Jump to content

Adroddiad Tryloywder Tâl

Cafodd Turning Point HR Solution, cwmni ymgynghori annibynnol ar Wobrwyo, eu penodi gan Cartrefi Cymunedol Cymru i gasglu a dadansoddi data a ddarparwyd yn uniongyrchol gan gymdeithasau tai ar gydnabyddiaeth ariannol uwch reolwyr.

Bwriad yr adroddiad hwn yw cyflwyno gwybodaeth am dâl uwch reolwyr mewn un lle. Nid yw’r adroddiad yn mynd ati i ddadansoddi, gwneud casgliadau nac argymhellion.

Cymerodd 35 o gymdeithasau tai Cymru ran yn yr arolwg meincnodi cyflogau ym mis Awst 2021. Mae’r data yn cyfeirio at gyflogau rhwng cyfnod 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020 ac 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021.

Mae’r data cyflog yn ôl rhyw yn cyfeirio at 5 Ebrill 2021.