Ail-lansio ymgyrch Cartrefi i Gymru ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol

17/05/2017

Mae cynghrair Cartrefi i Gymru wedi ail-lansio ei ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o'r argyfwng tai yng Nghymru cyn Etholiad Cyffredinol mis Mehefin.

Yn dilyn ymgyrch lwyddiannus yn ystod Etholiadau 2016 i'r Cynulliad Cenedlaethol i godi lle materion tai ar yr agenda gwleidyddol, bydd ymgyrch Cartrefi i Gymru Etholiad Cyffredinol 2017 yn canolbwyntio ar ddau fater sy'n ganolog i denantiaid a landlordiaid Cymru a gaiff eu rheoli o San Steffan.

Mae cynghrair Cartrefi i Gymru yn galw ar Lywodraeth nesaf y Deyrnas Unedig i:

  • gefnogi system lesiant sy'n sicrhau y gall pawb gael mynediad i gartref fforddiadwy
  • cefnogi'r diwydiant adeiladu fel y gall gael mynediad i'r deunyddiau a'r llafur y mae ei angen i adeiladu cartrefi fforddiadwy

Mae'r materion hyn yn flaenoriaeth i'r gynghrair oherwydd y trosglwyddo sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd i'r Credyd Cynhwysol o chwe budd-dal arall, yn cynnwys Budd-dal Tai a'r cap Lwfans Tai Lleol (LHA) a gyflwynir ar Fudd-dal Tai. Rhagwelir y bydd y cap LHA yn achosi problemau ariannol difrifol i lawer o denantiaid tai cymdeithasol gan, unwaith y'i cyflwynir, ni fydd swm y budd-dal y mae rhai tenantiaid yn ei dderbyn yn ddigon i dalu am eu rhent. Mae'r gynghrair hefyd yn awyddus i sicrhau y rhoddir sylw i effaith Brexit ar y sector adeiladu yng Nghymru ac y caiff datrysiadau posibl eu dynodi ar gam cynnar.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru: "Mae diwygio llesiant eisoes yn cael effaith anghymesur ar denantiaid Cymru, ac mae'n rhaid i ni sicrhau fod ein Haelodau Seneddol newydd yn llwyr ymwybodol o'r effaith a gaiff y newidiadau hyn ar draws cymunedau Cymru. Mae mwy o denantiaid mewn ôl-ddyled rhent nag erioed o'r blaen gyda chyflwyno'r Credyd Cynhwysol, ac mae oedi mewn gwneud taliadau yn arwain at gynnydd mewn caledi ariannol. Yn ychwanegol, pan ddaw'r cap Lwfans Tai Lleol ar Fudd-dal Tai i rym ym mis Ebrill 2019, rhagwelwn na all llawer o bobl dalu eu rhent os na chaiff newidiadau eu gwneud sy'n adlewyrchu realaeth lefelau rhent yng Nghymru."

Ynghyd â'r effaith ar ddiwygio llesiant, bydd trafodaethau Brexit yn cael effaith sylweddol ar y sector adeiladu yng Nghymru.

Dywedodd Stuart: "Rydym yn dibynnu ar fasnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd ar gyfer deunyddiau adeiladu, a hefyd ar y bobl Ewropeaidd o fewn y diwydiant adeiladu sy'n gweithio yng Nghymru.

"Mae dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig yn ffurfio 7% o'r gweithlu adeiladu yng Nghymru a, gyda gwaith ar fin dechrau ar nifer o brosiectau seilwaith mawr yn y blynyddoedd nesaf, caiff 20,000 o swyddi newydd eu creu yn y diwydiant. Mae ansicrwydd am rydd-symudiad pobl yn unrhyw ddêl Brexit a photensial tariffau ar fewnforion - ynghyd â chynnydd mewn chwyddiant a gostyngiad yng ngwerth y bunt - yn bryder gwirioneddol.

"Ni allwn fforddio i benderfyniadau a wneir yn San Steffan effeithio'n niweidiol ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yng Nghymru."

Yn 2016, llwyddodd ymgyrch Cartrefi i Gymru i sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol gan bob plaid a etholwyd i'r Cynulliad, Fel canlyniad, cafodd Cytundeb Cyflenwi Tai ei lofnodi rhwng Cartrefi Cymunedol Cymru, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru oedd yn cynnwys targed o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy erbyn 2021 (yn cynnwys 13,500 gan gymdeithasau tai); creu hyd at 12,000 o gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth, a datblygu sgiliau ar gyfer 25,000 o denantiaid.

Lansir ymgyrch Etholiad Cyffredinol Cartrefi i Gymru mewn digwyddiad hysting ar 23 Mai yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.

Mae partneriaid cynghrair Cartrefi i Gymru eleni yn cynnwys: Cymdeithas Landlordiaid Preswyl (RLA),  Sefydliad Tai Siartredig (CIH) Cymru, Sefydliad Brenhinol Syrfewyr Siartredig  (RICS), Sefydliad Brenhinol Cynllunio Trefe (RTPI), Ffederasiwn Adeiladwyr Meistr, a Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi.