Jump to content
Hyb Tai

Hyb Tai

Ymwelwch â’n hadnodd newydd ar gyfer aelodau yn unig i gael yr wybodaeth hanfodol ddiweddaraf ac adnoddau defnyddiol.

Materion Tai

Materion Tai

Rydym yn awr yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r Grant Cymorth Tai (HSG) yn ei chyllideb ar gyfer 2024/25.

Methu Dod â Deupen Llinyn Ynghyd

Methu Dod â Deupen Llinyn Ynghyd

Rydym yn annog Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i weithredu nawr ac atal tenantiaid tai cymdeithasol rhag i gostau byw eu gwthio ymhellach i dlodi. Mwy o wybodaeth yma.

Costau byw: Sut mae cymdeithasau tai yn mynd i’r afael â’r argyfwng

Costau byw: Sut mae cymdeithasau tai yn mynd i’r afael â’r argyfwng

Wrth i ni ymgyrchu yn genedlaethol, darllenwch sut mae cymdeithasau tai yn cynnig cymorth hanfodol i’w tenantiaid yng Nghymru.

Sesiwn Canllawiau Ychwanegol SATC
Event 1hr Online
Mawrth 25, 2024 @ 10:00yb

Sesiwn Canllawiau Ychwanegol SATC

Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer aelodau cymdeithasau tai yn unig

Cynhadledd Llywodraethiant CHC 2024
Cynadleddau 2 days voco St David's Hotel & Spa, Cardiff Bay
Mawrth 19, 2024 @ 9:30yb

Cynhadledd Llywodraethiant CHC 2024

Byw ein diben creiddiol

Mae ein Cynhadledd Llywodraethiant flynyddol bob amser yn rhoi cyfle i arweinwyr yn ein sector gymryd cam yn ôl, myfyrio ac ystyried y newidiadau sydd i ddod.

Cynhelir cynhadledd llywodraethiant 2024 ar 19 a 20 Mawrth 2024 a bydd ei ffocws ar sut y gall arweinyddiaeth, a seiliwyd ar systemau llywodraethiant a diwylliant effeithiol, fod yn sbardun i’ch sefydliad i wneud y gwahaniaeth mwyaf i denantiaid a’r cymunedau yr ydych yn gweithio ynddynt.

Gwyddom fod heriau lluosog a chymhleth, sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd, yn wynebu eich tenantiaid a’ch sefydliad. Bydd y digwyddiad yn rhoi amser a lle i ddathlu y llu o ddatrysiadau a chyfleoedd o fewn y sector ac ymhellach i ffwrdd ac ystyried sut y gallwch gynyddu eich heffaith i’r eithaf.

Bydd tocynnau ar gael yn y dyfodol agos.


Beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud...

£327m a fuddsoddwyd i ddatblygu cartrefi newydd yn 2017/18, cynnydd o bron 7% o 2016/17

Cynnydd o 5% mewn trosiant ar gyfer y sector, gyda £445m o hwnnw wedi'i fuddsoddi'n ôl i adfywio drwy gydol y flwyddyn

Mae'r sector yn awr yn berchen ac yn rheoli 162,439 o gartrefi

Roedd gwariant uniongyrchol cymdeithasau tai yng Nghymru yn £1.2bn yn 2018, gyda 84% o'r gwariant hwnnw wedi'i gadw yng Nghymru

Mae'r effaith cyflenwr anuniongyrchol yn golygu fod cyfanswm y cyfraniad i'r economi dros £2bn

Dangosir lefelau asedau cymdeithasau, llai dibrisiant, ar £7.4bn, cynnydd o 7.2% ers 2017