Cwestiynau Cyffredin

Beth yw cymdeithas tai/sefydliad tai cymunedol cydfuddiannol?

Mae cymdeithasau tai yn gwmnïau dielw a sefydlwyd i ddarparu cartrefi fforddiadwy ar gyfer pobl sydd angen cartref. Caiff y rhan fwyaf o’r cartrefi hyn eu rhentu am bris rhesymol a gwerthir nifer fach drwy gynllun perchentyaeth cost-isel.

Mae rhai cymdeithasau tai hefyd yn cynnig cefnogaeth arbenigol i bobl sydd ag amrediad o anghenion yn cynnwys pobl hŷn ac anabl a phobl gydag anawsterau dysgu, a phobl a fu’n ddigartref.

Mae llawer o gymdeithasau tai yn cymryd rhan mewn cynlluniau cymunedol megis hyfforddiant cyflogaeth, adfywio a phrosiectau gyda phlant a phobl ifanc. Caiff cymdeithasau tai eu rheoli gan fwrdd o wirfoddolwyr nad ydynt yn derbyn tâl. Mae sefydliadau tai cymunedol cydfuddiannol yn sefydliadau dielw a sefydlwyd fel canlyniad i drosglwyddo stoc.

Beth yw trosglwyddo stoc?

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi creu Safon Ansawdd Tai Cymru, sy’n dweud fod yn rhaid i gynghorau, cymdeithasau tai a sefydliadau tai cymunedol cydfuddiannol wella eu stoc tai erbyn 2012. Un o’r opsiynau i’r cynghorau yw ymrwymo i gytundeb trosglwyddo stoc, lle mae tenantiaid yn penderfynu os hoffent i’w cartrefi gael eu trosglwyddo i landlord tai cymdeithasol newydd dielw. Hyd yma, mae tenantiaid o ddeg awdurdod lleol wedi pleidleisio i drosglwyddo eu stoc tai i sefydliadau newydd dielw.

Sut y medraf rentu cartref gan gymdeithas tai?

Bydd angen i chi gysylltu’n uniongyrchol â’ch cymdeithas tai lleol - mae mwy o wybodaeth ar gael yma (link to members map). Byddant yn medru eich hysbysu am y meini prawf a’r rhestri aros, a byddant hefyd yn anfon ffurflen gais atoch.

Ble medraf gael gwybodaeth am berchentyaeth cost isel?

Mae gan rai cymdeithasau tai, sefydliadau tai cymunedol cydfuddiannol a chynghorau gynlluniau i hyrwyddo Perchentyaeth Cost Isel (LCHO). Dros gyfnod, gall rhan-berchnogion brynu cyfrannau ychwanegol ac yn y diwedd fod yn berchen llwyr ar eu cartref. Bu’r Cynllun Cymorth Prynu yn gweithredu mewn rhai ardaloedd. Mae hyn yn galluogi person na all fforddio morgais ar gyfer perchnogaeth lwyr i brynu 70% (50% mewn rhai ardaloedd) o’r gost gyda’r gymdeithas yn cadw’r 30% arall fel benthyciad di-log.

Gall perchnogion cartref brynu’r 30% sydd ar ôl dros gyfnod neu werthu eu hannedd ar y farchnad agored (ar ôl nifer sefydlog o flynyddoedd) pan ad-delir y benthyciad. Mae rhai o’n haelodau’n galluogi aelodau i brynu ar raddfa lithro.

Gall Cartrefi Cymunedol eich cynghori pa gymdeithasau a all eich helpu gyda chynlluniau LCHO - dylech hefyd ofyn i’ch cyngor lleol os oes ganddynt unrhyw gynlluniau LCHO yn eich ardal. Mae rhai o’n haelodau hefyd yn cynnig cynlluniau rhanberchenogaeth.

Faint yw rhenti cymdeithasau tai?

Caiff lefel rhenti yng Nghymru eu gosod o fewn ystod a osodir gan y Cynulliad, yn dibynnu pa ardal yr ydych yn byw ynddi a maint yr annedd. Mae rhenti cymdeithasau tai yn rhatach na rhenti preifat ond medrant fod ychydig yn uwch na rhenti cyngor. Fodd bynnag, mae’r rhent hwnnw’n talu am gartref o safon uwch - gan gyrraedd safonau llym a osodwyd gan y Cynulliad, gwell gwasanaethau a gwarant y caiff unrhyw wargedion eu hail-fuddsoddi mewn gwella cartrefi a chymdogaethau.

Sut mae gwneud cwyn am gymdeithas tai?

Dylech ddilyn gweithdrefn gwynion eich cymdeithas tai. Os ydych yn dal yn anfodlon, medrwch fynd â’r gŵyn at Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a fydd yn ei hasesu ac a all benderfynu ymchwilio. Manylion yr Ombwdsman yw:

Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ

Ffôn: 0845 601 0987

Mae gwybodaeth am y gwasanaeth ar gael yma.

Sut mae fy sefydliad yn ymuno â Cartrefi Cymunedol?

Mae gwybodaeth bellach ar gael yma am sut i ddod yn aelod.

Sut mae dod yn aelod o fwrdd cymdeithas tai neu fwrdd sefydliad tai cymunedol cydfuddiannol?

I gael mwy o wybodaeth ar sut i ddod yn aelod o fwrdd cymdeithas tai neu fwrdd sefydliad tai cymunedol cydfuddiannol, darllenwch dudalen Dewch Ar y Bwrdd.