Sesiwn Sbotolau - Prosiect Enghreifftiol Bevan: Codi pont rhwng tai ac iechyd
Rhydd
Bydd Dr Gareth Morgan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn rhannu gwaith ei dîm ar brosiect enghreifftiol Bevan – datblygu canllawiau arfer da ar iechyd a thai ar gyfer GIG Cymru.
Mae’r canllawiau yn rhoi fframwaith ymarferol iawn i staff iechyd ei ystyried, ac fe’i cynlluniwyd i fod yn hyblyg i roi ystyriaeth i amgylchiadau lleol tra hefyd yn dod â manteision dull gweithredu cenedlaethol.
Bydd Cymuned Ymarfer hefyd yn helpu i lywio’r prosiect a sicrhau y caiff y cysylltiadau gyda pholisïau eraill, tebyg i gynllun gweithredu ar ddigartrefedd a grwpiau bregus, eu rheoli mewn modd priodol.