2017 – Blwyddyn anarferol

Flwyddyn yn ôl fe wnaethon ni lansio’n prosiect Gorwelion Tai. Ar y pryd, roedd llawer o fewn ein sector yn pendroni pam oedden ni’n canolbwyntio ar yr ugain mlynedd nesaf pan oedd cymaint o broblemau a phynciau angen eu datrys heddiw.

Ond fel sefydliadau annibynnol, rhai sy’n aml gyda’r adnoddau gorau yn gweithredu mewn cymunedau ledled y wlad o’r de i’r gogledd, o bentrefi gwledig i’r dinasoedd, roedden ni’n gweld y glir ein bod angen uchelgais hirdymor. Datganiad o’n gweledigaeth i wneud Cymru’n lle gwell i fyw a gweithio.

Yn ystod y flwyddyn rydem wedi siarad gyda mwy na 500 o bobl o gymdeithasau tai a’r tu hwnt. Mae’n ‘Gwneuthurwyr Gweledigaeth’ wedi bod yn greadigol, arloesol a heriol yn aml.

I lawer ohonyn nhw, does dim dwywaith fod byd cythryblus 2017 a’r tu hwnt, a’r heriau sy’n cael eu cynnig, wedi bod ar flaen eu meddyliau wrth iddyn nhw ymlafnio gyda’r hyn y dylai cymdeithasau tai ei wneud yn y dyfodol.

 

Seiliau Cadarn

Wrth inni lansio’n gweledigaeth heddiw, rydym yn adeiladu ar seiliau cadarn.

  • Mwy na 2500 o gartrefi wedi eu cwblhau yn y flwyddyn ddiwethaf. Cychwyn diogel tuag at gyrraedd y 12500 o gartrefi yr addawodd cymdeithasau tai eu cyflenwi yn nhymor presennol y Cynulliad yn ein Cytundeb gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
  • £470m wedi ei wario ar adfywio cymunedau ledled Cymru
  • Mae cymdeithasau tai wedi cyfrannu bron £2bn i economi Cymru
  • Yn y degawd diwethaf rydym wedi adeiladu mwy nag 20000 o gartrefi.

 

Mae hyn yn record, ond roedd ei Gwneuthurwyr Gweledigaeth yn glir. Doedd e ddim yn ddigon. Rydym eisiau newid telerau’r drafodaeth. Beth fydden ni’n ei wneud yn wahanol petaem ni’n cael dechrau eto gyda dalen lân?

 

Gorwelion Tai

Gwyddom fod tai da yn gwneud gwahaniaeth i bawb, pa un ai ydyn nhw’n rhentu neu’n berchnogion.

Gwyddom fod cartref da yn un o agweddau pwysicaf bywydau pobl, ond beth petaem ni’n byw mewn Cymru ble mae tai da yn hawl sylfaenol ar gyfer pawb?

Mae’r Datganiad Byd-eang ar Hawliau Dynol yn cydnabod yr hawl i dai digonol, ond gwyddom fod tai yng Nghymru a ledled Prydain yn cael eu gweld yn rhy aml yn eilradd i wasanaethau eraill.

Beth petai tai yn cael eu gweld yn fan cychwyn dilys ar gyfer bywydau llwyddiannus a lleoedd llwyddiannus?

Beth petai penderfyniadau polisi allweddol yn cael eu fframio gyda hyn yn weledigaeth ganolog?

Byddai Cymru ble mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb yn golygu fod pobl yn iachach, yn fwy llewyrchus ac wedi eu cysylltu’n well.

Felly roeddech chi’n glir iawn fod rhaid ichi gael uchelgeisiau mawr i wneud hyd yn oed fwy.

Mae’ch gweledigaeth yn cynnwys cyfres o ymrwymiadau a fyddai’n trawsnewid Cymru. Rydych chi am fynd i’r afael a’r argyfwng tai. Rydych chi hollol o ddifri ynglŷn â chodi tai sy’n gynnes, diogel a gwir fforddiadwy, ac rydych chi wedi dweud wrthym ni eich bod eisiau adeiladu 75,000 ohonyn nhw dros yr ugain mlynedd nesaf.

Wrth wneud hynny, byddwch yn cefnogi 150,000 o swyddi a chyfleoedd hyfforddi trwy sicrhau fod 95c ym mhob punt yr ydych yn ei gwario yn aros yng Nghymru ac yn cael ei gwario mor lleol ag sy’n bosib.

Fe ddywedoch chi wrthym ni fod cymdeithasau tai eisiau bod wrth graidd ymrwymiad Cymru i fynd i’r afael â newid hinsawdd gyda chartrefi addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol gyda phob cartref newydd yn agos at safonau di-garbon erbyn 2020, a hyd yn oed yn bwysicach, fod eich stoc tai bresennol yn agos at safonau di-garbon erbyn 2036.

Gwyddom y byddai pobl yn iachach mewn Cymru ble mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb, dyw hynny’n ddim syndod. Gwyddom fod cartref diogel, sefydlog yn cael effaith enfawr ar les pobl. Gwyddom hefyd y bydd mwy na 50% o gyllideb Llywodraeth Cymru yn fuan yn cael ei wario ar wasanaethau iechyd.

Fe ddywedoch chi wrthym eich bod eisiau archwilio ffyrdd newydd o weithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd, datblygu modelau newydd o dai a fydd yn tynnu’r pwysau oddi ar wasanaethau dwys. Byddwch yn archwilio ffyrdd o rannu cyllid a gwasanaethau o gylch pobl, nid prosesau.

Ac wrth gwrs, wrth inni geisio cyflawni’n huchelgeisiau, fe ddywedoch chi na fyddwch yn gwyro oddi wrth ein hamcan creiddiol fel sector. Er ein bod yn croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Prydain yn dechrau ail ddarganfod rhinweddau tai cymdeithasol yn y misoedd diwethaf, dydyn ni erioed wedi anghofio’r hyn sy’n bwysig yma yng Nghymru. Wrth i’n huchelgais a’n sector dyfu, bydd tai cymdeithasol bob amser yn aros yn amcan creiddiol. Dyna ydyn ni’n ei wneud, dyna fyddwn ni bob amser yn ei wneud.

Mae’r rhain yn ymrwymiadau mawr ac fel sector allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pennau’n hunain. I wireddu’n gweledigaeth, rydyn ni’n gosod her heddiw i wasanaethau cymdeithasol, y sector preifat a gwleidyddion i feddwl a gweithredu’n wahanol.

Mewn cymdeithasau tai, fe welwch sefydliadau sydd eisiau meddwl a gweithredu yng ngwir ysbryd partneriaeth.

Bydd cymdeithasau tai yn gwrando, dysgu ac arloesi. Rydym eisiau bod yn greadigol. Rydym yn fodlon meddwl tu hwnt i’r meddwl. Byddwn yn gweithio gydag unrhyw un a phob un sy’n rhannu’n huchelgais o greu Cymru ble mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb, ble mae’n cymunedau yn fwy gwydn, mwy diogel ac yn llefydd gwell i fyw.

Dangosodd yr ymgyrch Cartrefi i Gymru i ni fod pob plaid yn y Cynulliad Cenedlaethol yn credu mewn mynd i’r afael â’r argyfwng tai, a gwelsom hyn yn cael ei adlewyrchu ym mholisi a buddsoddi Llywodraeth Cymru, gyda thai bellach wedi ei sefydlu fel prif flaenoriaeth yn y strategaeth genedlaethol, “Ffyniant i Bawb”.

Felly, wrth wleidyddion ar draws y sbectrwm gwleidyddol, fe ddywedwn ni hyn:

“Os ydych chi o blaid y llawer ac nid yr ychydig”, neu’ch bod chi eisiau “gwlad sy’n gweithio i bawb” neu unrhyw weledigaeth arall, rydyn ni eisiau gweithio gyda chi.

 

Essex a Thu Hwnt

Felly mae’n huchelgais yn fawr ar gyfer yr ugain mlynedd nesaf.

A 10 mlynedd yn ôl gosododd Adolygiad Essex o Dai Fforddiadwy yng Nghymru sylfeini ar gyfer y cymdeithasau tai llwyddiannus a welwn heddiw. Sector sy’n cael ei rheoleiddio’n dda, sy’n gwireddu eu haddewidion, yn tyfu ac yn ysgogi buddsoddi cyhoeddus trwy ddenu symiau enfawr o arian preifat i rai o’r cymunedau gyda mwyaf o amddifadedd yn y wlad.

Nawr, mae’r sector yn uchelgeisiol i wneud llawer mwy. Yn awyddus i weithio mewn partneriaeth ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector. Un sydd eisiau gweithio mewn ffordd wahanol, sydd eisiau dyblu nifer y tai y mae’n eu hadeiladu yn yr ugain mlynedd nesaf. I gyflawni hyn, mae angen inni gymryd golwg sylfaenol ar y ffordd yr ydym yn adeiladu ac yn buddsoddi mewn tai.

Mae’n amser da i edrych unwaith eto ar sut mae polisi tai yng Nghymru’n ymateb i’r angen i wneud pethau mewn ffordd wahanol.

Felly dyna pam ein bod ni heddiw’n galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi adolygiad newydd o dai fforddiadwy yng Nghymru. Adolygiad a fyddai’n cael ei gynnal, nid o safle o wendid ond o safle o gryfder.

Adolygiad a fydd yn galluogi tai i chwarae rhan lawn yn y ffordd y byddwn yn dod â llewyrch i bawb. Adolygiad sy’n edrych ar y ffordd y byddwn yn buddsoddi mewn tai yn y dyfodol, ar y safonau y byddwn yn adeiladu atynt, ac i ba raddau y gallwn chwalu’r muriau sy’n bodoli’n llawer rhy aml rhwng portffolios y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus.

Yng Nghymru gallwn ambell waith gydweithio’n dda, ond yn llawer rhy aml dydyn ni eto ddim yn cydweithio’n ddigon da.

Ac felly heddiw, wrth inni lansio’n gweledigaeth – lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb – nid diwedd y sgwrs yw hyn, dim ond y dechrau.