Trawsnewid tai ar gyfer pobl hŷn drwy arloesedd a thechnoleg digidol
Gan Tim Barclay, Prif Swyddog Gweithredol, Apello a Mark Stratford, Cyfarwyddwr Masnachol, Appello
Wedi ei yrru gan uwchraddio rhwydwaith telathrebu y Deyrnas Unedig, mae’r symud o wasanaethau Teleofal ac a Alluogir gan Dechnoleg (TEC) yn carlamu ymlaen. Yng Nghymru, Caergwrle yn Sir y Fflint oedd un o’r lleoedd cyntaf i dderbyn Stop Sell war wasanaethau PSTN ym Mehefin 2021. Mae llawer mwy yn cynnwys cyfnewidfeydd yng Ngwynedd, Wrecsam a Bro Morgannwg wedi dilyn wrth i Openreach anelu am symud yn llawn i wasanaethau IP erbyn 2025. Gyda 67% o gynghorau yng Nghymru yn dweud eu bod yn bryderus am symud i ddigidol, a dim ond 19% â chynllun yn ei le, bydd y sesiwn yma’n werthfawr.
Drwy’r sesiwn yma byddwn yn edrych ar pam fod y newidiadau hyn a digwyddiadau eraill yn y degawd diwethaf, ynghyd â newidiadau cyfredol mewn cymdeithas, seilwaith a thechnoleg, yn golygu y dylai 2022 fod yn flwyddyn fydd yn gweld cyflymu mewn mabwysiadu technoleg mewn tai cymdeithasol i gefnogi pobl fregus neu hŷn. Y newyddion da yw fod hyn erbyn hyn yn llwybr cyfarwydd, gyda miloedd o breswylwyr yng Nghymru eisoes wedi manteisio o welliannau iechyd a llesiant o wasanaethau teleofal digidol. Bydd y sesiwn hon yn adeiladu ar y profiad hwn i ganfod:
- Beth yw’r ffactorau sy’n cyfrannu at fwy o fabwysiadu technoleg
- Pam fod digideiddo ein seilwaith telathrebu yn hybu newid a beth yw effaith darparwyr tai cymdeithasol
- Y camau pwysig ar gyfer symud yn llwyddiannus i ddigidol a chreu profiadau byw mwy diogel a gwell
- Deall sut mae’r tirlun yn edrych heddiw ac yn y blynyddoedd i ddod
- Dynodi’r ystyriaethau allweddol i’ch sefydliad wrth i chi ddechrau ar eich taith ddigidol
- Clywed gan un o’n cwsmeriaid am eu profiad o symud i ddigidol