Ble mae digartrefedd ar yr agenda gwleidyddol?

Cododd digartrefedd ar yr agenda yr wythnos hon ar ôl i Shelter ddweud fod plentyn yn dod yn ddigartref ym Mhrydain bob wyth munud. Yn ôl yr adroddiad, mae 135,000 o blant yn awr yn byw mewn llety dros dro, y nifer uchaf mewn 12 mlynedd.

Yn dilyn hynny, bu’r Blaid Geidwadol a’r Blaid Lafur yn ymladd am pwy sy’n gyfrifol am hyn.

Dywedodd Sajid Javid fod y llywodraeth Geidwadol wedi rhoi blaenoriaeth i ddigartrefedd, ac iddo gyflwyno’r rhaglen Tai yn Gyntaf pan oedd yn ysgrifennydd tai.  Ychwanegodd fod digartrefedd wedi cyrraedd ei frig yn 2008 dan lywodraeth Lafur, datganiad a dynnodd yn ôl yn ddiweddarach oherwydd iddo ‘gamgofio’ y dyddiad.

Beirniadodd John Healey, Ysgrifennydd Tai Cysgodol Llafur, y Ceidwadwyr am dorri £1bn o wasanaethau digartrefedd, yn gadael pobl i “fyw a marw” ar y strydoedd.

Mae’r Blaid Lafur wedi ymrwymo i ddileu cysgu ar y stryd erbyn 2025. Mae eu maniffesto’n cynnwys gwario £600m ar lety ar gyfer 5,000 o bobl ddigartref a £100m ar gynllun blynyddol fydd yn darparu llochesi argyfwng yn ystod y gaeaf.

Yn y cyfamser mae Boris Johnson wedi gwneud cynlluniau ar gyfer “ymyriad gan y llywodraeth” i fynd i’r afael â digartrefedd a’r argyfwng tai. Soniodd am dir y mae cyrff cyhoeddus yn berchen arno y gellid ei ddefnyddio, gyda newid rheolau’r Trysorlys, i adeiladu tai.

Yn 2017-18, cafodd dros bedwar ym mhob 10 o gartrefi cymdeithasau tai eu gosod i deuluoedd digartref neu mewn risg o ddod yn ddigartref. Fodd bynnag, rydym angen mwy o gartrefi i ddod â’r broblem i ben. Mae CHC yn galw am roi blaenoriaeth i dai cymdeithasol fforddiadwy fel blaenoriaeth seilwaith. Er bod polisi tai a digartrefedd wedi ei ddatganoli i Gymru, byddai hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol yng Nghymru.

Fodd bynnag, aiff problem digartrefedd ymhellach nag adeiladu tai. Mae cyflwyno’r Credyd Cynhwysol wedi porthi digartrefedd. Mae wedi achosi ôl-ddyledion rhent, dyled a dibyniaeth ar fanciau bwyd, ac ni fydd llawer yn derbyn taliadau cyn y Nadolig. Dyna pam ein bod yn galw ar bob plaid i roi blaenoriaeth i wneud y Credyd Cynhwysol yn decach drwy ostwng y cyfnod aros o bum wythnos am daliadau, sicrhau bod y taliadau yn ddigon ar gyfer costau byw, a’i gwneud yn bosibl i fynd i waith – ar gyfer y rhai all wneud hynny – heb golli sefydlogrwydd cymorth llesiant.

Rydym bellach o fewn dyddiau i’r etholiad ond nid ydym yn ddim cliriach pwy fydd yn ffurfio’r llywodraeth. Gyda’r gefnogaeth i’r blaid Lafur yn cynyddu’n raddol yn y polau, gall rhai ymgeiswyr Ceidwadol fod ag ymdeimlad anghysurus o déjà vu etholiadol. Aeth Theresa May i mewn i ymgyrch etholiad 2017 ar y brig ond daeth allan gyda Senedd grog. Nid yw’r gefnogaeth ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol chwaith yn ymddangos yr hyn y gobeithiai’r blaid amdano pan agorodd Jo Swinson yr ymgyrch gydag uchelgais i fod y prif weinidog nesaf. Gyda thri o Aelodau Seneddol Ewropeaidd Brexit yn gadael y blaid i gefnogi’r Ceidwadwyr, gall eu tynged ddilyn un UKIP.

Ar gyfer yr Aelodau Seneddol hynny a etholir ddydd Iau, bydd CHC yn sicrhau eu bod yn cydnabod pwysigrwydd tai cymdeithasol fforddiadwy, yr angen i ddiwygio llesiant, a’r rheidrwydd i warchod cronfeydd buddsoddi rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd.

Share