4431 - Cymwyseddau Digidol Hanfodol a Chydnerthedd Digidol
Rydym yn byw mewn byd cynyddol gysylltiedig gyda mynediad i ffrindiau, rhwydweithiau proffesiynol, cynnwys, meddalwedd a gwasanaethau, fyddai tu hwnt i’r dychymyg ychydig yn ôl, i gyd ar gael o fewn clic ychydig o fotymau. Bydd y rhaglen un-dydd ei chyflwyno ar-lein gan Dr Sangeet Bhullar yn codi cwr y llen ar sut mae’r Rhyngrwyd a thechnolegau digidol yn esblygu a sut y gellir defnyddio’r technolegau yn bersonol ac yn broffesiynol er budd. Bydd y rhaglen yn cynnwys pynciau fel ‘apiau a thechnolegau newydd ar gyfer defnydd cymdeithasol ac addysgol’; ‘bod yn gorff mewn oes o newyddion ffug a swigod hidlo’, meddwl beirniadol, llythrennedd digidol a llesiant i ganfod a rheoli risgiau ar-lein’; ‘datblygu presenoldeb digidol proffesiynol’, ‘dulliau cŵl a chymunedau ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol; ‘deddfau a lle i adrodd cam-driniaeth ar-lein’.
Deilliannau
Fel canlyniad i’r diwrnod hwn, bydd y sawl sy’n mynychu yn:
- Cael dealltwriaeth i sut mae’r rhyngrwyd a thechnolegau ar-lein yn esblygu a’r cyfleoedd y maent yn eu cynnig ar gyfer datblygu a dysgu personol
- Cael dealltwriaeth o’r risgiau y gall llwyfannau digidol eu cyflwyno, dysgu sut i adnabod a rheoli’r risgiau hyn
- Cael dealltwriaeth o’r hyn a olygwn drwy ôl-troed digidol ac ymchwilio sut y gall hyn ddatblygu’n gadarnhaol ac yn ddilys
- Cael dealltwriaeth o wybodaeth allweddol a sgiliau llythrennedd cyfryngau i ddelio gyda heriau fel newyddion ffug
- Cael dealltwriaeth o sut y gall llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Twitter eu defnyddio’n bwrpasol ac yn broffesiynol i ddarganfod gwybodaeth ac adnoddau newydd, datblygu rhwydweithiau proffesiynol a chadw’n gyfoes
- Cael trosolwg o apiau a dulliau aml-gyfryngau i greu a rhannu cynnwys ar-lein
- Deall materion cyfreithiol ac arfer gorau i ddefnyddio llwyfannau cymdeithasol yn ddiogel, yn broffesiynol; hefyd pa gymorth sydd ar gael yn y Deyrnas Unedig a lle i roi adroddiad am gynnwys anghyfreithlon a cham-driniol
- Profi ‘blogio byw’ i weld sut i greu a rhannu cynnwys yn rhwydd