A all yr agenda di-garbon ennill pleideisiau?

Gwelir newid hinsawdd fel her fwyaf ein hoes ac mae pwysau cyhoeddus cynyddol yn gorfodi gwleidyddion i gymryd y mater o ddifri. Yn yr wythnos hon yn unig gwelsom bleidiau yn gwneud addewidion di-rif yn eu hymgais i achub y blaned, yn cynnwys addewid Llafur i blannu dau biliwn o goed erbyn 2040, ymrwymiad y Toriaid i glustnodi £9.2bn at effeithiolrwydd ynni mewn cartrefi, ysbytai ac ysgolion a chynllun yr SNP i neilltuo refeniw olew a nwy i dalu am fesurau newid hinsawdd.

Arweiniodd y pwysau cynyddol hwn at y ddadl gyntaf am newid hinsawdd rhwng arweinyddion y pleidiau ar Channel 4 yr wythnos hon. Ni wnaeth Boris Johnson na Nigel Farage droi lan ac oherwydd hynny cawsant eu cynrychioli gan ddau gerflun iâ, oedd yn toddi wrth i’r rhaglen fynd yn ei blaen, yn cynrychioli ‘argyfwng y blaned’. Roedd arweinwyr y pump prif blaid arall yn bresennol i wynebu cwestiynau am sut y bwriadant fynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd.

Mae gan y sector tai, wrth gwrs, ran enfawr mewn newid hinsawdd. Yng Nghymru, mae ein 1.4 miliwn o gartrefi yn gyfrifol am 27% o’r holl ynni a ddefnyddir a 15% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr ochr defnyddwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn mewn egwyddor holl argymhellion yr adroddiad  Cartrefi Gwell, Byd Gwell, Cymru Well, yn cynnwys y targed i sicrhau di-garbon net erbyn 2050, ac ôl-osod y stoc tai i tu hwnt i SAP90 i sicrhau graddiad EPC Band A. (Darllenwch ein papur gwybodaeth yma)

Roedd yr arweinwyr oedd yn bresennol yn y ddadl deledu ar newid hinsawdd yn cydnabod bod tai yn cyfrannu at yr argyfwng hwn a chyflwyno eu barn ar sut i greu newid cadarnhaol i’r amgylchedd.  Mae’n sicr fod gwella effeitholrwydd ynni cartrefi yn bolisi a ffafriwyd gan yr holl bleidiau. Dywedodd Jeremy Corbyn y byddai’r Blaid Lafur yn creu Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd lle byddai pob un o’r 27 miliwn o gartrefi yn y Deyrnas Unedig yn cael eu huwchraddio i’r safonau uchaf o ran effeitholrwydd ynni. Byddai gwelliannau am ddim i dai cymdeithasol a chartrefi incwm isel tra byddid yn cynnig benthyciad di-log i eraill.

Fe wnaeth Jo Swinson hefyd amlinellu bwriad y Democratiaid Rhyddfrydol i sicrhau y byddai pob cartref incwm isel yn derbyn gwelliannau effeithiolrwydd ynni i dorri biliau tanwydd a gostwng tlodi tanwydd. Gwyddom sut i adeiladu cartrefi di-garbon yn y Deyrnas Unedig, meddai, ac mae angen targed i sicrhau fod pob cartref newydd a adeiledir yn ddi-garbon.

Sian Berry, arweinydd y Blaid Werdd, ymrwymodd y polisi tai mwyaf uchelgeisiol a drud gan addo £100bn y flwyddyn ar gyfer bargen werdd newydd, gyda £38bn o hynny’n cael ei fuddsoddi mewn cartrefi lle byddai insiwleiddiad a phympiau gwres yn rhan o raglen ôl-osod ddofn.

Nicola Sturgeon oedd yr unig arweinydd a allai gyflwyno’r hyn mae ei phlaid eisoes wedi ei gyflawni. Yn yr Alban, mae’r SNP wedi buddsoddi yn y Rhaglen Effeithiolrwydd Ynni Cartref – y cyfrwng cyflawni ar gyfer trechu tlodi tanwydd a gwella effeithiolrwydd ynni cartrefi. Dywedodd fod datgarboneiddio’r grid, grym sydd yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn awr yn hanfodol ac mae angen trosiant cyfiawn i sicrhau na chaiff y tlotaf eu gadael ar ôl.

Os gallodd Cymru fod yn genedl ddiwydiannol flaenllaw yn y 18fed ganrif, nid oes unrhyw reswm pam na all fod yn arweinydd chwyldro adnewyddadwy meddai Adam Price, arweinydd Plaid Cymru. Mae eisiau gweld £5bn yn cael eu buddsoddi yng Nghymru ar effeitholrwydd ynni cartrefi gyda ffynonellau adnewyddadwy o ynni yn gwefru’r grid.

Yn y Guardian yr wythnos ddiwethaf dywedodd Fiona Harvey bod yr argyfwng hinsawdd wedi codi i frig agenda etholiad y Deyrnas Unedig mewn ffordd na fedrid fod wedi ei ddychmygu bum mlynedd yn ôl. Dywedodd Tom Burke, cadeirydd melin drafod amgylcheddol E3G fod y symud yn nodi newid parhaol yng ngwleidyddiaeth Prydain, wrth i’r amgylchedd ‘ymegnïo’ etholwyr iau yn neilltuol.

Yr wythnos hon ar ddiwrnod olaf ceisiadau gwelsom y nifer fwyaf erioed o bobl yn cofrestru i bleidleisio gyda 659,666 yn gwneud cais am y tro cyntaf – cynnydd y mae rhai yn ei briodoli i neges drydar gan y rapiwr Stormzy. Roedd 67% o’r rhai a gofrestrodd ers mis Hydref yn bobl dan 34 oed.

Yng nghanol Brexit a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn y pen draw, gallai fod mai’r Amgylchedd a’i Henillodd.

Share