Dylai’r wythnos hon fod yr wythnos gyntaf i ni (er gwell neu er gwaeth) beidio bod yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd. Mae gennyf atgofion clir iawn am y dyddiau yn dilyn y refferendwm a ph’un ai oedd pobl yn hapus gyda’r canlyniad neu beidio, roedd yn awyrgylch rhyfedd. Roedd pobl ar bigau’r drain ac roedd yn glir fod rhywbeth enfawr ac eithriadol wedi digwydd. P’un ai oeddech yn gweld yr eithriadol hwnnw fel cyfle gwych neu drychineb arswydus, ni chredaf y byddai unrhyw un wedi disgwyl iddo fod yn ansicr dair blynedd wedyn.

Mwy...

Felly dyma’r wythnos pan oedd popeth yn ymwneud â Brexit i fod i gael ei benderfynu o’r diwedd a byddem i gyd yn gallu cysgu’n dawel yn ein gwelyau. Heb fod yn annisgwyl efallai, nid dyna ddigwyddodd a chafodd y gwneud penderfyniadau ei ymestyn dros wythnos gynhyrfus, flinderus ac anodd. Fe ddaeth yr un bleidlais a allai fod wedi dod yn dair pleidlais wneud hynny (fel y disgwyliem mewn gwirionedd) wrth i Aelodau Seneddol bleidleisio yn erbyn cytundeb May, yn erbyn Brexit heb gytundeb (p’un ai yw hynny’n gadael ar 29 Mawrth neu rywbryd arall) ond i gefnogi gofyn i’r Undeb Ewropeaidd am ymestyn Erthygl 50.

Mwy...