dda a cymunedau cryf.

"Mae 65% o bobl sy'n gweithio yn y sector yn mwynhau eu swyddi oherwydd eu bod yn gwneud gwahaniaeth. Mae gan y sector ystod eang o swyddi o gyfrifeg i waith rheng flaen, ac mae'n cynnig cyfleoedd ar gyfer cynnydd a datblygu sgiliau. Er enghraifft, y llynedd gwariwyd dros £3.6 miliwn ar hyfforddiant staff a datblygu proffesiynol.

"Rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio i gymdeithas tai i ymweld â gwefan Dyma'r Sector Tai i ganfod mwy!"

Os oes gennych ddiddordeb mewn canfod mwy am swydd yn y sector tai cymdeithasol, ewch i Dyma'r Sector Tai.

Dewch o hyd i'ch swydd ddelfrydol yn swydditai.cymru, unig safle swyddi Cymru yn benodol ar gyfer swyddi yn y sector tai cymdeithasol.

Ymateb i Gylch Gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig

06/09/2019

Cyflwynodd y Canghellor Sajid Javid AS ddatganiad Cylch Gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer 2020/21. Fel rhan o'r datganiad hwn, dyrannwyd £600 miliwn ychwanegol i gyllideb ddatganoledig Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Mewn cyfnod economaidd ansicr, gwyddom fod gan gymdeithasau tai rôl enfawr mewn diogelu a chreu swyddi tra'n buddsoddi mewn cymunedau, gyda £1.2 biliwn wedi eu buddsoddi ar draws Cymru y llynedd a 23,000 o swyddi llawn-amser wedi eu cefnogi. Mae angen i ni yn awr weld buddsoddiad mewn cartrefi gwag ac mae gwasanaethau cymorth cysylltiedig â thai yn parhau'n flaenoriaeth wrth i Lywodraeth Cymru benderfynu sut i wario £600m o gyllid ychwanegol.

Mae gan gymdeithasau tai uchelgais i adeiladu 75,000 o gartrefi newydd a chreu 150,000 o swyddi erbyn 2036, ac yn gynharach eleni, roedd yr Adolygiad Annibynnol o Dai Fforddiadwy yn cydnabod bod angen buddsoddiad ychwanegol i gyflawni'r uchelgais honno."

Darllenwch papur gwybodaeth llawn yma.

Lansio Adroddiad Ddatgarboneiddio

17/07/2019

Mae Grŵp Cynghori ar Ddatgarboneiddio Cartrefi yng Nghymru heddiw (18 Gorffennaf) wedi lansio ‘Cartrefi Gwell, Cymru Gwell, Byd Gwell'.  Mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar y ffordd orau i ddarparu rhaglen hirdymor o welliannau tai i gyrraedd targedau datgarboneiddio Cymru.

Daeth newid yn yr hinsawdd yn flaenoriaeth cynyddol bwysig i wleidyddion a'r cyhoedd ym mhob rhan o'r byd ac roedd Llywodraeth Cymru yn un o'r cyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd ym mis Ebrill 2019. Gosododd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 darged o ostwng allyriadau carbon gan o leiaf 80% erbyn 2050; ym mis Mehefin 2019, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y targed gostwng newydd o 95% a argymhellwyd gan Bwyllgor y Deyrnas Unedig ar Newid Hinsawdd (UKCCC) a nodi uchelgais i gyflawni carbon sero net erbyn 2050.

Mae gan gymdeithasau tai yng Nghymru weledigaeth o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb, ac maent yn rhannu uchelgais Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio cartrefi.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Mae ymrwymiad 30 mlynedd i ostwng yr allyriadau carbon o holl anheddau Cymru yn argymhelliad beiddgar yn yr adolygiad yma a rydym yn croesawu hynny. Fel mae'r adroddiad yn cydnabod, ni fydd hyn yn rhwydd. Bydd angen lefelau enfawr o fuddsoddiad gan y llywodraeth a thrawsnewid y ffordd yr ydym yn adeiladu ac yn adnewyddu cartrefi er mwyn ateb yr her.

"Fel rhan o'n gweledigaeth o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb, mae cymdeithasau tai wedi ymrwymo i adeiladu cymunedau gwyrddach ac yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol i gyflawni hyn.".

Darllenwch ein papur gwybodaeth fanwl  sy'n crynhoi'r argymhellion a gosod y camau nesaf ar gyfer yr agenda datgarboneiddio. 

Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag aelodau, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill wrth i ni ymchwilio sut y gallwn ni fel sector sicrhau cartrefi fforddiadwy, cysurus a dim carbon i'n tenantiaid.

Ymateb i datganiad Llywodraeth Cymru ar yr Adolygiad Annibynnol o Gyflenwad Tai Fforddiadwy

09/07/2019

Mewn ymateb i'r Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy, mae Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi dweud ei bod yn derbyn pob un, ac eithrio un, o argymhellion yr Adolygiad. Mae hefyd wedi ysgrifennu i awdurdodau cynllunio ledled Cymru i bwysleisio bod rhaid i gynlluniau datblygu gefnogi safleoedd sy'n cynnwys o leiaf 50% o dai fforddiadwy.

Mae'r datganiad yn cynnwys y canlynol:

  • Bydd y polisi rhenti pum mlynedd yn cael ei gyhoeddi cyn i'r Cynulliad dorri am yr haf;
  • Mae angen ffordd newydd o weithio mewn perthynas â chyllid grant ar gyfer cymdeithasau tai ac awdurodau lleol, a bydd Llywodraeth Cymru'n cydweithio ag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i ddatblygu hynny;
  • Bydd awdurdodau lleol uchelgeisiol yn gallu cael grant tai i adeiladu mwy o dai cyngor yn ddi-oed ac ar raddfa fawr;
  • Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried sefydlu corff i gefnogi'r ffordd orau o ddefnyddio tir y sector cyhoeddus i greu mwy o dai;
  • Rhaid i bob eiddo ni waeth beth fo'r ddeiliadaeth gael yr un safonau o ran ansawdd, megis maint o le a bod yn effeithlon o ran ynni; a
  • Bydd y sector tai'n cael ei gynghori ynghylch strategaeth newydd i ehangu'r defnydd o weithgynhyrchu oddi ar y safle a dulliau adeiladu modern i greu cartrefi di-garbon. 

Dywedodd Julie James:

“Rwy'n ymwybodol bod rhaid i’n buddsoddiad sylweddol mewn tai fforddiadwy gael ei ddefnyddio mor effeithiol ag sy'n bosibl, ac ar gyfer y pethau sydd eu hangen fwyaf. Dyna pam rwy'n cymryd camau ar sail argymhellion yr adolygiad.

Rwy hefyd yn ysgrifennu i'r holl awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn manteisio ar bob cyfle i greu datblygiadau tai yng Nghymru sy'n cynnwys o leiaf 50% o dai fforddiadwy. Yn sgil cael gwared ar gap benthyca'r Cyfrif Refeniw Tai a'r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i adeiladu tai fforddiadwy, rwy am iddyn nhw sicrhau bod hwnnw'n rhan allweddol o waith adolygu eu Cynlluniau Datblygu Lleol.”

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Mae bwriad y Gweinidog i sicrhau bod nifer sylweddol o holl gartrefi yng Nghymru yn rhai fforddiadwy yn uchelgeisiol tu hwnt, ac mae cymdeithasau tai yn barod am yr her. Rydym eisiau gweld Cymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb ac mae hynny'n golygu cydweithio mewn ffyrdd newydd i fynd i'r afael â'r argyfwng tai.

Mae cymdeithasau tai bob amser wedi rhoi lle canolog i fforddiadwyedd wrth osod rhenti, ac rydym yn falch iawn i weld y Gweinidog yn canolbwyntio ar hyn yn ymateb heddiw. Mae gan Lywodraeth Cymru nawr gyfle go iawn i gefnogi gwneud penderfyniadau gwirioneddol, cadarn ac ystyrlon rhwng landlord a thenant, drwy ddarparu setliad rent cynaliadwy a hirdymor yr Haf hwn.

Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i gyflawni'r argymhellion. Gyda buddsoddiad parhaus gan Lywodraeth Cymru, byddwn yn edrych ar ffyrdd newydd i arloesi gyda phartneriaid allweddol, i sicrhau ein bod yn darparu mwy o gartrefi sydd yn wirioneddol fforddiadwy ac addas ar gyfer y dyfodol."

Lansio adroddiad newydd mewn partneriaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru

20/06/2019

Rydym wedi lansio adroddiad gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Sefydliad Ymchwil Adeiladu sy'n dangos fod tai ansawdd gwael wedi costio mwy na £95m y flwyddyn i'r GIG yng Nghymru mewn costau triniaeth. Yn ôl yr adroddiad, gallai gweithredu i liniaru tai gwael weld adenilliad ar fuddsoddiad o fewn chwe blynedd.

 

Mae'r adroddiad yn edrych ar effaith ansawdd tai, cartrefi anaddas a digartrefedd ar iechyd a llesiant yng Nghymru, ac yn dynodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu. Mae tystiolaeth gryf fod tai gwael yn gysylltiedig gyda iechyd corfforol a meddwl gwael. Dengys ffigurau fod 18% o gartrefi yng Nghymru yn achosi risg annerbyniol i iechyd, a bod tai gwael yn costio dros £1bn y flwyddyn i'r gymdeithas yng Nghymru.

 

Ymysg ei argymhellion, mae'r adroddiad yn annog gweithredu i fynd i'r afael ag achosion afiechyd sy'n cysylltiedig gyda thai ansawdd gwael, fel tai oer a llaith, a pheryglon syrthio. Mae'r meysydd blaenoriaeth yn cynnwys gwella gwresogi ac awyriant cartrefi. Gallai uwchraddio cartrefi arwain at 39% yn llai o dderbyniadau ysbyty ar gyfer cyflyrau cylchrediad ac ysgyfaint, a gallai pob £1 a gaiff eu gwario ar wella cynhesrwydd mewn aelwydydd agored i niwed arwain at adenilliad o £4m ar fuddsoddiad. Gallai addasu cartrefi i weddu i anghenion yr henoed a phobl anabl arbed £7.50 i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol am bob £1 a gaiff eu gwario.

 

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

 

"Mae gennym uchelgais hirdymor fel sector i adeiladu Cymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb, ac rydym wedi hyrwyddo manteision buddsoddiad mewn tai ar gyfer iechyd a llesiant pobl Cymru ers amser maith. Mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir yr effaith uniongyrchol a gaiff tai gwael ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a byddwn yn parhau i weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i wneud yn siŵr fod buddsoddiad mewn tai yn flaenoriaeth."

 

Dywedodd Louisa Woodfine, Prif Arbenigydd Iechyd Cyhoeddus ac Arweinydd Tai Iechyd Cyhoeddus Cymru:

 

"Ni fu'r achos am fuddsoddi mewn tai i wella iechyd a llesiant erioed yn gryfach. Cymru sydd â'r stoc tai hynaf yn y Deyrnas Unedig, ac yn gymesur y costau triniaeth uwch sy'n gysylltiedig gyda thai gwael.

 

"Mae cost ddynol go iawn i dai gwael hefyd, gyda phobl sy'n byw yn y cartrefi lleiaf effeithiol o ran ynni ugain y cant yn fwy tebygol o farw yn ystod y gaeaf na'r rhai sy'n byw yn yr anheddau cynhesaf. Fodd bynnag, mae hyn yn golygu fod cyfleoedd go iawn i ni yng Nghymru i wneud gwelliannau sylweddol i iechyd a llesiant drwy gymryd camau gweithredu blaenoriaeth yn y sector tai.

 

"Mae ein hadroddiad yn canfod mai gweithredu nawr i wella ansawdd tai, sicrhau cartrefi addas ac i fynd i'r afael â digartrefedd yw'r mwyaf effeithlon o ran cost.  Mae angen i hyn gael ei gefnogi gan weithredu i ostwng anghydraddoldeb mewn tai, ac alinio tai, iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy agos."

 

Mae'r adroddiad llawn ar gael yma.

Cyhoeddi swyddi newydd i gryfhau tîm polisi a materion allanol gyda

14/06/2019

Rydym yn falch cadarnhau penodiad dau Bennaeth Polisi a Materion Allanol yn Cartrefi Cymunedol Cymru.

 

 

Gyda dau ddegawd o brofiad mewn materion allanol rhyngddynt, bydd Aaron Hill, Rheolydd Materion Cyhoeddus a CHC, a Rhea Stevens, Rheolydd Polisi, Prosiectau a Materion Allanol Sefydliad Materion Cymreig, yn cryfhau swyddogaeth lobio CHC, gan alluogi'r tîm i ddylanwadu ar bolisi tai ar y lefel uchaf ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig.

 

Bydd eu swyddi yn canolbwyntio ar adeiladu partneriaethau strategol ar draws y Deyrnas Unedig i safleoli ròl werthfawr tai cymdeithasol mewn datrys yr argyfwng tai a chreu cymunedau cryf a chynaliadwy. Bydd y swyddi newydd yn cefnogi cymdeithasau tai yn Nghymru i adeiladu 75,000 o gartrefi erbyn 2036, a chreu Cymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb.

 

Mae Aaron wedi arwain dau dîm yn ystod ei gyfnod gyda CHC, gan weithio ar ddatblygu polisi a meithrin enw da'r sector gyda gwleidyddion gweision sifil a rhanddeiliaid.

 

Arweiniodd ar waith CHC ar yr Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy yng Nghymru, yn ogystal ag arwain ymgyrchoedd llwyddiannus yn cynnwys Cartrefi i Gymru a Gadwch i Ni Ddal Ati i Gefnogi Pobl. Cyn gweithio i'r CHC, bu'n gweithio i sefydliadau yn cynnwys y Sefydliad Dysgu a Gwaith a Chonffederasiwn GIG Cymru.

 

Dywedodd Aaron, sy'n gyn Gadeirydd Public Affairs Cymru:

"Mae cymdeithasau tai yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau miloedd o bobl yng Nghymru bob dydd ac mae ganddynt uchelgais i wneud llawer mwy. Alla'i ddim aros i fynd ymlaen gyda'r gwaith o adeiladu'r partneriaethau rydym eu hangen i gyflawni ein gweledigaeth o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb."

 

Yn ategu arbenigedd Aaron, mae Rhea yn arwain portffolio ymchwil a phrosiectau'r Sefydliad Materion Cymraeg, yn ogystal a golygu click on wales a the welsh agenda, cyhoeddiadau dylanwadol iawn y sefydliad. Yn flaenorol bu Rhea yn gweithio ar ymgyrchoedd a swyddi polisi proffil uchel, yn arbenigo mewn polisi plant a gofal cymdeithasol. Mae hefyd wedi gweithio ar y rheng flaen fel Cymhorthydd Gwaith Cymdeithasol ac i elusen plant yn Rwsia.

 

Esboniodd Rhea pam fod y swydd newydd yn gyffrous iddi:

 

"Mae tai fforddiadwy, ansawdd da yn hanfodol ar gyfer cymunedau teg, iach a llewyrchus yng Nghymru. Gwelais drosof fy hun y gwahaniaeth y mae cymdeithasau tai yn ei wneud i fywydau pobl ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fedru chwarae rhan wrth helpu Cartrefi Cymunedol Cymru a'i aelodau i ddatrys yr argyfwng tai yng Nghymru."

 

Dywedodd Clarissa Corbisiero, Dirprwy Brif Weithredydd a Chyfarwyddydd Polisi a Materion Allanol:

 

"Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn uchelgeisiol iawn i chwarae eu rhan i ddatrys yr argyfwng tai yng Nghymru. Rwy'n hynod falch fod Aaron a Rhea yn ymuno â'n tîm ehangach i gefnogi cymdeithasau tai a gwireddu'r uchelgais hwnnw drwy ychwanegu gwir nerth a thalent i'n gwaith gwneud polisi ac ymgyrchu."

 

Mae gwaith cyfredol CHC yn cynnwys dylanwadu ar weithrediad yr Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy yng Nghymru, lobio am newidiadau i'r polisi Credyd Cynhwysol; gweithio gyda Llywodraeth Cymru i asesu a gwella rheoliadau adeiladu a diogelwch tân, a gweithio gyda phartneriaid a Llywodraeth Cymru i greu'r amodau i gymdeithasau tai gyrraedd safonau dim carbon.

Cyhoeddi ffigurau Cyfrifon Cynhwysfawr ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru

08/05/2019

Rydym wedi cyhoeddi adroddiad Cyfrifon Cynhwysfawr heddiw sy'n dangos rôl hanfodol cymdeithasau tai i economi Cymru, gyda dros £2 biliwn wedi'u gwario yn 2017/18.

Comisiynwyd yr adroddiad mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, gan gasglu datganiadau ariannol gan 33 o'r cymdeithasau tai mwyaf yng Nghymru, sy'n dangos fod y sector tai cymdeithasol yng Nghymru yn parhau i dyfu.

Mae'r canlyniadau'n dangos sector ariannol gadarn gydag ymrwymiad a gallu clir i gefnogi darpariaeth tai fforddiadwy ledled Cymru, cyfrannu'n sylweddol i economi Cymru a helpu i liniaru effaith tlodi ar fywydau pobl. Dros y cyfnod hirach, gweledigaeth y sector tai cymdeithasol yw adeiladu 75,000 o gartrefi erbyn 2036 ac i wireddu'r uchelgais hwn, mae'r sector angen sylfeini ariannol cadarn gyda pherfformiad cydnerth flwyddyn-ar-flwyddyn.

Mae uchafbwyntiau allweddol yr adroddiad yn cynnwys:

  • £327m a fuddsoddwyd i ddatblygu cartrefi newydd yn 2017/18, cynnydd o bron 7% o 2016/17
  • Cynnydd o 5% mewn trosiant ar gyfer y sector, gyda £445m o hwnnw wedi'i fuddsoddi'n ôl i adfywio drwy gydol y flwyddyn
  • Mae'r sector yn awr yn berchen ac yn rheoli 162,439 o gartrefi
  • Roedd gwariant uniongyrchol cymdeithasau tai yng Nghymru yn £1.2bn yn 2018, gyda 84% o'r gwariant hwnnw wedi'i gadw yng Nghymru
  • Mae'r effaith cyflenwr anuniongyrchol yn golygu fod cyfanswm y cyfraniad i'r economi dros £2bn
  • Dangosir lefelau asedau cymdeithasau, llai dibrisiant, ar £7.4bn, cynnydd o 7.2% ers 2017
  • Mae lefelau cyfalaf a chronfeydd wrth gefn yn awr yn £1.16bn (2017: £1.07bn), gan ddangos yr hyder sydd gan fenthycwyr yn y sector tai cymdeithasol.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Mae'r ddogfen Cyfrifon Cynhwysfawr yn dangos sector gyda hanes clir o gyflenwi, ac uchelgais gynyddol i ddarparu'r cartrefi mae Cymru eu hangen i gartref da fod yn hawl sylfaenol i bawb.

"Mae'r adroddiad yn dangos ymrwymiad a gallu clir a pharhaus i gefnogi darpariaeth tai fforddiadwy ansawdd da ledled Cymru, ysgogi economi Cymru a helpu i liniaru effaith tlodi ar fywydau pobl.

"Mae'r Adolygiad o Dai Fforddiadwy yn rhoi cyfle pellach i greu amgylchedd ariannol a allai alluogi'r sector i gynyddu buddsoddiad, hybu gweithio partneriaeth a sicrhau fod punt a fuddsoddir mewn tai yn cael effaith ar draws Cymru."

Darganfyddwch mwy yma.

Ein hymateb i argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o Gyflenwad Tai Fforddiadwy

01/05/2019

Fe wnaethom alw am adolygiad o'r cyflenwad o dai fforddiadwy ym mis Tachwedd 2017 i alluogi cymdeithasau tai Cymru i gyflawni eu potensial llawn, a chyflawni uchelgais ein sector o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb.

 

Mae panel annibynnol yr Adolygiad o Gyflenwad Tai Fforddiadwy heddiw wedi cyflwyno eu hargymhellion i Lywodraeth Cymru yma. Mae papur gwybodaeth llawn hefyd ar gael yma

 

Mae ein hymateb islaw.

  

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

 

“Mae gan gymdeithasau tai uchelgais i adeiladu Cymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb, ac fe wnaethom alw am yr adolygiad hwn o'r cyflenwad o dai fforddiadwy ar ôl lansio'r weledigaeth honno ym mis Tachwedd 2017.

 

Mae Cymru'n wynebu llawer o heriau'n cynnwys mynd i'r afael â newid hinsawdd, cefnogi poblogaeth sy'n heneiddio ac adeiladu digon o gartrefi ar draws y genedl, ac roeddem yn glir fod angen newid sylweddol yn y ffordd yr adeiladwn gartrefi i ateb yr heriau hynny.

 

Rydym yn gefnogol iawn i gydnabyddiaeth y panel annibynnol bod angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mwy o adnoddau fel y gallwn adeiladu'r tai cymdeithasol fforddiadwy sydd eu hangen i ateb maint yr argyfwng tai yng Nghymru.

 

Mae'r panel wedi gweithio'n galed dros y deuddeg mis diwethaf, a diolchwn iddynt am eu hargymhellion manwl sydd wedi gosod rhai heriau ar bolisi rhent, grantiau a safonau ymysg meysydd eraill.

 

Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i roi fframwaith yn ei le sy'n darparu mwy o'r mathau cywir o gartrefi, sy'n fforddiadwy ac yn addas ar gyfer y dyfodol." 

CCC yn lansio partneriaeth diogelwch tân ar gyfer tai cymdeithasol Cymru

18/04/2019

Rydym yn falch i fod yn lansio partneriaeth gydlynol Prydain ar gyfer diogelwch tân yn y sector tai ei lansio yng Nghymru heddiw.

 

Sefydlwyd y Cynllun Prif Awdurdod mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fel ymateb i ffocws cynyddol ar ddiogelwch adeiladau.

 

Caiff y cynllun ei lansio yn dilyn bron flwyddyn o gydweithio rhwng y sector tai cymdeithasol yng Nghymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a bydd yn rhoi mynediad i gyngor am ddim ar orfodaeth diogelwch tân, materion cyfreithiol, cydymffurfiaeth a phrotocolau presennol i gymdeithasau tai yng Nghymru.

 

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

 

"Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn ymroddedig i sicrhau diogelwch tenantiaid ac mae ganddynt hanes cryf o lwyddiant mewn darparu gwasanaethau sy'n cynnwys esbonio mesurau diogelwch tân i breswylwyr a gosod systemau chwistrellu mewn adeiladau a godwyd eisoes.

 

Buom yn ymchwilio posibilrwydd sefydlu cynllun Prif Awdurdod Tân cydlynol ar gyfer cymdeithasau tai Cymru ers rhai blynyddoedd. Gyda diogelwch tân yn hollbwysig, daeth yn gynyddol angenrheidiol cael gwasanaeth o'r math hwn ac rydym yn hynod falch fod aelodau yn ymuno eisoes."

 

Dywedodd Huw Jakeway, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

 

"Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn falch iawn i gyhoeddi lansiad y cynllun Prif Awdurdod Tân mewn partneriaeth gyda Cartrefi Cymunedol Cymru.

 

"Hwn yw'r cynllun cydlynol cyntaf oll o'i fath yng Nghymru a bydd yn sicrhau safon uchel o reoleiddio cyson ar y Gorchymyn Diogelwch Tân.

 

"Edrychwn ymlaen at weithio gyda Cartrefi Cymunedol Cymru i gefnogi landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i weithredu mesurau gostwng risg, gan eu cynorthwyo i roi blaenoriaeth i'r gwaith sydd ei angen er budd eu busnesau eu hunain a'r gymuned yn ehangach."

Dod yn Gadeirydd neu Is-gadeirydd!

10/04/2019

Rydym yn chwillo am Gadeirydd ac Is-gadeirydd i redeg ein Grwpiau Cyflenwi Strategol.

Mae'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd yn gyfrifol am:

  • cefnogi arweinwyr CHC i ddatblygu cynllun gwaith
  •  gosod yr agenda a chadeirio cyfarfodydd (felly bydd angen i chi fod ar gael bob chwarter!)

Yn ôl am hyn cewch

  • hyfforddiant ar gadeirio effeithlon
  • dod i gysylltiad gyda sefydliadau eraill a'u gwaith
  •  cyfleoedd dysgu a datblygu a chyfle i rwydweithio

Cofiwch y gallwch ddarllen am ein Grwpiau Cyflenwi Strategol yma.

Diddordeb? Dyma ddywedodd Maxine Wiseman o Trivallis am ei phrofiad

“Ar hyd fy ngyrfa rwyf wedi pwyso am i Adnoddau Dynol gael ei gydnabod fel swyddogaeth busnes strategol. Mae bod yn Gadeirydd y Grŵp Cyflenwi Strategol Adnoddau Dynol wedi fy ngalluogi i weithio gyda swyddogion Adnoddau Dynol ar draws y sector i ddangos ein gwerth a gwneud cyfraniad ystyrlon i gyfeiriad strategol tai yng Nghymru, sydd yn ei dro o fudd i fy sefydliad fy hun.”

Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch e-bost at Borbala Martos 150 gair erbyn canol dydd ar 15 Ebrill os gwelwch yn dda yn esbonio pam fod gennych ddiddordeb yn y swydd, eich sgiliau a ph'un ai mewn sefyll ar gyfer swydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd y mae gennych ddiddordeb.

Aiff eich cais drwodd i bleidlais, a byddwn yn cadarnhau erbyn dechrau mis Mai.

Mae wefan Swyddi Tai Cymru nawr yn fyw!

18/03/2019

Cafodd safle peiriant chwilio cyntaf Cymru ar gyfer swyddi tai cymdeithasol Swyddi Tai Cymru ei lansio heddiw.

Mae Swyddi Tai Cymru yn gynllun ar y cyd rhwng Charity Job Finder a Cartrefi Cymunedol Cymru, a bydd yn cynnwys ystod eang o swyddi tai cymdeithasol o swyddi crefftwyr i leoedd ar fyrddau.

Mae sector tai cymdeithasol Cymru, sy'n cefnogi 23,000 o weithwyr cyflogedig amser-llawn ar hyn o bryd, yn anelu i adeiladu 75,000 o gartrefi erbyn 2036 a gwneud cartref da yn hawl sylfaenol i bawb.

Gyda 85% o'r swyddi fydd eu hangen ar gyfer 2030 heb eu creu hyd yma, mae'r sector yn awyddus i gryfhau ei weithlu i gyflawni nodau, yn cynnwys dod yn fwy arloesol gyda mwy o ffocws digidol.

Bydd y wefan yn targedu pobl sy'n chwilio am swyddi sydd â'r sgiliau cywir fel y gwyddant am y cyfleoedd sydd ar gael. Comisiynnwyd ymchwil sy’n dangos fod diffyg ymwybyddiaeth ymysg rhai sy'n chwilio am swyddi, gyda 34% heb fod erioed wedi ystyried gyrfa mewn tai o'r blaen.

I fynd i'r afael â chamsyniadau a hysbysu pobl tu allan i'r sector, bydd y wefan hefyd yn rhannu straeon cyflogeion fel y gall pobl glywed o lygad y ffynnon sut beth yw gyrfa mewn tai cymdeithasol.

Mae gan y sector tai cymdeithasol stori deniadol i'w dweud - yn 2018/2019 cyfrannodd £1.2 biliwn i economi Cymru. Mae cyfartaledd rhwng y rhywiau hefyd yn galonogol gyda nifer gyfartal o ddynion a menywod yn y cohort yn Brif Swyddogion Gweithredol. Mae hyn yn cymharu gyda'r cyfartaledd cenedlaethol sy'n dangos mai dynion fel arfer yw 73% o Brif Swyddogion Gweithredol.

I nodi lansiad Swyddi Tai Cymru, caiff cymdeithasau tai Cymru gynnig cyfnod prawf o ddau fis am ddim o heddiw ymlaen.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn SwyddiTai.Cymru ac admin@housingjobs.wales.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd CHC:

“Rydym yn sector egnïol ac uchelgeisiol yn llawn o bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth. Mae cymdeithasau tai Cymru yn trawsnewid ac yn addasu'n barhaus i ddiwallu anghenion sy'n newid, gan wneud yn siŵr fod busnesau yn gydnerth ac yn medru ymdopi gyda gofynion y dyfodol. Eto mae'n parhau'n her i ateb y gwarged o sgiliau sydd eu hangen ar draws y sector - ac mae angen i ni fynd i'r afael â hyn os dymunwn gyflawni ein nodau.

“Gyda dros 100 o wahanol fathau o swyddi ar gael yn y sector, bydd Swyddi Tai Cymru yn rhoi cyfle i ni gyrraedd pobl nad ydynt efallai yn sylweddoli beth y gallai gyrfa mewn tai cymdeithasol ei gynnig iddynt. Rydym yn falch iawn i lansio'r wefan, ac edrychwn ymlaen at ei gweld yn tyfu."

CHC yn ymateb i gyhoeddiad Plaid Cymru am anghenion tai

28/02/2019

Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi heddiw fod angen 20,000 o gartrefi pellach i ateb y galw yn y sector tai cymdeithasol yng Nghymru.

Daw'r cyhoeddiad gan Blaid Cymru wrth i ymgynghoriad gael ei lansio ar sut i ddatrys y broblem cyflenwad tai yng Nghymru, gyda Leanne Wood AC yn dweud fod angen 2,500 o gartrefi ychwanegol bob blwyddyn i ddiwallu anghenion tai fforddiadwy.

Dywedodd Aaron Hill, Rheolydd Materion Cyhoeddus Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Croesawn yr uchelgais a gyflwynwyd gan Blaid Cymru heddiw i ddiwallu anghenion tai yng Nghymru ac i gyflawni targedau am ddyfodol carbon isel. Ffocws cymdeithasau tai yng Nghymru yw'r uchelgais i adeiladu 75,000 o gartrefi newydd erbyn 2036 fel rhan o weledigaeth o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb, a rydym yn sefyll yn barod i weithio gyda phawb sy'n rhannu'r nod honno.

"Mae'r adolygiad o dai fforddiadwy a gynhelir gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd wedi rhoi cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i'r sector greu amgylchedd polisi i alluogi datblygiadau pellach ac arloesi, ac mae cefnogaeth barhaus a chyson i gymdeithasau tai yn allweddol i sicrhau ein bod yn trechu'r argyfwng tai."

CHC a'i ffederasiynau parhaus yn annog gwneud chwe newid i bolisi Credyd Cynhwysol

12/02/2019

Mae tua 76,000 o bobl yn hawlio Credyd Cynhwysol ledled Cymru ar hyn o bryd a'r budd-dal yn awr yw'r un awtomatig ar gyfer y rhan fwyaf o bobl oedran gwaith sydd angen cymorth ariannol.

Bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw y caiff hawlwyr cymwys eu trosglwyddo i'r system newydd erbyn diwedd 2023. Ar ddiwedd y broses yma, credir y bydd hyd at 500,000 o bobl yn hawlio Credyd Cynhwysol yng Nghymru.

Buom yn gweithio'n agos gyda'r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol, Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban a Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Gogledd Iwerddon (y pedair Ffederasiwn) i lobio llywodraeth am welliannau i'r Credyd Cynhwysol a'r system llesiant yn ehangach, cyn trosglwyddo hawlwyr budd-daliadau gwaddol  i'r Credyd Cynhwysol yn dechrau o ddifri yn 2020.

Yn dilyn trafodaethau gyda'n haelodau, rydym wedi cytuno ar set o chwe pheth yn ymwneud â llesiant y gofynnwn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig amdanynt, sef:

  • Diwedd ar yr aros 5 wythnos am arian. Dylai hawlwyr fedru gael taliad yng nghanol y cyfnod hwn a dylai fod mwy o hyblygrwydd ar amlder talu i bawb.
  • Mwy o rannu data rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a landlordiaid cymdeithasol, ac adfer cydsyniad ymhlyg fydd yn golygu y gall landlordiaid roi cefnogaeth well i denantiaid ac atal problemau. Mae hyn yn allweddol i lwyddiant ymfudo a reolir.
  • Lle caiff budd-dal ei dalu'n uniongyrchol i'r landlord, rydym angen system sy'n addas i'r diben gyda'r landlord derbyn y taliad yn yr un cylch â'r tenant.
  • Cynyddu cyllid ar gyfer cymorth a chyngor i wneud yn siŵr nad yw pobl yn colli hawl yn cynnwys caniatáu ôl-ddyddio ar gyfer mwy o hawliadau.
  • Gwneud yn siŵr fod gwaith yn talu i bawb drwy baru asesiadau misol gydag enillion o fewn y cyfnod hwnnw, gwella lwfansau gwaith a gostwng y tapr.
  • Adfer uwchraddio cysylltiedig â chwyddiant i fudd-daliadau oedran gwaith o fis Ebrill 2020.

Dywedodd Will Atkinson, Rheolwr Polisi a Rhaglenni Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Dros y flwyddyn ddiwethaf, ers i ni gyhoeddi ein gofynion blaenorol ynghyd â ffederasiynau tai partner, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi nifer o newidiadau a groesawir i'r Credyd Cynhwysol. Er y newidiadau hyn serch hynny, mae gwaith yn dal ar ôl i'w wneud, i fod yn siŵr bod y system yn addas i'r diben.

“Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn bryderus y bydd yn anodd cefnogi tenantiaid sy'n trosglwyddo i'r Credyd Cynhwysol, oherwydd diffyg gwybodaeth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Wrth i'r Credyd Cynhwysol symud tuag at y cam nesaf gydag Ymfudo a Reolir, rydym yn annog y Llywodraeth i ystyried ein gofynion fel dull i gefnogi tenantiaid a chymdeithasau tai gyda'r pontio, a gostwng y baich ar y naill a'r llall."

CHC yn ymateb i adroddiad anghenion tai Llywodraeth Cymru

30/01/2019

Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw wedi dangos y bydd angen cyfartaledd o 8,300 uned tai ychwanegol bob blwyddyn yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf.

Mae'r adroddiad, sy'n seiliedig ar ddull newydd o gyfrif yr angen a'r galw am dai yng Nghymru, yn dangos fod nifer y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru yn brin ar draws y wlad.

Fe wnaethom gomisiynu Beaufort Research ar gyfer ein hadroddiad diweddaraf ar effaith economaidd-gymdeithasol, sy'n dangos y rhagwelir y bydd cymdeithasau tai Cymru yn darparu mwy na 3,000 o gartrefi yn 2018/19. Ynghyd â'r 4,400 o gartrefi a ddarparwyd gan gymdeithasau tai Cymru dros y ddwy flynedd diwethaf, mae hyn yn rhoi'r sector ymhell ar y ffordd i sicrhau fod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei tharged o adeiladu 20,000 o gartrefi erbyn 2021, fel y cytunwyd yn ein cytundeb tai fforddiadwy.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Mae adroddiad heddiw'n dangos fod her sylweddol yn parhau i ddarparu'r cartrefi mae Cymru eu hangen yn y blynyddoedd i ddod. Mae'n uchelgais gan gymdeithasau tai uchelgais i 75,000 o gartrefi erbyn 2036, a gyda  chefnogaeth barhaus a chyson gan Lywodraeth Cymru, rydym yn hyderus y gallwn wireddu'r uchelgais honno.

Gyda disgwyl i'r Adolygiad o Dai Fforddiadwy wneud argymhellion i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ym mis Ebrill, mae gennym gyfle unigryw i sicrhau fod yr amodau'n iawn i gyflawni'r her a nodir yn adroddiad heddiw a chyflawni uchelgais a gaiff ei rhannu o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb."

CHC yn annog newidiadau i system wallus Credyd Cynhwysol wrth i denantiaid cymdeithasau tai wynebu bygythiad rhy ychydig o dâl

29/01/2019

Gallai tenantiaid cymdeithasau tai Cymru fod yn brin o wythnos o dâl rhent  oherwydd y ffordd y caiff system bresennol Credyd Cynhwysol ei threfnu.

Roedd costau tai'n cael eu talu'n wythnosol dan y system Budd-dal Tai, tra bod cylchoedd talu Credyd Cynhwysol yn fisol, a gaiff eu cyfrif drwy luosi taliad wythnosol gan 52 a'i rannu gan 12.

Mae'r rhan fwyaf o landlordiaid cymdeithasol yn casglu rhent bob dydd Llun - ac ym mlwyddyn rhent 2019/2020 bydd 53 o ddyddiau Llun. Mae hyn yn digwydd bob tua 5 mlynedd oherwydd bod blwyddyn arferol yn 52 wythnos ac un diwrnod, a blwyddyn naid yn 52 wythnos a 2 ddiwrnod.

Mae dros 13,000 o denantiaid tai cymdeithasol yn hawlio Credyd Cynhwysol yng Nghymru ar hyn o bryd. Bydd y tenantiaid hyn un wythnos yn brin o incwm y flwyddyn rhent hon, a bydd yn rhaid iddynt ddod o hyd i’r diffyg o ffynonellau eraill ar gyfer eu rhent ar y 53fed wythnos.

Rydym yn cynnig gwelliant i reoliadau'r Credyd Cynhwysol, fel mai'r fformiwla newydd ar gyfer cyfrif elfen tai misol y Credyd Cynhwysol yw cyfanswm y rhent blynyddol sy'n ddyledus, wedi ei rannu gan 12. Bydd hyn yn rhoi cefnogaeth lawn i denantiaid, faint bynnag o wythnosau rhent sydd yn y flwyddyn.

Dywedodd Will Atkinson, Rheolydd Polisi a Rhaglenni Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Cafodd y system Budd-dal Tai ei chynllunio i sicrhau y gall pobl ar incwm isel sy'n rhentu eu cartrefi fforddio talu eu rhent yn wythnosol. Mae Credyd Cynhwysol, y system sy'n ei olynu, ar hyn o bryd yn methu darparu'r gofyniad sylfaenol hwn ar gyfer tenantiaid.

Rydym yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i newid y fformiwla ar gyfer Credyd Cynhwysol, er mwyn sicrhau ei fod yn cynnwys pob taliad rhent.

Byddai'r newid syml hwn yn galluogi taliadau Credyd Cynhwysol i amrywio flwyddyn ar flwyddyn gyda nifer yr wythnosau rhent a lefelau rhent. Os yw'r system yn aros fel y mae, bydd angen i denantiaid ganfod ffynonellau eraill o incwm, ac os na allant ddod o hyd i'r arian byddant yn mynd i ôl-ddyled heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain."

CHC yn cyhoeddi adroddiad ar effaith economaidd-gymdeithasol

15/01/2019

Mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos rôl hollbwysig cymdeithasau tai Cymru i'r economi yng Nghymru. Fe wnaethom gomisiynu Beaufort i gasglu data gan gymdeithasau tai Cymru ar gyfer yr adroddiad economaidd-gymdeithasol diweddaraf.

Mae'r dangos yn dangos:

  • Y gwariwyd dros £1.2 biliwn yn 2017/18, 13.5% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.
  • Bod 84% o'r holl wariant gan gymdeithasau tai yng Nghymru wedi aros yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.
  • Roedd y gwerth ychwanegol gros i economi Cymru yn £886 miliwn, 20% yn uwch na'r llynedd.
  • Cafodd 23,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn eu cefnogi gan y sector tai - cynnydd o 4.5% ers 2016/17.
  • Gwariwyd £4 miliwn ar hyfforddi tenantiaid gyda 8,000 o bobl yn derbyn datblygiad cyflogadwyedd a sgiliau

Dywedodd Clarissa Corbisiero-Peters, Cyfarwyddydd Polisi a Dirprwy Brif Weithredydd Cartrefi Cymunedol:

 “Mae'r adroddiad hwn yn dangos fod cymdeithasau tai Cymru ynddi ar gyfer yr hirdymor, ac unwaith eto'n rhoi hwb economaidd a chymdeithasol mewn cymunedau lleol ar draws y wlad. Arhosodd 84c o bob £1 gan gymdeithasau tai Cymru yng Nghymru y llynedd ac mae'r buddsoddiad hwn wedi'i wreiddio mewn ardaloedd lleol yn bwysicach nag erioed.

Mae'r adolygiad sy'n mynd rhagddo ar y cyflenwad o dai fforddiadwy yn rhoi cyfle i sicrhau ein bod yn creu amgylchedd polisi sy'n galluogi cymdeithasau tai i gyflawni ein gweledigaeth o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb."

Darllenwch yr adroddiad llawn yma.

CCC yn ymateb i cyhoeddiad Adran Gwaith a Phensiynau

11/01/2019

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyhoeddi cynlluniau i roi'r gorau i derfyn budd-daliadau ar deuluoedd gyda mwy na dau blentyn, a aned cyn cyflwyno'r system ym mis Ebrill 2017.

Ar hyn o bryd mae 68,000 o bobl yn hawlio Credyd Cynhwysol yng Nghymru, ac mae plant gan draean ohonynt. Daeth y terfyn dau blentyn ar Gredyd Treth Plant ac Elfen Plant y Credyd Cynhwysol i rym ym mis Ebrill 2017 ar gyfer teuluoedd gyda thrydydd plentyn neu blant dilynol a aned ar ôl y dyddiad hwnnw.

Y llynedd daeth CHC ynghyd â'n partneriaid y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol, Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban a Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Gogledd Iwerddon, i alw ar y Llywodraeth i newid diffygion sylfaenol gyda'r Credyd Cynhwysol a dileu y 'polisi dau blentyn'.

Dywedodd Will Atkinson, Rheolydd Polisi a Rhaglenni: "Er ein bod yn croesawu cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau y byddir yn diddymu ymestyn y terfyn dau blentyn i deuluoedd mwy na dau blentyn a anwyd cyn mis Ebrill 2017, rydym yn annog y Llywodraeth i ymestyn hyn i bob teulu arall hefyd. Mae'r terfyn dau blentyn yn elfen allweddol mewn tlodi plant. Gyda bron i un ym mhob tri o blant Cymru yn byw mewn tlodi, byddwn yn parhau i weithio gyda'r ffederasiynau sy'n bartneriaid i ni i fynd i'r afael â'r materion hyn ar ran tenantiaid y mae'r polisi dau blentyn yn eu gwthio i dlodi."

CCC yn ymateb i benodi'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

13/12/2018

Heddiw, cyhoeddodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, ei gabinet newydd.

Meddai Stuart Ropke, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Rydym yn croesawu penodiad Julie James fel Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol. Mae trychiad tai i fwrdd y cabinet yn atgofiad amserol o bwysigrwydd tai da i ffyniant Cymru yn y dyfodol.

Mae'r Adolygiad o Dai Fforddiadwy yn rhoi cyfle enfawr i'r Gweinidog a'i Dirprwy, Hannah Blythyn, greu amgylchedd polisi hirdymor sy'n caniatáu i gymdeithasau tai barhau i adeiladu'r cartrefi sydd eu hangen ar Gymru.

Edrychwn ymlaen at gyfarfod â'r tîm Gweinidogol newydd a gweithio gyda hwy tuag at ein gweledigaeth o Gymru lle mae tai da yn hawl sylfaenol i bawb. " 

CHC yn cyhoeddi lansiad podlediad newydd

06/12/2018

Mae CCC yn hapus i gyhoeddi ein podlediad newydd: 'Trafod Tai'.

Fydd y bodlediad yn trafod materion sy'n effeithio ar dai cymdeithasol, gan ddangos fod y sector yn ymwneud â mwy na dim ond brics a morter. Bydd pob pennod yn anelu dangos sut mae'r sector tai yng Nghymru yn adeiladu cymunedau a pharatoi pobl ar gyfer y dyfodol.

Yn y bennod gyntaf, bydd y cyflwynwyr Will Atkinson a Catrin Harries yn siarad gyda Darren McGarvey, sylwebydd cymdeithasol ac enillodd y llyfr Poverty Safari a enillodd wobr Orwell. Mae'r sgyrsiau'n cynnwys materion sy'n effeithio ar y sector tai yng Nghymru a thu hwnt, gan roi sylw i lesiant, iechyd ac addysg ymysg pethau eraill.

Lawrlwythwch a chofrestrwch ar gyfer y podlediad yma.

Am rhagor o wybodaeth, cysylltwch gyda Catrin Harries ar catrin-harries@chcymru.org.uk

Yr Adolygiad o Dai Fforddiadwy Cymru yn "gyfle unwaith mewn cenhedlaeth"

15/11/2018

Cartrefi Cymunedol Cymru yn annog y panel Adolygiad o Dai Fforddiadwy Cymru i fod yn feiddgar, dewr a meddwl am yr hirdymor mewn argymhellion i gyflawni'r nod o 75,000 o gartrefi erbyn 2036

Ym mis Tachwedd 2017 galwodd Cartrefi Cymunedol Cymru am adolygiad o bolisi tai fforddiadwy yng Nghymru i alluogi cymdeithasau tai i gyflawni eu potensial llawn.

Caiff yr adolygiad yn awr ei arwain gan banel annibynnol dan gadeiryddiaeth Lynn Pamment, Uwch Bartner ac Arweinydd Llywodraeth Gwasanaethau a Cyhoeddus swyddfa Caerdydd PWC. Ar  ôl ymgynghori gyda 200 o aelodau staff a byrddau cymdeithasau tai, cyflwynodd Cartrefi Cymunedol Cymru eu hymateb i'r adolygiad ym mis Medi.

Mae'r panel yn awr yn y broses o lunio argymhellion o dystiolaeth a gyflwynwyd o bob rhan o'r sector, a gyhoeddir ym mis Ebrill.

Wrth siarad yng Nghynhadledd Flynyddol Cartrefi Cymunedol  Cymru dywedodd Stuart Ropke y Prif Weithredydd fod hyn yn "gyfle unwaith mewn cenhedlaeth" i drawsnewid polisi tai Cymru a galluogi cymdeithasau tai i gyflawni eu nod o 150,000 o swyddi a 75,000 o gartrefi erbyn 2036. Yn ei araith gyweirnod, anogodd y panel i argymell y dilynol:

  • Rhoi hyblygrwydd i gymdeithasau tai osod eu polisi rhent eu hunain yn yr hirdymor - gyda rhenti'n cael eu gosod yn lleol ar lefel fforddiadwy
  • Codi'r cap benthyca ar gyfer awdurdodau lleol ac agor cyfleoedd ar gyfer gweithio partneriaeth
  • Gofyn i'r Llywodraeth roi sicrwydd am sgiliau ac adeiladu yn dilyn Brexit

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Un peth sy'n glir yw gallu a dymuniad cymdeithasau tai i gyflawni dros bobl Cymru. Pan wnaethom lansio ein gweledigaeth o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb, fe wnaethom osod her i Lywodraeth Cymru sydd wedi arwain at yr Adolygiad Annibynnol o Bolisi Tai yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth Lynn Pamment. Mae'r Adolygiad yn rhoi cyfle i ni fynd i'r afael â'r materion sy'n wynebu'r sector tai a chyflawni ein nod o ddarparu 75,000 o gartrefi newydd erbyn 2036.

Gan gydweithio, mae gan gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol y capasiti a'r uchelgais i fynd â'r maen i'r wal wrth drechu'r argyfwng tai yng Nghymru. Mae'r Adolygiad yn cynnig cyfle i ddarparu fframwaith lle daw cymdeithasau tai a llywodraeth ynghyd i gyflawni ein gweledigaeth.”

Darllenwch araith llawn Stuart yma.

CHC yn ymateb i'r adroddiad ar y Credyd Cynhwysol

06/11/2018

Ddoe cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig adroddiad Pwyllgor Ymgynghori Nawdd Cymdeithasol (SSAC) ar ôl iddynt graffu ar y rheoliadau ymfudo a reolir ar gyfer y Credyd Cynhwysol. Fel rhan o'r gwaith craffu ar y rheoliadau, fe wnaethant gynnal ymgynghoriad gydag argymhellion ar sut y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig gynnal ymfudiad a reolir. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi derbyn mwyafrif helaeth yr argymhellion ac yn edrych ar eu gweithredu.

Y prif newidiadau a ddaeth allan o'r adroddiad yw:

  • Bydd ymfudo a reolir yn dechrau ym mis Gorffennaf 2019 (dim gyda phrofion yn Ionawr 2019 fel a nodwyd yn flaenorol), gan olygu mai dim ond 10,000 gaiff eu hymfudo cyn 2020.
  • Caiff rhai sy'n hawlio budd-daliadau gwaddol sy'n cael eu hymfudo bellach dri mis ar gyfer hawlio Credyd Cynhwysol cyn y daw eu budd-daliadau gwaddol i ben, dim ond un mis a roddid mewn cynlluniau blaenorol.
  • Bydd hawlwyr a ymfudir yn awr yn medru diweddaru eu hawliad Credyd Cynhwysol am hyd at un mis os ydynt yn methu'r dyddiad cau i hawlio Credyd Cynhwysol.

Mae'r ymateb i'r adroddiad hefyd yn dweud fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn fodlon cynnal trafodaethau pellach ar rannu data rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a chymdeithasau tai er mwyn eu helpu i gefnogi tenantiaid a all fod ar fin cael eu hymfudo.

Mae hyn i gyd yn ychwanegol at gyhoeddiadau'r gyllideb, sef:

  • Rhediad ymlaen dwy wythnos ar y Lwfans Ceisio Gwaith/Lwfans Cyflogaeth a Chymorth/Cymhorthdal Incwm, a weithredwyd o fis Gorffennaf 2020.
  • Gostyngiad yn uchafswm cyfradd Didyniadau Trydydd Parti y gellir eu tynnu o ddyfarniad Credyd Cynhwysol. Gostyngir o 40% o lwfans safonol i 30%, a weithredwyd o fis Hydref 2019.
  • Ymestyn y cyfnod ar gyfer adennill blaendaliadau, wedi cynyddu i 16 mis o 12 mis. Gweithredir o fis Hydref 2021
  • Cynyddu lwfans gwaith gan £1000.
  • Ymestyn y cyfnod o ras 12 mis ar gyfer hawlwyr hunangyflogedig. Gweithredir yn llawn o fis Medi 2020.

Bu CHC yn gweithio'n agos gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau ac Aelodau Seneddol o bob plaid i amlygu heriau Credyd Cynhwysol ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru. Bydd ein gwaith ar y maes yma'n parhau wrth i ni gefnogi aelodau drwy'r broses ymfudo a reolir.

Dywedodd Will Atkinson, Rheolwr Polisi a Rhaglenni Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Rydym yn croesawu'r newidiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i'r cynllun i ymfudo hawlwyr presennol budd-daliadau a chredydau treth i'r Credyd Cynhwysol. Cafodd nifer o welliannau a gynigiwyd gan gymdeithasau tai yng Nghymru eu mabwysiadu, yn cynnwys ymestyn y cyfnod sydd gan bobl i hawlio Credyd Cynhwysol cyn y daw eu budd-daliadau presennol i ben.

“Rydym hefyd yn croesawu ymagwedd fwy pwyllog at ddechrau'r broses ymfudo a reolir, gyda nifer fach o hawlwyr i gael eu trosglwyddo yn y chwe mis cyntaf. Bydd y gwelliannau hyn yn helpu i atal hawlwyr rhag bod ar eu colled yn ariannol yn ystod y broses ymfudo. Edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau fod y broses yn llawn addas i'r diben cyn ei gweithredu ym mis Gorffennaf 2019."

CCC yn ymateb i Gyllideb Llywodreath y DU 2018

29/10/2018

Mae Cyllideb Llywodraeth y DU heddiw wedi gweld Canghellor y Trysorlys Philip Hammond yn datgelu ei gynlluniau gwario ar gyfer 2019/20, gan gynnwys nifer o gyhoeddiadau mawr ar wariant tai a lles. Mae cyhoeddiadau mawr yn cynnwys:

  •  £1 biliwn o fuddsoddiad dros bum mlynedd i helpu cefnogi ymfudo hawlwyr Credyd Cyffredinol
  •  Tynnu'r cap benthyca refeniw tai ar gyfer Awdurdodau Lleol yng Nghymru a Lloegr
  •  £550m mewn cyllid canlyniadol ychwanegol i Lywodraeth Cymru
  •  £120m o gyllid ar gyfer y Fargen Twf Gogledd Cymru

Mae dogfennau'r Gyllideb yn cadarnhau y bydd y buddsoddiad o £1 biliwn yn Credyd Cyffredinol yn gweithredu rhedeg Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Cymhorthdal Incwm a Lwfans Ceisio Gwaith ymlaen am ddwy wythnos, yn ogystal â gostyngiad mewn didyniadau trydydd parti o 40% i 30%. Mae yna £ 1.7bn ychwanegol hefyd i gynyddu lwfansau gwaith Credyd Cyffredinol o £ 1,000 o Ebrill 2019. Fodd bynnag, cadarnhaodd dogfennau'r Gyllideb na fyddai unrhyw newid yn y dyddiad cyflwyno ar gyfer mudo a reolir.

Wrth ymateb i'r gyhoeddiad heddiw dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Rydym yn croesawu buddsoddiad pellach i gefnogi hawlwyr Credyd Cyffredinol. Mae hyn yn gydnabyddiaeth na ellir cyflwyno diwygiad mawr fel Credyd Cyffredinol yn llwyddiannus tra'n torri arian. Fodd bynnag, rydym yn siomedig nad yw Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi oedi ymfudo a reolir, a fydd yn mynd ymlaen fel y cynlluniwyd ym mis Gorffennaf. Rydyn ni'n ofni y bydd hyn yn parhau i achosi caledi dianghenraid trwy wthio pobl ymhellach i ddyled.

"Mae'r arian cyfalaf newydd sydd ar gael i Gymru o ganlyniad i’r gyllideb heddiw yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru gynnal buddsoddiad cyson, wrth adeiladu tai fforddiadwy newydd dros y blynyddoedd i ddod. Mae gwneud hynny yn sicrhau ein bod yn gallu cyrraedd ein targed o ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn nhymor y Cynulliad hwn. Bydd hyn hefyd yn ein helpu i gyflawni'r uchelgeisiau a amlinellwyd yng ngweledigaeth cymdeithasau tai - 'Gorwelion Tai' - i greu Cymru lle mae tai da yn hawl sylfaenol i bawb."

Darllenwch papur gwybodaeth manwl o Cyllideb Llywodraeth y DU yma.

CCC yn datgelu bod Credyd Cynhwysol yn gwthio tenantiaid cymdeithasau tai Cymru i £2m o ddyled

12/10/2018

Mae ffigurau newydd yn dangos fod tenantiaid cymdeithasau tai Cymru sy'n derbyn Credyd Cynhwysol mewn gwerth £2.282m o ddyled - cynnydd o 150% ers mis Rhagfyr 2017.

Fe wnaethom gomisiynu ymchwil o bron i 7,000 o bobl sy'n dangos fod ôl-ddyledion rhent cyfartalog tenant sy'n hawlio Credyd Cynhwysol bellach yn £434, wedi codi o £420 ym mis Rhagfyr 2017.

Cafodd y polisi Credyd Cynhwysol, sy'n uno chwe budd-dal mewn un, ei ymestyn i 11% o hawlwyr yng Nghymru. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu trosglwyddo 350,000 yn fwy o aelwydydd sy'n hawlio budd-daliadau ar hyn o bryd i'r Credyd Cynhwysol rhwng mis Gorffennaf 2019 a 2023.

Dengys data a gafwyd gan Opinion Research Service nad oedd 23% o denantiaid sydd ag ôl-ddyledion ar hyn o bryd yn y sefyllfa hon cyn symud i'r Credyd Cynhwysol.

Rydym yn bryderus y gallai'r cynlluniau wthio nifer sylweddol fwy o denantiaid i ddyled os na wneir newidiadau i'r polisi.

Rydym yn galw ar yr Adran Gwaith a Phensiynau i ohirio ac ailystyried cynlluniau i sicrhau fod y polisi yn addas i'r diben cyn ei ymestyn yn llawn.

Dywedodd Will Atkinson, Rheolydd Polisi a Rhaglenni:

"Mae effaith Credyd Cynhwysol yn glir er mai dim ond i 11% o'r hawlwyr yng Nghymru mae wedi ei ymestyn ar hyn o bryd. Mae tenantiaid yn cael anhawster clirio ôl-ddyledion rhent a achoswyd gan sioc ariannol ddechreuol hawlio Credyd Cynhwysol, er bod cymdeithasau tai yn gwneud eu gorau i gefnogi tenantiaid gyda chefnogaeth a chyngor ar drefnu arian.”

CHC yn ymateb i gyhoeddiad ar Gyllideb Llywodraeth Cymru

02/10/2018

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei gyllideb ar gyfer 2019/10 heddiw gyda Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, yn cadarnhau y caiff cyllid ar gyfer digartrefedd a Cefnogi Pobl ei glustnodi tan ddiwedd tymor hwn y Cynulliad.

Mae'r cyhoeddiad yn dilyn ymgyrch genedlaethol Materion Tai Cymru a gafodd ei arwain gan Cartrefi Cymunedol Cymru a Cymorth Cymru mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill. Mae'r ymgyrch yn cynnig creu grant newydd Digartrefedd a Chymorth Cysylltiedig â Thai sy'n cynnwys cyllid ar gyfer Cefnogi Pobl a'r Grant Atal Digartrefedd, ac rydym yn hynod falch y cafodd y cynnig ei fabwysiadu.

Ynghyd â'r cyhoeddiad ar ddigartrefedd a chyllid cymorth, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Cyllid y byddai'n darparu £35m o gyllid ychwanegol drwy'r Grant Tai Cymdeithasol i gyflawni Llywodraeth Cymru o 20,0900 o dargedi.

Gan ymateb i gyhoeddiad heddiw dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Ar amser pan mae cyllidebau yn dyn a phwysau ariannol yn effeithio ar wasanaethau, rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i ddiogelu cyllid ar gyfer digartrefedd a chymorth cysylltiedig â thai yng Nghymru. Rydym wedi gweithio'n agos gyda'n haelodau, gwleidyddion a gweision sifil dros y flwyddyn ddiwethaf i ddatblygu cynnig adeiladol yn lle'r cynigion blaenorol a bydd cyhoeddiad heddiw yn cael ei groesawu gan bawb a ymunodd â ni yn yr ymgyrch Materion Tai.

Bydd y penderfyniad yn rhoi mwy o sefydlogrwydd a sicrwydd i gymdeithasau tai i gynllunio gwasanaethau ar gyfer yr hirdymor a'n galluogi i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i adolygu a gwella ar wasanaethau cyfredol.

CHC yn ymateb i gyhoeddiad cyllid yr Adran Gwaith a Phensiynau ar Gymorth Cynhwysol

01/10/2018

Cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig fore heddiw y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cyllido Cyngor Ar Bopeth i ddarparu Cymorth Cynhwysol o fis Ebrill 2019.

Cynlluniwyd Cymorth Cynhwysol i gefnogi tenantiaid i baratoi am y Credyd Cynhwysol drwy gynnig cyngor ar lythrennedd digidol a thrin arian, i gynorthwyo gyda throsglwyddo i system ddigidol ac un taliad misol.

Mae gan gymdeithasau tai berthynas agos gyda Cyngor Ar Bopeth, gan weithio mewn partneriaeth i gefnogi tenantiaid sy'n wynebu problemau a achoswyd gan y Credyd Cynhwysol.

Croesawn gyhoeddiad heddiw, fodd bynnag mae rhai cymdeithasau tai yng Nghymru yn darparu Cymorth Cynhwysol i'w tenantiaid ac mae llawer o alw am y cymorth hwnnw lle mae ar gael. Credwn y dylai cyllid Cymorth Cynhwysol gael ei gomisiynu'n agored i alluogi cymdeithasau tai i gael mynediad i gyllid lle mae nhw fyddai yn y sefyllfa orau i gefnogi eu tenantiaid.

Yn gynharach eleni buom yn gweithio gyda'r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol, Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban a Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Gogledd Iwerddon i alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i newid gwallau sylfaenol gyda'r Credyd Cynhwysol.

Dywedodd Will Atkinson, Rheolydd Polisi a Rhaglenni: "Gall hawlio Credyd Cynhwysol godi ofn ar lawer o bobl sydd efallai heb unrhyw brofiad o ddefnyddio cyfrifiadur neu drefnu eu harian ar sail fisol. Mae'n bwysig fod Cymorth Cynhwysol ar gael i hawlwyr pan maent ei angen. Bu'n effeithiol iawn lle mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn cynnig Cymorth Cynhwysol ar hyn o bryd oherwydd y berthynas dda sy'n bodoli eisoes rhwng landlord a thenant. Credwn y dylai'r cyfle i ddarparu'r gwasanaeth fod ar gael i bob cymdeithas tai lle mae hynny'n addas."

CHC yn gwahodd ymateb i ddrafft Gynllun Corfforaethol 2019-2022

01/10/2018

Bydd ein cynllun corfforaethol ar gyfer y tair blynedd nesaf yn cefnogi cyflenwi ein gweledigaeth Gorwelion Tai o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb.

Fel bob amser, ein nod yw eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael, i'ch cefnogi drwy gyfnodau heriol a bod yn llais cryf ar y materion sy'n bwysig i chi.

Bydd ein ymgynghoriad gyda'r sector yn canolbwyntio ar y pedair blaenoriaeth strategol allweddol ddilynol ar gyfer ein Cynllun Corfforaethol 2019-22:

  • Dylanwadu ar amgylchedd gweithredu ein haelodau
  • Dweud stori'r sector
  • Darparu gwasanaethau ardderchog i aelodau
  • Paratoi aelodau ar gyfer y dyfodol

Fel rhan o'n hymgynghoriad, hoffem eich barn ar y dilynol:

  • A ydym yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau strategol cywir?
  • A oes unrhyw beth ar goll?
  • A yw'n ddigon uchelgeisiol?
  • Beth fydd yn cael yr effaith fwyaf ar eich sefydliad?
  • Sut olwg fydd ar lwyddiant?
  • Pa elfen sydd fwyaf cyffrous i chi?

Atebwch y cwestiynau dilynol a'u dychwelyd at Julia Sorribes erbyn 5pm ar 26 Hydref os gwelwch yn dda.

Ymunwch â'n gweminar i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y themâu allweddol yng Nghynllun Corfforaethol 2019-2022 CHC. Bydd y weminar yn gyfle i ofyn cwestiynau, rhoi adborth a dweud eich barn ar waith eich corff aelodaeth.

CCC yn cyhoeddi cynnig newydd i Aelodau Bwrdd

21/09/2018

Mae Cymdeithasau Tai yng Nghymru yn denu pobl fedrus, angerddol, sy'n gwneud eu cymunedau'n well ac yn gyrru eu busnesau ymlaen.

Mae'r busnesau y maent yn eu gwasanaethu yn gymhleth ac nid yw'r pwysau ar fyrddau erioed wedi bod yn fwy.

Rydym wedi bod yn siarad ag aelodau'r bwrdd i nodi'r cymorth allweddol sydd ei angen i wneud eu gwaith yn fwy effeithiol ac mae ein cynnig newydd i aelodau'r bwrdd yn ganlyniad o'r sgyrsiau hyn.

Mae ein cynnig newydd yn amlinellu beth gall aelodau'r bwrdd ei ddisgwyl am eu haelodaeth, ac hefyd yn cefnogi'r argymhellion Llywodraeth Cymru yn 'Y Pethau Iawn – Gwella trefniadau llywodraethu cymdeithasau tai yng Nghymru.'

Lawrlwythwch ein cynnig nawr sy'n amlinellu pa aelodau y gall aelodau'r bwrdd ei ddisgwyl gan eu haelodaeth a sut y byddwn yn dylanwadu, cysylltu, cefnogi a hysbysu.

CCC yn cyhoeddi ymateb i'r Adolygiad Tai Fforddiadwy

20/09/2018

Tystiolaeth i'r adolygiad o dai fforddiadwy yn dangos y bydd mwy o hyblygrwydd a chydweithio yn galluogi cymdeithasau tai Cymru i ateb yr uchelgais am gyflenwad

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru heddiw wedi cyhoeddi ei ymateb i'r Galwad am Dystiolaeth gan yr Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy yng Nghymru.

Galwodd corff aelodaeth cymdeithasau tai Cymru am yr Adolygiad ym mis Tachwedd i alluogi cymdeithasau tai Cymru i gyflawni ei weledigaeth i adeiladu 75,000 o gartrefi erbyn 2036.

Mae ymateb CHC yn  cynnwys cyfraniad gan dros 200 o bobl a weithiodd yn y sector tai yng Nghymru. Mae'r dystiolaeth yn datgelu nifer o rwystrau i ddiwallu'r angen am dai, yn cynnwys y system cynllunio, prinder sgiliau a'r dull presennol o ddosbarthu grantiau.

Casgliad y corff aelodaeth yw fod angen mwy o hyblygrwydd a chydweithio i alluogi'r sector i gyflawni ei weledigaeth o adeiladu 75,000 o gartrefi erbyn 2036.

Mae CHC wedi dynodi cyfleoedd i gymdeithasau tai uchafu eu potensial i gyflawni'r weledigaeth.

Mae hyn yn cynnwys galw am i gymdeithasau tai gael mwy o hyblygrwydd wrth osod rhenti; mwy o gydweithio i oresgyn prinder sgiliau ac ymestyn capasiti ariannol; cyrff sector cyhoeddus i gynnig mwy o dryloywder ar argaeledd tir a'r potensial i gyrff trosglwyddo stoc adeiladu o leiaf 3,000 o gartrefi ychwanegol drwy sicrwydd hirdymor am eu cyllid.

Dywedodd Aaron Hill, Cyfarwyddydd Cynorthwyol Polisi a Materion Cyhoeddus Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Fe wnaethom alw am yr Adolygiad o Dai Fforddiadwy yng Nghymru er mwyn adeiladu amgylchedd polisi sy'n galluogi cymdeithasau tai i gyflawni gweledigaeth 'Gorwelion Tai' o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb , ac rydym yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi mynd â'r maen i'r wal a mynd ati i gomisiynu'r adolygiad.

“Rydym yn sector gydag uchelgeisiau enfawr, ond nifer o heriau a rhwystrau i'w goresgyn i'w cyflawni. Dengys ymateb y sector i Alwad Dystiolaeth y Panel Annibynnol ei bod yn hollol hanfodol ein bod yn esblygu ac addasu'r ffordd y gweithiwn neu mae perygl y bydd yr argyfwng tai yn parhau  ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Mae ein hargymhellion yn anelu bod yn adeiladol ac uchelgeisiol, a chynnig datrysiadau gwirioneddol. Os cânt eu gweithredu, gobeithiwn y byddant yn ein paratoi i fod hyd yn oed yn gryfach a chadarnach fel sector, fel y gallwn ateb y galw am gyflenwad tai a chreu'r cartrefi ansawdd uchel a fforddiadwy mae Cymru eu hangen."

Cyflwynodd nifer o sefydliadau o bob rhan o Gymru dystiolaeth i Banel Annibynnol yr Adolygiad o Dai Fforddiadwy a gaiff ei gadeirio gan Lynn Pamment, uwch bartner ac Arweinydd Llywodraeth a Gwasanaethau Cyhoeddus PWC.

Caiff casgliadau cynnar y dystiolaeth eu datgelu ym mis Tachwedd yng Nghynhadledd Flynyddol Cartrefi Cymunedol Cymru, a chyhoeddir yr argymhellion terfynol ym mis Ebrill.

CHC responds to funding plans for short term accommodation

09/08/2018

The UK Government has this morning confirmed that housing benefit will be kept in place for all those living in supported housing. This means that proposals to devolve funding for short term accommodation in Wales, and proposals for a Sheltered Rent in England have been dropped.

Our members have been clear this is the most effective way to protect services

We warmly welcome today’s announcement, which ends a three year period of uncertainty for providers and landlords of the forty thousand units of supported accommodation across Wales.  They have now regained the confidence to sustain and develop life changing services. 

We strongly opposed the proposal to localise housing costs funding for supported accommodation and we are heartened that UK Government has listened to our call.

The proposed review of funding for housing related support in England is similarly welcome, acknowledging the impact of the loss of the ring fence on Supporting People in England.

In Wales, we are continuing to work with Welsh Government and partners to secure housing related support funding under the proposals laid out in the Housing Matters report. 

Responding to today’s announcement, Community Housing Cymru Chief Executive, Stuart Ropke said:

“Supported accommodation in Wales includes homeless hostels, women’s refuges and sheltered accommodation for older people. The services support people off the streets, to live independently and save lives. 

"Funding housing costs through Housing Benefit will give landlords and support providers the confidence  to continue to sustain and develop housing schemes, ensuring that the residents are receiving the best accommodation possible.

"We must now ensure funding for support is equally protected, through the creation of a Welsh Homelessness & Housing Related Support grant as we have proposed alongside nine other organisations in our Housing Matters report.”

Gwobr Creu Creadigrwydd Pat Chown 2018

06/08/2018

Deunaw mlynedd yn ôl, sefydlodd Cartrefi Cymunedol Cymru gynllun Gwobr i gydnabod arloesedd tai er cof am berson arbennig - Pat Chown. Rhoddodd Pat ran helaeth o'i bywyd i helpu eraill a threuliodd lawer o'i gyrfa yn helpu i ddiwallu anghenion tai pobl yng Nghymru.

Fel ffordd o gofio am Pat, ei chyfraniad  i'r sector tai a'i hymdrechion cyson i chwilio am ffyrdd gwell o wneud pethau, mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn gwahodd cynigion ar gyfer Gwobr Creu Creadigrwydd.

Nod y Wobr yw cydnabod arloesedd:

Ffyrdd newydd i ymateb i faterion dydd-i-ddydd.
Syniadau gwirioneddol newydd am ddelio gyda phroblemau cyffredin.
Ffordd llawer rhwyddach o drin hen broblem.

Bydd beirniaid y Wobr yn edrych am gynigion sy'n dangos fod y prosiect wedi torri tir newydd.

Dim ond prosiectau a sefydlwyd ddim mwy na ddwy flynedd yn ôl sy’n gymwys i wneud cais.

Mae enillwyr blynyddoedd blaenorol yn cynnwys:

Newydd
Tai Siarter
YMCA Caerdydd
Cyrenians/Caer Las Cymru
Tai Cymunedol Bron Afon
GrEW
Solas

Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr, cyfraniad o £1,000 i'w dewis o elusen seiliedig yng Nghymru, a chyhoeddir enw'r enillydd yng Nghynhadledd Tai Fawr CHC ym mis Hydref.

I gynnig am Wobr eleni, llenwch a llofnodi'r ffurflen gais a'i hanfon at julia-sorribes@chcymru.org.uk erbyn 9am dydd Gwener 7 Medi 2018. Llunnir rhestr fer o 3 cynnig gorau a byddwn wedyn yn cysylltu gyda'r sector i ofyn am help wrth ddewis yr enillydd terfynol.

CHC yn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar addasiadau tai

26/07/2018

Cafodd adroddiad ei gyhoeddi heddiw gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn edrych ar addasiadau tai yng Nghymru.

Mae'n dilyn adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru yn gynharach eleni, a adroddodd lefelau bodlonrwydd uchel gan y rhai a dderbyniodd waith addasu i'w cartrefi, ond pryderon am gysondeb ac effeithlonrwydd y dull gweithredu presennol.

Yn adroddiad heddiw, canfu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod y system bresennol yn gymhleth tu hwnt ac nad yw cyrff cyhoeddus yn manteisio ar y cyfleoedd i wella effeithiolrwydd cost. Mae hefyd yn amlygu fod y system bresennol ar gyfer darparu gwaith addasu yn cynyddu anghydraddoldeb ar gyfer rhai pobl anabl a phobl hŷn, ac mae'r gwahanol ffynonellau o gyllid yn ei gwneud yn gymhleth i drin angen. Yn bwysig iawn, mae'r gwahaniaethau hyn yn golygu  fod pobl gydag anghenion tebyg yn derbyn gwahanol safonau gwasanaeth oherwydd dewisiadau polisi cyrff cyhoeddus.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad nad yw'r system yn darparu ar gyfer y rhai sydd ei angen ac nad yw cyrff cyhoeddus yn manteisio ar gyfleoedd i roi gwerth am arian. Cyflwynwyd chwe argymhelliad i wella'r system, yn cynnwys rhoi blaenoriaeth i sefydlu safonau cenedlaethol gofynnol ar gyfer pob gwaith addasu i sicrhau fod pobl anabl a phobl hŷn yn derbyn safon o'r un gwasanaeth ble bynnag maent yn byw, pwy yw eu landlord a ph'un ai ydynt yn berchen eu cartref eu hunain ai peidio.

Galwodd hefyd ar Lywodraeth Cymru i osod safonau clir ar gyfer profion modd ar Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a rhoi cefnogaeth ac arweiniad i sefydliadau cyflenwi i wella integreiddio gwasanaethau.

Dywedodd Will Atkinson, Rheolwr Polisi a Rhaglenni Cartrefi Cymunedol Cymru: "Mae addasiadau tai yn llinell bywyd hanfodol ar gyfer pobl hŷn ac anabl i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, ac mae gan gymdeithasau tai rôl hanfodol wrth gyflwyno'r addasiadau hyn i filoedd o bobl yng  Nghymru bob blwyddyn

"Lle mae cymdeithasau tai yn darparu'r addasiadau hyn, gwyddom fod lefelau bodlonrwydd y rhai sy'n eu derbyn yn uchel. Fodd bynnag mae adroddiad heddiw yn anelu i fynd i'r afael â materion system i sicrhau safonau gofynnol a mwy o gysondeb mewn darpariaeth ledled Cymru, a rydym yn croesawu argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

"Mae system addasiadau sy'n ymateb i anghenion poblogaeth heneiddiol Cymru yn allweddol i sicrhau y gall cymdeithasau tai gyflawni ein gweledigaeth o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb. Byddwn yn awr yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i edrych sut y gallwn ymateb yn gyflym ac effeithlon i'r newidiadau a argymhellir gan y Pwyllgor."

Tenantiaid tai cymdeithasol Cymru sy'n derbyn Credyd Cynhwysol mewn dros £1 miliwn o ôl-ddyledion rhent

10/07/2018

Dengys arolwg o gymdeithasau tai yng Nghymru fod gan denantiaid cymdeithasau tai sy'n derbyn Credyd Cynhwysol eisoes dros £1 miliwn o ôl-ddyledion rhent.  

Dengys arolwg a gynhaliwyd gyda 3,475 o bobl sy'n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai yng Nghymru fod gan bob person werth £420 o ôl-ddyledion ar gyfartaledd.

Heddiw mae Cartrefi Cymunedol Cymru, corff aelodaeth cymdeithasau tai yng Nghymru, yn rhybuddio fod cynllun arweiniol budd-daliadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwthio teuluoedd i ddyled, gan achosi dioddefaint a chaledi i denantiaid ac yn bygwth sefydlogrwydd ariannol cymdeithasau tai.

Yng Nghymru, dim ond i 40,000 o hawlwyr mewn cartrefi cymdeithasol a phreifat, 10% o'r ffigur ymestyn disgwyliedig, y cafodd y cynllun Credyd Cynhwysol ei ymestyn.

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru, ynghyd â'i ffederasiynau partner y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol, Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban a Ffederasiwn Gogledd Iwerddon, yn galw ar frys ar y Llywodraeth i newid y "gwallau sylfaenol" gyda Credyd Cynhwysol ei ymestyn yn llawn. Mae hyn yn cynnwys diddymu'r "polisi dau blentyn" lle mai dim ond ar gyfer cost eu dau blentyn y mae teuluoedd yn awr yn derbyn budd-daliadau.

Mae'r polisi yn effeithio ar denantiaid cymdeithasau tai ar draws y Deyrnas Unedig, gyda thenantiaid cymdeithasau tai yn Lloegr ag ôl-ddyledion yn gyfanswm o £21.6 miliwn, tra bod gan denantiaid yr Alban ymhell dros werth £1.2 miliwn o ôl-ddyledion.

Mae'r pedair ffederasiwn tai, sy'n cynrychioli mwy na 1,000 o gymdeithasau tai ar draws y Deyrnas Unedig, yn dweud fod problemau difrifol gyda'r system yn cynnwys tenantiaid yn colli miloedd o bunnau pan gânt eu hailasesu. Dywedwyd fod y 'polisi dau blentyn  i'r 'terfyn cap budd-daliadau' hefyd yn gwthio teuluoedd i dlodi gan na fyddant mwyach yn derbyn budd-daliadau i dalu am gost bwyd a dillad ar gyfer mwy na dau o blant.

Aeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig i'r afael â rhai o wallau'r Credyd Cynhwysol yn y gyllideb ddiwethaf ym mis Hydref 2017 ac mae eisoes wedi ymrwymo i wneud rhai newidiadau cyn ei ymestyn yn yr haf. Fodd bynnag, dywed y pedair ffederasiwn tai nad yw'r newidiadau hyn yn ddigon ac maent yn awr yn annog y Llywodraeth i wneud pum newid hollbwysig cyn yr ymestyn nesaf sydd i ddigwydd eleni, pan gaiff cannoedd o filoedd yn fwy o bobl eu symud i'r Credyd Cynhwysol.

Pump newid hanfodol sydd eu hangen i'r Credyd Cynhwysol

1. Galluogi staff ac asiantaethau cefnogaeth tai, megis Cyngor Ar Bopeth, i negodi hawliadau Credyd Cynhwysol ar gyfer unigolion bregus. Bydd hyn yn sicrhau fod pobl yn derbyn y taliadau hollbwysig mae ganddynt hawl iddynt ac yn helpu i ostwng ôl-ddyledion rhent.

2. Diddymu'r 'polisi dau blentyn' a'r 'terfyn cap budd-daliadau' sy'n gwthio teuluoedd i dlodi.

3. Sicrhau y caiff Credyd Cynhwysol ei dalu i bobl a'u landlordiaid ar amser, ar yr un amser. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi sefydlu system o drefniadau talu amgen fel y gellir talu costau tai pobl yn uniongyrchol i'w landlord. Ar hyn o bryd mae'r landlordiaid yn derbyn yr arian hwn fel ôl-daliad ar ddyddiadau amrywiol ac anwadal sy'n achosi dryswch. Gofynnir am sicrwydd bod landlordiaid yn derbyn taliadau rhent ar yr un pryd ag y cânt eu tynnu o fudd-dal tenantiaid.    

4. Cytunodd yr Adran Gwaith a Phensiynau i roi Cymorth Cynhwysol yn ei le i roi cyngor, cymorth a chefnogaeth i denantiaid. Mae'n rhaid iddynt ei addasu i ymdopi gyda mwy o niferoedd ac achosion mwy cymhleth ac i roi'r cyllid i gefnogi mwy o denantiaid. Mae pobl fregus yn ei chael yn anodd canfod eu ffordd drwy system newydd Credyd Cynhwysol.

5. Mae angen i'r Llywodraeth adfer lwfansau mewn-gwaith a diwygio'r rheolau fel nad yw'r hunan-gyflogedig, y rhai sy'n gweithio yn yr economi gig gyda thâl amrywiol neu'r rhai na chânt eu talu'n fisol ar eu colled. Mae'r polisïau presennol yn golygu bod pobl yn colli arian fel canlyniad o symud i'r Credyd Cynhwysol.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru: "Rydym yn croesawu'r newidiadau diweddar i'r Credyd Cynhwysol ond fel y saif, mae'r system yn dal heb fod yn llwyr addas i'r diben. Byddai gweithredu'r pum newid a geisiwn yn gwella dull gweithredu'r polisi ac yn grymuso tenantiaid i gymryd cyfrifoldeb am eu cyllid. Fodd bynnag, er mwyn gwneud hyn, mae'n hollbwysig y cynigir cefnogaeth am drefnu arian er mwyn gwella llythrennedd ariannol a digidol ymysg aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas."

Adroddiad cyllid yn dangos sector tai cryf yng Nghymru

05/07/2018

Mae'r sector tai yng Nghymru yn edrych yn gryf, iach a chynhyrchiol gyda chanlyniadau ariannol cadarnhaol ar gyfer 2017.

Mae adroddiad ariannol Cyfrifon Cynhwysfawr yn deillio o adroddiadau ariannol archwiliedig y 33 cymdeithas tai fwyaf. Mae'r adroddiad yn cyflwyno darlun o sector cadarn, yn dangos twf mewn trosiant a mantolenni a pharhau i gynhyrchu gwargedion sydd eu hangen i gefnogi adeilad cartrefi newydd.

Mae cymdeithasau tai Cymru hefyd yn parhau i wella cartrefi presennol drwy fuddsoddi'n helaeth mewn atgyweiriadau sylweddol i sicrhau bod tai o ansawdd uchel.

Mae'r adroddiad, sydd ar gael yn llawn yma yn dangos:

  • Bod y sector yn awr yn berchen ac yn rheoli 160,636 o gartrefi (mae cymdeithasau tai yn darparu 62% o gyfanswm stoc tai cymdeithasol yng Nghymru)
  • Bod aelodau CHC wedi gwario £1.1bn yn uniongyrchol, gyda 89% o hynny wedi'i gadw yng Nghymru. Mae'r effaith cyflenwr anuniongyrchol wrth ochr hyn yn golygu fod cyfanswm y cyfraniad i'r economi bron yn £2bn
  • Mae'n fwy na dim ond tai - cynyddodd cyfraniad y sector i gyflogaeth ymhellach yn 2016/17. Cafodd dros 10,000 o swyddi cyfwerth ag amser-llawn eu cyflogi'n uniongyrchol gan y sector ac, am bob swydd uniongyrchol a ddarparwyd, cafodd 1.5 o swyddi eu cefnogi mewn man arall yn economi Cymru yn gyfartal â dros 25,000 o swyddi
  • Roedd trosiant am y flwyddyn yn £908m, cynnydd o £3m ar 2016
  • Roedd gwarged gweithredu am y flwyddyn yn £193m (o gymharu gyda £171m yn 2016) gyda gwarged net, ar ôl taliadau llog a chyn treth, o £59m (2016: £79m)
  • Cynyddu benthyciadau - mae cyfanswm lefel y ddyled yn ar yn £2.7bn, cynnydd o £2.5bn yn 2016
  • Mae lefelau cyfalaf a chronfeydd wrth gefn yn awr yn £1.07bn o gymharu gyda £1bn yn 2016

Mae'r ddogfen yn dilyn Ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i reoleiddiad y sector drwy gydol 2016, a dyma'r Cyfrifon Cynhwysfawr cyntaf i gyflwyno'r Disgwyliadau Rheoleiddiol a'r Papur Risg a gyhoeddwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Stuart Ropke, prif weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru: “Mae dogfen Cyfrifon Cyhoeddus yn dangos sector gyda hanes clir o gyflenwi, ac uchelgais cynyddol i ddarparu'r cartrefi mae Cymru eu hangen i gartref da fod yn hawl sylfaenol i bawb. 

“Mae gan gymdeithasau tai rôl economaidd allweddol ac yn croesawu datrysiadau creadigol i ysgogi ffrydiau incwm fel bod cartrefi'n parhau i fod yn fforddiadwy, o ansawdd da ac yn diwallu anghenion y gymuned leol.

“Dim ond un agwedd yw tai. Mae cymdeithasau tenantiaid yn helpu tenantiaid i arwain bywyd iach, annibynnol a bodlon adref ac o fewn y gymuned, drwy adfywio ardaloedd, creu swyddi a rhoi'r gefnogaeth gywir, megis cyngor ar drin arian.

“Edrychwn ymlaen at gyfrannu at yr adolygiad annibynnol o bolisi tai i gynyddu nifer y cartrefi a adeiladwn a chyflawni ein nod o adeiladu 75,000 o gartrefi erbyn 2036.”  

Lansio Cod Llywodraethiant newydd’

19/06/2018

Yn dilyn cyfnod ymgynghori wyth wythnos gyda'r sector, cyhoeddwyd Cod Llywodraethiant newydd ar gyfer cymdeithasau tai Cymru. Mae'r cod yn dilyn ymagwedd wahanol i arferion llywodraethiant traddodiadol, gan ganolbwyntio ar ddiwylliant sefydliad yn hytrach na phrosesau. 

Mae'n cynnwys saith egwyddor sylfaenol ar gyfer llywodraethiant da, yn cynnwys:

1. Diben y Sefydliad

Bydd y bwrdd yn glir ynghylch amcanion y sefydliad ac yn sicrhau y cyflawnir y rhain mewn ffordd effeithiol a chynaliadwy.

2.Arweinyddiaeth

Arweinir pob sefydliad gan fwrdd effeithiol sy'n rhoi arweinyddiaeth strategol yn unol ag amcanion a gwerthoedd y sefydliad.

3. Uniondeb

Bydd y bwrdd yn gweithredu ag uniondeb, gan fabwysiadu gwerthoedd a chreu diwylliant sy'n helpu i gyflawni dibenion y sefydliad. Bydd y bwrdd yn ymwybodol o bwysigrwydd hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd, a bydd aelodau bwrdd yn cyflawni eu dyletswyddau yn unol â hynny.

4. Gwneud Penderfyniadau, Risg a Rheolaeth

Bydd y bwrdd yn sicrhau bod ei brosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau wedi'u seilio ar wybodaeth, yn drylwyr ac yn amserol, a bod systemau effeithiol yn cael eu sefydlu a'u monitro ar gyfer dirprwyo, asesu a rheoli risgiau.

5. Effeithlonrwydd y Bwrdd

Bydd y bwrdd yn gweithio fel tîm effeithol, gan ddefnyddio'r cydbwysedd priodol o sgiliau, profiad, cefndiroedd a gwybodaeth i wneud penderfyniadau doeth.

6. Amrywiaeth

Bydd ymagwedd y bwrdd at amrywiaeth yn cefnogi ei effeithiolrwydd, ei arweinyddiaeth a'i benderfyniadau.

7. Bod yn Agored ac yn Atebol

Bydd y bwrdd yn arwain y sefydliad i fod yn dryloyw ac yn atebol. Bydd y sefydliad yn agored yn ei waith, oni bai bod rheswm da iddo beidio â bod.

Gallwch weld ein cod newydd yn llawn yma.

CHC responds to ‘Rolling out Universal Credit’ report

15/06/2018

The NAO has released a report reviewing the current and future impact of Universal Credit on claimants.

The ‘Rolling out Universal Credit’ report said Universal Credit has taken significantly longer to roll-out than intended, and may cost more than the system it replaces. The report also states the Department will never be able to measure whether it has achieved its goal of increasing employment. The watchdog concludes that Universal Credit has not delivered value for money and is uncertain it ever will.

Key report findings

  • The roll-out has been considerably slower than was initially intended. It was due to complete in October 2017, but after a number of problems, eight years later only around 10% of the final expected caseload are currently claiming Universal Credit.

 

  • Satisfaction among claimants of Universal Credit and those claiming benefits under the previous system is generally comparable to what it replaces. However, in a recent survey by the Department, four in ten of claimants who were surveyed stated that they were experiencing financial difficulties. 

 

  • The Department does not accept that Universal Credit has caused hardship among claimants but the NAO has seen evidence from local and national bodies that many people have suffered difficulties and hardship during the roll out of the full service. The Department has not shown sufficient sensitivity towards some claimants and that it does not know how many claimants are having problems with the programme or have suffered hardship.

 

  • The Department expected most claimants would have enough money to cope over the initial waiting period after their claim is submitted (previously six weeks, now five). In reality, nearly 60% of new claimants (around 56,000 a month) receive a Universal Credit advance to help them manage before receiving their first payment.

 

  • The use of foodbanks increased more rapidly after Universal Credit full service was rolled out to the area. This aligns with the Trussell Trust’s report showing upsurges of 30% in foodbank use in the six months after Universal Credit rolls out to an area, compared to 12% in non-Universal Credit area.

 

  • Local organisations which support claimants and assist in the administration have occurred additional costs. However, the burden of providing proof lies on local authorities. The NAO has also identified that the Department uses its discretion to access claims and has not sought to collect data on wider costs. It will therefore have no means to assess the full monetary impact that Universal Credit is having.

Recommendations

The NAO has recommended the programme does not expand before ‘business-as-usual’ operations can deal with higher claimant volumes, and must learn from the experiences of claimants and third parties, as well as the insights it has gained from the roll-out so far.The NAO also recommends that the Department should capture intelligence on claimants’ issues and the opinions of delivery partners and external stakeholders in a systematic way.

Our view:

Although the Department for Work and Pensions has introduced advance payment loans to support claimants during the five week wait, these can only be claimed once a claimant is verified. To do this online, you need a driving license or passport. Many claimants do not have one of these and so have to wait 14 days until their first appointment to verify and claim an advance.

The advance payments are a loan and need to be paid back to DWP, putting claimants in further financial hardship. DWP have said that they don’t foresee getting the proportion of claimants paid on time higher than 80%. This is unacceptable: one fifth of claimants having to wait longer than five weeks for benefits is not good enough.

Housing associations are allocating a great deal of resources to supporting their tenants to navigate the UC system. However, Universal Credit is less than 10% rolled out in Wales. DWP need to improve the claiming process before the increasing number of UC claims place even greater pressure on housing associations. One way of doing this would be to make the process of verifying online easier. 

Will Atkinson, Policy & Programmes Manager said:

“The NAO report shows that the Universal Credit system is still not fit for purpose, with one in five claimants still not receiving their payments on time. We are working closely with the Department for Work & Pensions to improve the system for claimants, including ensuring that Universal Support is available to those who need it and that people can verify themselves online to allow immediate access to advance payment loans.”

Sefydliadau tai a chymorth yn galw ar y cyd i Aelodau Cynulliad gefnogi datrysiad cyllid newydd

13/06/2018

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru, ynghyd â naw sefydliad cenedlaethol arall ym maes tai a chymorth, wedi ymuno i gynnig datrysiad cyllid sy'n anelu i ddiogelu gwasanaethau digartrefedd a chymorth cysylltiedig â thai ar gyfer dros 60,000 o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru.
Mae adroddiad Materion Tai (#materiontaicymru) yn amlinellu'r achos dros Grant Digartrefedd a Chymorth Tai newydd a gefnogir gan Cartrefi Cymunedol Cymru, Cymorth Cymru, Cymorth i Fenywod Cymru, Rough Sleepers Cymru, Shelter Cymru, Tai Pawb, EROSH De Cymru, CIH Cymru, Cyfiawnder Tai Cymru ac aelod sefydlu Diwedd ar Ddigartrefedd Ieuenctid Cymru.


Cyhoeddir yr adroddiad heddiw cyn y ddadl yn y Cynulliad Cenedlaethol ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am gysgu ar y stryd yng Nghymru. Yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor, cododd nifer o randdeiliaid bryderon am gynnig Llywodraeth Cymru i greu Grant Ymyrraeth Gynnar: Atal a Chymorth newydd yn 2019/20 a fyddai'n uno dau grant digartrefedd (Cefnogi Pobl a Grant Atal Digartrefedd) gyda chyllid ar gyfer gwasanaethau  heblaw tai megis gofal plant ac ymwelwyr iechyd.


Mynegodd rhanddeiliaid bryderon y byddai grant wedi'i uno yn lleihau'r ffocws ar ddigartrefedd - ar adeg pan mae cysgu ar y stryd a digartrefedd yn codi - ac y gallai gynyddu risg toriadau i wasanaethau gan y byddid yn tynnu clustnodi cyllid o'r rhaglen Cefnogi Pobl.
Cafodd y pryderon hyn eu hadlewyrchu yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ac mewn adroddiad dilynol gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a anogodd swyddogion Llywodraeth Cymru i ystyried y datrysiad amgen.


Byddai'r datrysiad amgen hwn yn helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei nod o ostwng y nifer o grantiau y mae'n eu rheoli drwy uno pedwar grant tai mewn un - Cefnogi Pobl; cyllid a ddatganolir ar gyfer costau tai mewn llety â chymorth tymor byr; y Grant Atal Digartrefedd a gorfodi Rhentu Doeth Cymru. Fodd bynnag, mae'r datrysiad hwn hefyd yn cadw ffocws clir ar dai ac atal digartrefedd ac yn helpu i ddiogelu dyfodol y gwasanaethau hollbwysig hyn.


Yn yr adroddiad, dywedodd y deg sefydliad:
"Dros yr ychydig fisoedd nesaf bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad am gyllid gwasanaethau digartrefedd a chymorth cysylltiedig â thai yn y dyfodol yng Nghymru.


"Rydym yn gynghrair o sefydliadau cenedlaethol sydd yn ymroddedig i ddod â digartrefedd i ben a sicrhau y gall pobl fyw'n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Dros yr ychydig fisoedd nesaf buom yn trafod cynlluniau Llywodraeth Cymru ac yn ystyried y cyfleoedd a'r bygythiadau i ddarpariaeth gwasanaethau cynaliadwy a bywydau'r bobl yr ydym yn eu cynrychioli.


"Sylweddolwn y pwysau sydd ar Lywodraeth Cymru a'r heriau sy'n wynebu'r Gweinidogion. Yng ngoleuni hyn, nid ydym yn amddiffyn y sefyllfa fel y mae. Rydym wedi herio ein haelodau a'n gilydd i ddatblygu datrysiad adeiladol sy'n helpu i ateb nodau'r Gweinidog - ond a fyddai hefyd yn diogelu dyfodol gwasanaethau digartrefedd a chymorth cysylltiedig â thai yng Nghymru. Rydym hefyd yn credu y gall ein cynnig hwyluso dull gweithredu mwy strategol i ddiweddu digartrefedd a chefnogi pobl i fyw bywydau annibynnol, bodlon.


"Ni ddylai mynd i'r afael â digartrefedd fod yn rhywbeth pleidiol wleidyddol, a dyna pam ein bod yn gofyn i Weinidogion ac Aelodau Cynulliad ar draws yr holl bleidiau gwleidyddol i gefnogi ein cynnig am Grant Digartrefedd a Chymorth cysylltiedig â Thai."

Gallwch ddarllen y polisi yn llawn  yma
Ymunwch â ni drwy drydaru eich cefnogaeth i #materiontaicymru #housingmatterswales  i ddiogelu dyfodol tai â chymorth yng Nghymru.
 

CHC yn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar wasanaethau digartrefedd a chymorth tai

18/05/2018

Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi cyhoeddi adroddiad heddiw yn edrych ar waith ac effeithlonrwydd y rhaglen Cefnogi Pobl yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn ganlyniad ymchwiliad y Pwyllgor i'r rhaglen Cefnogi Pobl, a gymerodd dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig gan nifer o sefydliadau'n cynnwys Cartrefi Cymunedol Cymru.

Yn arwyddocaol, mae'r adroddiad yn adolygu cynigion Llywodraeth Cymru i uno Cefnogi Pobl gyda naw grant arall yn 2019/20 i greu Grant Ymyrraeth Gynnar, Atal Problemau a Chymorth (EIPS). Rydym yn falch i weld fod y pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn ailystyried y grantiau y mae'n eu cynnig i gynnwys ffrwd cyllid integredig ac yn lle hynny'n annog y Llywodraeth i ystyried manteision uno Cefnogi Pobl gyda grantiau tai a digartrefedd.

Dywedodd Will Atkinson, Rheolydd Polisi a Rhaglenni Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Rydym yn rhoi croeso cynnes i argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Mae'r rhaglen Cefnogi Pobl yn gostwng y baich ar nifer o wasanaethau yn cynnwys tai, iechyd, digartrefedd, gofal cymdeithasol a chyfiawnder troseddol. Mae hefyd yn helpu pobl agored i niwed i ailintegreiddio'n ôl i gymdeithas drwy addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

"Rydym yn neilltuol o falch i weld yr argymhelliad i Lywodraeth Cymru ailystyried ei chynlluniau ar gyfer ffrwd cyllid integredig. Galwn ar Lywodraeth Cymru i ddim ond uno Cefnogi Pobl gyda grantiau fydd yn hyrwyddo darparu gwasanaethau fel grantiau cymorth i bobl ddigartref a chysylltiedig â thai."

CHC yn ymateb i'r Adolygiad annibynnol o Reoliadau Adeiladu a Diogelwch Tân

17/05/2018

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi Adolygiad Annibynnol terfynol y Fonesig Judith Hackitt o Reoliadau Adeiladu a Diogelwch Tân.

Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd un mis ar ddeg ar ôl y tân trychinebus yn Nhŵr Grenfell, yn awgrymu cyfres o argymhellion i wella systemau i sicrhau diogelwch tenantiaid mewn adeiladau uchel. Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar y prosesau a'r systemau sy'n gysylltiedig â throsolwg o waith adeiladu, adnewyddu a rheoli adeiladau uchel ac nid yw'n rhagnodol am y mathau o ddeunyddiau a ddefnyddir yn y broses. Fodd bynnag, credwn lle mae deunyddiau neu arferion yn ymwneud â chladin ac insiwleiddio adeiladau dros 18m mewn uchder yn anniogel, y dylid gwahardd eu defnydd pellach fel mater o frys.

Rydym yn croesawu'r argymhellion i ddynodi a sicrhau cymhwysedd deiliaid dyletswydd wrth asesu risg tân adeiladau.

Byddai'r mesurau hyn, os y'i gweithredir, yn sicrhau fod gan denantiaid a chyrff gorfodi ddealltwriaeth glir o bwy sy'n gyfrifol am ddiogelwch tân adeilad ac ail-sefydlu hyder y cynhelir asesiadau risg tân yn drwyadl. Bydd hefyd yn golygu y caiff argymhellion sy'n deillio eu trin mewn ffordd amserol.

Mae'r adroddiad yn argymell sefydlu un Cyd-awdurdod Cymwys (JCA) yn dod â'r Gwasanaethau Tân ac Achub, Awdurdodau Lleol a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ynghyd i roi trosolwg ar adeiladau deg llawr neu uwch. Os yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn eu gweithredu, byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau fod y JCA yn addas i'r diben ar draws y Deyrnas Unedig o gofio am statws datganoledig tân ac achub a safonau adeiladu ond statws a gadwyd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Diogelwch tenantiaid yw'r ystyriaeth bwysicaf oll ac mae'r Adolygiad Annibynnol o Reoliadau Adeiladau a Diogelwch Tân a gyhoeddwyd heddiw yn rhoi fframwaith gadarn ar gyfer cymdeithasau tai a Llywodraeth Cymru i barhau i gydweithio i wella diogelwch ar gyfer pobl yn byw mewn adeiladau uchel yng Nghymru. Cytunwn ei bod yn hanfodol fod y diwydiant adeiladu, perchnogion busnes a rheolwyr yn cael eu dal yn atebol am sicrhau fod adeiladau'n ddiogel.

"Rydym yn cefnogi ffocws yr adolygiad ar wella'r holl systemau ar gyfer sicrhau diogelwch mewn adeiladau uchel yn yr hirdymor. Fodd bynnag, fel blaenoriaeth credwn lle dangoswyd fod cladin, insiwleiddio neu arferion yn anniogel ar adeiladau dros 18m y dylid gwahardd eu defnydd pellach."

CHC responds to EHRC review of housing provision for disabled people

11/05/2018

The Equality and Human Rights Commission's (EHRC) has published a report looking at the current provision of accessible and adaptable housing for disabled people.

In response, Community Housing Cymru Chief Executive, Stuart Ropke, said:

“We recognise the challenges set out in today’s report. There is a clear need for greater provision of more accessible and adaptable housing. It’s important to recognise the vital role housing associations are playing in ensuring there is an adequate supply of good quality suitable accommodation for disabled people.

“Despite imminent challenges, planning for the future is crucial. Our sector's Housing Horizons vision is to make good housing a basic right for all, and we now have data showing us the barriers and opportunities we will face over the next twenty years. The sector is using this intelligence to work together to build the right homes which will meet tenants’ needs.

“In addition, Welsh Government's recently announced review of affordable housing policy in Wales will help us analyse the standards to which we build homes, including further improving accessibility to disabled people.”

Gwasanaeth hyfforddiant ar-lein newydd ar gael

02/05/2018

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru heddiw wedi lansio llwyfan hyfforddiant ar-lein  sydd wedi'i deilwra'n arbennig ar gyfer sector tai Cymru.

Yn dilyn adborth gan y sector, datblygwyd y cyrsiau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ddysgwyr ar bolisïau ac arferion diweddaraf yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.

Datblygwyd y llwyfan newydd gan arbenigwyr Cartrefi Cymunedol Cymru a Hyfforddiant Tai Ar-lein, mae'r llwyfan newydd yn cynnig nifer o fuddion yn cynnwys:

Dulliau hyfforddiant i weddu i bob arddull, o aml-ddewis i fideo: gall dysgwyr sicrhau gwybodaeth a sgiliau mewn ffordd sy'n gweddu iddyn nhw
Amrywiaeth eang o bynciau o bolisi tai i lesiant yn y gwaith
Ffordd sy'n arbed amser ac effeithlon o ran cost i ddysgu: galluogi dysgwyr i ddiwallu eu hanghenion hyfforddiant a datblygu o gysur eu swyddfa neu gartref

Mae'r holl gyrsiau newydd ar gael yma. 

Mae'r cyrsiau newydd yn cynnwys:

  • Deddf Diwygio Llesiant a Gwaith 2016 – darganfod sut mae polisi Cymru ac ar draws y Deyrnas Unedig yn effeithio ar denantiaid a gwybodaeth am ddeddfwriaeth
  • Materion Tai Cymdeithasol Cyfredol – dynodi newidiadau gwleidyddol a chymdeithasol pwysig yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig ac anghenion tai y dyfodol
  • Tai Cymdeithasol - pwy ydyn ni'n feddwl ydyn ni? – dysgu am effaith Safonau Ansawdd Tai Cymru; cyflwr ac argaeledd tai ar hyn o bryd, a sbardunau cyfredol ar gyfer newid pellach

Mae gan y cyrsiau ardystiad CPD UK felly gallant fynd tuag at gynlluniau datblygiad proffesiynol parhaus dysgwyr.

Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy anfon e-bost Lesley Smith. 

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adolygiad annibynnol o bolisi tai yng Nghymru

23/04/2018

Mae Rebecca Evans AC, Gweinidog Tai ac Adfywio, wedi cyhoeddi heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad annibynnol o bolisi tai yng Nghymru.

 

Daw'r cyhoeddiad bum mis ar ôl lansiad Gorwelion Tai a galwad Cartrefi Cymunedol Cymru am adolygiad polisi i edrych sut y gall y sector gyflawni ei uchelgais i adeiladu 75,000 o gartrefi fforddiadwy a sefydlu cartref da fel hawl sylfaenol i bawb yng Nghymru.

 

Bydd yr adolygiad, dan gadeiryddiaeth Lynn Pamment, yn ystyried sut i ddyblu nifer y tai fforddiadwy a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru ac yn cynnwys materion megis polisi rhent, y gallu i fforddio, grant a safonau. Bydd yr adolygiad yn annibynnol o'r llywodraeth a chaiff yr argymhellion eu rhannu gyda'r Gweinidog yn 2019.

 

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Swyddog Gweithredol Cartrefi Cymunedol Cymru:

 

"Mae gan gymdeithasau tai yng Nghymru uchelgais i adeiladu o leiaf 75,000 o gartrefi fforddiadwy yng Nghymru dros yr ugain mlynedd nesaf - ddwywaith y gyfradd bresennol. Fodd bynnag, mae tai yn llawer mwy na brics a morter; mae holl daith bywyd yn digwydd mewn cartref. Dyma ble gellir sefydlu cymunedau cryf ac felly fusnesau lleol cadarn.

 

"Mae pawb yn haeddu byw mewn cartref ansawdd da a chael cyfle i fyw bywyd llewyrchus, iach a gyda chysylltiadau da. Dyna pam i ni ym mis Tachwedd 2017 lansio 'Gorwelion Tai', gweledigaeth ein sector i wneud cartref da yn hawl sylfaenol i bawb. Ni fedrir cyflawni'r uchelgais bellgyrhaeddol yma heb ddadansoddiad llawn o bolisi tai Cymru a sut y caiff hwn ei roi ar waith, felly rydym yn hynod falch fod y Gweinidog wedi cefnogi ein galwad am adolygiad.

 

"Drwy'r adolygiad gallwn sefydlu'r amgylchedd polisi mwyaf effeithlon i gyflawni ein huchelgais ar gyfer cyflenwi cartrefi fforddiadwy ac adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer y  cenedlaethau presennol a'r dyfodol. Os cawn yr adolygiad hwn yn gywir, bydd yn gam mawr at ddatrys yr argyfwng tai."

Cartrefi Cymunedol Cymru yn croesawu cyhoeddiad Ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb, Cymunedau a Llywodraeth Leol y Cynulliad ar gysgu ar y stryd

20/04/2018

Croesawn gyhoeddi ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb, Cymunedau a Llywodraeth Leol y Cynulliad ar gysgu ar y stryd.

Dywedodd Will Atkinson, Rheolwr Polisi a Rhaglenni:

"Mae cysgu ar y stryd yn niweidiol tu hwnt i bobl. Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn gweithio'n ddiflino i atal a lliniaru cysgu ar y stryd drwy ddarparu llety dros dro, gwasanaethau cymorth a chartrefi diogel a sicrwydd hirdymor. Mae cymdeithasau tai ar hyn o bryd yn dyrannu cyfran sylweddol o'u cartrefi i aelwydydd digartref. Mewn rhai achosion caiff cynifer ag un ym mhob deg o gartrefi cymdeithasau tai eu gosod i deuluoedd neu unigolion digartref.

"Rydym yn cefnogi argymhelliad y pwyllgor i asesu lefelau aelwydydd digartref sy'n cael eu dyrannu i dai cymdeithasol awdurdodau lleol neu gymdeithasau tai. Rydym yn cydnabod yr angen am welliant parhaus a'r wythnos nesaf byddwn yn lansio adroddiad ymchwil yn edrych ar fynediad i denantiaethau cymdeithasol yng Nghymru. Caiff yr adroddiad hwn, a gomisiynwyd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ei rannu gyda phecyn cymorth i gefnogi cymdeithasau tai i wella mynediad i denantiaethau ar gyfer aelwydydd digartref.

"Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru".

Newid Wyneb Byrddau Lcc Yng Nghymru - Un Fenyw Ar Y Tro

23/03/2018

Mae'r 40fed menyw newydd raddio ar gwrs a gynlluniwyd i gael mwy o fenywod ar fyrddau. Yr wythnos ddiwethaf cynhaliodd Cynhadledd Llywodraethiant Cartrefi Cymunedol Cymru y drydedd seremoni raddio ar gyfer Menywod yn Arwain y Bwrdd, rhaglen a gynlluniwyd i helpu cyflawni targed Llywodraeth Cymru a sector tai Cymru o fyrddau cytbwys rhwng dynion a menywod.

Ers 2014 bu'r rhaglen flaengar yn darparu sylfaen manwl mewn damcaniaeth ac ymarfer, ac yn sicrhau canlyniadau ar gyfer y rhai sy'n cymryd rhan ynddi a'u cymdeithasau tai. Gwnaeth graddedigion gyfraniadau strategol gwerthfawr i sefydliadau yn y sector dim er elw, yn arbennig mewn tai, gan ddod â mwy o wybodaeth, gwella setiau sgiliau a mwy o hyder i'r ystafell fwrdd. Cawsant eu recriwtio i fod yn aelodau byrddau, eu penodi'n Gadeiryddion a symud ymlaen i apwyntiadau cyhoeddus.

Mae Menywod yn Arwain y Ffordd yn rhan o gyfres rhaglenni Aelodau Effeithlon o'r Bwrdd gan y Fforwm Llywodraethiant ac a gyflwynwyd gan Central Consultancy & Training. Gyda hwylusydd arbenigol, mae'n cynnwys siaradwyr ysbrydoledig o'r tu mewn a'r tu allan i'r sector tai ac yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau addysgu ansawdd uchel i weddu i grwpiau amrywiol o'r menywod y mae'n eu denu. Mae rhaglenni tebyg yn rhoi llwybrau i aelodaeth Bwrdd ar gyfer gweithwyr ifanc proffesiynol a phobl o fyd chwaraeon.

Dywedodd Helen White, Cadeirydd Bwrdd Rheoleiddiol Cymru: "Ar ôl bod yn aelod Bwrdd am nifer o flynyddoedd, gwn ei bod yn rôl werth chweil a heriol. Mae'r rhaglen wedi profi'n ffordd wych o helpu i gynyddu hyder a sgiliau menywod fel darpar aelodau bwrdd".

Meddai Stuart Ropke, Prif Weithredydd CHC a gyflwynodd eu tystysgrifau haeddiannol i'r graddedigion llwyddiannus: "Menywod yw 56% o brif swyddogion gweithredol cymdeithasau tai yng Nghymru ac rydym yn anelu i gael cydbwysedd rhwng dynion a menywod yn yr ystafell fwrdd hefyd. Mae cynlluniau fel 'Menywod yn arwain y bwrdd' yn wirioneddol bwysig i roi'r hyder a'r gallu i gynrychiolwyr gael eu swydd gyntaf ar fwrdd neu gamu lan i swyddi uwch."

Dywedodd un o'r menywod a raddiodd:
"Roedd hwn yn un o'r cyrsiau mwyaf ysbrydoledig i mi fod arno erioed. Rwyf wedi sylweddoli'r gwahaniaeth y gallaf ei wneud. Cododd gwr y llen o ddifrif am sut olwg sydd ar lywodraethiant da. Mae wedi fy ysbrydoli i symud ymlaen a gwneud newidiadau i fy ngyrfaoedd anweithredol a hefyd weithredol. Mae'r hwyluswyr mor wybodus a diddorol am eu maes, ond cafodd gwerth y cwrs ei gryfhau'n fawr gan ansawdd y menywod eraill oedd yn mynychu a gan y siaradwyr gwadd. Doeddwn i erioed wedi bod ar gwrs i fenywod yn unig o'r blaen ac roedd yn wirioneddol ddefnyddiol trafod profiadau gyda'r cynrychiolwyr eraill. Mae wedi rhoi hyder i fi herio mwy mewn gosodiad ystafell Bwrdd a siarad lan yn amlach a chanfod fy llais. Byddaf yn defnyddio'r dulliau a'r technegau a ddysgais am amser maith i ddod. Diolch."

Cynhelir rhaglen nesaf Menywod yn Arwain y Bwrdd yng Nghaerdydd ar 5 a 6 Hydref 2018 a 18 a 19 Ionawr 2019.

Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth am y cwrs: http://www.centralconsultancy.co.uk/women-lead-the-board.htmlhttp://www.effectiveboardmember.co.uk/

I gaeal mwy o wybodaeh cysylltwch â:

Kate Goodall, Rheolydd Busnes
Central Consultancy and Training
Ffôn: 0121 285 6161~
Symudol: 07759 491910
Gwefan: www.centralconsultancy.co.uk
E-bost: kate.goodall@centralconsultancy.co.uk

Cartrefi Cymunedol Cymru i lansio Cod Llywodraethiant newydd

08/03/2018

Dywedodd Cartrefi Cymunedol Cymru y caiff Cod Llywodraethiant newydd ar gyfer cymdeithasau tai ei gyhoeddi ar ôl wyth wythnos o gyfnod ymgynghori gyda'r sector.

Bydd ymagwedd y cod newydd yn wahanol i arferion llywodraethiant traddodiadol, gan ganolbwyntio ar ddiwylliant sefydliad yn hytrach na phrosesau.

Bydd yn cynnwys saith egwyddor sylfaenol ar gyfer llywodraethiant da, yn cynnwys diben sefydliadol; arweinyddiaeth; cywirdeb; gwneud penderfyniadau; risg a rheoli; effeithlonrwydd bwrdd; amrywiaeth; a bod yn agored a thryloyw.

Mae'r gwaith i ddatblygu'r cod wedi cyd-daro gydag adolygiad llywodraethiant Bwrdd Rheoleiddiol Cymru o'r sector cymdeithasau tai.

Wrth siarad yng Nghynhadledd Llywodraethiant Cartrefi Cymunedol Cymru, dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol Stuart Ropke fod y Cod Llywodraethiant newydd yn dangos ethos uchelgeisiol sector tai Cymru.

"Mae dyheadau mawr angen arweinyddiaeth gref. Nid ydym mwyach yn siarad am broses ond am ddiwylliant. Nid ydym mwyach yn gosod rhestr wirio ond set o egwyddorion y bydd sefydliadau a byrddau yn eu dehongli a'u mabwysiadu yn y ffordd fwyaf addas ar gyfer diben a chenhadaeth eu sefydliad neilltuol.

"Mae'r cod yn adlewyrchu ein sefyllfa fel sefydliadau preifat, annibynnol gyda set amrywiol o randdeiliaid yn amrywio o denantiaid, cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth, ein partneriaid mewn llywodraeth ganolog a lleol, gweithwyr cyflogedig, buddsoddwyr a'r cymunedau y gweithredwn ynddynt.

"Bydd y cod yn helpu byrddau a thimau arweinyddiaeth i feddwl yn gliriach ac yn strategol am genhadaeth, diben a strwythur. Bydd hefyd yn cynorthwyo'r rheoleiddwyr gan y bydd y dyfarniad am lywodraethiant da yn canolbwyntio ar ddeiliannau a diwylliant ac nid dim ond cydymffurfiaeth.

"Mae ein Cod Llywodraethiant yn dangos esblygiad sector sy'n anelu i fod y gorau y gall fod, sy'n deall ei gyfrifoldeb fel buddsoddwyr sylweddol yn economi Cymru ac fel darparwyr gwasanaeth cyhoeddus.

"Rydym ar adeg o ansicrwydd a her enfawr, ond mae'n gyfnod pan y gall cymdeithasau tai yng Nghymru wneud mwy o wahaniaeth nag erioed o'r blaen wrth i ni anelu i wneud Cymru yn fan lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb."

I gyfrannu at yr ymgynghoriad e-bostiwch: codeofgovernance@chcymru.org.uk

Ymateb CHC i Rhentu i Brynu - Cymru a Rhannu Perchnogaeth - Cymru lansio

28/02/2018

Heddiw lansiodd Rebecca Evans AC, Gweinidog Tai ac Adfywio, gynlluniau Rhentu i Brynu - Cymru a Rhanberchnogaeth. Mae'r buddsoddiad o £70m gan Lywodraeth Cymru yn gweithredu fel rhan o'i hymrwymiad i adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn 2021.

Mewn ymateb dywedodd Hayley Macnamara, Rheolydd Polisi a Rhaglenni Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Rydym yn croesawu buddsoddiad grant sylweddol Llywodraeth Cymru i helpu cymdeithasau tai i ddatblygu cartrefi Rhentu i Brynu a Rhan-berchenogaeth. Drwy gynorthwyo pobl sy'n ei chael yn anodd cynilo am ernes, mae'n helpu'r rhai ar gyllidebau isel i adael y farchnad rhent preifat a phrynu eu cartrefi eu hunain. Yn hollbwysig, mae hefyd yn cynhyrchu ffrwd incwm y gellir ei ailfuddsoddi yn y sector tai cymdeithasol.

"Fel sector rydym yn ymroddedig i gyrraedd y targed o adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn 2021, ac yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu modelau effeithlon fel Rhentu i Brynu fydd yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth i wneud cartref da yn hawl sylfaenol i bawb."

Ymateb CHC at adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar addasiadau tai

22/02/2018

Heddiw, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy’n adolygu darpariad addasiadau tai yng Nghymru.

Dywedodd Aaron Hill, Cyfarwyddydd Cynorthwyol Polisi a Materion Cyhoeddus Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Mae gan gymdeithasau tai rôl hollbwysig wrth ddarparu gwasanaethau addasu tai ansawdd uchel ar gyfer miloedd o bobl bob blwyddyn.

"Sylweddolwn fod cynllunio ar gyfer poblogaeth sy'n newid yn her, ond rydym yn ymroddedig i sicrhau fod cartref da yn hawl sylfaenol i bawb yng Nghymru. Mae ein prosiect Gorwelion Tai, sy'n canolbwyntio ar gynllunio ar  gyfer y dyfodol, wedi'n galluogi i ddynodi rhwystrau fel y gallwn liniaru problemau yn gynnar. Bydd yr wybodaeth hon yn ein helpu i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau cartrefi a gwasanaethau ansawdd uchel sy'n gweddu anghenion ein poblogaeth yn y dyfodol.

"Rydym eisoes wedi ymroi gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r system addasiadau newydd, Galluogi, sy'n gweithio i fynd i'r afael â llawer o'r problemau a amlygwyd yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Rydym hefyd yn galw am adolygiad o bolisi tai yng Nghymru fydd yn rhoi cyfle i ystyried sut y gallwn wella'r system bresennol, yn cynnwys edrych ar wahanol fodelau a chynyddu cydweithio ar draws sectorau."

Defnyddio 'treth tir gwag' i brofi pwerau Deddf Cymru - ymateb CHC

13/02/2018

Cyhoeddodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y prynhawn yma y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei syniad 'treth tir gwag' i brofi pwerau Deddf Cymru 2014. Ers cyhoeddi rhestr fer o bedwar syniad am drethi newydd wrth ochr y ddrafft Gyllideb ym mis Hydref 2017, bu Llywodraeth Cymru yn archwilio'r achos dros bob un o'r syniadau hyn.

Er y defnyddir y syniad treth tir gwag i brofi pwerau Deddf Cymru, bydd gwaith hefyd yn parhau ar bob un o'r 3 syniad treth arall (lefi gofal cymdeithasol, treth ar blastig un-defnydd a threth twristiaeth).

Dywedodd Aaron Hill, Cyfarwyddydd Cynorthwyol Polisi a Materion Cyhoeddus CHC: "Mae mynediad i dir fforddiadwy yn hollbwysig i gymdeithasau tai adeiladu cartrefi fforddiadwy a chyflawni targed Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi. Croesawn y gydnabyddiaeth gan yr Ysgrifennydd Cyllid fod angen gwneud mwy i helpu cymdeithasau tai ac eraill i sicrhau tir i godi cartrefi.

Fodd bynnag, y manylion yn y cynigion hyn sy'n bwysig, ac mae perygl y gallai treth fod yn wrthgynhyrchiol ac arwain at gostau uwch neu, mewn gwirionedd, ostwng y cyflenwad. Bydd angen craffu'n ofalus ar y polisi a byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol drwy gydol y broses i sicrhau y gall cymdeithasau tai gyflenwi'r cartrefi mae Cymru eu hangen".

Darllenwch y stori lawn ar wefan Llywodraeth Cymru.

CHC yn ymateb i’r dadl ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru

17/01/2018

Mae'r ddadl derfynol ar gyllideb Llywodraeth Cymru newydd ddigwydd yn y Senedd. 

Mae'r gyllideb yn cynnwys cynnydd sylweddol yn y cyfalaf sydd ar gael ar gyfer tai fforddiadwy, cyllid ychwanegol ar gyfer digartrefedd ac eglurdeb am ddyfodol y Dreth Trafodion Tir (yr hen Dreth Stamp). Ynghyd â hyn, bydd cytundeb y gyllideb a sicrhawyd ym mis Hydref 2017 rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn diogelu'r gyllideb Cefnogi Pobl ar y lefel bresennol o £124.5m dros y ddwy flynedd nesaf.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Croesawn y gyllideb hon gan Lywodraeth Cymru fydd yn buddsoddi mwy na £300m mewn cyllid ar gyfer cartrefi fforddiadwy newydd.

"Rydym hefyd yn croesawu’r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i ddiogelu cyllid Cefnogi Pobl. Fodd bynnag, rydym yn dal i geisio eglurdeb ar ddyfodol Cefnogi Pobl yng ngoleuni integreiddio nifer o gronfeydd o fis Ebrill 2019.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gynllunio system gymorth a darpariaeth llety ansawdd da sy’n gweithio i bawb sydd ei angen.”

Mae’r papur briffio ar gael yma.

CHC yn ymateb i'r Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

16/01/2018

Cafodd yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru ei gyhoeddi heddiw. 

Dywedodd Aaron Hill, Cyfarwyddydd Cynorthwyol Polisi a Materion Cyhoeddus:

"Bydd cymdeithasau tai yn croesawu adroddiad heddiw. Mae ei alwad am un system ddiwnïad o iechyd a gofal ledled Cymru yn cydnabod rôl tai da yn y sector.

"Ym mis Tachwedd fe wnaethom gyhoeddi gweledigaeth y sector i sicrhau fod tai da yn hawl sylfaenol i bawb yng Nghymru erbyn 2036. Mae adeiladu cymunedau iach yn rhan hanfodol o hyn ac mae nifer o gymdeithasau tai yn cynnwys Hafod yn edrych ar gynlluniau arloesol cyffrous i wrthsefyll problemau corfforol a hefyd broblemau iechyd meddwl. I hyn o beth, mae cymdeithasau tai mewn lle cryf i weithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, darparwyr gofal cymdeithasol a Llywodraeth Cymru i adeiladu cymunedau iach gyda'r nod o  greu Cymru fwy iach."

Bevan Foundation Report: After Brexit - Housing the Nation

13/12/2017

On the 7th of September 2017 the Bevan Foundation hosted a roundtable alongside Community Housing Cymru to discuss the impact that leaving the European Union is likely to have on the Welsh construction industry. The full report was published on December the 13th and can be found here. A summary of the report, written by Community Housing Cymru can be found here

Ymateb CHC i Gyllideb y Deyrnas Unedig

22/11/2017

Cyflwynodd Philip Hammond ei ail Gyllideb heddiw fel Canghellor y Trysorlys. Gallwch ddarllen y dogfennau yma.
 

Mae'r cyhoeddiadau'n cynnwys: 

  • Pecyn £1.5bn i "fynd i'r afael â phryderon" am gyflwyniad Credyd Cynhwysol
  • Y cyfnod aros dechreuol o waith diwrnod ar gyfer prosesu hawliadau i gael ei ddileu
  • Hawlwyr i gael taliad un mis o fewn pum diwrnod o wneud cais
  • Cynyddu cyfnod ad-dalu blaendaliadau o chwech i 12 mis
  • Bydd hawlwyr newydd Credyd Cynhwysol sy'n derbyn budd-dal tai yn parhau i'w dderbyn am ddwy wythnos
     

Dywedodd Aaron Hill, Cyfarwyddydd Cynorthwyol Polisi a Materion Cyhoeddus Cartrefi Cymunedol Cymru: "Mae'r addasiadau a wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig i'r polisi Credyd Cynhwysol yn gam cadarnhaol ymlaen. Rydym yn falch i weld fod y Llywodraeth wedi cydnabod ac ymrwymo i ddatrys y gwallau cynllunio yn y polisi. Fodd bynnag, nid yw'n mynd yn ddigon pell a medrir gwneud gwelliannau pellach o hyd.

Rydym yn galw am atal ymestyn Credyd Cynhwysol dros dro fel y gellir cymryd mwy o amser i adolygu'r problemau sylweddol gyda'r polisi. Credwn y dylid gostwng yr amser aros ymhellach i bedair wythnos i sicrhau nad yw pobl yn gorfod aros am fwy o amser nag sydd angen. Hoffem weld taliadau'n cael eu gwneud i denantiaid cyn gynted ag y caiff ei rhent ei wirio, a byddem hefyd yn hoffi gweld tenantiaid yn cael yr opsiwn i ofyn am i'w cymorth tai gael ei dalu'n uniongyrchol i landlordiaid. Rydym hefyd eisiau gweld gwell cyfathrebu rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau, hawlwyr a landlordiaid drwy ymestyn y porth landlordiaid ar unwaith a rhoi statws partner dibynadwy i bob cymdeithas tai a fyddai'n gwneud gwahaniaeth mawr i bobl ledled Cymru.

Roeddem yn falch iawn gweld £1.2bn o gyllid canlyniadol i Lywodraeth Cymru a byddem hefyd yn falch i weld hyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau cyfalaf mawr, yn cynnwys tai, i gyflawni'r uchelgeisiau a nodir yn ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer cymdeithasau tai  a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf, yn cynnwys ymrwymiad i adeiladu 75,000 o gartrefi erbyn 2036."

CHC yn galw am adolygu polisi tai fforddiadwy i alluogi darparu 75,000 o gartrefi newydd erbyn 2036

16/11/2017

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), corff aelodaeth cymdeithasau tai Cymru, wedi galw am adolygu polisi tai yng Nghymru i alluogi'r sector tai i gyflawni ei botensial llawn i wella bywydau pobl a'r lleoedd y maent yn byw ynddynt. Daw'r galwad wrth i CHC gyhoeddi ei gweledigaeth 20 mlynedd ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru, sy'n cynnwys ymrwymiad i ddyblu cyfradd darpariaeth y sector drwy adeiladu 75,000 o gartrefi newydd a chreu 150,000 o swyddi erbyn 20136.

Mae'r weledigaeth ugain mlynedd, a ddatgelwyd yng Nghynhadledd Flynyddol CHC, yn ymrwymo gwneud cartref da yn hawl sylfaenol i bawb yng Nghymru erbyn 2036 drwy sefydlu cartrefi fel y man dechrau ar gyfer bywydau llwyddiannus a lleoedd llwyddiannus.

Ddeng mlynedd yn ôl, gosododd Adolygiad Essex o Dai Fforddiadwy yng Nghymru y sylfaen i alluogi cymdeithasau tai Cymru i gyflawni mwy. Heddiw, mae tai wedi sefydlu'n gadarn fel blaenoriaeth yn strategaeth Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae CHC eisiau gweld hyd yn oed fwy o uchelgais, gwell gweithio partneriaeth a chydnabyddiaeth mai tai fforddiadwy yw'r allwedd i ffyniant fel y gall cymdeithasau tai wneud hyd yn oed fwy i fynd i'r afael ag argyfwng tai Cymru ac ychwanegu gwerth i gymunedau ledled Cymru.

Mae gweledigaeth 'Gorwelion Tai' CHC yn amlinellu cynllun  i gynyddu a chyflymu'r gwaith a wnaiff cymdeithasau tai eisoes i wneud cymunedau Cymru yn fwy iach, llewyrchus a chysylltiedig. Mae ymrwymiadau eraill ar gyfer 2036 yn cynnwys:

  • Gwario 95c o bob punt yng Nghymru
  • Ymchwilio sefydlu hyb arloesedd tai i annog datblygu cartrefi hyblyg i ateb y newid yn anghenion pobl
  • Sicrhau y bydd pob cymdeithas tai yn cyrraedd y safon bron ddim carbon.


Daw'r galwad am adolygiad polisi tai, ynghyd â lansiad gweledigaeth hirdymor y sector, wrth i ffigurau newydd ddatgelu effaith economaidd hanfodol cymdeithasau tai Cymru. Dengys data a gyhoeddir heddiw yn adroddiad Effaith Economaidd-Gymdeithasol diweddaraf CHC, yn 2016/17:

  • Bod cymdeithasau tai wedi adeiladu 2,207 o gartrefi, cynnydd o 17% ar ffigur y llynedd
  • Adeiladwyd 34% o'r cartrefi hyn heb Grant Tai Cymdeithasol.
  • Gwariodd y sector dros £1bn yn uniongyrchol, gyda 84% o hynny'n mynd i economi Cymru.
  • Am bob un person a gyflogir gan gymdeithas tai, caiff un a hanner o swyddi eraill eu cefnogi mewn man arall yn economi Cymru.


Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Ein gweledigaeth ar gyfer Cymru yn 2036 yw un lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb. Tai yw conglfaen cymuned sefydlog - mae'n effeithio ar ein hiechyd, y cysylltiadau a wnawn o fewn cymunedau ac, yn sylfaenol, ffyniant ein lleoedd.

O ddyblu cyfradd darparu cartrefi fforddiadwy i sicrhau y caiff y gwasanaethau cywir eu hadeiladu o amgylch y cartrefi hyn, mae'n hollbwysig ein bod yn sefydlu'r amgylchedd polisi mwyaf effeithlon i greu sylfaen gadarn ar gyfer cenedlaethau heddiw a chenedlaethau'r dyfodol. Dyna pam ein bod angen adolygu polisi tai yng Nghymru.

Mae ein hadroddiad effaith economaidd-gymdeithasol diweddaraf yn dangos fod gennym hanes cryf o lwyddiant mewn adeiladu, buddsoddi ac ail-fuddsoddi. Mae gennym uchelgeisiau mawr ac rydym yn dechrau ar gam nesaf y daith i adeiladu Cymru gryfach a fwy llewyrchus, ond ni allwn wneud hynny ar ben ein hunain. Heddiw, rydym yn gosod her i gymdeithasau tai a'n partneriaid ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i gydweithio i sicrhau fod cartref da yn hawl sylfaenol i bawb yng Nghymru erbyn 2036."

 

Gweler y weledigaeth yma

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ad-drefnu'r Cabinet

03/11/2017

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones heddiw wedi cyhoeddi ad-drefnu cabinet Llywodraeth Cymru, gyda nifer o newidiadau i'w dîm Gweinidogion.

Daw Alun Davies AC yn Ysgrifennydd y Cabinet dros bortffolio newydd Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda Rebecca Evans AC wedi'i phenodi yn Weinidog Tai ac Adfywio. Mae'r apwyntiadau newydd eraill yn cynnwys Dafydd Elis-Thomas AC yn Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon; Huw Irranca-Davies AC yn Weinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Eluned Morgan AC yn Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

Wrth ymateb i gyhoeddiad heddiw dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Rydym yn croesawu penodiad Rebecca Evans yn Weinidog newydd Tai ac Adfywio yn ad-drefnu heddiw ar gabinet Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi lle canolog i dai yn ei strategaeth genedlaethol - Ffyniant i Bawb - ac wedi ymrwymo i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn nhymor hwn y Cynulliad, ac rydym yn croesawu creu rôl newydd yn llwyr gyfrifol am dai ac adfywio.  Mae'r cytundeb tai y gwnaethom ei lofnodi'r llynedd gyda Llywodraeth Cymru yn rhoi cymdeithasau tai wrth galon mynd i'r afael â'r argyfwng tai yng Nghymru ac mae'r sector yn edrych ymlaen at barhau'r gwaith hwn mewn partneriaeth gyda'r Gweinidog newydd.

Gyda deddfwriaeth bwysig ar yr Hawl i Brynu ar ei thaith drwy'r Cynulliad a mater ailddosbarthu'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, edrychwn ymlaen at ddialog adeiladol a chydweithio i greu amgylchedd lle gall cymdeithasau tai ffynnu."

CHC yn ymateb i gynigion Llywodraeth Cymru ar dai â chymorth

31/10/2017

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw wedi cyhoeddi y bydd ymgynghori'n dechrau ar drefniadau cyllid newydd ar gyfer tai â chymorth tymor byr a hirdymor. Mae'r cyhoeddiad yn dweud y bydd tai gwarchod a gofal ychwanegol yn parhau i gael ei gyllido drwy'r system budd-daliadau lles, gan gadw'r sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd.

Cadarnhawyd hefyd na chaiff y cap Lwfans Tai Lleol ei weithredu yn y sector tai cymdeithasol y gwnaethom ei groesawu'r wythnos ddiwethaf. Mae'r penderfyniad yn dilyn cyhoeddi ein hadroddiad ymchwil yn dangos problemau clir gyda'r polisi.

Mae cyhoeddiad heddiw yn cynnig trefniant tairochrog ar gyfer tai â chymorth sy'n cydnabod y gwahanol fathau o dai â chymorth:

1) Tai gwarchod a thai ychwanegol (a ddynodir fel arfer ar gyfer pobl hŷn ond yn cynnwys rhai tenantiaid oedran gwaith): Bydd rhent a thaliadau gwasanaeth cymwys yn parhau i gael eu cyllido gan Fudd-dal Tai drwy'r system budd-daliadau bresennol. Yn Lloegr cyflwynir 'Rhent Gwarchod' o fis Ebrill 2020 ac ymgynghorir ar hynny dros y 12 wythnos nesaf.

2) Llety â chymorth tymor byr (ar gyfer rhai mewn argyfwng megis y rhai'n ffoi rhag trais domestig a phobl ddigartref gydag anghenion cymorth, neu help pontio tymor byrrach ar gyfer rhai gyda phroblemau camddefnyddio sylweddau neu bobl ifanc fregus, megis rhai'n gadael gofal). Lansiwyd ymgynghoriad 12 wythnos heddiw ar y cynnig i greu trefniadau cyllido lleol i gynnwys rhent a thaliadau gwasanaeth ar gyfer y math hwn o lety yn Lloegr. Mae hyn er mwyn datrys y problemau a achoswyd gan y Credyd Cynhwysol mewn tai tymor byr. Cynigir y bydd swm cyllid grant tai â chymorth tymor byr yn cael ei osod ar amcanestyniadau presennol angen y dyfodol a bydd yn parhau i roi ystyriaeth i gostau darpariaeth yn y rhan hwn o'r sector. Darperir swm cyfwerth yng Nghymru a'r Alban a mater i Lywodraethau Cymru a'r Alban fydd penderfynu ar y ffordd orau i ddyrannu cyllid.

Mae'r ddogfen ymgynghori yn cynnig cyflwyno hyn o fis Ebrill 2020. Byddwn yn gweithio'n agos gyda'n haelodau i sicrhau fod y diffiniad arfaethedig o lety tymor byr yn diwallu anghenion darparwyr a bod y trefniadau newydd yn rhoi sicrwydd a chynaliadwyedd llety tymor byr. Gallwch weld y ddogfen ymgynghori yma: Ymgynghoriad cyllido tai â chymorth.

3) Llety â chymorth hirdymor (ar gyfer rhai gydag anghenion hirdymor, megis pobl gydag anableddau dysgu neu gorfforol neu afiechyd meddwl): bydd rhent a thaliadau gwasanaeth cymwys yn parhau i gael eu cyllido gan Fudd-dal Tai drwy'r system budd-daliadau lles presennol. Fodd bynnag, bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio gyda'r sector a'r gwledydd datganoledig i lunio cynigion ar sut y dylid cyllido hyn yn y dyfodol, o gofio am y cynlluniau i ddod â budd-dal tai i ben o 2022.

Wrth ymateb i gyhoeddiad heddiw dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Rydym yn croesawu'r cadarnhad y bydd tai gwarchod a gofal ychwanegol yn parhau i gael eu cyllido gan y system budd-daliadau lles. Mae angen i ni sicrhau yn awr y caiff llety â chymorth tymor byr a hirdymor ei gyllido'n ddigonol i gefnogi'r cymorth a'r llety sydd cymaint ei angen ar gyfer pobl fregus o oedran gwaith. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a'n haelodau i sicrhau fod polisïau datganoledig, megis rhent, yn cael eu hystyried wrth i'r cynigion hyn ddatblygu."

Prif Weinidog yn cyhoeddi na weithredir y cap LHA i'r sector tai cymdeithasol

25/10/2017

Cyhoeddodd Theresa May yng Nghwestyniau'r Prif Weinidog heddiw na chaiff y cap Lwfans Tai Lleol (LHA) ei weithredu ar gyfer y sector tai cymdeithasol. Mae'r cyhoeddiad hwn yn dilyn ein galwad i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wrthdroi'r polisi yn dilyn cyhoeddi ein hadroddiad ymchwil

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru: "Rydym yn hynod falch fod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi heddiw na chaiff y cap LHA ei weithredu i'r sector tai cymdeithasol. Dangosodd yr adroddiad a gyhoeddwyd ddoe fod y polisi yn wallus a hollol anymarferol, ac y byddai wedi gwneud tai cymdeithas yn anfforddiadwy i'r rhai sydd fwyaf ei angen. Rydym yn awr yn disgwyl manylion pellach, yn arbennig y cyhoeddiad pellach ar dai â chymorth ar 31 Hydref".

CHC yn ymateb i gynigion manwl Llywodraeth Cymru ar y drafft gyllideb

24/10/2017

Yn dilyn cyhoeddiad dechreuol ar 3 Hydref (darllenwch ymateb CHC yma), mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cyhoeddi cynigion manwl ar gyfer ei drafft gyllideb. Dengys y cynigion y bydd llinell cyllideb Cefnogi Pobl yn diflannu yn 2019/20 ac y bydd yn lle hynny yn cael ei chyfuno gyda nifer o linellau cyllideb arall. Mae'r newyddion hyn yn dilyn cyhoeddiad Plaid Cymru dair wythnos yn ôl ar ei gytundeb cyllid dwy flynedd gyda Llafur, gan gadarnhau y bydd cronfa rhaglen Cefnogi Pobl yn cael ei diogelu (darllenwch ymateb CHC yma).

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd CHC: "Roedd y cytundeb cyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn gynharach y mis hwn yn cydnabod pwysigrwydd y rhaglen Cefnogi Pobl i rai o bobl fwyaf bregus Cymru a rhoi sicrwydd oedd ei fawr angen i gefnogi buddsoddiad mewn gwasanaethau hanfodol. Byddwn yn ceisio eglurdeb gan Lywodraeth Cymru fel mater o frys i sicrhau nad yw'r symudiad hwn i uno llinellau cyllideb yn bygwth y sefydlogrwydd pwysig y mae'r gwasanaethau hyn yn seiliedig arno. Mae'n hollbwysig fod Cefnogi Pobl yn parhau i gael ei ddiogelu fel pot cyllid wedi'i neilltuo ar gyfer cymorth cysylltiedig â thai ac atal digartrefedd."

Darllenwch gynigion llawn Llywodraeth Cymru ar y drafft gyllideb yma.

Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer Rhaglen Tai Arloesol

24/10/2017

Heddiw cyhoeddodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, wybodaeth bellach heddiw ar y Rhaglen Tai Arloesol a lansiwyd ym mis Chwefror. Wedi'i gyllido'n ddechreuol gan £10m y flwyddyn dros y ddwy flwyddyn nesaf, cynyddwyd y gronfa i bron £19m ar gyfer eleni oherwydd y cynlluniau ansawdd uchel a gyflwynwyd. Ni fydd hyn yn effeithio ar y swm o arian sydd ar gael mewn blynyddoedd diweddarach.

Dywedodd Clarisso Corbisiero-Peters, Dirprwy Brif Weithredydd CHC: "Mae'r £9m ychwanegol o gyllid i gefnogi tai arloesol eleni yn bleidlais bellach o hyder ar gyfer cymdeithasau tai. Dengys y cynlluniau a gymeradwywyd heddiw fod gan gymdeithasau tai yr egni a'r dychymyg i adeiladu'r cartrefi mae Cymru eu hangen. Allan o'r 22 prosiect, cafodd 15 o gynlluniau cymdeithasau tai eu cymeradwyo ar gyfer cyllid, gan ddangos arwydd cymdeithasau tai i feddwl yn wahanol ac i arloesi."

Darllenwch y datganiad llawn yma

Cartrefi Cymunedol Cymru yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wrthdroi polisi llesiant 'gwallus'

24/10/2017

Mae dadansoddiad yn dangos effaith y cap Lwfans Tai Lleol (LHA) ar denantiaid Cymru yn cynnwys bylchau rhent a 'loteri cod post' wrth gael mynediad i gartrefi fforddiadwy.

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), corff aelodaeth cymdeithasau tai Cymru, wedi cynnal dadansoddiad sy'n dangos, os yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithredu'r cap LHA ar dai cymdeithasol o fis Ebrill 2019 ymlaen, y bydd yn gwneud tai cymdeithasol yn anfforddiadwy i'r rhai y cawsant eu bwriadu ar eu cyfer.

Maent hefyd wedi rhybuddio fod gallai'r polisi beryglu buddsoddiad yn y dyfodol mewn cartrefi newydd a chartrefi presennol.

Mae CHC wedi lleisio pryderon am allu'r polisi i achosi caledi hirdymor. Mae ei ddadansoddiad o ddata Llywodraeth Cymru yn dangos fod y cap LHA, a gafodd ei rewi am 4 mlynedd, wedi arwain at:

  • Cyfraddau LHA yn ddifrifol anghyson gyda realaeth y farchnad rhent. Caiff dros 60 y cant o gyfraddau LHA eu gosod dan y traean isaf o'r rhent marchnad lleol.
  • Mae llai na 10 y cant o'r sector rhent preifat yn hygyrch i bobl sy'n hawlio budd-dal tai mewn rhai ardaloedd o Gymru.
  • Loteri cod post: bylchau sylweddol rhwng LHA a rhenti tai cymdeithasol yng Nghymru, gyda'r tenantiaid yn cael eu taro galetaf yn y cymoedd ac ardaloedd gwledig.
  • Er enghraifft: mae tenant sy'n byw mewn annedd un ystafell wely yng Nghaerdydd yn annhebyg o fod â bwlch rhwng y gyfradd LHA a'u rhent, fodd bynnag bydd bwlch o £15 yr wythnos ar gyfer rhywun yn byw mewn annedd debyg ym Mhowys.

Mae'r data hefyd wedi tynnu sylw at y meintiau sampl bach a ddefnyddir i gyfrif y gyfradd LHA yng Nghymru, sydd wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn y tebygrwydd y bydd y cyfraddau ar gyfer y traean isaf yn cynrychioli'r farchnad rhent ehangach:

  • Yn Sir Gaerfyrddin, mae'r Gyfradd Llety Rhannu (SAR) yn seiliedig ar sampl o 21 yn unig o renti: dim ond 3 o'r 21 rhent a samplwyd sy'n fforddiadwy
  • Yng Nghaerdydd, Sir y Fflint, Castell-nedd Port Talbot, Gogledd Orllewin Cymru a Sir Benfro, nid yw tenantiaid sy'n derbyn SAR ond yn derbyn digon o fudd-dal tai i gael mynediad i'r 10% isaf o'r farchnad rhent.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd CHC: "Bydd y polisi gwallus hwn yn gwneud tai cymdeithasol yn anfforddiadwy ar gyfer y rhai y cawsant eu hadeiladu ar eu cyfer a'r rhai sydd fwyaf eu hangen. Mae tenantiaid yn wynebu loteri cod post lle, er enghraifft yng Nghastell-nedd Port Talbot, dim ond 2% isaf y farchnad y byddant yn gallu ei fforddio. Mae ein hymchwil hefyd yn profi mai ardaloedd tlotaf Cymru fydd yn wynebu'r bylchau mwyaf dan y polisi hwn, gan ymsefydlu tlodi ymhellach mewn llawer o gymunedau Cymru ac yn cadarnhau fod y polisi hwn yn symudiad trychinebus ar gyfer tenantiaid ledled Cymru.

"Mae ein haelodau'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i adeiladu o leiaf 12,500 o gartrefi erbyn 2021 ond bydd y polisi annheg hwn yn rhoi llawer o gartrefi presennol a llawer o'r cartrefi newydd hyn allan o gyrraedd. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wrthdroi'r polisi yma sy'n bygwth tanseilio ein holl bolisïau tai datganoledig yma yng Nghymru. Mae'n wrthgynhyrchiol gweithredu polisi lles sy'n gwneud cartrefi cymdeithasol yn anfforddiadwy i denantiaid, ac mae'n hanfodol y cymerir camau ar unwaith i wrthdroi'r penderfyniad i weithredu cyfraddau LHA i'r sector rhent cymdeithasol."

Darllenwch yr adroddiad yma

NEWYDD! Digwyddiad GDPR, 6 Rhagfyr

18/10/2017

Byddwn yn cynnal digwyddiad i aelodau ar Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) ddydd Mercher 6 Rhagfyr. Gyda siaradwyr o Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a Darwin Grey, dewch draw i ganfod popeth sydd angen i chi wybod am yr hyn sy'n newid, beth sydd angen ei wneud i gydymffurfio, ac amserlenni allweddol. Archebwch eich lle yma.  

Smart Energy GB - Campaign to target over 65’s who are offline

17/10/2017

In August we launched a campaign in partnership with Smart Energy GB to help CHC members to promote smart meters to tenants over 65 who are not online. These are some of the hardest to reach individuals and the campaign has proved successful so far, with housing associations working hard to spread the word to help their tenants understand the technology and take full advantage of the benefits they can offer.

Many of our members have opted to use their newsletters to support the campaign and others are giving direct face to face advice on Smart Meters to their tenants. Don’t forget to take full advantage of the campaign materials which can be found on Smart Energy GB’s website.

We’ve also produced an FAQ booklet in partnership with Smart Energy GB which will be useful in answering your housing management questions in relation to Smart Meters, please make use of this document!

Resources

Gosod Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

16/10/2017

Cafodd Bil Rheoleiddio Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) a memorandwm esboniadol ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw. Mae Carl Sargeant, Ysgrifennydd Cabinet dros Gymunedau a Phlant, wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig y gellir ei ddarllen yma.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru: "Rydym wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ers penderfyniad yr ONS i ailddosbarthu cymdeithasau tai Cymru fel cyrff cyhoeddus fis Medi diwethaf. Rydym yn croesawu’r newyddion fod yr Ysgrifennydd Cabinet heddiw wedi cyflwyno deddfwriaeth i wrthdroi'r penderfyniad hwn.

Rydym yn flaenorol wedi dweud y gallai ailddosbarthu cymdeithasau tai yn y sector cyhoeddus yn y pen draw gyfyngu datblygu cartrefi fforddiadwy newydd a chredwn, os y'i pasir, y bydd y ddeddfwriaeth yn cynnig sicrwydd i gymdeithasau tai yng Nghymru wrth i ni weithio tuag at y targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn y Cytundeb Cyflenwi Tai a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru y llynedd mewn cysylltiad gyda CHC a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Byddwn yn gweithio'n agos gydag Aelodau Cynulliad i ailddatgan pwysigrwydd y ddeddfwriaeth hon wrth iddi fynd ar ei thaith drwy'r Cynulliad yn y misoedd nesaf."

Tai Newydd yn ennill gwobr bwysig am greadigrwydd

05/10/2017

Cafodd prosiect Rooms4U  ei enwi'n enillydd gwobr bwysig 'Creu Caredigrwydd - Pat Chown- yng Nghynhadledd Tai Fawr eleni.

Sefydlwyd y cynllun gwobr i gydnabod arloesedd tai er cof am Pat Chown, a ymrwymodd lawer o flynyddoedd o'i bywyd i'r sector, gan helpu pobl i wella eu bywydau a chyflawni eu potensial.

Cyflwynwyd nifer o geisiadau safon uchel ar gyfer y wobr, a fu'n rhedeg am 18 mlynedd. Roedd y ceisiadau'n dangos:

Ffyrdd newydd i ymateb i faterion dydd-i-ddydd.
Syniadau newydd am wella ac adfywio cymunedau.
Ffyrdd gwahanol i helpu pobl i wella a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w bywydau.

Enillodd Newydd y wobr oherwydd bod eu cynnig yn dangos fod Rooms4U yn brosiect sy'n torri tir newydd a wnaeth wahaniaeth i fywydau pobl. Mae'r gymdeithas tai wedi derbyn cyfraniad o £1,000 y byddant yn ei roi i Fanc Bwyd y Fro yn y Barri.

Dywedodd y panel beirniaid: "Drwy edrych ar broblem y cap ar fudd-dal tai i bobl ifanc dan 35 oed o fis Ebrill 2019 a llunio ffordd strwythuredig ac eang ar gyfer gweithredu llety a rennir, teimlwn fod Rooms4U wedi gwneud - ac y gall barhau i wneud - gwahaniaeth cadarnhaol go iawn i fywydau pobl iau. Fe wnaeth y ffordd ystyriol a threfnus y sefydlwyd y prosiect i gynnwys nifer o feysydd cysylltiedig yn cynnwys proses baru gadarn, gweithdai cyn-tenantiaeth a chyflwyno cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth argraff fawr arnom.

"Maent hefyd wedi gweithio gyda phartneriaid ac maent yn edrych yn benodol ar ymgysylltu gyda'r sector rhent preifat yn eu hardal. Mae'r cyfan uchod, ynghyd â'r ymgais barhaus am ddatblygiadau eraill, fel pecyn cymorth y gall eraill ei ddefnyddio, yn dangos agwedd greadigol i helpu lliniaru'r effaith negyddol fawr a gaiff y newidiadau arfaethedig ar fywydau pobl. Llongyfarchiadau mawr i Newydd am fod yn enillwyr haeddiannol iawn ond diolch hefyd i'r holl ymgeiswyr eraill am yr holl wahaniaethau cadarnhaol go iawn y maent yn eu gwneud ledled Cymru. Edrychwn ymlaen at weld mwy o geisiadau gwych y flwyddyn nesaf!"

Dywedodd Hazel Davies, Swyddog Prosiect Rooms4U Cymdeithas Tai Newydd, "Rwyf wrth fy modd fod Rooms4U wedi ennill Gwobr Pat Chown. Mae'n rhoi croen gwydd i chi pan  mae tenant ifanc yn dweud wrthych ei fod yn arfer yfed bob dydd, yn isel ei ysbryd a hyd yn oed wedi meddwl am ladd ei hunan, ond ei fod yn awr yn teimlo'n wych gan fod ganddo gartref sefydlog gyda phobl o'r un anian lle mae'n gynnes, yn bwyta'n dda a hyd yn oed wedi dechrau chwilio am swydd. Mae Rooms4U, a gynhelir gan Gymdeithas Tai Newydd, yn dangos pa mor bwysig yw hi i gefnogi pobl ifanc drwy gyfnod anodd. Mae cynnig tai rhannu i bobl dan 35 oed yn rhoi sicrwydd amgylchedd diogel, gwella iechyd meddwl a pharodrwydd i ymgysylltu gyda gwasanaethau cefnogaeth lleol. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut bydd y prosiect yn datblygu dros y misoedd nesaf gan ein bod hefyd yn anelu i weithio gyda'r sector rhent preifat. Hoffwn ddiolch i Crisis UK am gyllido Rooms4U, ein partneriaid prosiect a Chyngor Bro Morgannwg am eu cefnogaeth barhaus. Aiff y wobr o £1,000 at Fanc Bwyd y Fro yn y Barri i helpu pobl mewn anhawster ariannol."

Gallwch ddarllen mwy am y prosiect gwobrwyol yma.

Ymateb CHC i gyhoeddiad cyllideb ddrafft Cymru

03/10/2017

Mae'r Gweinidog Cyllid Mark Drakeford wedi cyflwyno ei ddrafft araith cyllideb ar gyfer 2018/2019, gan wneud nifer o ymrwymiadau'n gysylltiedig â thai yn y gyllideb gyntaf lle gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau trethu a benthyca.

Mae'r gyllideb ddrafft yn cynnwys y cyhoeddiad dros y penwythnos fod Llafur Cymru a Phlaid Cymru wedi cytuno ar ddêl cyllideb dwy flynedd.

Yr ymrwymiadau cyllid allweddol o'r ddrafft gyllideb yn ymwneud â chymdeithasau tai oedd:

diogelu'r rhaglen Cefnogi Pobl am y ddwy flynedd nesaf
£340m ychwanegol o gyfalaf i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'w targed o 20,000 o gartrefi
£10m pellach bob blwyddyn i ostwng digartrefedd
diogelu'r gyllideb gofal cymdeithasol am y ddwy flynedd nesaf
£1m ychwanegol bob blwyddyn ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid hefyd y byddid yn diwygio'r Dreth Trafodiadau Tir (gynt y Dreth Stamp), gan godi'r trothwy ar gyfer cyfradd isaf y dreth o £125,000 i £150,000.

Gyda'r pwerau treth newydd sydd ar gael iddo, cyhoeddodd hefyd restr fer o bedair treth newydd y byddai Llywodraeth Cymru yn eu hystyried, sy'n cynnwys lefi i gyllido gofal cymdeithasol a threth thir segur i fynd i'r afael â bancio tir. Cyhoeddir manylion pellach ar y cynigion hyn fel y cânt eu hystyried dros y misoedd nesaf cyn penderfyniad terfynol yn 2018.

Y tu allan i'r maes tai, cynyddwyd cyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan £230m yn 2018/19 a £220m yn 2019/20, £40m ar gyfer Ysgolion y 21an Ganrif a £50m ar gyfer gorsaf reilffordd newydd yn Llanwern.

Mewn ymateb, dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Mae hon yn gyllideb dda ar gyfer tai gyda £340m i gyllido tai fforddiadwy newydd.

"Mae diogelu'r rhaglen Cefnogi Pobl yn golygu y gall cymdeithasau tai barhau â'u gwaith pwysig yn newid bywydau drwy roi cymorth i rai sy'n ffoi rhag trais yn y cartref, sy'n dioddef salwch meddwl ac yn profi digartrefedd.

“Mae cyllideb heddiw hefyd yn gweld gwariant ar y GIG yng Nghymru yn agosáu at 50% o gyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru a rhagwelir y bydd yn cynyddu ymhellach mewn blynyddoedd i ddod. Mae'r arwyddion yn amlwg iawn. Mae angen i ni wneud pethau'n wahanol. Nid yw'r sefyllfa hon yn gynaliadwy yn yr hirdymor. Mae tai da yn gwella iechyd ac yn cadw pobl allan o'r ysbyty ac yn eu cartrefi am hirach. Mae cyllideb heddiw'n cynnig cyfle i ni ateb yr her, ac mae cymdeithasau tai yn barod i weithio gyda'n partneriaid yn cynnwys y GIG a llywodraeth leol ar draws Cymru. Rydym yn uchelgeisiol dros Gymru ac eisiau chwarae ein rhan lawn."

CHC responds to latest Universal Credit announcement at today’s Conservative Conference

02/10/2017

David Gauke, Work and Pensions Secretary, has announced at today’s Conservative Conference that the government will press ahead with its rollout of Universal Credit and will continue with the planned timetable. Gauke also confirmed that the government would be “refreshing the guidance” to staff at the Department for Work and Pensions (DWP) over the possibility of giving advance payments to claimants in difficulty, noting that some claimants could receive the advance within five working days.

Responding to the announcement, Stuart Ropke, Chief Executive of Community Housing Cymru said:

“Although the UK Government has taken note of some of the issues caused by the roll-out of Universal Credit, this latest announcement adds complexity into an already complex system. If the government is serious about removing unintended hardship on those accessing benefits, it would reduce significantly the amount of time that people have to wait before receiving their first payment.”

Read more about the latest update here

Llywodraeth Cymru yn diogelu cyllideb rhaglen Cefnogi Pobl

01/10/2017

Mae Plaid Cymru heddiw wedi cyhoeddi eu cytundeb cyllideb dwy flynedd gyda Llafur Cymru a chadarnhawyd y cafodd cyllideb rhaglen Cefnogi Pobl ei diogelu. Mae’r newyddion hwn yn dilyn ail-lansiad ymgyrch ‘Gadewch i ni Barhau i Gefnogi Pobl’ a gaiff ei rhedeg gan ar y cyd gan Cartrefi Cymunedol Cymru a Cymorth Cymru.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru: “Ar adeg pan mae cyllidebau yn dyn a phwysau ariannol yn effeitho ar wasanaethau, rydym yn falch bod cyllideb Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwyigrwydd rhaglen Cefnogi Pobl ac yn diogelu’r gyllideb ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.

Mae’r rhaglen Cefnogi Pobl yn llinell bywyd ar gyfer aelodau mwyaf agored i newid cymdeithas. Mae’n helpu rhai sy’n wynebu cyfnod anodd i oresgyn adfyd ac ailadeiladu eu bywydau mewn amgylchedd diogel, gyda chymorth. Diolch i’r rhaglen, mae pobl wedi dianc rhag perthnasoedd cam-driniol, wedi dysgu sgiliau newydd i helpu byw gydag anabledd neu mewn gwlad arall, a goresgyn problemau camddefnyddio sylweddau. Dim ond ychydig enghreifftiau yw hyn o’r dros 60,000 achos lle mae’r rhaglen wedi trawsnewid bywyd rhywun er gwell.

Mae’r rhaglen wedi derbyn cefnogaeth trawsbleidiol am nifer o flynyddoedd a bydd miloedd o bobl yng Nghymru yn falch i weld hynny’n cael ei adlewyrchu yn y cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru.

Bydd y setliad cyllideb dwy flynedd yn caniatau am sefydlogrwydd a chynllunio tymor hirach gwasanaethau ond ni ddylem anghofio fod darparwyr yn parhau I weithredu emwn amgylchedd heriol lle mae costau’n cynyddu a bod yn rhaid cymryd penderfyniadau anodd.”

CHC’s response to the Welsh Government’s ‘Prosperity for All’ strategy

19/09/2017

The Welsh Government has today published 'Prosperity for All' - a national strategy to deliver its key priorities for the rest of this Assembly term. 

Stuart Ropke, Chief Executive Officer at Community Housing Cymru said:

“It’s great the Welsh Government has identified housing as one of their top five priority areas and we hope that it is given the same priority in the draft budget, which is due next month.

“We share Welsh Government’s vision for everybody to live in a home that meets their needs, and helps them to live a healthy and prosperous life. To make this a reality and to increase the supply of homes, we entered into a housing supply pact with the Welsh Government to deliver at least 12,500 of their 20,000 affordable housing target. The latest house building statistics released by the Welsh Government highlight the progress being made, but much more needs to be done and our members are constantly looking at innovative ways to increase supply and to make public funding go further.

“We welcome the Welsh Government’s plan to make homes more affordable to rent, particularly in the context of welfare reform which is having a disproportionate effect on Welsh social housing tenants. The introduction of Universal Credit  has meant that many people are unable to pay their rent, and the introduction of the Local Housing Allowance cap will result in difficult financial decisions for many people across Wales.  We’re pleased the Welsh Government has brought forward a rent policy review, which will play a part in managing the impact of welfare reform.

“We agree that providing secure, affordable housing is the strongest basis for supporting vulnerable individuals to overcome mental health and substance misuse issues. We’ve been working with our members and Cymorth Cymru to demonstrate the importance of the Supporting People fund, and to highlight the difference it is making to people’s lives right across Wales.  Supporting People funding is vital to provide and fund quality housing-related support services to enable vulnerable people to live independently at home for as long as they wish or are able to do so.

“Our recent ‘ Housing Horizons’ report highlighted the challenge of providing appropriate homes for an ageing population. The population is estimated to increase by 4.3% by 2036, with nearly all this growth accounted for by people aged over 65. This means we need a long term vision to ensure we are addressing this challenge head on.  We will be launching this vision at our annual conference in November.” 

Cyhoeddi Ystadegau Adeiladau Tai (Ebrill - Mehefin 2017)

14/09/2017

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth ar nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd, lle mae adeiladu wedi dechrau a rhai a gwblhawyd, ar gyfer y cyfnod Ebrill - Mehefin 2017.

Mae'r adroddiad llawn ar gael yma.

Mae'r pwyntiau allweddol yn cynnwys:

  • Cynyddodd nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd o 2 y cant yn ystod 2016-17 ac mae'r cynnydd hwn wedi parhau i chwarter cyntaf 2017-18.
  • Yn ystod chwarter Ebrill i Fehefin 2017 dechreuwyd 1,853 o anheddau newydd. Mae hyn yn gynnydd o dros draean (37 y cant) ar yr un chwarter yn y flwyddyn flaenorol a dyma'r nifer uchaf o anheddau a ddechreuwyd mewn unrhyw chwarter Ebrill i Fehefin ers 2008-09.
  • Cwblhawyd 2,066 o anheddau newydd yn ystod Ebrill i Fehefin 2017, cynnydd o chwarter (27 y cant) ar y flwyddyn flaenorol, ac fel gyda dechreuadau, y nifer uchaf a gofnodwyd mewn unrhyw chwarter Ebrill i Fehefin ers 2008-09.
  • Cynyddodd nifer yr anheddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a gwblhawyd gan 56 y cant ar y flwyddyn flaenorol i 450 o anheddau, 22 y cant o'r holl anheddau a gwblhawyd yn ystod y chwarter.

Llofnododd aelodau CHC Gytundeb Cyflenwad Tai gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu 12,500 o'r targed o 20,000 o dai fforddiadwy erbyn 2021. Mae mwy o wybodaeth ar y Cytundeb ar gael yn: https://chcymru.org.uk/policy/housing-pact/

CHC’s response to the Wales Audit Office report on Supporting People programme

31/08/2017

The Wales Audit Office has published a report about the Welsh Government’s management of the Supporting People Programme. 

Stuart Ropke, Chief Executive Officer at Community Housing Cymru said:

“Research has indicated that every £1 invested in Supporting People services delivers £2.30 of savings to housing, health, social care and community safety, thus reducing pressure on a range of other public services.  The programme helps approximately 60,000 of the most vulnerable and marginalised people to avoid homelessness and live independently in their communities.  This includes older people, vulnerable young people, care leavers, families fleeing domestic abuse, people with mental health problems, people with learning disabilities, people with substance misuse problems and more.

“The Wales Audit Office report raises some points around governance and measurement that need exploring. However it is vital that this fund is protected due to the positive impact it’s had on people and services, and also because it encourages people to engage with education, training and employment opportunities.”

Smart Energy GB - Campaign to target over 65’s who are offline

17/08/2017

As you may or not be aware smart meters are the next generation of gas and electricity meters. They're being installed by energy suppliers in every home in England, Scotland, and Wales. Smart meters come with an in-home display screen that shows you exactly how much energy you're using in pounds and pence, in near real time and will bring an end to estimated bills. By the end of 2020, around 53 million smart meters will be fitted in over 30 million premises (households and businesses) across Wales, Scotland and England. The programme is already underway. Now nearly seven million smart meters have been installed. This is the biggest national infrastructure project in our lifetimes and it will enable a more energy efficient system for Great Britain.

Community Housing Cymru has been working with Smart Energy GB to promote the roll out of smart meters across Wales. We’re now entering the next phase of this partnership to ensure we’re really focusing on helping those who need the most help to understand the benefits smart meters can bring. Audience research shows that people over 65, who are offline, are much less likely to engage with the campaign. This will include many of your older tenants, and we want to work with you to ensure the campaign reaches them to build confidence in this new technology so they can benefit from getting a smart meter.

For more information on how you can help us reach these tenants please visit our webpage here.

Ail-lansio ymgyrch Gadewch i Ni Barhau i Gefnogi Pobl

09/08/2017

Ynghyd â Cymorth Cymru rydym wedi ail-lansio ymgyrch Gadewch i Ni Barhau i Gefnogi Pobl.

Mae'r rhain yn ychydig fisoedd tyngedfennol i'r gyllideb Cefnogi Pobl, wrth i Lywodraeth Cymru edrych am arbedion cost ar draws pob adran cyn cyflwyno eu drafft gyllideb ym mis Hydref.

Mae'n hollol hanfodol ein bod yn cydweithio i ddangos pwysigrwydd y gronfa Cefnogi Pobl a'r gwahaniaeth a wnaiff i fywydau pobl.

Mae CHC a Cymorth Cymru yn ymroddedig i arwain yr ymgyrch yn genedlaethol - ond rydym angen eich help yn lleol.  Lawrlwythwch y pecyn ymgyrch yn awr, sy'n rhoi sylw i nifer o gamau gweithredu y gallwch eu cymryd i gefnogi'r ymgyrch.

Cysylltwch â Hugh Russell hugh-russell@chcymru.org.uk neu Rebecca Goodhand Rebecca-goodhand@chcymru.org.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau. 

CHC’s response to BRE whole system test results

04/08/2017

Clarissa Corbisiero-Peters, Deputy CEO of Community Housing Cymru, the membership body for Housing Associations in Wales said:

“We are disappointed to learn the latest results of the whole system test in light of the Grenfell Tower fire.

The safety of tenants has always, and will continue to be a priority for Housing Associations in Wales.

We have been in close contact with Newport City Homes whose focus is on making sure that residents are safe and feel reassured.  They have a clear plan in place which is in line with recent guidance issued by the UK Government’s Expert panel and the DCLG.

Community Housing Cymru is represented on the Welsh Government’s Fire Advisory Group, established to consider the wider implications emerging from the Grenfell Tower disaster and subsequent inquiry and investigation. We will continue to work closely with the Welsh Government to ensure that our members know the full picture regarding fire safety, in turn, making sure that tenants are kept informed, involved and reassured throughout.”
Carl Sargeant, Cabinet Secretary for Communities & Children has issued this written Statement: http://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2017/firetesting/?lang=en

The guidance issued by the DCLG following this test results can be found here: https://www.gov.uk/government/publications/advice-for-building-owners-large-scale-wall-system-test--2

Diweddariad Adolygiad Llywodraethiant

03/08/2017

Cynhaliodd CHC nifer o ddigwyddiadau ymgynghori gydag aelodau ddechrau mis Gorffennaf i helpu llunio a datblygu cynnig llywodraethiant CHC i aelodau. Fel rhan o'r drafodaeth honno buom yn edrych ar God Llywodraethiant y sector a'i gryfderau a gwendidau posibl yn ogystal â'r heriau'n ymwneud â recriwtio a meysydd ehangach i wella'r cynnig llywodraethiant i aelodau a darpariaeth hyfforddiant ar lywodraethiant. Cafwyd llawer o adborth gwerthfawr yn y digwyddiadau hyn a chaiff yn awr ei ddefnyddio i helpu llunio'r camau nesaf. Yn gynharach eleni, ymrwymodd CHC i adolygu'r Cod Llywodraethiant ac mae'r adborth gan aelodau yn sicr yn awgrymu rhai meysydd ar gyfer gwella. Er mwyn mynd â'r gwaith hwn rhagddo, bydd CHC yn cyhoeddi galwad am ddatganiadau diddordeb mewn ymuno â'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cod Llywodraethiant.

Byddwch yn gwybod hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi cychwyn ei Adolygiad Llywodraethiant ac y bu grŵp llywio a grŵp gohebiaeth ehangach yn gweithio i sefydlu cwmpas clir, yn ogystal â chanlyniadau'r adolygiad. Erbyn hyn dylech fod wedi derbyn neges e-bost gyda dolen i'r arolwg. Derbyniwyd nifer o ymatebion hyd yma ond byddai'n wych cael ymateb gan bob sefydliad sy'n aelod. 11 Awst yw'r dyddiad cau ar gyfer ymateb.

Cartrefi Cymunedol Cymru yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

02/08/2017

Cafodd canfyddiadau ymchwiliad naw mis i'r trosolwg rheoleiddiol o gymdeithasau tai yng Nghymru ei gyhoeddi heddiw, gan ddod i'r casgliad y bu newid rheoleiddiol yn y sector yn 'gam yn y cyfeiriad cywir' wrth sicrhau mwy o dryloywder ac agoredrwydd.

Wedi'i arwain gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae'r adroddiad yn dweud y bu newidiadau rheoleiddiol diweddar, yn cynnwys lansio'r dyfarniad rheoleiddiol newydd a fframwaith rheoleiddiol diwygiedig ar safonau perfformiad newydd, yn symudiad cadarnhaol i'r sector.

Derbyniodd yr ymchwiliad dystiolaeth gan Cartrefi Cymunedol Cymru, cymdeithasau tai Cymru, grwpiau tenantiaid a benthycwyr, a hefyd yn argymell sut y gellir gwella rheoleiddio ymhellach, yn cynnwys:

  • cynyddu data sydd ar gael i'r cyhoedd ar berfformiad cymdeithasau tai
  • adolygu buddion a risgiau arallgyfeirio
  • galluogi cymdeithasau tai i dalu i aelodau eu bwrdd ac adrodd ar hyn mewn ffordd agored a thryloyw

Mae'r pwyllgor hefyd wedi gwneud nifer o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a Bwrdd Rheoleiddiol Cymru, yn cynnwys awgrymu y gellid recriwtio timau rheoleiddiol o'r tu allan i'r gwasanaeth sifil.

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Clarissa Corbisiero-Peters, Dirprwy Brif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Rydym yn croesawu cyhoeddi adroddiad heddiw gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, sy'n dilyn ymchwiliad cadarn a maith i reoleiddiad cymdeithasau tai yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn cydnabod rôl hollbwysig cymdeithasau tai wrth fynd i'r afael â'r argyfwng tai, a daw i'r casgliad fod y fframwaith rheoleiddiol newydd yn gam yn y cyfeiriad cywir i wneud rheoleiddio cymdeithasau tai yn fwy agored, tryloyw a hygyrch.

"Mae'r adroddiad yn cydnabod gwaith cynyddol amrywiol cymdeithasau tai, yn cynnwys darparu gwasanaethau cymorth, ac adeiladu cartrefi ar gyfer prynwyr tro cyntaf a llety myfyrwyr. Fel busnesau cymdeithasol annibynnol, mae'r arallgyfeirio yma'n galluogi cymdiethasau tai yng Nghymru i gynhyrchu mwy o fuddsoddiad, sy'n gwneud i'r arian cyhoeddus a dderbyniwn fynd ymhellach a chaniatau i ni barhau i ganolbwyntio ar ein diben craidd o ddarparu cartrefi fforddiadwy.

"Rydym hefyd yn cydnabod yr her a amlygir i gymdeithasau tai yn yr adroddiad, yn neilltuol yng nghyswllt gwella tryloywder a hygyrchedd gwybodaeth ar gyfer tenantiaid, a byddwn yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i adeiladu ar enghreifftiau o arfer da a symud ymlaen gyda'r argymhellion hyn fel bod gan gymunedau fynediad i wybodaeth a data ystyrlon ac amserol.

"Rydym yn falch fod y pwyllgor wedi cydnabod pwysigrwydd Cod Llywodraethiant CHC wrth sicrhau fod ansawdd llywodraethiant yn y sector yn parhau'n uchel. Byddwn yn gweithio'n agos gyda'n haelodau i gryfhau ac adolygu'r Cod dros y misoedd i ddod i sicrhau ei fod yn parhau'n gadarn, ac i gymryd rhan lawn yn adolygiad y Bwrdd Rheoleiddiol ar lywodraethiant.

"Fel sefydliadau annibynnol, mae'n iawn caniatau i gymdeithasau tai ystyried p'un ai i dalu i aelodau bwrdd, a chefnogwn y pwyllgor yn yr argymhelliad hwn. Mae'r adroddiad hefyd yn argymhell caniatau i'r rheoleiddiwr i recriwtio'n allanol, fel y gellir llogi'r rhai gyda'r sgiliau cryfaf a mwyaf addas, ac anogwn Lywodraeth Cymru i ymateb yn gadarnhaol i'r argymhelliad hwn fydd yn helpu i wella llywodraethiant a rheoleiddiad y sector.


. Nodiadau i'r Golygydd

  • Mae cymdeithasau tai yn berchen ac yn rheoli 158,000 o gartrefi ledled Cymru
  • Yn 2015/16 darparodd cymdeithasau tai 2,322 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol ledled Cymru
  • Ers 2008, maent wedi darparu cyfanswm o 17,864 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol; cafodd 29% o'r rhain (5229 cartref) eu darparu heb Grant Tai Cymdeithasol
  • Yn 2015/16, gwariodd cymdeithasau tai Cymru £1.05bn yn uniongyrchol gan gyfrannu £1.97bn i'r economi - gyda 89% yn aros yng Nghymru
  • Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn cyflogi 9,109 cyfwerth ag amser llawn yn uniongyrchol, ac yn cefnogi mwy na 23,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn ledled Cymru


Mae Clarissa Corbisiero-Peters, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Cartrefi Cymunedol Cymru, ar gael ar gyfer cyfweliadau.

Cynllunio ar gyfer 20,000 o gartrefi

19/07/2017

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru, ynghyd â Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi llofnodi Cytundeb Cyflenwi Tai sy'n addo cyflenwi 20,000 o gartrefi erbyn diwedd tymor presennol y Cynulliad. Gwelsom ymagwedd gadarnhaol at gyflenwi gan ein haelodau, yn ogystal â chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar ffurf cyllid cyfalaf sylweddol. Mae CHC wedi adolygu profiadau ei aelodau o'r systemau cynllunio a chaffael tir, yn ogystal â'r problemau a gânt pan maent ar  safle pan roddwyd caniatâd, er mwyn sicrhau y gall cymdeithasau tai fanteisio'n llawn ar y cyd-destun cadarnhaol y maent yn gweithredu ynddo. Fe wnaethom hefyd ofyn iddynt ddynodi meysydd y dynodwyd a fyddai o bosibl yn arafu eu gallu i adeiladu'r tai mae Cymru eu hangen.

Er mwyn goresgyn y rhwystrau hyn mewn ffordd adeiladol, buom yn gweithio gyda'n partneriaid yn y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi a Ffederasiwn Meistri Adeiladu - y mae ei haelodau â phryderon tebyg am rwystrau wrth gyflenwi tai - i baratoi papur gwybodaeth 'Cynllunio ar gyfer 20,000 o Gartrefi: Argymhellion ar gyfer gwelliannau i'r systemau tir a chynllunio a fyddai'n hwyluso cyflawni Cytundeb Tai 2016'. Darllenwch y papur gwybodaeth yma

Diben y papur gwybodaeth yw argymell meysydd ar gyfer gwella'r systemau cyfredol a rhoi sylw i syniadau ein haelodau i gyflymu prosesau a gwella galluoedd awdurdodau lleol i'n helpu i gyflenwi nifer fwy o gartrefi newydd.

Bu ymgysylltu â rhanddeiliaid yn rhan o'r broses o baratoi'r adroddiad hwn ac, ynghyd â'n haelodau, rydym yn ddiolchgar i'r dilynol am eu hamser: RTPI Cymru; Lichfields; Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi; Dŵr Cymru; Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Arup; a Chymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru.

DCLG yn cyhoeddi y cynhelir mwy o brofion

06/07/2017

Mae panel arbenigol annibynnol yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (DCLG) wedi cynghori cynnal mwy o brofion fel y cam nesaf i helpu landlordiaid sicrhau diogelwch eu hadeiladau yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru: "Croesawn gyhoeddiad DCLG Llywodraeth y Deyrnas Unedig y cynhelir mwy o brofion i helpu canfod sut mae gwahanol fathau o baneli Deunydd Alwminiwm Cyfansawdd (ACM) mewn cyfuniad â gwahanol fathau o insiwleiddiad yn ymddwyn mewn tân, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru wrth i ni symud ymlaen i brofion system gyfan.

Mae'n hollbwysig fod cam nesaf y broses yn symud yn gyflym a bod tenantiaid yn cael gwybodaeth, cael eu cynnwys ac yn derbyn sicrwydd drwy'r cyfan.

Diogelwch ein tenantiaid fu ac sy'n parhau i fod y flaenoriaeth uchaf i'n haelodau.'

 

Darllenwch ddatganiad llawn y DCLG yma.  

Diweddariad Twr Grenfell - 5 Gorffennaf

05/07/2017

Y sefyllfa yng Nghymru

Mae ein haelodau yn berchen neu'n rheoli 18 bloc sy'n 7 llawr neu fwy.

 

Profion

Canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru yw dilyn arweiniad yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Lleol (DCLG) yng nghyswllt profion os amheuir fod cladin math ACM ('Aluminium Composite Material') ar adeiladau preswyl o saith llawr neu fwy (neu dros 18m mewn uchder). Caiff y profion ar gyfer cynllun y DCLG eu cynnal drwy BRE. Mae'r cynllun profion ar gyfer cladin a gadarnhawyd neu yr amheuir ei fod yn ACM ar adeiladau 7 llawr neu fwy. Ni fydd y BRE yn derbyn unrhyw samplau eraill ar gyfer eu profi drwy'r cynllun hwn ac nid oes argymhelliad i brofi unrhyw samplau eraill.

 

Beth sy'n digwydd os bydd canlyniad o fethu?

Os amheuir fod cladin ACM ar adeilad, neu os yw sampl wedi methu, mae'r DCLG wedi cyhoeddi cyfarwyddyd ar 22 Mehefin yn rhoi manylion camau i'w dilyn i sicrhau diogelwch tân yr adeilad tra caiff diogelwch y cladin ei asesu ymhellach.

 

A ddylid tynnu cladin ACM?

Cyhoeddodd y panel arbenigol a gynullwyd gan y DCLG y datganiad dilynol ar 29 Mehefin:

“Mae'r profion a gynhelir ar hyn o bryd yn brawf sgrinio i ddynodi pa baneli ACM sydd o gonsyrn. Mae'n profi'r llenwr - craidd y panel - i wirio os yw o losgadwyedd cyfyngedig (categori 1) neu beidio (categori 2 neu 3). Mae hyn yn unol â gofynion canllawiau Rheoliadau Adeiladu. Mae'r llenwr yn un elfen o'r system cladin gyffredinol.

Os yw craidd y panel yn methu'r prawf, byddem yn disgwyl i'r landlord gymryd y mesurau diogelwch tân dros dro a argymhellwyd a gyhoeddwyd ar 22 Mehefin.

Yn gynnar yr wythnos nesaf bydd y Panel Arbenigol yn ystyried os yw'n ddiogel defnyddio'r paneli hyn fel rhan o system wal allanol adeilad ehangach, ac felly y gallent aros ar adeilad dan rai amgylchiadau cymeradwy. Yn y cyfamser, os yw landlord yn dewis tynnu lawr a gosod cladin newydd, dylid bod yn ofalus i ystyried yr effaith y gallai tynnu'r cladin ei gael ar elfennau eraill y wal, yn arbennig insiwleiddiad, ac felly ar integriti tân cyffredinol yr adeilad yn ogystal â gofynion eraill Rheoliadau Adeiladu."

Bydd CHC yn hysbysu aelodau am ganlyniad Panel Arbenigol y Deyrnas Unedig.

 

Beth am adeiladau llai na 7 llawr?

Nid yw Llywodraeth Cymru na'r DCLG wedi argymell profi cladin ar adeiladau dan 7 llawr (18m) mewn uchder. Nid yw profion BRE ar gael ar gyfer cladin ar adeiladu dan 7 llawr.

 

Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Tân Cymru

Mae Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, wedi sefydlu Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Tân i ystyried y goblygiadau ehangach sy'n dod i'r amlwg o drychineb Tŵr Grenfell a'r ymholiadau a'r ymchwiliad dilynol. Aelodau'r grŵp yw:

Stuart Ropke – Prif Weithredydd, Cartrefi Cymunedol Cymru
Steve Thomas – Prif Weithredydd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Ruth Marks – Prif Weithredydd, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Huw Jakeway – Prif Swyddog Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
David Wilton – Prif Weithredydd, Gwasanaeth Ymgynghori Cyfranogiad Tenantiaid Cymru

Cynhelir cyfarfod y grŵp yn nes ymlaen yr wythnos yma.

 

Gwaith CHC

Bu CHC mewn cysylltiad dyddiol gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ers tân Tŵr Grenfell. Rydym wedi rhoi data i hysbysu Llywodraeth Cymru wrth wneud penderfyniadau ac amlygu record ddiogelwch ardderchog ein haelodau yng nghyswllt blociau uchel. Cafodd Stuart ei gyfweld ar BBC Radio Wales fore ddoe i drafod ymatebion ein haelodau i'r drychineb. Medrir clywed y cyfweliad ar 1:38:30 ar y ddolen ddilynol: https://t.co/wjXxKOWlbH

Caiff CHC ein cynrycholi ar y Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Tân fel y nodir uchod. Byddwn hefyd yn rhoi tystiolaeth, ynghyd â'n haelodau, i ymchwiliad y Cynulliad ar ddiogelwch mewn blociau tŵr a gynhelir ar 13 Gorffennaf.

 

Gwybodaeth bellach gan Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi set o Gwestiynau Cyffredin yn dilyn y tân, y medrir eu gweld yma.

Cyhoeddodd Carl Sargeant ddatganiad ysgrifenedig ar ddydd Llun 3 Gorffennaf, yn amlinellu eu hymateb hyd yma. Medrir darllen hwn yma.

Datganiad diweddaraf CHC ar dân Tŵr Grenfell

29/06/2017

Rydym yn dal i weithio'n agos gyda'n haelodau a Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr fod y darlun llawn gennym am brofi cladin gan gymdeithasau tai Cymru.

Mae ein haelodau yn asesu eu heiddo a, lle'n briodol, yn cymryd y cyfle i anfon samplau ar gyfer eu profi. Ni dderbyniwyd unrhyw ganlyniadau hyd yma o unrhyw samplau a anfonodd cymdeithasau tai Cymru i gael eu profi.

Yn ychwanegol at hyn, mae ein haelodau'n gweithio'n agos gydag awdurdodau tân lleol i adolygu mesurau presennol diogelwch tân ac i roi sicrwydd i denantiaid.

Diogelwch tenantiaid y'r peth pwysicaf oll ac mae'n parhau i bod yn brif flaenoriaeth ein haelodau.

Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac i weithio'n agos gyda'n haelodau a Llywodraeth Cymru.

Gwobr Creu Creadigrwydd Pat Chown 2017

28/06/2017

Ddwy flynedd ar bymtheg yn ôl, sefydlodd Cartrefi Cymunedol Cymru gynllun Gwobr i gydnabod arloesedd tai er cof am berson arbennig - Pat Chown. Rhoddodd Pat ran helaeth o'i bywyd i helpu eraill a threuliodd lawer o'i gyrfa yn helpu i ddiwallu anghenion tai pobl yng Nghymru.

Fel ffordd o gofio Pat, ei chyfraniad i’r sector tai a’i chwilio parhaus am ffyrdd gwell o wneud pethau, mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn gwahodd cynigion ar gyfer Gwobr Creu Creadigrwydd.

Nod y Wobr yw cydnabod arloesedd:

  • Ffyrdd newydd i ymateb i faterion dydd-i-ddydd.
  • Syniadau gwirioneddol newydd am ddelio gyda phroblemau cyffredin.
  • Ffordd llawer rhwyddach o drin hen broblem.

Bydd beirniaid y Wobr yn edrych am gynigion sy'n dangos fod y prosiect wedi torri tir newydd.

Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr, cyfraniad o £1,000 i'w dewis o elusen seiliedig yng Nghymru, a chyhoeddir enw'r enillydd yng Nghynhadledd Tai Fawr CHC ym mis Hydref.

Mae mwy o wybodaeth a ffurflen gais i’w lawrlwytho ar gael yma.

I gael gwybod mwy am y wobr, ewch i Cartref i ddarllen swydd gan John Chown, aelod o'r panel beirniadu.

Llywodraeth Cymru yn amlinellu blaenoriaethau deddfwriaethol am y flwyddyn i ddod

27/06/2017

Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, heddiw wedi amlinellu blaenoriaethau deddfwriaethol ei lywodraeth am y flwyddyn i ddod. Mae'r rhaglen ddeddfwriaethol yn cynnwys cyflwyno deddfwriaeth yn y 12 mis nesaf i ddiwygio mesurau rheoleiddio ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru yn dilyn penderfyniad yr ONS y llynedd i ail-ddosbarthu cymdeithasau tai fel cyrff cyhoeddus.

 

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru: "Rydym wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ers penderfyniad yr ONS i ailddosbarthu cymdeithasau tai Cymru fel cyrff cyhoeddus fis Medi diwethaf. Rydym yn croesawu’r newyddion y cyflwynir deddfwriaeth yn y 12 mis nesaf i wrthdroi'r penderfyniad yma. Yn y pen draw, gallai ailddosbarthu cymdeithasau tai i'r sector cyhoeddus gyfyngu datblygiad cartrefi fforddiadwy newydd, gan beryglu'r targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn y Cytundeb Cyflenwi Tai a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y llynedd ar y cyd â CHC a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Byddwn yn parhau i weithio gydag aelodau a Llywodraeth Cymru tra cyflwynir y ddeddfwriaeth i sicrhau fod rheoleiddio cymdeithasau tai Cymru yn parhau i fod yn gadarn, tryloyw ac addas i'r diben, gyda thenantiaid yn ganolog iddo.

 

Darllenwch ddatganiad i'r wasg Llywodraeth Cymru yma

Ymateb diweddaraf CHC at dan Twr Grenfell - 26 Mehefin

26/06/2017

Bu CHC yn gweithio'n agos gydag aelodau a Llywodraeth Cymru i sicrhau diogelwch tenantiaid yn y dyddiau a'r wythnosau yn dilyn y tân brawychus yn Nhŵr Grenfell yn Llundain. 
 

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd:

“Mae'n anodd dychmygu'r effaith a gafodd y tân arswydus yn Nhŵr Grenfell ar breswylwyr ac anwyliaid y rhai a gollodd eu bywydau. Mae CHC yn gweithio gydag aelodau i sicrhau y cymerir pob cam i atal unrhyw beth tebyg rhag digwydd yng Nghymru ac i roi sicrwydd i denantiaid.

Buom yn gweithio'n agos iawn gyda'n haelodau a Llywodraeth Cymru i gasglu gwybodaeth ar stoc ein haelodau. Gallwn gadarnhau na chafodd y math o gladin a ddefnyddiwyd yn Nhŵr Grenfell ei ddefnyddio ar unrhyw dŵr bloc sy'n eiddo cymdeithas tai yng Nghymru. Rydym hefyd yn annog aelodau i ddefnyddio gwasanaethau profi Llywodraeth Cymru ar gyfer holl gladin blociau tŵr i sicrhau ei fod yn pasio profion diogelwch tân.

Mae CHC hefyd yn croesawu'r ymchwiliad a gynhelir gan Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Cynulliad Cenedlaethol ar ddiogelwch tân mewn blociau tŵr. Byddwn yn rhoi tystiolaeth, wrth ochr ein haelodau, i sicrhau fod gan aelodau pwyllgor yr holl wybodaeth maent ei hangen i wneud unrhyw argymhellion angenrheidiol i Lywodraeth Cymru ar ddiogelwch tân mewn adeiladau uchel.

Ein tenantiaid yw prif flaenoriaeth y sector. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n haelodau, Llywodraeth Cymru ac ymchwiliad y Cynulliad dros yr wythnosau a misoedd nesaf i roi sicrwydd pellach ac i wneud yn siŵr fod ein tenantiaid yn ddiogel."

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Gwnaeth Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, ddatganiad ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r tân.

"Mae landlordiaid cymdeithasol preswyl Cymru rhyngddynt yn berchen ar 36 o flociau o fflatiau sy'n cynnwys saith llawr neu ragor.

Mae landlordiaid cymdeithasol wedi dweud wrthym ni nad yw'n ymddangos bod unrhyw un o'r rheini yn cynnwys y math o gladin a oedd wedi'i ddefnyddio ar Dŵr Grenfell. Mae systemau chwistrellu wedi'u hôl-osod mewn saith bloc yng Nghymru - ac wrth gwrs, fel rhan o'r newidiadau a gyflwynwyd fel rhan o Fesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011, byddai'n rhaid i unrhyw flociau newydd neu unrhyw waith adnewyddu i flociau presennol gynnwys system chwistrellu. Cafodd y gofynion eu cyflwyno ar gyfer fflatiau a thai ar 1 Ionawr 2016.

Bydd gosod system chwistrellu mewn tai newydd ac fel rhan o raglenni adnewyddu yn cyfrannu'n fawr at y gwaith o leihau'r perygl o farwolaeth ac anafiadau oherwydd tân. Mae rhai cynghorau a chymdeithasau tai yng Nghymru eisoes wedi gwneud hyn.

Rwy'n gobeithio bod hyn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i breswylwyr y safleoedd hynny."

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd y caiff grŵp arbenigol ei ffurfio i edrych ar y gwersi i'w dysgu o dân Tŵr Grenfell. Caiff y grŵp, fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sector tai cymdeithasol a'r gwasanaethau tân ac achub, ei gadeirio gan Des Tidbury, Prif Gynghorydd Tân Llywodraeth Cymru.

Mae CHC mewn cysylltiad agos gyda Llywodraeth Cymru, ac yn parhau i roi gwybodaeth a hwyluso cyfathrebu amserol gydag aelodau.

 

Ymchwiliad y Cynulliad

Bydd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad ar 13 Gorffennaf i ddiogelwch tân mewn blociau tŵr. Bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan nifer o randdeiliaid yn cynnwys CHC a'n haelodau.

Bydd yr Ymchwiliad yn ystyried y meysydd dilynol:

Pa ofynion/mesurau diogelwch tân sydd ar waith mewn blociau tŵr yng Nghymru ar hyn o bryd
A oes unrhyw fylchau neu wendidau amlwg yn y system bresennol o reoleiddio diogelwch tân mewn blociau tŵr yng Nghymru?
A yw'r canllawiau i drigolion blociau tŵr yng Nghymru, mewn achos o dân, yn briodol?
Sut y caiff trigolion blociau tŵr yng Nghymru wybodaeth a sicrwydd am ddiogelwch tân yn dilyn tân Tŵr Grenfell?

 

Rhoi sylw i'ch gwaith

Bu aelodau CHC yn gweithio'n agos gyda'u Haelodau Cynulliad, Aelodau Seneddol a chynghorwyr lleol i roi sicrwydd eu bod yn gweithio'n agos gyda thenantiaid. Gall aelodau ddod o hyd i fanylion eu Haelodau Seneddol lleol yma: http://senedd.assembly.wales/mgFindMember.aspx

Hefyd, bu Gary Colston o Cartrefi Cymoedd Merthyr o amgylch Cwrt Santes Tudful, bloc 11 llawr ym Merthyr Tudful, gyda BBC Radio Wales ac ymgynghorydd diogelwch tân. Rhoddwyd sylw i Cwrt Santes Tudful ar raglen newyddion min nos ITV Cymru hefyd.

 

Cadw mewn cysylltiad

Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein hymateb i dân Tŵr Grenfell.

Gorwelion Tai Cam Dau - Sefydlu'r Her

23/06/2017

Heddiw (23 Mehefin) rydym yn lansio Cam Dau ein prosiect Gorwelion Tai yn y Gynhadledd Arweinyddiaeth gyntaf erioed yng Nghaerdydd.

Prif nod Gorwelion Tai yw gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru. Bydd y weledigaeth hon yn safleoli cymdeithasau tai fel partner o ddewis a rhan hanfodol o'r datrysiad i'r argyfwng tai.

Yn dilyn lansiad dechreuol Gorwelion Tai yn ein Cynhadledd Flynyddol fis Rhagfyr diwethaf, buom yn brysur yn siarad gydag aelodau a rhanddeiliaid am eu canfyddiadau o'r sector, beth y credant yw canfyddiad pobl eraill o'r sector a beth a gredant yw'r heriau sydd i ddod yn 2036 (ugain mlynedd ers y lansiad) a sut y gallwn fynd i'r afael â'r rhain fel sector. Rydym hefyd wedi comisiynu Savills i baratoi adroddiad ar sut olwg sydd ar yr her i'r sector yn 2036 er mwyn bod yn sail i'n gweledigaeth hirdymor, a hwn yw'r adroddiad a lansiwn heddiw yn ein Cynhadledd Arweinyddiaeth.

Mae'n amser ar gyfer y cam nesaf - Sefydlu'r Her.

Mae'n glir y bydd newidiadau demograffig yng Nghymru yn cael effaith fawr ar y cartrefi a'r gwasanaethau a ddarparwn. Er enghraifft, erbyn 2031, caiff 54% o aelwydydd eu harwain gan berson dros 65 oed a bydd 100,000 o aelwydydd wedi'i ffurfio o berson sengl dros 85 oed. Pa mor addas yw ein cartrefi presennol ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio, a sut mae paratoi ar gyfer y cynnydd mewn pobl a all fod eisiau cael mynediad i dai a gwasanaethau sy'n darparu'n benodol ar gyfer yr henoed?

Wedi cysylltu'n agos â demograffeg, disgwylir i gyfansoddiad aelwydydd newid yn sylweddol erbyn 2036 sydd â goblygiadau ar gyfer yr holl stoc tai newydd a phresennol yng Nghymru. Bydd newidiadau i faint a chyfansoddiad aelwydydd yn y dyfodol yn effeithio ar y galw am eiddo o faint neilltuol, a rhagwelir y byddwn yn gweld symudiad ymaith o deuluoedd tri pherson. Sut y gallwn sicrhau fod gennym ddigon o gartrefi addas i ddarparu'n benodol ar gyfer bywyd yn y blynyddoedd diweddarach yn ogystal ag ar gyfer y newid yng nghyfansoddiad aelwydydd, gan fynd i'r afael â phryderon am hygyrchedd, y gallu i addasu a fforddiadwyedd costau cynnal a chadw?

Yn olaf, yn edrych ar y gweithlu, bydd 96,000 o oedolion oedran gwaith erbyn 2036 a thwf tebygol mewn gwaith rhan-amser. Gan gadw hyn mewn cof, sut allwn ni gefnogi'r nifer cynyddol o aelwydydd gydag incwm is oherwydd gwaith rhan-amser a pha gefnogaeth allwn ni ei rhoi i oedolion ymuno â'r gweithle i gael mynediad i swyddi ar gyflog gwell? Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio a chynnydd mewn oedran ymddeol, a yw'n swyddi yn ddeniadol i ac yn addas ar gyfer pobl hŷn?

 

Ymwelwch â'n tudalen Gorwelion Tai i ddarllen yr adroddiad llawn a darllen mwy am yr heriau a'r cwestiynau uchod, yn ogystal â chanfod sut y gallwch gymryd rhan a beth yw'r camau nesaf.

Edrychwn ymlaen at glywed eich sylwadau ar Cam Dau - Sefydlu'r Her.

Adwaith CCC i Araith y Frenhines

21/06/2017

Mae'r Frenhines wedi cyflwyno Araith y Frenhines yn agoriad swyddogol y Senedd y bore yma. Mae'r araith yn cynnwys 27 Bil a drafft Bil, a'r pwyntiau allweddol o'r araith yw:

  • Bydd y Llywodraeth yn cyflwyno Bil i ddiddymu Deddf Cymunedau Ewropeaidd a 'rhoi sicrwydd i unigolion a busnesau'
  • Cyflwynir Biliau pellach ar fewnfudo, sancsiynau cymdeithasol, mesurau diogelu niwclear, amaethyddiaeth a physgodfeydd a masnach fel rhan o broses Brexit
  • Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig
  • Bydd y Llywodraeth yn parhau i gynyddu'r isafswm cyflog cenedlaethol ac yn anelu i gynyddu hawliau yn y gweithle, yn ogystal â chyhoeddi strategaeth ddiwydiannol fodern a cheisio denu buddsoddiad yn y seilwaith
  • Bydd y Llywodraeth yn ymgynghori ar gynigion i ostwng biliau ynni a chyllido gofal cymdeithasol yn Lloegr yn y dyfodol
  • Cynhelir ymchwiliad cyhoeddus llawn i'r digwyddiad yn Grenfell Tower
     

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru: 'Yn dilyn Araith y Frenhines heddiw, mae'n glir y bydd Brexit yn dominyddu'r agenda deddfwriaethol am y ddwy flynedd nesaf. Mae'n rhaid i ni sicrhau fod Aelodau Seneddol Cymru yn llwyr ymwybodol o effaith parhaus diwygio llesiant ar draws cymunedau Cymru, yn neilltuol gyda chyflwyno Credyd Cynhwysol a chapio budd-dal tai ar gyfraddau Lwfans Tai lleol ym mis Ebrill 2019.

Byddwn hefyd yn cadw golwg agos ar effaith trafodaethau Brexit a'r effaith posibl yng Nghymru, yn arbennig ar adeiladu.

Ail-lansiwyd cynghrair Cartrefi i Gymru ar gyfer Etholiad Cyffredinol mis Mehefin, yn galw am system les sy'n sicrhau y gall pawb gael mynediad i gartref fforddiadwy a chefnogaeth ar gyfer y diwydiant adeiladu fel y gall gael mynediad i'r deunyddiau a'r llafur mae eu hangen i adeiladu cartrefi fforddiadwy.

Mae'n hanfodol na fydd penderfyniadau a wneir yn San Steffan yn cael effaith niweidiol ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig ac rydym eisoes wedi bod mewn cysylltiad gydag Aelodau Seneddol Cymru yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol.  Rydym wedi cadarnhau nifer o gyfarfodydd dechreuol a rydym hefyd yn gweithio ar gynlluniau ar gyfer digwyddiad yn San Steffan yn ddiweddarach eleni.'
 

Cynhelir cyfres o drafodaethau ar Araith y Frenhines yn y Senedd dros y dyddiau nesaf gyda phleidleisiau ar yr araith ar 28 a 29 Mehefin. 

Tân Tŵr Grenfell

16/06/2017

“Cawsom ein syfrdanu a'n tristau gan y newyddion am Dŵr Grenfell yr wythnos hon a chydymdeimlwn yn fawr  gyda phawb yr effeithiwyd arnynt.

Mae gan gymdeithasau tai ymrwymiad hir-sefydlog i gynnal a chadw ac adeiladu cartrefi i'r safonau uchaf. Mae ein haelodau’n buddsoddi'n helaeth mewn gwella cartrefi presennol i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru ac yn cydymffurfio gyda rheoliadau adeiladu a thân a diogelwch Cymru wrth adeiladu cartrefi newydd neu wneud gwaith adnewyddu sylweddol.

Tra disgwyliwn fanylion pellach am ymchwiliad cyhoeddus Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae ein haelodau yn gweithio gydag awdurdodau tân lleol i adolygu mesurau diogelwch tân cyfredol a rhoi sicrwydd i denantiaid.

Fel corff aelodaeth cymdeithasau tai Cymru, rydym yn gweithio gyda'n haelodau i gasglu gwybodaeth ar y mesurau diogelwch tân mewn blociau tŵr ledled Cymru.

Cafodd systemau chwistrellu dŵr eu gosod mewn hanner blociau tŵr ein haelodau ac mae mesurau diogelwch cadarn eraill yn y gweddill. Ôl-osodwyd fesurau diogelwch tân safon uchel eraill ym mlociau tŵr eraill megis insiwleiddio atal tân Rockwool.

Nid yw ein haelodau byth yn hunanfodlon pan ddaw i faterion diogelwch. Diogelwch tenantiaid yw’r peth pwysicaf oll ac mae’n dal i fod yn brif flaenoriaeth ein haelodau. Mae cymdeithasau tai yn ymroddedig i adeiladu a chynnal a chadw stoc i’r safonau diogelwch uchaf posibl, a byddwn yn parhau i fonitro ac ymgysylltu â phob argymhelliad am ddiogelwch."

General Election 2017 - next steps

12/06/2017

Following last week’s General Election, the Prime Minister’s cabinet reshuffle is underway. David Gauke MP – the former Chief Secretary for the Treasury – has been appointed as the new Secretary of State for Work and Pensions, and Alun Cairns MP retains his position as Secretary of State for Wales. Meanwhile, the previous Work and Pensions Secretary Damian Green MP has been appointed as First Secretary of State, and will effectively act as Deputy Prime Minister. Appointments of Junior Ministers, including the English Housing Minister, will be confirmed later this week.

The House of Commons will meet tomorrow for the first time in this Parliament to elect a speaker and for MPs to take their oath before Parliament officially resumes with the State Opening of Parliament and the Queen’s Speech. The State Opening marks the formal start of the parliamentary year and the Queen’s Speech sets out the government’s agenda for the coming session, outlining proposed policies and legislation, and was due to take place on 19th June. However, this has now been delayed due to ongoing negotiations between the Conservatives and the DUP. We will keep you up to date on all the latest developments as they happen, including a briefing on the announcements in the Queen’s Speech.

General Election 2017 - hung parliament

09/06/2017

With one remaining count ongoing – in Kensington, where there have been a series of recounts – the results of yesterday’s General Election are clear: The Conservatives are the largest party in a hung parliament, 8 seats short of a majority thus far with Labour making significant inroads, picking up 29 seats across the UK.

In Wales, Labour remains the biggest party by some distance, regaining seats they lost in 2015 (Gower & Vale of Clwyd) and 2010 (Cardiff North) and holding on to all of their other seats. The only other seat that changed hands in Wales was Ceredigion, where Plaid Cymru beat the final Lib Dem MP in Wales, meaning Wales doesn’t have a Liberal MP for the first time since 1859.

Some of the other big stories of the night include:

  • Former Deputy Prime Minister Nick Clegg losing his Sheffield Hallam seat to Labour
  • Former Scottish First Minister Alex Salmond and SNP’s Westminster leader Angus Robertson both losing their seats to the Conservatives
  • Home Secretary Amber Rudd needing a series of recounts to hold on to her Hastings & Rye seat, with her majority reduced from 5,000 to around 300
  • English Housing Minister Gavin Barwell losing his seat to Labour, as one of seven Government Ministers to lose their seat

This helpful guide from the Institute for Government explains what happens next in the case of a hung parliament: http://bit.ly/2sSF8h0

Prime Minister Theresa May has rejected calls to resign, and will be going to Buckingham Palace at 12.30 this afternoon to confirm to the Queen that she will seek to form a government.

CHC will be contacting all MPs in the coming days with further information on the Homes for Wales campaign, and issues relating to Brexit and welfare. 

1,224 new homes built by Welsh housing associations in 2016/17

07/06/2017

In response to the latest housebuilding statistics released today by Welsh Government, Stuart Ropke, Chief Executive of Community Housing Cymru, said: “We welcome the housebuilding figures released by Welsh Government today. We signed a Housing Supply Pact with Welsh Government in December 2016, committing Welsh housing associations to build 12,500 new homes of the 20,000 target agreed in the pact.

“Our members completed 1,224 new homes in 2016/17, 98% of new homes in the social sector. While we have an excellent delivery track record and, in fact, over-delivered on the previous target, continued investment in the sector is vital to ensure that we meet this new target.

“We will continue to work with Welsh Government to achieve these goals and, as part of the Homes for Wales coalition which has been re-launched for this month’s General Election, we are also calling on the new UK Government to support a welfare system that ensures everyone can access an affordable home, and  to support the construction industry in light of Brexit negotiations so it can access the materials and labour it needs to build new homes.”

Read the full statistical release here

Cynghrair Cartrefi i Gymru yn cynnal Diwrnod Gweithredu Tai cyn Etholiad Cyffredinol 2017

31/05/2017

Bydd partneriaid ac aelodau Cartrefi i Gymru yn cymryd rhan mewn Diwrnod Gweithredu ddydd Mercher 31 Mai i godi ymwybyddiaeth o ddau beth y mae'r Gynghrair yn gofyn amdanynt gan ymgeiswyr San Steffan.

Ail-lansiwyd cynghrair Cartrefi i Gymru cyn Etholiad Cyffredinol mis Mehefin, yn dilyn ymgyrch lwyddiannus yn ystod Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2016 i godi safle materion tai datganoledig ar yr agenda gwleidyddol. Bydd ymgyrch Etholiad Cyffredinol 2017 Cartrefi i Gymru  yn canolbwyntio ar ddau fater canolog i denantiaid a landlordiaid Cymru a gaiff eu rheoli o San Steffan.

 Ar y Diwrnod Gweithredu, bydd partneriaid Cartrefi i Gymru yn galw ar ymgeiswyr yr Etholiad Cyffredinol yn eu hardal i:

 -          gefnogi system llesiant sy'n sicrhau y gall pawb gael mynediad i gartref fforddiadwy

-          cefnogi'r diwydiant adeiladu fel y gall gael mynediad i'r deunyddiau a'r llafur y mae eu hangen i adeiladu cartrefi fforddiadwy

Caiff partneriaid a chefnogwyr eu hannog i drydaru eu darpar ymgeiswyr seneddol neu gysylltu â nhw ar Facebook i'w hysbysu am faterion lleol a chenedlaethol, i wahodd ymgeiswyr i ymweld â'r cynlluniau a phrosiectau; ac i godi ymwybyddiaeth a sicrhau cefnogaeth ar gyfer prif ofynion y gynghrair gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn dilyn yr etholiad. Gall cefnogwyr hefyd drydaru eu cefnogaeth yn uniongyrchol o wefan Cartrefi i Gymru.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru: "Ers etholiadau llynedd i'r Cynulliad, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn y tymor hwn o'r Cynulliad ac wedi cyflwyno deddfwriaeth i ddod â'r Hawl i Brynu i ben, ond mae ein ffocws yn awr ar San Steffan.

"Caiff yr Etholiad Cyffredinol ar 8 Mehefin ei weld trwy lens y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac rydym eisiau sicrhau y caiff llais cynghrair Cartrefi i Gymru ei glywed. Er bod tai yn fater sydd wedi'i ddatganoli i Fae Caerdydd, mae penderfyniadau yn San Steffan yn dal i ddylanwadu ar yr amgylchedd polisi tai yma yng Nghymru. Dyma pam fod y gynghrair yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn dilyn yr etholiad i gefnogi system llesiant teg a chefnogi'r diwydiant adeiladu. Rydym yn gweithio tuag at darged o 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn 2021, ac rydym eisiau canolbwyntio ar adeiladu'r economi ar ôl Brexit."

Mae partneriaid cynghrair Cartrefi i Gymru eleni yn cynnwys: Cymdeithas Landlordiaid Preswyl (RLA),  Sefydliad Tai Siartredig (CIH) Cymru, Sefydliad Brenhinol Syrfewyr Siartredig (RICS), Sefydliad Brenhinol Cynllunio Trefi (RTPI), Ffederasiwn Adeiladwyr Meistr, a Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi.

Ail-lansio ymgyrch Cartrefi i Gymru ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol

17/05/2017

Mae cynghrair Cartrefi i Gymru wedi ail-lansio ei ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o'r argyfwng tai yng Nghymru cyn Etholiad Cyffredinol mis Mehefin.

Yn dilyn ymgyrch lwyddiannus yn ystod Etholiadau 2016 i'r Cynulliad Cenedlaethol i godi lle materion tai ar yr agenda gwleidyddol, bydd ymgyrch Cartrefi i Gymru Etholiad Cyffredinol 2017 yn canolbwyntio ar ddau fater sy'n ganolog i denantiaid a landlordiaid Cymru a gaiff eu rheoli o San Steffan.

Mae cynghrair Cartrefi i Gymru yn galw ar Lywodraeth nesaf y Deyrnas Unedig i:

  • gefnogi system lesiant sy'n sicrhau y gall pawb gael mynediad i gartref fforddiadwy
  • cefnogi'r diwydiant adeiladu fel y gall gael mynediad i'r deunyddiau a'r llafur y mae ei angen i adeiladu cartrefi fforddiadwy

Mae'r materion hyn yn flaenoriaeth i'r gynghrair oherwydd y trosglwyddo sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd i'r Credyd Cynhwysol o chwe budd-dal arall, yn cynnwys Budd-dal Tai a'r cap Lwfans Tai Lleol (LHA) a gyflwynir ar Fudd-dal Tai. Rhagwelir y bydd y cap LHA yn achosi problemau ariannol difrifol i lawer o denantiaid tai cymdeithasol gan, unwaith y'i cyflwynir, ni fydd swm y budd-dal y mae rhai tenantiaid yn ei dderbyn yn ddigon i dalu am eu rhent. Mae'r gynghrair hefyd yn awyddus i sicrhau y rhoddir sylw i effaith Brexit ar y sector adeiladu yng Nghymru ac y caiff datrysiadau posibl eu dynodi ar gam cynnar.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru: "Mae diwygio llesiant eisoes yn cael effaith anghymesur ar denantiaid Cymru, ac mae'n rhaid i ni sicrhau fod ein Haelodau Seneddol newydd yn llwyr ymwybodol o'r effaith a gaiff y newidiadau hyn ar draws cymunedau Cymru. Mae mwy o denantiaid mewn ôl-ddyled rhent nag erioed o'r blaen gyda chyflwyno'r Credyd Cynhwysol, ac mae oedi mewn gwneud taliadau yn arwain at gynnydd mewn caledi ariannol. Yn ychwanegol, pan ddaw'r cap Lwfans Tai Lleol ar Fudd-dal Tai i rym ym mis Ebrill 2019, rhagwelwn na all llawer o bobl dalu eu rhent os na chaiff newidiadau eu gwneud sy'n adlewyrchu realaeth lefelau rhent yng Nghymru."

Ynghyd â'r effaith ar ddiwygio llesiant, bydd trafodaethau Brexit yn cael effaith sylweddol ar y sector adeiladu yng Nghymru.

Dywedodd Stuart: "Rydym yn dibynnu ar fasnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd ar gyfer deunyddiau adeiladu, a hefyd ar y bobl Ewropeaidd o fewn y diwydiant adeiladu sy'n gweithio yng Nghymru.

"Mae dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig yn ffurfio 7% o'r gweithlu adeiladu yng Nghymru a, gyda gwaith ar fin dechrau ar nifer o brosiectau seilwaith mawr yn y blynyddoedd nesaf, caiff 20,000 o swyddi newydd eu creu yn y diwydiant. Mae ansicrwydd am rydd-symudiad pobl yn unrhyw ddêl Brexit a photensial tariffau ar fewnforion - ynghyd â chynnydd mewn chwyddiant a gostyngiad yng ngwerth y bunt - yn bryder gwirioneddol.

"Ni allwn fforddio i benderfyniadau a wneir yn San Steffan effeithio'n niweidiol ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yng Nghymru."

Yn 2016, llwyddodd ymgyrch Cartrefi i Gymru i sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol gan bob plaid a etholwyd i'r Cynulliad, Fel canlyniad, cafodd Cytundeb Cyflenwi Tai ei lofnodi rhwng Cartrefi Cymunedol Cymru, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru oedd yn cynnwys targed o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy erbyn 2021 (yn cynnwys 13,500 gan gymdeithasau tai); creu hyd at 12,000 o gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth, a datblygu sgiliau ar gyfer 25,000 o denantiaid.

Lansir ymgyrch Etholiad Cyffredinol Cartrefi i Gymru mewn digwyddiad hysting ar 23 Mai yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.

Mae partneriaid cynghrair Cartrefi i Gymru eleni yn cynnwys: Cymdeithas Landlordiaid Preswyl (RLA),  Sefydliad Tai Siartredig (CIH) Cymru, Sefydliad Brenhinol Syrfewyr Siartredig  (RICS), Sefydliad Brenhinol Cynllunio Trefe (RTPI), Ffederasiwn Adeiladwyr Meistr, a Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi. 

Llwyfan i denantiaid leisio eu barn ar effaith Credyd Cynhwysol

09/03/2017

Caiff yr adroddiad ymchwil cyntaf erioed yng Nghymru ar effaith Credyd Cynhwysol o safbwynt tenantiaid ei lansio yng Nghaerdydd heddiw (dydd Iau 9 Mawrth).

Comisiynwyd Prifysgol Metropolitan Caerdydd gan Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), corff aelodaeth cymdeithasau tai Cymru, i gynnal ymchwil gyda thenantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru fel rhan o'i Raglen Amddiffyn Llesiant.

Bu Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn gweithio gyda thenantiaid drwy eu galluogi i gynllunio'r cwestiwn ymchwil a chynnal yr ymchwil eu hunain, gan ddefnyddio grwpiau ffocws o gyd-denantiaid. Mae'r ymchwil annibynnol, a gyllidwyd gan Sefydliad Oak, yn ymchwilio profiadau tenantiaid o Gredyd Cynhwysol, rhwystrau wrth ymgysylltu gyda'u landlord a datrysiadau i oresgyn y rhwystrau hyn.

Canfu'r adroddiad:

- Gall fod oedi o 4-8 wythnos mewn taliad, gan achosi pryder sylweddol a gorfodi nifer o bobl i ddefnyddio banciau bwyd er mwyn ymdopi.
- Mae tenantiaid yn aml yn dibynnu ar gyd-denantiaid am gefnogaeth a gwybodaeth. Roedd diffyg hyder, materion llythrennedd a chost bersonol cysylltu â'r sefydliadau hyn yn rhwystr enfawr i rai tenantiaid rhag cysylltu â'u landlord a'r Adran Gwaith a Phensiynau.
- Ni ystyrid bod llythyrau cyffredinol ar ôl-ddyledion rhent yn effeithlon.
- Roedd y sawl a gymerodd ran yn dymuno cael mwy o gyfathrebu rhwng eu landlord a'r Adran Gwaith a Phensiynau gan nad oedd ganddynt unrhyw ffordd o wybod os cafodd costau cynnydd rhent eu hystyried fel rhan o'u taliad Credyd Cynhwysol newydd.

Mae cyfartaledd ôl-ddyled rhent y Deyrnas Unedig yn £131. Fodd bynnag, mae hyn yn mwy na treblu yng Nghymru i £450 dan y Credyd Cynhwysol sy'n tanlinellu pwysigrwydd y darn hwn o ymchwil.

Croesawodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru, ganfyddiadau'r adroddiad. Dywedodd: "Yr adroddiad hwn yw'r cyntaf o'i fath am effaith Credyd Cynhwysol o safbwyntiau tenantiaid, ac mae'n unigryw oherwydd iddo gael ei gynnal gan y tenantiaid eu hunain. Mae aelodau CHC yn gweithio i liniaru effaith Credyd Cynhwysol ac er ei bod yn galonogol darllen y tenantiaid yn canmol staff cefnogi, gallwn ddysgu llawer o'r ymchwil yma."

Ychwanegodd Stuart: "Mae'r Credyd Cynhwysol wedi creu gwagle rhwng tenantiaid a landlordiaid. Dan y system bresennol, nid yw llawer o landlordiaid yn gwybod os yw eu tenantiaid ar y Credyd Cynhwysol ac felly'n gorfod talu eu rhent eu hunain. Yn aml, dim ond pan maent yn mynd i ôl-ddyled y deuant i wybod am y ffaith eu bod ar y Credyd Cynhwysol."

Ychwanegodd Paul Langley, Pennaeth Datblygu Busnes prosiect Mae Budd-daliadau yn Newid CHC: "Nid oes gennym ar hyn o bryd fynediad awtomatig i wybodaeth am ba denantiaid sydd ar y Credyd Cynhwysol ac rydym yn gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau ar ddatrysiad i wella hyn. Unwaith y caiff y porth landlord ei ymestyn, bydd yn gwella rhannu datblygu i alluogi dull gweithredu personol sy'n hanfodol i sicrhau ein bod yn cefnogi tenantiaid sy'n symud ymlaen i'r Credyd Cynhwysol."

Dywedodd Amanda Protheroe, un o awduron yr adroddiad: "Ein gobaith yw bod yr adroddiad yn adlewyrchu profiadau tenantiaid sy'n delio gyda'r materion o amgylch y Credyd Cynhwysol.  Roedd tenantiaid yn glir am broblemau a rhwystrau wrth gyfathrebu gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau a hefyd eu landlordiaid ond yn awyddus iawn i drafod datrysiadau. Roedd y brif neges yn ymwneud ag ansawdd perthynas tenantiaid gyda'r sefydliadau hyn a soniwyd fod caredigrwydd yn rhywbeth y mae'r tenantiaid yn wirioneddol yn ei werthfawrogi."

Medrir darllen yr adroddiad yma.