Pecyn Cais
Mae Sefydliadau Tai yn darparu gwasanaethau hanfodol i’w cwsmeriaid, nid yn unig gyda chartref, ond hefyd gefnogaeth a chyngor i sicrhau y caiff tenantiaethau eu cynnal ac y caiff digartrefedd ei atal. Er mwyn sicrhau fod eu gwasanaethau yn ymateb i anghenion eu cwsmeriaid, mae Sefydliadau Tai yng Nghymru yn cydnabod fod yn rhaid i’w Byrddau adlewyrchu amrywiaeth y byd y maent yn byw ynddynt.
A dyna lle yr ydych chi’n dod i mewn. Fel aelodau o’r gymuned lle mae Sefydliadau Tai yn darparu gwasanaethau, gall eich mewnbwn fel Aelod Bwrdd fod yn werthfawr tu hwnt.
Ymhellach, mae Sefydliadau Tai yn awyddus iawn i annog pobl o grwpiau sydd yn draddodiadol wedi eu tangynrychioli e.e. pobl iau rhwng 18 a 25 mlwydd oed, pobl gydag anableddau a rhai o gefndiroedd Du a Lleiafrif Ethnig. Os ydych o blith unrhyw un o’r grwpiau hyn, mae Sefydliadau Tai yn neilltuol o awyddus i ddod i gysylltiad â chi.
Felly os hoffech wneud newid cadarnhaol i’r byd yr ydych yn byw ynddo, gall ‘Dewch ar y Bwrdd’ fod at eich cyfer. Os oes gennych ddiddordeb, dyma rai atebion i rai o’r cwestiynau a fedrai fod gennych:
Beth os nad oes gennyf fawr neu ddim profiad o fod ar Fwrdd'
Dim problem! Mae bob amser dro cyntaf ar gyfer pob Aelod Bwrdd. Mae gan y rhan fwyaf o Sefydliadau Tai broses gynefino a hyfforddi. Medrech hefyd wneud cais am ‘fentor’ pan gychwynnwch arni. Mae hyn yn fynediad i Aelod Bwrdd mwy profiadol y medrwch siarad â hwy os teimlwch fod gennych unrhyw gwestiynau.
Mae’n bwysig cofio y byddwch yn gweithio fel rhan o dîm sy’n cynnwys pobl gyda gwybodaeth o wahanol feysydd. Felly, peidiwch teimlo fod yn rhaid i chi fod yn ‘arbenigydd’ ym mhob maes cyn gwneud cais. Mae gan wahanol staff y sefydliad gymwysterau technegol mewn meysydd allweddol e.e. cyllid, strategaeth, polisi. Eich rôl allweddol fel Aelod Bwrdd fydd ystyried cynigion aelodau staff a chynnig eich barn a’ch arweiniad fel rhan o Fwrdd cyfunol.
Beth am gostau teithio'
Fel arfer, fel Aelod Bwrdd, bydd gennych hawl i dreuliau allan o boced megis costau teithio. Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau hefyd yn talu costau gofal plant neu gostau gofal seibiant os ydych yn gofalu am rywun sydd ag anghenion penodol.
Beth yw’r manteision allweddol i mi?
Bydd dod yn Aelod Bwrdd yn rhoi boddhad i chi o wybod eich bod yn cyfrannu rhywbeth cadarnhaol at gymdeithas. Bydd hefyd yn rhoi safbwynt gwahanol i chi o ran rhedeg sefydliad, sydd yn wych ar gyfer eich datblygiad personol a phroffesiynol.
Felly am beth ydych yn aros – Dewch Ar y Bwrdd!
Medrir lawrlwytho fersiwn o’r pecyn gais o’r colofn adnoddau i’r dde.
Dylid anfon ffurflenni cais wedi eu lenwi at: Ceri Ward, Dewch ar y Bwrdd, Cartrefi Cymunedol, Ty Fulmar, Clôs Beignon, Ocean Park, Caerdydd, CF24 5HF.