Hyfforddiant: 4422 - Cyfres Deddf Rhentu Cartrefi Cymru: Cyflwr gwael a ffitrwydd i fod yn gartref
Golwg fanwl ar safon newydd Ffitrwydd i Fod yn Gartref a’r hyn y bydd yn ei olygu yn ymarferol i landlordiaid cymdeithasol. Byddwn hefyd yn edrych ar y goblygiadau newydd ar gyfer atgyweirio a’r ddeddfwriaeth gysylltiedig a’r gwahaniaeth rhyngddynt a’r cyfamodau presennol. Bydd y sesiwn yn cynnwys cyngor ac awgrymiadau ymarferol ar arfer gorau ar gyfer rheoli gwasanaethau atgyweirio wedi eu cynllunio ac ymatebol mewn byd Rhentu Cartrefi a’r hyn a ddisgwyliwn ei weld yn nherm hawliadau am gyflwr gwael.
Bydd cydweithiwr o Cornerstone Chambers yn ymuno â ni a fydd yn codi cwr y llen ar agweddau ymarferol y safon Ffitrwydd i Fod yn Gartref o’u profiad yn Lloegr.
Siaradwyr: Bethan Gladwyn a Rebecca Rees
Cynrychiolwyr: Syrfewyr, swyddogion/rheolwyr atgyweiriadau, swyddogion rheoli asedau a’r rhai sydd yng ngofal honiadau am gyflwr gwael ar hyn o bryd.