Gorwelion Tai

Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) yw'r corff ymbarél ar gyfer pob cymdeithas tai yng Nghymru - y sefydliad "mynd ato" ar bopeth yn ymwneud â thai fforddiadwy a'r bobl sy'n dibynnu ar ein haelodau am gymorth a lle i fyw.

Rydym hefyd mewn sefyllfa unigryw i gynnig datrysiadau blaengar i gefnogi a hyrwyddo eu huchelgeisiau. Mae ein harbenigedd mewn ymgyrchu a lobio yn ein galluogi i herio gwneuthurwyr penderfyniadau yng Nghymru a thu hwnt.

Gyda hyn yn gefnlen rydym ni a'n haelodau yn ysgrifennu #YBennodNesaf - drwy ymchwilio a mapio'r heriau, risgiau a chyfleoedd allweddol fydd yn wynebu ein sector dros y 20 mlynedd nesaf. Rydym hefyd eisiau sefydlu pa olwg fydd ar lwyddiant a sut i'w fesur.

Yr hyn sy'n ein sbarduno yw'r dymuniad i:

 

Lansiwyd ein hymgyrch Cartrefi i Gymru yn y cyfnod cyn etholiadau mis Mai 2016 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Galwodd CHC, ein haelodau a'n partneriaid ar Lywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad i lansio cynllun uchelgeisiol i fynd i'r afael â'r prinder cronig o dai fforddiadwy.

Yn ein Cynhadledd Flynyddol ym mis Rhagfyr llofnododd Carl Sargeant, Ysgrifennydd Cabinet gyda chyfrifoldeb am dai, Gytundeb Cyflenwi Tai hanesyddol oedd yn torri tir newydd gyda ni a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Mae'r cytundeb yn ymrwymiad i gyflenwi 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd erbyn 2012. Byddant yn gyfuniad o dai cymdeithasol ac eiddo a gynigir dan gynlluniau "Cymorth Prynu". Caiff o leiaf 12,500 eu hadeiladu neu eu darparu gan ein haelodau.

Mae'r cytundeb hanesyddol yn cydnabod rôl allweddol cymdeithasau tai yn economi Cymru.

Maent yn gofalu am y bobl sydd angen rhywle fforddiadwy i fyw ynddo - maent yn cartrefu rhai o aelodau mwyaf agored i niwed cymdeithas, y mae eu hanghenion cymhleth ac amrywiol angen cefnogaeth arbenigol - maent yn adeiladu cartrefi ar gyfer pobl sydd angen help ychwanegol i brynu eu lle eu hunain.

Maent hefyd am gymaint mwy - cynnig ystod eang o wasanaethau yn cynnwys cyngor a chymorth arbenigol, hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth ar gyfer tenantiaid, eu teuluoedd a chymunedau lleol.

Caiff effaith economaidd cymdeithasau tai yng Nghymru ei ddangos gan y ffigurau diweddaraf sy'n datgelu fod bron 90c ym mhob £1 a wariant yn aros yng Nghymru.

Yn hydref 2016 fe wnaethom droi'r dudalen ar #YBennodNesaf# gyda thri chwestiwn syml:

  1. Beth mae pobl yn feddwl y maent yn ei wybod am gymdeithasau tai?
  2. Sut olwg fydd ar y sector tai cymdeithasol yn 2036?
  3. Sut allwn ni ddylanwadu ar bolisi o fewn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig?

O'r man dechrau yma rydym eisiau gosod gweledigaeth ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru mewn 20 mlynedd.

Rydym wedi agor y broses gwneud penderfyniadau i gasglu cynifer o wahanol safbwyntiau ag sy'n bosibl. Mae'n gryn dasg - ac yn ymgynghoriad sylweddol - fodd bynnag rydym eisiau barn cynifer o bobl ag sy'n bosibl i lunio sector sy'n barod ac a all gyflenwi'r cartrefi, cymdogaethau a buddsoddiad fydd eu hangen mewn 20 mlynedd.

Gallech helpu i Greu'r Naratif drwy feddwl am:

Pobl:
Pwy fyddwn ni'n eu cartrefu yn 2036?

Gwasanaethau:
Pa wasanaethau fyddwn ni'n eu darparu?

Cymuned:
Beth a gynigiwn i'r cymunedau y gweithredwn ynddynt?

Gweithlu:
Sut olwg fydd ar y gweithlu a pha sgiliau fyddan nhw eu hangen

Arweinyddiaeth:
Sut olwg fydd ar yr arweinyddiaeth a sut fydd yn ymddwyn?

Perthynas â'r Llywodraeth:
Sut berthynas fydd gennym gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Caiff manylion sut i gymryd rhan eu hysbysebu ar y dudalen hon a chyfryngau cymdeithasol, @chcymru a facebook.com/chcymru.

Cyhoeddir yr adroddiad drafft ar gyfer ymgynghori ddiwedd yr haf cyn lansio "Gorwelion Tai - y weledigaeth ar gyfer 2036" yn ein Cynhadledd Flynyddol cyn y Nadolig 2017.