Trosglwyddo stoc
Mae Llywodraeth Cymru wedi creu Safon Ansawdd Tai Cymru, sy’n nodi fod yn rhaid i gynghorau wella eu stoc erbyn 2012. Maent i wneud hyn drwy ba bynnag ddull sy’n bosibl, ac un o’r opsiynau yw ymrwymo i gytundeb Trosglwyddo Stoc gyda chymdeithasau tai.
Hyd yma, mae tenantiaid hanner yr awdurdodau lleol yng Nghymru (11) wedi pleidleisio dros drosglwyddo eu stoc tai i sefydliadau newydd di-elw. Pan mae'r 11 trosglwyddiad wedi cymryd lle, bydd cymdeithasau tai yn darparu 136,635 o gartrefi a gwasanaethau tai yng Nghymru.
Islaw mae tabl o statws presennol pob awdurdod lleol yng Nghymru yng nghyswllt cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2012:
Statws | Awdurdod Lleol |
---|---|
Awdurdodau Lleol sydd wedi trosglwyddo eu stoc tai yn llwyddiannus fel canlyniad i bleidlais ymhlith tenantiaid |
Pen y Bont - Cymoedd i'r Arfordir Rhondda Cynon Taf - Cartrefi RCT Torfaen - Tai Cymunedol Bron Afon Casnewydd - Cartrefi Dinas Casnewydd Merthyr Tudfil - Cartrefi Cymoedd Merthyr Gwynedd- Cartrefi Cymunedol Gwynedd |
Awdurdodau Lleol lle mae tenantiaid wedi bleidleisio o blaid trosglwyddo ac yn y broses o gofrestru gyda Llywodaeth y Cynulliad |
Dim ar hyn o bryd |
Awdurdodau Lleol y pleidleisiodd eu tenantiaid yn erbyn trosglwyddo stoc | |
Awdurdodau Lleol sy’n dal i weithio ar eu hopsiynau | |
Awdurdodau Lleol sy’n cadw stoc a all gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru | |
Awdurdodau Lleol fydd yn cynnal pleidlais yn y 18 mis nesaf |
Dim |