4434 - Creu a Defnyddio Arolygon Effeithlon
Crynodeb
Gyda chyrhaeddiad gwasanaethau arolwg ar-lein tebyg i SurveyMonkey, Typeform a Google Forms, ni fu erioed yn haws na’n rhatach i wneud eich arolwg eich hun. Ond a ydych yn cael y canlyniadau rydych eu hangen ac y gallwch ymddiried ynddynt? Mae’r gweithdy hwn yn rhoi’r dulliau i ddylunio a gweithredu arolygon mwy effeithlon ac ymarferol.
Manylion
Mae’r gweithdy hwn yn rhoi’r sgiliau allweddol i chi ddylunio a gweithredu arolygon ymarferol drwy roi sylw i:
- Beth i’w ofyn;
- Pwy i ofyn iddynt; a
- Sut i ofyn.
Gan ddefnyddio enghreifftiau ymarferol ac ymarferion byr, bydd y gweithdy hwn yn rhoi cyflwyniad i sgiliau arolwg sylfaenol i’r dechreuwyr a gloywi ar gyfer y rhai gyda phrofiad blaenorol.