Mae’r canlyniadau i mewn . . .

Ar ôl pum wythnos o ymgyrchu a noswaith hir o gyfrif, mae canlyniadau’r etholiad cyffredinol i mewn.

Boris Johnson a’r Blaid Geidwadol wedi ennill gyda mwyafrif mawr.

Ymddengys mai etholiad Brexit oedd hi wedi’r cyfan, gyda llawer o etholaethau Gadael, a fu unwaith yn gadarnleoedd Llafur, yn syrthio i’r Ceidwadwyr. Yn y seddi oedd â phleidlais Gadael o dros 80%, cynyddodd y Blaid Geidwadol ei chefnogaeth gan 6% ar gyfartaledd. Gostyngodd pleidlais y Blaid gan 3% mewn seddi aros.

Er fod Llafur yn parhau i fod y blaid fwyaf yng Nghymru gyda 22 sedd, y Blaid Geidwadol oedd y gwir enillydd ar y noson, gan droi y cyfan heblaw un o seddi’r Gogledd Ddwyrain yn las. Collodd Llafur gyfanswm o chwe sedd i’r Ceidwadwyr, yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr na fu ag AS Ceidwadol ers 1987.

Nid yw’r fuddugoliaeth hon wrth gwrs wedi ei chyfyngu i Gymru. Ar draws y Deyrnas Unedig enillodd y Torïaid eu mwyafrif mwyaf ers y 1980au.

Y canlyniadau llawn:

  • Y Blaid Geidwadol – 364 (+47 o 2017)
  • Y Blaid Lafur – 203 (-59)
  • SNP – 48 (+13)
  • Democratiaid Rhyddfrydol – 11 (-1)
  • DUP – 8 (-2)
  • Eraill – 15 (+2)

Yng Nghymru:

  • Y Blaid Lafur – 22 (-6)
  • Y Blaid Geidwadol – 14 (+6)
  • Democratiaid Rhyddfrydol – 0 (-1)
  • Plaid Cymru – 4 (+/-0)

Felly beth mae hyn yn ei olygu i gymdeithasau tai yng Nghymru?

Mae tai wedi ei ddatganoli yng Nghymru, ond mae San Steffan yn cadw grymoedd yn ymwneud â pholisi llesiant a negodiadau am adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd cyflawni Brexit yn awr yn flaenoriaeth i Johnson. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud fod hyn yn golygu dim mwy o ailnegodi a dim mwy o refferenda. Bydd y Ceidwadwyr yn anelu i roi cytundeb drwy’r Senedd er mwyn gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn mis Ionawr.

Mae maniffesto’r Ceidwadwyr yn ymrwymo i gael bargen deg i Gymru yn dilyn Brexit gyda buddsoddiadau mawr mewn seilwaith a diwydiant.

Yn ogystal â rhoi blaenoriaeth i Brexit, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yr heddlu a mewnfudo, mae’r maniffesto hefyd yn ymrwymo i gyrraedd sero net carbon erbyn 2050 gyda buddsoddiad mewn datrysiadau ynni glân a seilwaith gwyrdd i ostwng allyriadau carbon a llygredd. Gyda Cymru’n anelu i ddatgarboneiddio’r holl stoc tai drwy ôl-osod i gyflawni EPC Band A erbyn 2050, gallai’r ymrwymiad hwn gan lywodraeth Dorïaidd gefnogi Cymru i gyrraedd ei thargedau.

Mae CHC yn awr yn galw ar Lywodraeth newydd y Deyrnas Unedig i:

  • Sicrhau bod buddsoddiad mewn tai cymdeithasol yn parhau’n flaenoriaeth ar draws y Deyrnas Unedig i gyd
  • Diwygio’r Credyd Cynhwysol
  • Sicrhau fod Cymru’n cadw lefelau presennol o gyllid rhanbarthol ar ôl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Darllenwch papur briffio llawn yma.

Share