Mae croeso mawr i chi gysylltu â ni os oes gennych ymholiad neu os hoffech fwy o wybodaeth:
Ebostiwch unrhyw ymholiad atom ar enquiries@chcymru.org.uk, neu fe allwch ffeindio cyfeiriad ebost uniongyrchol staff unigol drwy glicio yma.
Cysylltwch â ni ar ein rhif cyffredinol ar 029 2067 4800, neu am rifau ffôn uniongyrchol aelodau staff clicier yma.
Gofynnir i chi nodi y byddwn yn recordio rhai galwadau ffôn ar gyfer dibenion hyfforddi.
Fe allwch hefyd ddanfon ffacs atom ar 029 2067 4801.
Grwp Cartrefi Cymunedol, 2 Ocean Way, Caerdydd, CF24 5TG
Dod o hyd i ni ar Google Maps neu gweler ein map a chyfarwyddiadau.
O’r M4 o Gyfeiriad y Gorllewin
Gadewch yr M4 ar Gyffordd 33, ac ymuno â’r A4232 i gyfeiriad y de. Daliwch i fynd ar y ffordd hon hyd ei therfyn (drwy’r twnnel), a chymryd yr allfan gyntaf yn y cychfan cyntaf, a’r ail allfan yn yr ail gylchfan. Cymerwch yr allfan gyntaf o’r Ddolen Ganolog, a’r trydydd allfan yn y gylchfan. Dros y bont grom, cymerwch y trydydd allfan yn y cylchfan nesaf (‘Magic Roundabout’) i Ocean Way. Ein swyddfa yw’r adeilad cyntaf ar y dde i chi – cymerwch y troad cyntaf i’r dde, a gyrrwch i waelod y gyffordd T. Trowch i'r dde eto, yna dilynwch y ffordd i’n maes parcio.
O’r M4 o gyfeiriad y Dwyrain
Gadewch yr M4 yng nghyffordd 29, a dilyn arwydd A48(M) i Ddwyrain/De Caerdydd, mynd ar hyd yr A48(M) i’r A48 am tua 4 milltir. Cymerwch y 3ydd allfan oddi ar yr A48, dilyn arwydd A4232 Dwyrain Caerdydd a’r Dociau. Gan aros yn y lôn llaw chwith cymerwch yr allfan gyntaf yn y gylchfan, symud ar draws i’r lôn llaw dde yn syth a dilyn yr arwydd ar gyfer y Dociau. Ewch yn syth ymlaen dros y drosffordd, cymryd yr 2il allfan oddi ar y gylchfan tuag at y Dociau, dilyn y ffordd heibio Tesco Extra ar y dde. Ewch yn syth ar draws y ddwy gylchfan fach nesaf ac yna droi i’r dde yn y nesaf. Dilynwch y ffordd o amgylch i’r dde a dilyn arwydd Traffig Drwodd i Ocean Way, ac yn y gylchfan nesaf ewch yn syth ymlaen, gan ddal i fynd lawr Ocean Way. Cymerwch y 3ydd troad i’r chwith i Heol East Moors, yn union cyn y gylchfan. Gyrrwch yn syth i’r Gyffordd T a throi i’r dde tuag at Jewson’s. Ein swyddfa yw’r adeilad olaf ar y dde cyn i’r ffordd ddod i ben.
Gall ymwelwyr hefyd ddefnyddio'r maes parcio yng nghampfa Virgin Active, a cherdded draw.