Jump to content
Dewislen

28 Hydref 2021

Cyllideb Hydref 2021 Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Trosolwg

Mae adferiad economaidd y Deyrnas Unedig o COVID-19 yn wynebu heriau niferus, yn cynnwys problemau gyda chadwyni cyflenwi byd-eang a chynnydd mewn prisiau ynni. Fel canlyniad, mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi rhagweld y bydd chwyddiant yn codi o 3.1% ym mis Medi 2021 i 4% dros y flwyddyn nesaf. Gwyddom fod llawer o gartrefi ar incwm isel yn wynebu gaeaf anodd gyda rhai eisoes yn teimlo dan straen ariannol ychwanegol yn dilyn dileu’r taliad cynnydd o £20 mewn Credyd Cynhwysol. Dyma rai o’r materion allweddol oedd yn sylfaen i ddatganiad cyllideb y Canghellor ar 27 Hydref 2021.

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am benderfyniadau gwariant ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cynnwys iechyd, gofal cymdeithasol a thai. Fodd bynnag mae gan gyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig oblygiadau uniongyrchol a hefyd anuniongyrchol ar gyfer Cymru, ac mae’r briff hwn yn amlinellu cyhoeddiadau allweddol sy’n berthnasol i Gymru.

Y darlun cyffredinol

  • Bydd pob adran yn Whitehall yn derbyn “cynnydd mewn gwir dermau mewn cyfanswm gwariant” yn gyfanswm o £150bn dros y Senedd hon. Mae’r cynnydd mewn gwariant wedi golygu y bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn codi gan £2.5bn eleni (adeg ysgrifennu hyn, hwn oedd y ffigur a roddwyd gan y Canghellor yn y Senedd ac mewn datganiadau i’r wasg, ond mae’r cyfryngau wedyn wedi ei gwestiynau ar ô; dadansoddi dogfennau’r gyllideb).
  • Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu ar y blaenoriaethau ar gyfer y cyllid ychwanegol hwn, sydd i gyflwyno eu cyllideb ddrafft ar gyfer 2022/23 i’r Senedd ar 20 Rhagfyr.
  • Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gosod ei chynlluniau gwariant tan 2024/25. Am y tro cyntaf, mae gan Lywodraeth Cymru beth sicrwydd tymor canol am ei chyllidebau dros nifer o flynyddoedd. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Chyllideb ar 20 Rhagfyr yn amlinellu ei chynlluniau gwariant ei hun dros y cyfnod hwnnw.
  • Bydd CHC yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd tymor hirach ar fuddsoddiad mewn ffrydiau cyllid cyfalaf a refeniw allweddol yn eu cyllideb arfaethedig fel y gwnaethom alw amdano yn ein maniffesto Cartref! Mae hyn yn cynnwys y galwadau ar Grant Tai Cymdeithasol a ffrydiau cyfalaf arall tebyg i’r Gronfa Gofal Canolraddol, Grant Cymorth Tai a chyllid gofal cymdeithasol.

Cyflogaeth a llesiant

  • Cynyddu’r cyflog byw cenedlaethol gan 6.6% i £9.50 yr awr erbyn mis Ebrill 2022.
  • Gostwng yn y gyfradd tapr ar gyfer Credyd Cynhwysol o 63c ym mhob punt a enillir i 55c ym mhob punt.

Er y croesewir y cyhoeddiadau hyn ar gyfer y rhai mewn gwaith, dim ond yn rhannol mae’r ymrwymiadau hyn yn gwrthbwyso cyhoeddiadau blaenorol y Canghellor i gynyddu Yswiriant Gwladol gan 1.25% fis Ebrill nesaf a’r dileu’r taliad cynnydd o £20 yr wythnos mewn Credyd Cynhwysol. Dadansoddiad cynnar JRF yw fod y newid i’r gyfradd tapr a lwfans gwaith, ynghyd â’r cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol yn gamau cadarnhaol iawn ar gyfer y rhai sydd mewn gwaith, gan alluogi gweithwyr cyflog isel i gadw mwy o’r hyn maent yn ei ennill. Serch hynny, dywed JRF mai’r realaeth yw na fydd miliynau o bobl sy’n methu gweithio neu’n edrych am waith yn manteisio o’r newidiadau hyn.

Galwodd Rebecca Evans AS, Gweinidog Cyllid Cymru, am gamau pellach i dargedu cymorth i deuluoedd ar incwm isel sy’n wynebu anawsterau fel canlyniad i’r toriad mewn Credyd Cynhwysol, cynnydd y dyfodol mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol a’r cynnydd enfawr mewn prisiau ynni.

Datgarboneiddio

Er bod llai nag wythnos i fynd tan COP26 yn Glasgow, ychydig iawn o fanylion a roddodd y gyllideb ar adnoddau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Yr wythnos ddiwethaf ymrwymodd y llywodraeth £800m ychwanegol i gronfa datgarboneiddio tai cymdeithasol, ac nid oedd unrhyw gyhoeddiadau pellach am gyllid datgarboneiddio tai yn y gyllideb hon.

Gwyddom fod Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi galw am roi blaenoriaeth am gyllid i drin newid hinsawdd. Erys i’w weld sut bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r dewisiadau cyllid sydd ar gael iddynt i fuddsoddi mewn datgarboneiddio pan fyddant yn rhannu eu drafft gyllideb eu hunain ym mis Rhagfyr.

Cronfa Rhannu Ffyniant y Deyrnas Unedig

Cronfa Rhannu Ffyniant y Deyrnas Unedig yw’r cynllun sy’n cymryd lle cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd. Fel rhan o’r £1.7bn cyntaf, bydd Cymru yn derbyn £120mn ar gyfer 10 prosiectau “codi’r gwastad” ar draws Cymru. Fel cymhariaeth arferai Cymru dderbyn tua £375mn y flwyddyn o gronfeydd strwythurol Ewrop.

Mewn ymateb, dywedodd Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid bod “bylchau clir mewn cyllid lle dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn buddsoddi yng Nghymru ac iddo ddewis peidio gwneud hynny. Mae trefniadau yn lle Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yn parhau’n aneglur ond yr hyn a wyddom yw ei fod lawer iawn yn is na’r £375m yr oeddem yn ei dderbyn – dyma’r cyllid sy’n cefnogi sgiliau, busnesau a datgarboneiddio.”

Cyhoeddiad tai (Lloegr yn unig)

Mae tai yn fater a gafodd ei ddatganoli, ac felly mae cyhoeddiadau am dai yn y gyllideb hon ar gyfer Lloegr yn unig. Roedd y cyhoeddiadau i raddau helaeth yn ailadrodd cyhoeddiadau a wnaed yn flaenorol ar gyfer y sector yng Nghymru, gan gynnwys:

  • £24bn setliad tai aml-flwyddyn
  • £1.8bn cronfa tir llwyd
  • £11.5bn buddsoddiad mewn cartrefi fforddiadwy, a gyhoeddwyd yn flaenorol ac sy’n mynd rhagddo
  • treth 4% ar elw datblygwyr dros £25m i helpu talu am y £5bn a gyhoeddwyd yn flaenorol i dynnu cladin anniogel
  • £640mn ar gyfer lleihau cysgu ar y stryd a digartrefedd

Cyhoeddiadau eraill ar gyfer Cymru

  • Sefydlu hyb masnach a buddsoddiad newydd yng Nghaerdydd i dyfu masnach i Gymru
  • Cyflymu £105m o gyllid ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Bryony Haynes, Swyddog Polisi a Materion Allanol, yn [email protected]