Rôl cymdeithasau tai mewn cyfnod heriol

Yng Nghynhadledd Llywodraethu Tai Cymunedol Cymru 2020, rhoddodd Stuart araith ar y rôl all cymdeithasau tai ei chwarae ar adegau heriol, ac hefyd yr effaith y gallwn ei chael ar yr economi. Darllennwch yr araith llawn yma:

Bore da bawb a chroeso cynnes i’r gynhadledd.

Mae’n bleser gweld cynifer o’n haelodau, aelodau masnachol a phartneriaid eraill yn ymuno â ni yn ein Cynhadledd Llywodraethiant eleni, yn neilltuol o gofio am bopeth sy’n mynd ymlaen mewn mannau eraill ar hyn o bryd.

Unwaith eto, daeth aelodau bwrdd ac uwch arweinwyr yn y sector ynghyd i wneud hon yn gynhadledd fwyaf erioed CHC o ran cynrychiolwyr. Mae hynny’n dyst i ymrwymiad, chwilfrydedd a chymeriad yr arweinwyr yn y sector yma a’u gallu i ddod at ei gilydd i ddysgu gan eu cymheiriaid a rhai o’n siaradwyr gwych yn wyneb rhai heriau difrifol.

Mae pawb ohonoch yn cymryd eich cyfrifoldebau fel Aelodau Bwrdd ac arweinwyr cymdeithasau tai o ddifri, a hoffwn ddiolch i chi am eich gwaith caled a’r amser a roddwch i wneud cymdeithasau tai yn wych.

Bydd rôl cymdeithasau tai fel sefydliadau angor wrth galon cymunedau ym mhob rhan o Gymru yn dod yn fwyfwy pwysig wrth i Gymru, ac yn wir y byd, wynebu rhai cwestiynau mawr am ein dyfodol. A dyna fydd prif ffocws fy araith heddiw.

Ar y llwyfan yma’r llynedd dyfynnais eiriau Antonio Gramsci o’r Eidal, yr athronydd a sefydlydd y Blaid Gomiwnyddol, mewn ymgais i grynhoi’r pandemoniwm oedd o’n cwmpas bryd hynny. Ddeuddeg mis yn ddiweddarach, nid oeddwn yn disgwyl bod yn dyfynnu damcaniaethwr gwleidyddol blaenllaw ar y chwith pell, ond nid oes neb fel Lenin am grisialu  anrhefn yr ychydig wythnosau diwethaf pan ddywedodd:

“Mae degawdau pan nad oes dim byd yn digwydd, ac mae wythnosau pan mae degawdau yn digwydd.”

Roeddwn wedi gwybod ers peth amser fy mod eisiau defnyddio heddiw i siarad am yr heriau dirfodol sy’n wynebu Cymru a’r arweinyddiaeth sydd ei hangen gan gymdeithasau tai i ymateb i hyn. Doedd gen i ddim syniad bryd hynny mai’r peth mwyaf blaenllaw yn ein meddyliau fyddai ein hymateb i bandemig byd-eang.

Gellid maddau i’r rhai ohonom yn yr ystafell yma sydd â diddordeb brwd mewn hanes am ragweld y byddai’r llyfrau hanes yn edrych yn ôl ar 2020 fel blwyddyn Brexit, etholiad totemig Arlywydd yr Unol Daleithiau a thensiynau pellach yn y Dwyrain Canol. Fodd bynnag, mae’n ymddangos yn debyg mai dim ond tri mis i mewn i 2020, y gallai coronafeirws yn rhwydd fod y foment sy’n diffinio’r flwyddyn. Bydd gweithredoedd unigolion, sefydliadau a llywodraethau yn ymateb i hyn yn diffinio sut y bydd myfyrwyr hanes yfory yn edrych yn ôl ar eleni.

O’r trafodaethau a gefais gyda llawer ohonoch yn yr ystafell yma, mae’n glir i fi fod cymdeithasau tai yn cymryd eich hymateb eich hun i COVID-19 o ddifri, gan roi blaenoriaeth i ddiogelwch a llesiant eich staff a thenantiaid.

Rwy’n falch i fedru dweud ein bod hefyd wedi medru rhoi ein tîm prosiect ein hunain yn ei le i ymateb i’r broblem fel mae’n datblygu. Yn ogystal â gweithio i reoli ein parhad busnes ein hun a sicrhau y gallwn barhau i wasanaethu aelodau mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, mae’n glir fod rôl polisi a chefnogaeth bwysig i’ch corff masnach yn y gofod yma.

Yn y lle cyntaf, bu’r tîm yn gweithredu fel cyfrwng rhwng aelodau a Llywodraeth i sicrhau y caiff gwybodaeth bwysig ei chylchredeg yn gyflym. Gan weithio gyda’r Llywodraeth a’n partneriaid ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, byddwn yn parhau’r rôl yma, a gobeithiwn fedru cefnogi cymdeithasau i gael gwybodaeth glir ac adnoddau i gyflawni eu cynlluniau parhad busnes. Rydym wedi gweithio gyda’r Llywodraeth i ddarparu data cadarn a pherthnasol lle mae angen hynny a gostwng yr angen am ddyblygu fel a welsom mewn ymateb i ddigwyddiadau eraill, gan sicrhau y gallwch ddefnyddio adnoddau ble mae fwyaf eu hangen. A rydym yn sefyll yn barod i addasu’r gefnogaeth a gynigiwn yn wyneb y sefyllfa hon sy’n newid mor gyflym.

Tu hwnt i oblygiadau difrifol uniongyrchol meddygol a gwasanaeth cyhoeddus, gallai’r effaith ehangach fod yn ddybryd. Os yw’r adroddiadau cynnar o gwymp o 20% ym musnes porthladdoedd yr Unol Daleithiau, caiff yr effaith economaidd gynnar a deimlir yn China ei adlewyrchu mewn mannau eraill, ac mae’r marchnadoedd yn parhau ar eu llwybr ar i waered, daw hyn yn ddigwyddiad o bwysigrwydd economaidd byd-eang.

Yn nes adre, ni allwn ond gobeithio nad yw’r golled drist o filoedd o swyddi yr wythnos ddiwethaf fel canlyniad i dranc Flybe yn arwydd o bethau i ddod. Fodd bynnag, unwaith y cysylltir hynny gyda’r ansicrwydd sy’n dal i fod am berthynas Prydain yn y dyfodol gyda’n cymdogion ar dir mawr Ewrop, mae angen i ni fod yn barod am sefyllfa a allai o leiaf fod mor ddwfn â’r hyn a welsom yn dilyn cwymp Lehman Brothers.

Cymerodd beth amser i ysgytwad y sioc economaidd i  lawn gyrraedd rhai o’r cymunedau a’r partneriaid y gweithiwn gyda nhw, a bydd angen i ni gadw ein llygaid ar y bêl wrth i hyn ddigwydd. Gwyddom fod cymdeithasau tai ynddi am yr hirdymor, a byddwch i gyd yn allweddol i lesiant economaidd a chymdeithasol cymunedau ym mhob rhan o Gymru unwaith eto, ond gall fod amser anodd i ddod. Mewn amserau anodd ac ansicr, ni fu ein rôl fel sefydliadau angor a’n gallu i fod yn gydnerth ac ymatebol i’r cymunedau a wasanaethwn erioed yn bwysicach.

Mae ein hymchwil effaith economaidd diweddaraf, a lansiwyd yr wythnos ddiwethaf, yn dangos fod cymdeithasau tai yn parhau i gyflawni ar gyfer Cymru, ond gyda’r buddsoddiad cywir, gallai ein heffaith dyfu’n enfawr. Eleni fe wnaethom sicrhau mwy o fuddsoddiad cyfalaf gan Lywodraeth Cymru nag erioed o’r blaen mewn cartrefi fforddiadwy newydd, ond mae’n achos y byddwn yn parhau i’w wneud yn uchel ac yn glir.

Pan wnaethom lansio ein gweledigaeth Gorwelion Tai yn 2017 o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb roedd yn dangos ein huchelgais ar gyfer y sector. Roeddem eisiau Cymru a fyddai‘n fwy llewyrchus, iachach a gyda chysylltiadau gwell ac i wneud hynny fe wnaethom ymrwymo i wneud ein pwt.

  • 75,000 cartref di-garbon
  • Datgarboneiddio ein stoc presennol
  • Buddsoddi 95c ym mhob £1 yng Nghymru

A phan ystyriwch yr heriau dirfodol sy’n wynebu Cymru – argyfwng hinsawdd sy’n gwaethygu, cynnydd mewn digartrefedd a phoblogaeth sy’n heneiddio gyda mwy o anghydraddoldeb iechyd – daeth yr amser i roi’r uchelgeisiau hynny ar waith.

Yn ein Cynhadledd Flynyddol ddiwedd y llynedd, siaradais am y consyrn cyhoeddus cynyddol a’r nifer fwy o alwadau i weithredu am yr argyfwng hinsawdd. O’r tannau yn y paith yn Perth i lifogydd Pontypridd, nid yw ymlediad digwyddiadau difrifol cysylltiedig â’r hinsawdd ond yn amlygu ymhellach ein bod yn rhedeg allan o amser.

P’un ai ydym yn gweithio tuag at uchelgais y sector o gartrefi di-garbon erbyn 2036, neu nod adroddiad Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell i bob cartref gyrraedd EPC A erbyn 2030, dim ond rhan o’r stori yw datgarboneiddio ein cartrefi. Mae’n gynyddol glir y bydd lle rydym yn adeiladu, sut mae ein cymunedau yn cysylltu gyda’i gilydd, a sut y defnyddiwn adnoddau cymunedol i gyd – nid dim ond carbon – yn hanfodol yn ein hymateb i un o heriau mawr ein hoes. Nid yw hon yn her a wynebwn ar ben ein hunain. Mae pob gwasanaeth yng Nghymru yn ceisio ymdopi gyda’’r un heriau a bydd angen i unrhyw ddatrysiadau a geir gael eu rhannu yn gyflym a’u darparu ar raddfa fawr. Gall cymdeithasau tai arwain y ffordd ar hyn ond nid yw partneriaethau mwyach yn opsiynau ychwanegol neu bethau braf eu gwneud – mae hyn yn ddyfais hanfodol y mae angen i ni ei chael.

Yn y cyfamser, mae her digartrefedd yn tyfu o flaen ein llygaid ac rwy’n falch gweld y bydd hyn yn thema drwy gydol ein cynhadledd dros y ddeuddydd nesaf. Mae ein cyd-Gadeiryddion, Jonathan Huish a Fran Bevan, ynghyd â Fran Beecher o Llamau, wedi sicrhau ein bod yn clywed lleisiau tenantiaid a phobl sydd wedi profi digartrefedd mewn ffordd na wnaethom o’r blaen yn y gynhadledd hon. Mae’n her y mae’n rhaid i ni barhau i ymateb iddi.

Er fod Cymru wedi arwain y ffordd ar atal, gyda deddfwriaeth flaengar ac ymrwymiad gan bob plaid wleidyddol, mae lefelau cysgu ar y stryd a digartrefedd ar draws y wlad yn parhau i gynyddu – nid yw’r broblem wedi diflannu. Byddwch yn clywed llawer mwy ar hyn gan Clarissa yn ddiweddarach, ond mae Grŵp Gweithredu y Gweinidog ar Ddigartrefedd wedi gosod her i bawb ohonom sy’n credu y gallwn anelu i fod yn genedl nad yw’n goddef digartrefedd.

Os ydym i lwyddo yn hyn, mae’n rhaid iddo fod yn ymateb gan yr holl wasanaeth cyhoeddus, ond mae gan gymdeithasau tai rôl allweddol i’w chwarae. Rydym wedi ymrwymo i atal achosion o droi allan o dai cymdeithasol rhag mynd yn ddigartrefedd, ond mae angen i ni ein herio ein hunain a herio’r Llywodraeth am beth yn fwy y gellir ei wneud yn y gofod hwn. Yng nghanol yr och a’r gwae, roedd ychydig o olau yng nghyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig newydd o ran y cyllid ychwanegol a wneir ar gael drwy’r bloc grant. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru yn awr gyflawni ei hymrwymiad i gynyddu’r Grant Cymorth Tai mewn ymateb i’r chwistrelliad hwn o arian.

Ac ni fedraf siarad am yr heriau mawr sy’n wynebu Cymru heb siarad am iechyd.

Tu hwnt i’r pwysau cyfredol iawn y bydd coronafeirws yn ei roi ar y gwasanaeth iechyd, rydym yn wynebu rhai o’r anghydraddoldebau iechyd mwyaf heriol o blith unrhyw un o genhedloedd y Deyrnas Unedig. Dengys ffigurau Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru nad oedd bron ddim gwelliannau mewn disgwyliad oes yng Nghymru yn ystod y degawd diwethaf, ar ôl cynyddu gan 2.5 mlynedd ar gyfer dynion a 2 flynedd ar gyfer menywod yn y degawd blaenorol.

Roedd yr ymyriad diweddaraf ar anghydraddoldeb iechyd gan y llais amlycaf yn y maes hwnnw, Syr Michael Marmot, yn cynnwys neges bwysig i ni gyd.

Er fod cwmpas ei waith wedi ei gyfyngu i Loegr, bu Syr Michael yn glir yn ei sylwadau fod y gostyngiad mewn deilliannau iechyd y rhai yn ein cymunedau tlotaf yn broblem ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig. Roedd hefyd yn bendant yn ei gasgliadau bod buddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd a gostwng allyriadau carbon o’n holl gartrefi yn rhan bwysig o’r datrysiad.

Ar ôl gweithio mewn polisi tai am 20 mlynedd, ni allaf ond teimlo fod rhai o’r heriau y siaradais amdanynt heddiw yn heriau cyfarwydd yr ydym wedi colli tir arnynt fel cenedl mewn blynyddoedd diweddar. Mae eraill yn teimlo fel crynhoad o bethau y gwyddem y gallent ddigwydd yn ddamcaniaethol, ond na fyddai byth yn digwydd mewn gwirionedd.

Mae gan yr heriau hyn lawer o bethau yn gyffredin, ond yn eich rôl fel arweinwyr cymdeithasau tai, gwn y byddwch yn sicrhau fod tenantiaid yn flaenllaw yn eich meddyliau wrth ymateb. Gall deimlo ein bod ar y rheng flaen heddiw, ond ein tenantiaid sydd fwyaf tebygol o deimlo dannedd y bygythiadau dirfodol hyn.

P’un a yw’r rhai gyda chyflyrau sy’n cyfyngu bywyd a all fod angen cefnogaeth ychwanegol yn yr wythnosau nesaf, neu’r rhai y mae digwyddiadau hinsawdd diweddar wedi effeithio arnynt, mae’n ddyletswydd arnom i gyd weithio gyda nhw i ateb yr heriau hyn fel maent yn digwydd.

Rydym yn aml yn siarad am weithredu fel sefydliadau angor, ond beth mae hynny’n ei olygu mewn cyfnod heriol? Sut mae cefnogi cymunedau i fod yn gryf? Sut yw’r ffordd orau i ddefnyddio ein hadnoddau pan maent dan bwysau? A beth fedrwn ni ei gynnig i aelodau mwyaf bregus cymdeithas?

Yn rhy aml yng Nghymru, caiff eich cyfleoedd bywyd eu penderfynu gan ble cawsoch eich geni a phrofiadau eich bywyd cynnar.

Mae lle’r ydych yn byw a daliadaeth eich cartref yn cael effaith anghymesur ar eich iechyd, eich cyfleoedd o ddod yn ddigartref a’r cyfleoedd a gyflwynir i chi mewn bywyd.

Mae dros 200,000 o blant yn profi tlodi plant yng Nghymru gyda rhai ardaloedd o Gymru yn gweld cyfraddau tlodi plant o bron 50%, ac wrth i gyflymder a maint ymestyn Credyd Cynhwysol dyfu, gallai’r sefyllfa hon ddod yn waeth byth.

Ni all hyn fynd ymlaen. Mae hyn yn ddifrifol.

A gwn fod cymdeithasau tai o ddifri calon am eu hymateb.

Nid yw ein gweledigaeth o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb yn dod yn rhad. Mae’r ymchwil y cyfeiriais ati yn gynharach yn amcangyfrif bod cost adeiladu 75,000 o gartrefi newydd yn £11.7bn.

Ond gwyddom yn gyffredinol bod cymdeithasau tai yn cyfateb pob £1 o Grant Tai Cymdeithasol gydag o leiaf £1 o fuddsoddiad preifat i wneud i gyllid cyhoeddus fynd ymhellach, gan yn ymarferol haneru’r bil i’r Llywodraeth o ddarparu’r cartrefi hynny.

Gallai cost datgarboneiddio cartrefi hefyd fod yn enfawr, gydag amcangyfrifon yn bron yn £5bn, a bydd angen i ni arddangos gwerth a chreadigrwydd tebyg i ganfod datrysiadau i ymestyn arian cyhoeddus er budd tenantiaid a’n planed.

Mae’r rhain yn symiau mawr o fuddsoddiad yn ôl unrhyw fesur, ond byddai’r gwerth y gallai’r buddsoddiad hwn ei roi yn enfawr. Dengys ein hymchwil yr wythnos ddiwethaf y byddai’r sector hyd at 2036, os yw cymdeithasau tai yn llwyddiannus wrth gyflawni ein gweledigaeth yn:

  • Cefnogi swm enfawr o £23.2bn o weithgaredd economaidd ar draws Cymru
  • Creu 50,000 o swyddi yn yr economi yn ehangach
  • Darparu 19,500 o gyfleoedd hyfforddiant a phrentisiaeth
  • Tyfu i gyflogi cyfanswm o 16,000 o weithwyr

Dim ond rhan o’r stori mae’r mesurau economaidd traddodiadol Cymru-gyfan hyn yn ei ddweud. Am y tro cyntaf, dengys ein hymchwil beth fyddai effaith ein gweledigaeth ym mhob rhanbarth. Bydd hyn yn helpu cymdeithasau i ddweud eich stori wrth wneuthurwyr penderfyniadau newydd lleol a rhanbarthol wrth i rym penderfyniadau pwysig sy’n effeithio ar gymdeithasau tai symud i ffwrdd o San Steffan a Bae Caerdydd.

Ac aiff effaith cyflawni ein gweledigaeth ymhell tu hwnt i swyddi, hyfforddiant a GVA.

Os ydym yn datgarboneiddio ein cartref, gallem atal gwerth mwy na £0.5bn rhag cael ei ollwng i’r atfmosffer.

Ar yr un pryd, gallem arbed mwy na £1bn i’n tenantiaid ar eu biliau tanwydd a gweld eu llesiant yn cynyddu gan werth o bron £200m.

Yn ei dro, byddem yn arbed miliynau i Lywodraethau y naill ben a’r llall i’r M4.

Bydd hyn i gyd yn rhan bwysig o’r stori a ddywedwn wrth wneuthurwyr penderfyniadau cyn Etholiad Cyffredinol Cymru fis Mai nesaf. Ychydig dros flwyddyn o nawr, bydd gennym Lywodraeth newydd yng Nghymru, ac mae’r polion barn presennol yn dangos y gallai fod yr ornest agosaf a welsom am reolaeth o’r Senedd.

Mae angen i ni sicrhau yn wyneb yr heriau a ddisgrifiais heddiw, fod gan gymdeithasau tai gynnig sy’n siarad i bob plaid a allai ffurfio’r Llywodraeth nesaf.

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn siarad gyda chi am yr hyn a ofynnwn gan y Llywodraeth nesaf, ond efallai yn bwysicach, beth ydyn ni’n ei gynnig?

Mewn Cymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb, bydd gan gymdeithasau tai rôl ddifrifol i’w chwarae.

Rydym o ddifri am fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Rydym o ddifri am ddod â digartrefedd i ben.

Rydym o ddifri am wella cyfleoedd bywyd pobl.

Dros y deuddeg mis nesaf, rydym eisiau gweithio gyda phawb sy’n rhannu’r ymrwymiadau hyn.

Yn 2008, gyda chefnlen o chwalfa economaidd fwyaf ein hoes, safodd cymdeithasau tai yn dal a darparu mwy o gartrefi nag ar unrhyw gyfnod arall mewn cof diweddar?

Gall yr heriau a ddaw 2020 fod hyd yn oed mwy eu maint, ac felly hefyd rhaid i’n ymateb fod.

Diolch yn fawr.

 

 

Share