Gweithdy Ar-lein CHC a Iechyd Cyhoeddus Cymru: Trin risg gordwymo a llunio dyfodol iechyd tai
Rhydd
Mae gordwymo bellach yn fwy na rhywbeth a all ddigwydd yn yr haf. Mae’n her hollbwysig i reoli asedau ac yn fygythiad uniongyrchol i les tenantiaid. Wrth i ni symud ymlaen gydag agendau datgarboneiddio ac ôl-osod ar draws Cymru, mae deall a lleihau risg gwres yn dod yn flaenoriaeth greiddiol ar gyfer cymdeithasau tai.
Ymunwch â ni am weithdy rhyngweithiol a gynlluniwyd i rannu gwybodaeth gan y sector, trafod realaeth weithredol a dynodi cyfleoedd ar gyfer dylanwadu ar bolisi, canllawiau neu arfer gorau ar draws y sector yn y dyfodol.
Yr hyn y byddwn yn ei drafod:
Realaeth weithredol ac arfer gorau: Beth sy’n sbarduno gordwymo yn stoc tai Cymru ar hyn o bryd? Clywch gan gydweithwyr mewn cymdeithasau tai ar draws y sector i ddeall beth yw’r problemau a pha ymyriadau ymarferol ac uniongyrchol sy’n gweithio ar lawr gwlad.
Ymagwedd iechyd ar y cyd: Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymuno â ni a byddant yn cyflwyno prosiect sy’n datblygu gyda ffocws ar effeithiau newid hinsawdd ar iechyd, gan edrych yn benodol ar fframwaith newydd ac ymarferol ac asesu risg. Gan wrando ar eich profiadau, dyma’ch cyfle i roi adborth ar sut y gall dull risg seiliedig ar iechyd fod o gymorth go iawn i’ch timau, gan sicrhau ei fod yn rhwydd ei fabwysiadu, yn ymarferol ac yn gydnaws â’ch gwaith dydd i ddydd.