Jump to content
Dewislen

13 Mai 2022

Etholiadau lleol 2022: Codi’r llen

Etholiadau lleol 2022: Codi’r llen

Bethany Howells, Cynorthwyydd Polisi a Materion Allanol, yn ymchwilio goblygiadau etholiadau lleol Mai 2022 yng Nghymru ar gyfer y sector tai cymdeithasol.

Etholiadau lleol a’r sector tai

Mae perthynas gyda chynghorwyr lleol yn amhrisiadwy ar gyfer sefydliadau tai cymdeithasol – nhw sydd yn gwneud penderfyniadau ar ddatblygiadau tai newydd a chynllunio o fewn eu dinas neu ardal sirol. Bob blwyddyn, mae cynghorwyr yn gweithio gydag awdurdodau lleol i baratoi cynlluniau datblygu tai lleol sy’n rhoi ystyriaeth i ystadegau allweddol am yr angen am dai fforddiadwy. Maent hefyd yn gyfrifol am ddyrannu grant tai cymdeithasol ar gyfer ardaloedd lleol.

Fel cynrychiolwyr cymunedau cymdeithasol, mae’n hanfodol fod y rhai sy’n darparu tai cymdeithasol yn helpu cynghorwyr i ddeall y materion allweddol sy’n effeithio ar eu hetholwyr. Mae hefyd yn hanfodol iddynt fod yn rhagweithiol wrth ddangos sut y gall ein sector ni, ynghyd â phartneriaid eraill, helpu pobl i fod yn gryfach yn economaidd, yn fwy cydnerth ac i fyw mewn cartrefi gwell a chymunedau mwy diogel.

Y canlyniadau

Wrth edrych ar y canlyniadau drwy lens gwleidyddiaeth bleidiol, enillodd Llafur Cymru reolaeth o Flaenau Gwent a Phen-y-bont ar Ogwr, ond colli Castell-nedd Port Talbot. Hi hefyd oedd y blaid fwyaf ym Mro Morgannwg, er nad oedd hyn yn ddigon i sicrhau rheolaeth. Fodd bynnag, ar ôl colli Merthyr Tudful yn 2017, methodd Llafur sicrhau rheolaeth fwyafrifol – cymerodd 15 cynghorydd Llafur seddi ac etholwyd 15 o gynghorwyr annibynnol.

Drwyddi draw, mae Llafur yn awr yn rheoli 8 o’r 22 cyngor yn ne Cymru (sydd hefyd yn cynnwys; Caerdydd, Torfaen, Rhondda Cynon Taf, Casnewydd, Abertawe a Chaerffili), gan ennill 66 cynghorydd ar draws y wlad.

Ar y llaw arall, collodd y Blaid Geidwadol ei unig gyngor, Sir Fynwy, a chollodd gyfanswm o 86 cynghorydd yng Nghymru.

Mae Plaid Cymru yn awr yn rheoli pedwar cyngor, gan ennill Ynys Môn yn ogystal â Gwynedd, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Fodd bynnag, fe wnaethant golli chwe sedd cyngor ar draws Cymru.

Roedd y ganran a bleidleisiodd yn is nag yn yr etholiadau lleol bum mlynedd yn ôl, gyda rhai o’r cyhoedd a gyfwelwyd gan y wasg yn dweud eu bod yn teimlo wedi dadrithio gyda pholisïau presennol y llywodraeth neu nad oedd ganddynt ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad.

Gellid dadlau fod y cynnydd yn y gefnogaeth i Lafur a Phlaid Cymru ar lefel cynghorau yn rhoi mwy o gymhelliant iddynt wthio ymlaen gyda’u cytundeb cydweithredu, sy’n nodi ymrwymiadau i wella’r cyflenwad o dai fforddiadwy drwy sefydlu Unnos, cwmni adeiladu cenedlaethol. Dan y cytundeb, mae’r pleidiau hefyd yn ymrwymo i gyrraedd targedau sero net, sy’n anochel yn cynnwys y gwaith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd dan y Rhaglen Ôl-osod ar gyfer Optimeiddio.

Mae diogelwch adeiladau a’r argyfwng ail gartrefi hefyd yn rhan o’r cytundeb. Mae canlyniadau’r etholiadau lleol yn arwyddocaol yn y drafodaeth ar dai lleol gydag etholwyr lleol yn Ynys Môn, Ceredigion a Gwynedd (sydd â rhai o’r niferoedd uchaf o ail gartrefi yn ôl ymchwil Llywodraeth Cymru) yn dynodi fod hwn yn faes polisi hanfodol i’w drin. Gyda Plaid Cymru bellach yn rheoli’r cynghorau hyn, bydd pobl leol yn teimlo peth sicrwydd y caiff y mater ei drafod.

Cyfleoedd newydd ar gyfer cymunedau tai cymdeithasol a’r sector

Ym maniffesto Llafur Cymru ar gyfer Caerdydd, addawodd y blaid “ddefnyddio yr holl ysgogiad sydd ar gael i’n helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.” Mae hyn yn cynnwys ehangu’r rhaglen i ôl-osod cartrefi, cyflenwi rhaglen estynedig i adeiladu tai cyngor i gynyddu eu stoc gan (o leiaf) 1,500 uned arall, a pharhau i gefnogi preswylwyr sy’n byw mewn preswylwyr mewn adeiladau gyda chladin heb fod yn ddiogel.

Ymrwymodd Llafur Abertawe i ddarparu gwell cartrefi, ymrwymo i ailwampio a gwella’r blociau uchel sydd ar ôl ac addo gwella rhestri aros tai. Yn ychwanegol, mae’r blaid eisiau gwella ei gwasanaethau gofal cymdeithasol, drwy fuddsoddi £750m mewn cyflogau tecach ar gyfer gofalwyr, gan addo cyfleusterau gofal plant newydd a gwell gwasanaethau dydd a seibiant, a mwy o gydlynwyr ardal lleol.

Yng Ngwynedd, addawodd Plaid Cymru “sicrhau dyfodol disglair ar gyfer ieuenctid Gwynedd drwy ddatblygu economi llewyrchus, tai fforddiadwy a gwasanaethau o’r safon uchaf”. Yn Sir Gaerfyrddin mae cynghorwyr Plaid Cymru eisiau trawsnewid hen siop Debenhams yn hyb cymunedol fydd yn cynnwys gwasanaethau iechyd, hamdden, addysg, igwybodaeth a chyngor i’r cyhoedd. Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin hefyd yn canolbwyntio ar ddarparu cartrefi fforddiadwy ar gyfer pobl ifanc ac oedran gwaith, i’w helpu i aros yn y sir, fydd yn ei dro yn helpu i gynnal diwylliant a hunaniaeth mewn pentrefi gwledig.

Cysylltwch â ni os hoffech gael unrhyw gyngor ar sut i gysylltu gyda’ch cynghorwyr lleol neu gynrychiolwyr yn y Senedd. Anfonwch e-bost at [email protected] neu [email protected]