Tai Cymdeithasol: Sut allwn ni wneud mwy?

Araith llawn Stuart Ropke o Cynhadledd Flynyddol 2019:

Bore da bawb a chroeso cynnes i’r gynhadledd.

Rwy’n falch iawn gweld bod cynifer o’n haelodau, aelodau masnachol a phartneriaid eraill wedi ymuno â ni yn ein cynhadledd flynyddol eleni.

Daw ein digwyddiad eleni ar amser neilltuol o dyngedfennol, yng nghanol ymgyrch etholiad i ethol llywodraeth yn San Steffan – llywodraeth fydd â dylanwad mawr ar yr amgylchedd y gweithiwn ynddo yng Nghymru er bod polisi tai wedi ei ddatganoli.

Gallem ddarganfod o’r diwedd beth fydd natur ein perthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol a phwy ŵyr, efallai safbwynt clir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ba fodel economaidd y credant fyddai orau i symud ymlaen ag ef yn y dyfodol.

Mae 2019 hefyd yn nodi pen-blwydd Cartrefi Cymunedol Cymru yn 30 oed. Sefydlwyd Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Cymru yn 1989, pan ddewisodd cymdeithasau tai Cymru gael ysgariad cyfeillgar oddi wrth ein cydweithwyr ar draws y ffin yn Lloegr. Ein ‘Wexit’ ein hunain, fel petai.

Ond gwnaed y penderfyniad hwnnw i fynd ar ben ein hunain gyda gweledigaeth glir, consensws ac eglurdeb pwrpas. Consensws – yn dilyn Deddf Tai 1988 a gyflwynodd gyllid preifat ar raddfa fawr i ddarpariaeth tai cymdeithasol, a nodi’r pwynt pan ddaeth cymdeithasau tai yn brif adeiladwyr cartrefi cymdeithasol newydd – ei bod yn bwysig fod cymdeithasau tai ar draws Cymru yn cael llais annibynnol. Roedd yn benderfyniad oedd yn cydnabod fod Cymru yn dra gwahanol i Loegr a bod polisi tai yn debyg o wahaniaethu. 10 mlynedd cyn i ddatganoli ddigwydd, ac yn neilltuol gan fod Deddf 1988 hefyd yn rhoi cyfrifoldebau am gyllid a rheoleiddio cymdeithasau tai yng Nghymru i gwango hyd-braich annibynnol newydd – Tai Cymru.

30 mlynedd yn ddiweddarach ac yn wyneb heriau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol enfawr, mae consensws ac eglurdeb yr un mor hanfodol. Mae’r byd y gweithredwn ynddo yn newid yn barhaus. Caiff heriau newydd ein taflu i’n cyfeiriad. Mae Brexit yn dominyddu’r gofod gwleidyddol, mae consyrn cyhoeddus a gwleidyddol cynyddol am ddigartrefedd a newid hinsawdd; mae trychineb Tŵr Grenfell wedi arwain at ffocws cynyddol ar ddiogelwch a phwysigrwydd clywed llais tenantiaid. Mae hyn yn iawn i fod wedi gadael ei ôl ar bolisi Cymru; gall awdurdodau lleol unwaith eto adeiladu tai cyngor newydd ac mae trefniadau gweithio rhanbarthol yn nodwedd gynyddol o ddarpariaeth yng Nghymru. Er fod yr heriau a’r amgylchedd yn wahanol i’r rhai a arweiniodd at ein ffurfio, ni fu ein cyd-genhadaeth wrth eu hwynebu erioed yn bwysicach.

Cefais y fraint a’r anrhydedd o arwain y sefydliad am y pum mlynedd ddiwethaf. Heddiw hoffwn dalu teyrnged a dweud diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd at i Gartrefi Cymunedol Cymru ddod y sefydliad y mae heddiw. I aelodau presennol a chyn aelodau ein bwrdd a’r cyngor cenedlaethol, i aelodau presennol a chyn aelodau staff – diolch i bawb ohonoch. A diolch yn arbennig i’r cymdeithasau tai sy’n aelodau CHC – mae eich parodrwydd i’n cefnogi a’n grymuso i’ch cynrychioli dros y 30 mlynedd ddiwethaf yn golygu fy mod yn credu’n gryf i ni gael effaith gadarnhaol. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda chi yn agos yn y dyfodol.

Nid ein pen-blwydd yn 30ain oed yw’r unig ben-blwydd yr hoffwn ei gydnabod heddiw. Mae eleni hefyd yn nodi 100 mlynedd ers i Ddeddf Cynllunio Tai a Threfi, a elwir fel arfer yn Ddeddf Addison 1919, ddod i rym yn Mhrydain. Er bod Deddf Tai 1988 wedi rhyddhau cymdeithasau tai i fod, yn fy marn i, y bartneriaeth cyhoeddus-preifat fwyaf llwyddiannus mewn hanes – fe wnaeth Deddf Addison hefyd sefydlu egwyddor darpariaeth tai cyhoeddus gynhwysfawr ar raddfa fawr ac wedi’i gyllido gan y wladwriaeth. Cafodd cynghorau lleol ar draws Prydain eu grymuso i ymateb i’r prinder a’r galw enfawr am dai fforddiadwy, ansawdd da ar ôl i’r Rhyfel Byd Cyntaf ddod i ben.

Pan wnaethom lansio ein gweledigaeth Gorwelion Tai yn 2017 – ein huchelgais oedd gweld ‘Cymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb’. Fe wnaethom hefyd ddweud fod cymdeithasau tai yn sefyll yn barod i weithio gydag unrhyw un a phawb sy’n rhannu ein huchelgais. Nawr gyda’r hualau oedd yn ffrwyno awdurdodau lleol rhag benthyca i fuddsoddi mewn darpariaeth tai cymdeithasol newydd o’r diwedd wedi eu diosg – mae gennym gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i fynd i’r afael â’r angen enbyd am gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy newydd sy’n bodoli ar draws Cymru o’n dinasoedd, i’n cadarnleoedd diwydiannol blaenorol a phentrefi a threfi gwledig.

Cadarnhawyd mor ddiweddar â’r wythnos ddiwethaf fod nifer y cartrefi newydd a adeiladwyd yng Nghymru wedi cyrraedd brig deng mlynedd, gyda chynnydd o 20% yn nifer y cartrefi a adeiladwyd gan gymdeithasau tai. Mae’r 2,592 o gartrefi newydd a ddarparwyd yn 2018/19 yn rhywbeth i’w ddathlu, ond yr un mor arwyddocaol yw cyfraniad awdurdodau lleol ar draws Cymru a gwblhaodd dros 200 o gartrefi cymdeithasol newydd.

I’n cyfeillion o lywodraeth leol a etholwyd i wasanaethu eu cymunedau a’r rhai sy’n gweithio ar dalcen caled darpariaeth gwasanaeth, rydym yn sefyll yn barod i weithio gyda chi. Gwyddom fod degawd o lymder wedi golygu eich bod yn wynebu heriau na welwyd eu tebyg yn arbennig mewn gofal cymdeithasol a gwasanaethau statudol rheng-flaen eraill, a gwyddom hefyd fod pethau’n annhebyg o fynd yn rhwyddach yn y misoedd nesaf.

Gwyddom fod eich capasiti i gydio’n gyflym yn y cyfleoedd i adeiladu cartrefi cymdeithasol unwaith eto yn gyfyngedig mewn rhai achosion. Mae cymdeithasau tai ledled Cymru eisiau cydweithredu. Gwyddom y gall gweithio partneriaeth effeithlon fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd ac y byddant yn golygu y gallwn adeiladu mwy o gartrefi cymdeithasol na phetaem yn aros yn gweithio yn ein seilos ein hunain, yn dilyn ein cwys ein hunain.

Mae cymdeithasau tai eisiau rhannu eu profiad o adeiladu cartrefi newydd, adfywio cymunedau a sicrhau buddion cymunedol. Rhannu adnoddau a risgiau, cydweithio er budd pawb a sefydlu partneriaethau ennill-ennill sydd yn y pen draw o fudd i bobl a chymunedau ledled Cymru.

I fynd i’r afael â maint yr argyfwng tai sy’n ein hwynebu yng Nghymru, dim ond pan mae pawb sy’n ymwneud â’r economi adeiladau tai yn gweithio ar gapasiti llawn y bydd gennym ni gyfle o wneud gwahaniaeth sy’n parhau. I gyflawni ein huchelgais, mae angen i ni newid yr amgylchedd gweithredu a’n herio ein hunain i wneud pethau’n wahanol.

Felly wrth i ni agosáu at yr Etholiad Cyffredinol, rydym yn herio ein hunain, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu ar dair blaenoriaeth.

Yn gyntaf, gwyddom fod tlodi yn ddangosydd allweddol o debygrwydd unigolion yn dod yn ddigartref, ac os ydym i ddylanwadu o ddifrif ar dlodi yng Nghymru, mae angen i ni weld y Credyd Cynhwysol yn cael ei ddiwygio fel mater o frys. Gan weithio gyda’n chwaer ffederasiynau ar draws y Deyrnas Unedig, rydym eisoes wedi sicrhau nifer fawr o welliannau i’r ffordd y caiff budd ei sicrhau, yn cynnwys gostwng yr amser aros dechreuol am arian.

Ond mae hawlwyr newydd, sydd yn gyson mewn argyfwng, yn dal i orfod aros yn rhy hir, pump wythnos, am gymorth ariannol. Mae’n rhaid gwneud y taliad hwn yn gynharach, i atal pobl rhag cael eu gorfodi i ddyledion na fedrir weithiau eu hadennill. Mae angen dybryd am system llesiant sy’n rhoi cymorth ar amser, ac yn cynnwys gwir gost byw.

Serch hynny, dim ond un o achosion digartrefedd yw tlodi, a dim ond un datrysiad yw adeiladu cartrefi newydd. Mae ein harchwiliad diweddar ar ganfyddiadau yn awgrymu yn rhy aml nad yw dylanwadwyr allweddol yng Nghymru yn credu fod cymdeithasau tai yn gwneud digon i weithio mewn partneriaeth gydag eraill.

Nid wyf yn derbyn fod y canfyddiad hwnnw bob amser yn wir. Gwyddom fod cymdeithasau tai yn 2017/18 wedi cartrefu 1,725 o aelwydydd oedd yn ddigartref angen blaenoriaethol ac mewn rhai ardaloedd, cafodd dros 4 ym mhob 10 o gartrefi cymdeithasau tai eu gosod i deuluoedd sy’n profi, neu mewn risg o, ddigartrefedd.

Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn mynd ymhellach na dim ond darparu cartrefi. Mae ein haelodau yn arbenigo mewn cefnogi pobl allan o ddigartrefedd ac yn darparu dros hanner y llety cymorth sydd ar gael yng Nghymru. Maent yn arwain cynlluniau tebyg i Tai yn Gyntaf i liniaru digartrefedd, ond ydyn ni’n gwneud digon i gadw pobl mewn llety gyda sicrwydd yn y lle cyntaf? Mae’n hollol iawn ein bod yn dal i’n herio ein hunain gyda’r cwestiwn, “Sut allwn ni wneud mwy?”

Gwn fod y sector yn hollol ymroddedig i chwarae ei ran mewn dod â digartrefedd i ben. Mae ein haelodau yn rhedeg gwasanaethau cymorth sy’n dynodi a mynd i’r afael â heriau sy’n wynebu tenantiaid yn gynnar yn y dydd fel y gellir atal digartrefedd. Caiff y gwasanaethau hynny yn aml eu hariannu o adnoddau cymdeithasau tai eu hunain – maent yn cynnwys cyngor ar fudd-daliadau a chyllidebu, llythrennedd digidol ac amrywiaeth enfawr o gymorth argyfwng ac arbenigol.

Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy o waith i fynd i’r afael â throi pobl o’u cartrefi, naill ai fel canlyniad i ôl-ddyledion rhent neu ymddygiad gwrthgymdeithasol lle nad oes llety arall ar gael. Dyna pam ein bod fel mudiad wedi ymrwymo i weithio gyda’r Gweinidog Tai i roi diwedd ar droi pobl o’u cartrefi i ddigartrefedd.

Ond wrth gwrs nid mater tai yn unig yw hyn ond cyfrifoldeb ehangach ar bob gwasanaeth cyhoeddus. Ni ellir cyflawni’r nod yma heb bartneriaeth gyfartal, sy’n cynnwys tai, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a’r heddlu. Dylai cyllideb nesaf Llywodraeth Cymru gydnabod fod yn rhaid rhoi adnoddau priodol i’r Grant Cymorth Tai, sy’n cyllido gwasanaethau cymorth tenantiaeth hanfodol, os ydym i gymryd y camau hanfodol sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r mater hwn.

Mae cynnydd mewn adnoddau ynghyd â gwaith i wella llwybrau cyfeirio rhwng cymdeithasau tai a phartneriaid eraill yn cynnwys gwasanaethau cymdeithasol a iechyd meddwl yn allweddol i ddatrys y broblem hon. Ond fel sefydliadau a gafodd mewn llawer o achosion eu creu i fynd i’r afael â digartrefedd, mae gan gymdeithasau tai reidrwydd moesol. Mater i ni yw gwneud i’r newid hwn ddigwydd.

Gall y partneriaethau hyn hefyd helpu i fynd i’r afael â’r hyn sydd bron yn sicr yr agwedd fwyaf amlwg o’r argyfwng tai yng Nghymru – y cynnydd mewn cysgu ar y stryd mewn dinasoedd a threfi ar draws y wlad. Gwyddom fod angen i ni adeiladu mwy o dai cymdeithasol i fynd i’r afael â digartrefedd. Mae adeiladu mwy o dai cymdeithasol yn dibynnu ar barhau buddsoddiad mewn grant tai cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru. Ond mae hefyd yn dibynnu ar sicrwydd yn yr amgylchedd buddsoddi – a dyna pam ein bod angen penderfyniad cyflym yn awr ar y polisi rhent hirdymor yng Nghymru.

Mae ein haelodau wedi ymrwymo i fabwysiadu ein polisïau rhent lleol hirdymor ein hunain gyda fforddiadwyedd i denantiaid yn greiddiol iddynt. Bydd y polisïau hyn yn seiliedig ar ymgysylltu helaeth gyda thenantiaid a rhanddeiliaid eraill yn cynnwys ein benthycwyr. Byddwn yn gweithredu o fewn y paramedrau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i roi’r polisïau lleol hynny ar waith.

Ond nawr mae angen i ni wybod a deall beth fydd y paramedrau hynny. Bydd sicrwydd hirdymor ar incwm rhent ynghyd â manylion sut y bydd y system grant tai cymdeithasol yn gweithio yn y dyfodol yn hysbys yn y dyfodol agos. Bydd hyn yn galluogi cymdeithasau tai i gwblhau eu cynlluniau buddsoddi am y blynyddoedd nesaf.

Wrth gwrs, nid adeiladu cartrefi newydd a mynd i’r afael â digartrefedd yw’r unig faterion lle mae gennym ddyletswydd foesol i weithredu. Yn 2017, cyflwynodd ein gwaith Gorwelion Tai yr uchelgais y dylai’r holl gartrefi newydd a adeiladwyd yng Nghymru gan gymdeithasau tai ar ôl 2021 fod yn agos at ddim carbon. Rydym hefyd wedi gosod uchelgais y dylid gwella ein stoc presennol, erbyn 2036 lle bynnag sy’n bosibl, i gyrraedd yr uchelgais bron ddim carbon yna. Mae’n bendant yn wir dweud i’r ymrwymiad neilltuol hwnnw godi eiliau ar draws y sector. Ond roeddem wedi clywed yn glir iawn gan bobl ifanc yn gweithio mewn cymdeithasau tai ar draws Cymru eu bod yn disgwyl ac eisiau bod yn rhan o sector sy’n ymroddedig i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd lleisiau’r bobl ifanc hyn eu hadleisio a’u chwyddo ar draws y byd, a daeth yr angen i weithredu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd cynyddol yn fwy o brys fyth. Mae’r adolygiad annibynnol diweddar ar ddatgarboneiddio cartrefi Cymru wedi gosod uchelgeisiau heriol iawn yn cynnwys targed ar gyfer tai cymdeithasol a chartrefi mewn tlodi tanwydd i gyflawni safon APC A erbyn 2030 ac erbyn 2050 mae’n rhaid i stoc tai Cymru ym mhob daliadaeth gael eu hôl-osod i gyflawni graddiad EPC A. Er bod yr adroddiad yn cydnabod na all pob cartref gyrraedd y safon hwnnw, ni ellir gorbwysleisio maint yr her.

Os ydym i gael unrhyw gyfle o lwyddiant mae angen map ffordd clir ac asesiad realistig o’r hyn mae’n ymarferol ei gyflawni yn y degawd nesaf. Mae eisoes yn glir nad oes gan gymdeithasau tai fynediad i ddigon o adnoddau i gyllido’r ymdrech hon ar eu pen eu hunain, yn arbennig pan roddir ystyriaeth i’r angen i barhau i adeiladu cartrefi newydd. Bydd angen cyllid grant sylweddol a pharhaus ar gyfer ôl-osod os yw cymdeithasau tai i chwarae eu rhan a chyflawni’r uchelgais a osodwyd gan y llywodraeth.

Ac eto mae’r gwaith brys i ddatgarboneiddio’r stoc tai yn faes arall lle mae gan gydweithredu botensial enfawr i sicrhau canlyniadau gwell. Mae angen i ni weithio gyda llywodraeth leol sy’n wynebu’n union yr un heriau, i ddysgu gan ein gilydd beth sy’n gweithio. Gyda thai cymdeithasol ar flaen y gad gyda’r newid yma, dyma’r amser i ymchwilio creu busnesau cymdeithasol i gwblhau a dod yn arbenigwyr yn y gwaith ôl-osod sydd ei angen. Byddai hyn yn gweld cylch rhinweddol o gadw arian yng Nghymru a fyddai ar gael i ailfuddsoddi er budd cymunedau. Ar ben hynny, gallai maint y gwaith sydd ei angen olygu gwneud cyfleoedd sylweddol ar gael ar gyfer hyfforddiant a phrentisiaethau ar draws Cymru.

Felly mae’r rhain yn ddadleuon a chwestiynau heriol i gymdeithasau tai a llywodraeth. Ond oes unrhyw un yn cwestiynu gwerth neu fudd y buddsoddiad sylweddol sydd ei angen, hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i sôn am beth o’r ymchwil y byddwn yn ei gyhoeddi yn gynnar yn 2020 ar fuddion economaidd buddsoddi mewn cartrefi newydd.

I adeiladu’r cartrefi newydd rydym eu hangen, mae’n hymchwil yn awgrymu y bydd angen cyfanswm buddsoddiad o £11.7 biliwn i gyflawni gweledigaeth Gorwelion Tai o 75,000 o gartrefi fforddiadwy dim carbon erbyn 2036. Ond byddai’r buddsoddiad hwnnw yn ysgogi mwy na £7.2 biliwn o werth ychwanegol i economi Cymru a galluogi adeiladu tua 4,000 o gartrefi bob blwyddyn. Yn ychwanegol, byddai’r gweithgaredd adeiladu hwn yn cefnogi dros 30,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn mewn adeiladu a bron 12,000 o gyfleoedd hyfforddiant dros y cyfnod 20 mlynedd. Nid yw’r ffigurau hynny yn cynnwys effeithiau iechyd a llesiant sylweddol ar gyfer unigolion rhag symud i gartrefi newydd neu arbedion posibl ar filiau tanwydd. Mae buddsoddi mewn tai fforddiadwy yn gwneud synnwyr ar gynifer o lefelau.

Daeth datganoli polisi a buddsoddiad tai â buddion enfawr i’r sector yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi i adeiladu cartrefi cymdeithasol gwirioneddol fforddiadwy, ond mae lefelau isel o fuddsoddiad cyfalaf mewn tai a seilwaith yn fwy cyffredinol ar draws y ffin yn Lloegr yn ffrwyno cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru a’i gallu i fuddsoddi yn eu blaenoriaethau yng Nghymru. Rhaid ystyried tai cymdeithasol fel blaenoriaeth buddsoddi seilwaith ar draws y Deyrnas Unedig.

Yn y cyd-destun hwn, mae’n galonogol tu hwnt wrth i’r pleidiau gyhoeddi eu maniffestos – fod tai yn cael lle blaenllaw. Yn neilltuol, yn ôl fy amcangyfrif i, byddai ymrwymiad Llafur i fuddsoddi £75bn dros 5 mlynedd i adeiladu 100,000 o dai cyngor, ynghyd â 50,000 o gartrefi cymdeithasau tai, yn golygu swm canlyniadol o £900m y flwyddyn i Gymru.  Byddai hynny’n gynnydd o bron 8 gwaith drosodd yn yr adnoddau a fuddsoddir mewn Grant Tai Cymdeithasol ar hyn o bryd.

Ond – gwyddom y bydd angen mwy nag arian a chydnabyddiaeth o gartrefi fel seilwaith hanfodol i ddod â’r argyfwng tai i ben. Rydym hefyd angen gweithredu cadarn ar sgiliau, tir a’r cadwynni cyflenwi lleol sy’n sylfaen i’r diwydiant adeiladu.

Ar ddechrau’r araith hon edrychais yn ôl a sôn fod Cartrefi Cymunedol Cymru bellach yn ddeng mlynedd ar hugain oed. Treuliais beth amser yr wythnos hon yn edrych ar gofnodion y set gyntaf o gyfarfodydd y Cyngor Cenedlaethol. Wedi’u teipio a’u gludo mewn llyfr cofnodion – maent yn gofnod fanwl-gywir o bwy ddywedodd beth a phryd. Mewn gwirionedd, mae’r cofnodion hynny mor fanwl fel y cewch gipolwg ar bersonoliaeth y bobl o amgylch y bwrdd.

Mae rhai o aelodau cyntaf y Cyngor Cenedlaethol hynny yn y gynhadledd heddiw – Pete Cahill, Cadeirydd cyntaf Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Cymru a Graham Sturgess, bellach yn Gadeirydd United Welsh – tystiolaeth bod tai yn fwy na gyrfa, mae’n alwedigaeth. Byddem yn adnabod heddiw lawer o’r materion y gwnaeth y Cyngor Cenedlaethol eu trafod yn 1989 – adeiladu cartrefi newydd, cyllid grant, fforddiadwyedd rent – i’n hatgoffa nad yw adeiladu tai cymdeithasol yn wyddor roced. Mae’r cynhwysion a fynnwyd bryd hynny’n parhau’r un cynhwysion sydd eu hangen heddiw – cyllid cyfalaf, polisi rhent sefydlog, mynediad i dir a chyfleoedd. Roedd dyraniadau a digartrefedd yn bynciau poeth bryd hynny hefyd – yn anffodus, hyd yn oed gyda threigl amser, mae’r heriau hynny’n parhau gyda ni heddiw.

Mae ein strwythur a ffyrdd o weithio wedi esblygu’n barhaus dros y deng mlynedd ar hugain y bu’r sefydliad hwn mewn bodolaeth. Rydym wedi tyfu fel sefydliad. Manteisiodd cymeriad a maint ein mudiad o ychwanegu 11 sefydliad trosglwyddo stoc sydd ers 2003 wedi dod â gwahanol safbwynt i’r bwrdd. Rydym wedi bob amser wedi ymdrechu i fod yn ymatebol i anghenion ein haelodau.

Dyna pam fy mod wrth fy modd i roi mwy o wybodaeth i chi ar ein rhaglen Alcemi yn y gynhadledd hon. Pan lansiwyd ein Cynllun Corfforaethol ym mis Ebrill, a gynhyrchwyd ar y cyd gyda’n haelodau, un o’n blaenoriaethau oedd paratoi cymdeithasau tai i fod yn barod ar gyfer y dyfodol.

Bydd ein rhaglen Alcemi yn gwneud yn union hynny ac mae ganddi nifer o linynnau yn cynnwys ein gweithdai trawsnewid busnes. Rydym yn edrych ar sut yr ydym yn datblygu ein pobl – gan ganolbwyntio ar y sgiliau rydym eu hangen nawr ac yn y dyfodol, ac yn ddiweddarach yn 2020 lansio llinyn arwain syniadau lle byddwn yn dynodi materion systemig ac ailfeddwl sut i’w trin, gyda’r dystiolaeth i gefnogi hynny.

Llinyn olaf Alcemi yw cefnogi a rhoi gofod ar gyfer arloesi ar y cyd. I’n helpu i gyflawni’r uchelgais hon, rwy’n falch i fedru cyhoeddi partneriaeth gyda’r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol ar gyfer y rhaglen Dyfodol Tai. Fel rhan o’r rhaglen byddwn yn gweithio gyda’r arbenigedd arloesedd !whatif? i gyflwyno dulliau gweithredu, cynnyrch neu wasanaethau newydd i fynd i’r afael â’r problemau mawr sy’n ein hwynebu gyda’n gilydd fel sector.

Yn ogystal â rhoi cyfleoedd datblygu personol gwych ar gyfer pawb sy’n cymryd rhan, bydd hefyd yn ein cefnogi i sefydlu arferion meddwl arloesol yn ein gwaith bob dydd.

Bydd y rhaglen Dyfodol Tai yn dechrau ym mis Ionawr – felly cadwch lygad am fwy o wybodaeth. Yn y cyfamser, cewch glywed mwy yfory, pan fydd Sarah o ?Whatif! yn annerch cynrychiolwyr y gynhadledd.

I gloi, hoffwn ganolbwyntio ar y tair wythnos nesaf tan ddiwrnod yr etholiad. Mae polisi tai wedi’i ddatganoli yng Nghymru, a bu’n ddi-os lawer o adegau yn y degawd diwethaf pan fuom yn ddiolchgar am hynny. Ond nid yw hynny’n golygu y gallwn anwybyddu Etholiad y Deyrnas Unedig!

Heddiw, rwyf wedi gosod y tri pheth a ofynnwn gan ymgeiswyr sy’n sefyll ar gyfer etholiad  San Steffan ar 12 Rhagfyr.

Mae’n rhaid cydnabod effeithiau’r system Credyd Cynhwysol, sy’n negyddol yn aml, a sôn mewn maniffestos am yr angen brys i ddiwygio Credyd Cynhwysol. Mae’n rhaid i bleidiau wleidyddol roi blaenoriaeth i fuddsoddiad mewn tai cymdeithasol a fforddiadwy. Mae’n beth o’r seilwaith pwysicaf oll sydd gennym, Ac yn olaf, os bydd Brexit yn digwydd yn y diwedd – mae’n rhaid i gyllid buddsoddi rhanbarthol hanfodol y mae’r Undeb Ewropeaidd yn eu darparu ar hyn o bryd a’u gwario mewn cymunedau ar draws hyd a lled Cymru gael ei ddiogelu a chyflwyno cyllid i gymryd ei le.

Ond ymdrech tîm yw hyn. Os ydych yn cwrdd ag ymgeiswyr yn y cyfnod cyn yr etholiad – os gwelwch yn dda peidiwch dim ond defnyddio’r cyfle i siarad am eich sefydliad eich hun a’ch gwaith gwych ond sôn hefyd am yr hyn y mae’r ymgyrch yn gofyn amdano.

Mae hwn yn etholiad fydd yn llunio dyfodol y wlad a’n perthynas gydag Ewrop, a hefyd yn gosod y paramedrau y byddwn yn gweithredu ynddynt am flynyddoedd i ddod. Mae’n hanfodol y caiff lleisiau cymdeithasau tai eu clywed yn uchel ac yn glir ym mhob rhan o’r wlad.

Mwynhewch y gynhadledd a diolch i bawb ohonoch am eich cefnogaeth barhaus.

Diolch yn fawr.

Share